1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mehefin 2021.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailddatblygu canol trefi yng Ngorllewin De Cymru? OQ56651
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ymhlith y gwahanol ffynonellau cymorth ar gyfer ailddatblygu canol trefi yng Ngorllewin De Cymru, bydd y cynllun grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi, a lansiwyd ym mis Ebrill eleni, yn cynnig manteision i drefi yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe.
Diolch, Prif Weinidog. Wrth siarad â manwerthwyr a masnachwyr marchnad yng nghanol tref Castell-nedd, mae'n amlwg bod canol y dref yn ei chael hi'n anodd mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a llai o ymwelwyr ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd datblygu'r pwll nofio, y caffi a'r llyfrgell yn y dref yn helpu i ddenu mwy o ymwelwyr, ond mae yna deimlad bod angen gwneud mwy i weld gostyngiad yn yr unedau manwerthu gwag sydd gennym ni yng nghanol y dref ar hyn o bryd, ac mae angen mynd i'r afael â'r ymddygiad gwrthgymdeithasol; mae angen mynd i'r afael â lefelau rhent, ardrethi busnes; ac mae angen ehangu'r cynnig yn y dref. A wnewch chi felly amlinellu pa waith ychwanegol yr ydych chi'n bwriadu ei wneud gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot, ac asiantaethau eraill, ar y materion hyn yn ystod tymor y Senedd? Diolch.
Diolch yn fawr. Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y gwaith sydd eisoes ar y gweill—gwaith mawr, Llywydd—£13 miliwn o fuddsoddiad yng nghanol tref Castell-nedd, a £5.5 miliwn o hwnnw wedi ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ac yn ogystal â'r holl bethau y cyfeiriodd yr Aelod atyn nhw—y pwll nofio, yr ystafell iechyd, y llyfrgell—bydd hefyd fannau masnachol a manwerthu newydd o ansawdd da i geisio denu busnesau yn ôl i ganol y dref honno, ac i wneud hynny gyda'r math o ddychymyg yr ydym ni wedi ei weld mewn sawl rhan o Gymru, hyd yn oed yn ystod yr argyfwng, lle mae busnesau newydd wedi agor ar y strydoedd mawr. Ni all dyfodol manwerthu fod yn ymgais i greu pethau fel yr oedden nhw yn y gorffennol. Mae'r byd wedi symud ymlaen, ac mae ymddygiad defnyddwyr wedi symud ymlaen, wedi ei gyflymu mewn sawl ffordd gan y pandemig. Ond serch hynny mae busnesau manwerthu sy'n gwneud cynnig penodol iawn, sy'n denu pobl a masnach yn llwyddiannus, a byddant yn gallu—ac rwy'n siŵr y byddant yn llwyddo—i fasnachu'n llwyddiannus yng nghanol Castell-nedd hefyd, gan gryfhau'r craidd masnachol hwnnw. A thu hwnt i'r buddsoddiad presennol, byddwn wrth gwrs yn parhau i siarad â'r gymuned fusnes leol honno a gyda'r awdurdod lleol, i weld pa gyfleoedd eraill a fydd ar gael; ffrydiau cyllid eraill y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu dros y tymor pum mlynedd hwn, i gryfhau ymhellach bywiogrwydd hanfodol canol tref Castell-nedd a fydd yn rhoi dyfodol iddo ac ymdeimlad ei fod yn parhau i gael ei werthfawrogi gan ei ddinasyddion lleol a'i fod yn fan y maen nhw'n dymuno ymweld ag ef.