– Senedd Cymru am 4:05 pm ar 30 Mehefin 2021.
Eitem 5 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Vikki Howells.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gant a dau ddeg saith o flynyddoedd yn ôl ar 23 Mehefin 1894, digwyddodd ffrwydrad aruthrol yng nglofa'r Albion yng Nghilfynydd. Roedd y ffrwydrad i'w glywed bedair milltir i ffwrdd. Roedd y sŵn hwnnw a chwmwl trwchus o fwg sylffad rhagargoel erchyll o'r dinistr a oedd wedi digwydd. Cafodd strwythurau haearn eu rhwygo o'r tir, eu plygu fel gwifrau a'u saethu gryn bell gan rym y ffrwydrad. Roedd nifer y bywydau a gollwyd yn fwy trawmatig byth. Cafodd Cilfynydd ei ddisgrifio gan The Cardiff Times a The South Wales Weekly News fel lle tebyg i ddinas y meirw. Lladdwyd 290 o ddynion a bechgyn y diwrnod hwnnw, gyda'r ieuengaf yn ddim ond 13 oed. Hwn oedd y digwyddiad mwyngloddio gwaethaf ond un yng Nghymru ar ôl trychineb Senghennydd yn 1913. Er bod y rhan fwyaf o'r rhai a fu farw wedi'u henwi, ni fu modd enwi 11 ohonynt. Yn 1907, dadorchuddiwyd cofeb er anrhydedd iddynt ym mynwent Llanfabon gan Mabon, llywydd adnabyddus Ffederasiwn Glowyr De Cymru.
Yr wythnos diwethaf, cynhaliais y cyntaf o'r hyn a fydd, gobeithio, yn ddigwyddiad blynyddol wrth y gofeb honno i anrhydeddu'r rhai a gollodd eu bywydau yn yr Albion. Mewn gwasanaeth teimladwy dan arweiniad y Tad Gareth Coombes, a chyda chynrychiolwyr o Ysgol Gynradd Cilfynydd ac Ysgol Uwchradd Pontypridd, gosodasom flodeugedau a chawsom wasanaeth teimladwy i gofio'r effaith ar eu teuluoedd a'r gymuned ehangach. Dioddefodd y glowyr, eu teuluoedd a'r gymuned golled ddifrifol y diwrnod hwnnw. Y peth lleiaf y gallwn ei wneud yw cofio'r drasiedi honno.
Gyda phencampwriaeth tennis Wimbledon wedi dechrau'r wythnos hon, rwy'n falch iawn o longyfarch grŵp o drigolion Castell-nedd sydd wedi gwneud gwaith adnewyddu ar gyrtiau tennis y dref. Ac maent wedi cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Tennis Lawnt yn eu gwobrau blynyddol fel un o'r prosiectau tennis cymunedol gorau yn y DU. Tipyn o gamp.
Ffurfiwyd Tenis Castell-nedd yn 2018 gan breswylwyr ardal Heol Dyfed, gyda'r bwriad o ailagor cyrtiau tenis oedd wedi bod ar gau ers 10 mlynedd. Mewn llai na tair blynedd, gwnaeth y grŵp o wirfoddolwyr lwyddo i godi dros £100,000 i osod wyneb newydd ar y cyrtiau, a chodi ffensys cadarn newydd. Mae'r grŵp yn falch iawn o sicrhau bod yr adnodd yma ar gael i'r gymuned gyfan, ac wedi cadw'r pris o logi cwrt o fewn cyrraedd pawb.
Mae'r cyrtiau yn cael eu defnyddio gan yr Urdd a gan ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol Gymraeg Castell-nedd, sy'n chwarae ar y cyrtiau bob dydd yn ystod y tymor hwn. Yn ogystal, trefnwyd hyfforddiant tenis i blant yn rheolaidd, ac mae sesiwn tenis cymdeithasol i oedolion yn cael ei chynnal bob prynhawn dydd Sadwrn i'r rheini sydd am chwarae a gwneud ffrindiau.
Mae'n bleser gen i felly i longyfarch y grŵp yn ffurfiol am eu gwaith yma ar lawr y Siambr, a dymuno pob llwyddiant i Tenis Castell-nedd yn y dyfodol. Diolch.
Trist oedd clywed yr wythnos hon y bydd capel Bryn Seion yn Ystrad Mynach yn cau ei ddrysau am y tro olaf ddydd Sul. Mae’r capel wedi gwasanaethu’r ardal ers 1906, ac wedi bod yn ganolbwynt bywyd Cymraeg nid yn unig yn nhref Ystrad Mynach, ond trwy'r cwm cyfan. Cangen yr hen gapel yn Hengoed oedd hi, a dros flynyddoedd lawer bu cenedlaethau o deuluoedd yn marcio cerrig milltir bywyd y tu mewn i'w waliau: bedyddiadau, priodasau, angladdau. Bu cymaint ohonom yn mynychu clwb ieuenctid, Band of Hope, yn y festri pan oeddem yn fach, ac yn cymryd rhan yn nrama’r geni—weithiau’n Mair, weithiau’n fugail, weithiau’n seren yn y nen.
Nid adeilad yn unig oedd Bryn Seion, ond canolbwynt cymuned: lle i ddathlu a chysegru, i goffáu a galaru, adeilad lle’r hoffech chi weld y waliau nid yn unig yn siarad ond yn dawnsio, yn canu eu gorfoledd. Bydd ei golled yn cael ei deimlo nid yn unig yng nghymuned y Bedyddwyr, ond mewn teuluoedd ac mewn strydoedd ar wasgar trwy'r cwm. Ac er bydd y niferoedd yn y gwasanaeth yn gyfyng ddydd Sul, yn yr ysbryd bydd y capel dan ei sang â hen gyfeillion.