– Senedd Cymru am 4:11 pm ar 30 Mehefin 2021.
Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod: Bil ar ddull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer gwasanaethau i bobl hŷn. Galwaf ar Gareth Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7713 Gareth Davies
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n ymgorffori dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth ddatblygu, cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth wneud penderfyniadau a allai effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru;
b) ymestyn y ddyletswydd sylw dyledus i awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau cyhoeddus eraill yng Nghymru;
c) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ymhlith pobl hŷn ac awdurdodau cyhoeddus Cymru;
d) ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd Pobl Hŷn, pobl hŷn a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn gwneud neu ddiwygio'r cynllun hawliau pobl hŷn; ac
e) gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau i awdurdodau cyhoeddus Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Busnes am roi'r cyfle gwych hwn imi annerch y Senedd y prynhawn yma a chyflwyno'r cynnig hwn. Mae'n anrhydedd mawr, fel un o Aelodau mwyaf newydd y Senedd, i gyflwyno'r cynnig cyntaf ar gyfer deddfwriaeth yn y chweched Senedd. Mae'r ffaith bod y cynnig hwn wedi cael cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr yn dangos bod pob plaid yma'n malio am hawliau pobl hŷn.
Yn ôl amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru sydd â'r gyfran uchaf yn y pedair gwlad o bobl dros 65 oed. Mae dros un o bob pump o'n poblogaeth wedi cyrraedd oedran ymddeol y wladwriaeth, ac mae nifer y bobl dros 65 oed yn fwy na nifer y bobl o dan 15 oed, sy'n golygu ein bod yn boblogaeth sy'n heneiddio. Dros y ddau ddegawd nesaf, bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu oddeutu 40 y cant. Er bod ein demograffeg yn newid, nid yw ein cymdeithas yn addasu, sy'n golygu bod hawliau pobl hŷn yn cael eu herydu.
Rydym wedi cymryd camau yng Nghymru i ddiogelu hawliau plant a phobl ifanc—a hynny'n gwbl briodol. Diolch i'r sefydliad hwn, rydym wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng nghyfraith Cymru, ac wedi gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhob dim a wnawn. Rwyf am roi'r un amddiffyniadau â'r hyn a fwynheir gan ein plant i'n cenhedlaeth hŷn.
Bydd y cynnig deddfwriaethol sydd ger eich bron heddiw, os caiff ei dderbyn, yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau sy'n effeithio ar bobl hŷn wedi rhoi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn. Mabwysiadwyd y ddogfen ddwy dudalen hon gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig bron i 30 mlynedd yn ôl yn1991, ac mae'n nodi 18 o egwyddorion. Mae'r egwyddorion craidd hyn wedi'u grwpio gyda'i gilydd mewn pum thema: annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas—pethau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu cymryd yn ganiataol. Ond nid yw'r pethau hyn bob amser yn cael eu rhoi i'n pobl hŷn, yn anffodus, fel yr amlygwyd dros y 15 mis diwethaf.
Mae pandemig y coronafeirws wedi taro pobl dros 65 oed yn galetach nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o farw o'r feirws, yn fwy tebygol o ddioddef o unigrwydd ac arwahanrwydd o ganlyniad i gyfyngiadau, ac yn fwy tebygol o ddioddef o ganlyniad i fesurau a roddwyd ar waith i leihau'r effaith ar ein GIG. Darganfu arolwg diweddar a gynhaliwyd gan Age Cymru, Cymru Egnïol, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, Fforwm Pensiynwyr Cymru, Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru, Women Connect First, a Senedd Pobl Hŷn Cymru yr effaith wirioneddol y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl hŷn. Soniodd ymatebwyr sut yr effeithiodd y cyfyngiadau symud nid yn unig ar eu hiechyd meddwl, ond ar eu hiechyd corfforol hefyd. Soniodd cynifer â saith o bob 10 am brofiad negyddol wrth geisio cael gafael ar ofal iechyd, gydag un o bob pump wedi canslo apwyntiadau. Yr hyn a'm tarodd fwyaf, fodd bynnag, oedd y sylw gan un ymatebydd. 'Rwy'n pryderu, pan fydd y cyfyngiadau symud ar ben,' meddai, 'y byddwn yn ei chael hi'n anodd wrth i ddarparwyr gwasanaethau ailddechrau esgeuluso anghenion y rheini ohonom sydd bob amser wedi byw dan gyfyngiadau, beth bynnag am y pandemig.'
Ni allwn ganiatáu i anghenion pobl hŷn gael eu hesgeuluso mwyach. Bydd fy neddfwriaeth arfaethedig yn sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu parchu a'u diogelu. Rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd ger eu bron y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. Cofiwch fod gan siaradwyr dri munud ar yr eitem hon ac nid pum munud.
I'ch atgoffa, gan mai dyma'r tro cyntaf i Aelod gyflwyno datganiad, mae'n dair munud i siaradwyr, nid pum munud fel mewn dadl arferol. Janet Finch-Saunders.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i chi, Gareth, am gyflwyno'r ddadl bwysig hon yma yn y Siambr. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnewch yn fedrus iawn ynglŷn â cheisio cyflwyno'r Bil hwn—oni bai ei fod yn cael ei roi mewn deddfwriaeth, bydd pethau'n aros yn union yr un fath.
Yn sicr, mae profiadau pobl hŷn yn ystod y pandemig wedi cryfhau'r achos dros ddiogelu eu hawliau ymhellach yn y gyfraith. Nid dyma'r tro cyntaf i ni fel Ceidwadwyr Cymreig ofyn am gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Bydd gan bob un ohonom straeon am etholwyr yn ein hetholaethau sydd wedi bod angen cymorth, ac mewn rhai achosion, nid oedd unrhyw un ganddynt i'w cynorthwyo. Er enghraifft, yn Aberconwy, mae clwb rotari dyffryn Conwy a Golygfa Gwydyr wedi bod yn darparu gwasanaeth banc bwyd. Gadewch inni adeiladu ar y momentwm hwnnw i helpu eraill drwy greu'r ddyletswydd ddyledus y mae ein pobl hŷn yn ei haeddu. Byddai hyn yn helpu i atal camgymeriadau difrifol sy'n digwydd dro ar ôl tro, fel pobl hŷn a phobl sy'n agored i niwed dan bwysau i lofnodi ffurflenni adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) 'na cheisier dadebru', yr oedi na ellir ei gyfiawnhau wrth gynnal profion mewn cartrefi gofal, a bylchau rhwng ymweliadau â chartrefi gofal a chanllawiau yn seiliedig ar y realiti ar lawr gwlad.
Mae'n bosibl fod dros 140,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn dioddef rhyw fath o gamdriniaeth, a hoffwn ddiolch i'r comisiynydd pobl hŷn, Heléna Herklots, am y gwaith y mae'n ei wneud ar y mater hwn. Mae'n amlwg o'r adroddiad diweddar 'Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy'n Profi Camdriniaeth yng Nghymru' fod angen mwy o weithredu. Mae'r argymhellion yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru adolygu strategaethau a pholisïau perthnasol er mwyn sicrhau eu bod yn mynd i'r afael ag anghenion ein pobl hŷn, ac i lunwyr polisi, comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau ystyried sut y gellir diwallu anghenion pobl hŷn sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.
Gwyddom fod ein bysiau cymunedol, a'r prinder ohonynt, yn creu mwy fyth o arwahanrwydd cymdeithasol i'n pobl hŷn. Gallwn helpu drwy greu'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i egwyddor y Cenhedloedd Unedig y soniwch amdani y dylai pobl allu byw mewn amgylcheddau diogel. Dychmygwch y gwahaniaeth y byddai'n ei wneud pe bai'n rhaid i Weinidogion, awdurdodau lleol, byrddau iechyd ac awdurdodau eraill yng Nghymru roi sylw dyledus i'r angen i bobl hŷn gael mynediad at ofal iechyd a thai digonol. Byddai'n helpu i sbarduno camau gweithredu i fynd i'r afael â'r amcangyfrif pryderus y bydd Cymru, erbyn 2035, yn brin o 5,000 o unedau tai gofal. Byddwn yn brin o 7,000 o welyau gofal nyrsio a 15,000 o unedau tai i bobl hŷn.
Gallai'r ddyletswydd helpu i dynnu sylw at yr angen am weithredu ar frys i fynd i'r afael â'r ffaith ddinistriol fod 70 y cant o bobl hŷn wedi cael profiad negyddol o gael gafael ar ofal iechyd yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae gennyf etholwyr yn dod i mewn bob dydd yn awr yn teimlo eu bod wedi'u hanghofio oherwydd COVID; maent mewn poen enbyd, gyda diffyg triniaeth a diffyg mynediad at feddygon teulu. Rhaid inni gryfhau'r hawliau hynny. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n llwyr gymeradwyo a chefnogi'r galwadau gan fy nghyd-Aelod newydd, Gareth Davies. A diolch i chi, Gareth, am ddod â mater mor bwysig i lawr y Senedd hon mor fuan yn eich gyrfa wleidyddol yma. Diolch.
Diolch yn fawr i Gareth Davies, o Ddyffryn Clwyd, lle ces i fy ngeni, am gyflwyno'r cynnig yma.
Hoffwn siarad i gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd. Fi yw llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau a phobl hŷn, ac fel y cyfryw, mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon yn rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb brwd ynddo. Mae'r cynnig hwn yn amserol o gofio am nifer o benawdau a welsom yn ystod yr wythnosau diwethaf. Gwelsom ymchwil sy'n dangos bod pobl hŷn yn teimlo fwyfwy eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth y gymdeithas. Yn rhannol, deillia hyn o hen arfer o ddibynnu ar arian parod, a chydag amharodrwydd i fabwysiadu bancio ar-lein, mae hyn yn ychwanegu at y teimlad o gael eu hanwybyddu, eu gadael allan o bethau a'u gadael ar ôl. Dywedwyd hefyd mai unigrwydd yw'r normal newydd i lawer o bobl hŷn. Ni ddylem dderbyn na goddef hyn. Efallai fod y rhan hon o gymdeithas ymhlith rhai o'n pobl fwyaf agored i niwed ac i lawer ohonom, y bobl sy'n golygu fwyaf i ni.
Rydym hefyd wedi clywed sut y mae sgamiau wedi cynyddu'n ddramatig ers dechrau'r pandemig. Gwyddom fod pobl hŷn yn aml yn dioddef o'r math hwn o drosedd. Mae hefyd yn wir mai hwy yw'r rhai sy'n cael eu targedu fwyaf. Mae hyn yn peri i heddluoedd newid eu polisïau recriwtio, fel bod ganddynt gwnstabl sy'n fwy abl i ymchwilio i'r troseddau hyn. Wedyn, wrth gwrs, mae'r penawdau a welsom ar ddechrau'r pandemig ac yn wir, drwy gydol y pandemig: yr effaith ar gartrefi gofal. Nid oedd y cyfraddau marwolaethau mewn cartrefi gofal yn dderbyniol, ac mae'n rhaid dysgu gwersi. Roedd y trigolion a oedd yn ddigon ffodus i osgoi dal y coronafeirws yn dal i gael eu heffeithio'n fawr drwy golli'r hawl i ymweliadau gan deulu a ffrindiau.
Mae'n bosibl cynnal pellter cymdeithasol, hyd yn oed yn ystod pandemig, er mwyn diogelu ac atal y feirws rhag lledaenu. Roedd y gwaharddiad cyffredinol ar ymweliadau o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys ymweliadau awyr agored gan gadw pellter cymdeithasol, yn golygu bod llesiant wedi gwaethygu'n sylweddol i lawer o breswylwyr cartrefi gofal. Byddai cyfleu neges glir fod hawliau pobl hŷn yn bwysig ac yn cael eu diogelu yn y gyfraith yn beth pwerus i'r Senedd hon ei wneud. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei gwneud yn glir ein bod ni, yn y Senedd hon, yn parchu ein pobl hŷn. Yn bwysicaf oll, bydd yn dweud wrth ein pobl hŷn ein bod yn malio. Mae hynny'n rhywbeth gwerth ei gefnogi. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Diolch, Gareth, am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol cyntaf i'r Senedd newydd hon.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau holl bobl hŷn Cymru. Rwy'n glir nad yw oedran yn lleihau hawl unigolyn i gael ei drin ag urddas a pharch. Mae'r pandemig, fel y mae siaradwyr yma heddiw eisoes wedi nodi, wedi miniogi ymwybyddiaeth cymdeithas o bwysigrwydd hawliau dynol, a chyfeiriwyd sawl gwaith at rai o'r materion sydd wedi codi yn ystod y pandemig.
Hoffwn wneud ychydig o bwyntiau i egluro rhai o'r datganiadau a wnaed. Ar ymweld â chartrefi gofal, ni fu unrhyw waharddiad cyffredinol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Mae bob amser wedi bod yn bosibl i ymwelwyr fynd i gartrefi gofal mewn amgylchiadau penodol, ond rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud: at ei gilydd, mae wedi bod yn sefyllfa drist iawn i bobl mewn cartrefi gofal a'u perthnasau. Ond ni fu unrhyw waharddiad cyffredinol.
Fel y dywedaf, mae'r pandemig wedi miniogi ein hymwybyddiaeth, ond cyn yr achosion cyntaf o COVID-19 mewn cartrefi gofal, roedd rhaglen waith eisoes ar y gweill i wneud hawliau'n real i bobl hŷn. Mae hawliau pobl hŷn eisoes wedi'u hymgorffori yn Neddf Hawliau Dynol y DU 1998, ac mae oedran yn nodwedd warchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn benodol yng Nghymru, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, ac mae'n rhoi llais cryf i bobl hŷn yn y trefniadau ar gyfer unrhyw ofal y gallai fod ei angen arnynt.
Fel rhan o'n gweithgarwch i gydgynhyrchu strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio, trefnwyd gweithgor i ddatblygu canllawiau ymarfer, i ddangos sut y gall gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sefydlu dull sy'n seiliedig ar hawliau. Roedd aelodaeth y grŵp yn cynnwys pobl hŷn, academyddion blaenllaw a chynrychiolwyr o'r trydydd sector a'r comisiynydd pobl hŷn. Mae'r canllawiau, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn defnyddio enghreifftiau ymarferol i ddangos sut y gall awdurdodau lleol roi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn, fel sy'n ofynnol gan y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant. Mae'n dangos sut y gall newidiadau syml i'r ffordd rydym yn gweithio gynnal hawliau dynol unigolyn a gall gael effaith fawr ar eu llesiant.
I lawer, bydd y canllawiau hyn yn ailddatgan mai'r dull y maent yn ei arfer yw'r un cywir. Fodd bynnag, rwyf am i'r canllawiau lywio pob agwedd ar gynllunio gwasanaethau—comisiynu, tendro, darparu a gwerthuso. Byddaf yn parhau i gael cyngor gan grŵp cynghori'r Gweinidog ar heneiddio ar sut y defnyddiwn yr adnoddau hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol. Cynhyrchodd y grŵp fersiwn o'r canllawiau hyn ar gyfer pobl hŷn hefyd, ac rwy'n gobeithio y caiff y ddwy ddogfen eu defnyddio gyda'i gilydd i lywio sgyrsiau ac ysbrydoli dealltwriaeth gyffredin o effaith drawsnewidiol dull sy'n seiliedig ar hawliau.
Ym mis Ionawr 2020, fe wnaethom gynnal ymgyrch hawliau pobl hŷn a hyrwyddwyd drwy'r wasg, hysbysebion radio a'r cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn parhau i nodi opsiynau ar gyfer hyrwyddo hawliau wrth inni gyhoeddi'r strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio ym mis Medi. Bydd gennym gynllun cyflawni ategol erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd dull sy'n seiliedig ar hawliau yn hanfodol i wireddu ein 10 amcan llesiant, fel y nodir yn ein rhaglen lywodraethu newydd. Dau o'r amcanion yw: diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed; a dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at grwpiau eraill mewn cymdeithas sydd hefyd yn profi effaith ddifaol anghydraddoldeb ac yn haeddu cael eu hawliau wedi'u diogelu'n well. Bu galwadau i ddeddfu'r Confensiwn ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, a hefyd i ddod â chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl yn rhan o gyfraith Cymru, ac rydym yn cefnogi'r galwadau hyn. Fodd bynnag, byddai cyflwyno darnau ar wahân o ddeddfwriaeth i fynd i'r afael ag anghenion grwpiau unigol yn arwain at ddull tameidiog o weithredu. Gall hefyd ei gwneud yn anos deall sut y mae pobl sy'n byw gyda mwy nag un nodwedd warchodedig yn profi anghydraddoldeb.
Ceir dadl gref dros fabwysiadu ymagwedd fwy uchelgeisiol a chyfannol tuag at ddeddfu ar gyfer hawliau dynol. Er mwyn llywio'r dull hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil i archwilio'r opsiynau sydd ar gael i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Mae'r ymchwil yn ystyried y posibilrwydd o ymgorffori confensiynau'r Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru ac a allai fod angen deddfwriaeth newydd, megis Bil hawliau dynol i Gymru neu newidiadau i'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r adroddiad drafft terfynol wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac rydym bellach yn gallu dweud y rhagwelir ei gyhoeddi erbyn diwedd cyfnod yr haf. Fel rhan o'r gwaith, cyfarfu'r tîm ymchwil â fforwm cynghori'r Gweinidog ar heneiddio, a nifer o sefydliadau cydraddoldeb cymunedol sy'n cynrychioli pobl â nodweddion gwarchodedig gwahanol. Hefyd, casglwyd tystiolaeth drwy gyfrwng grwpiau ffocws gan grwpiau lleiafrifol ar y cyrion sydd â phrofiad byw, a bwriedir i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar unrhyw opsiynau neu fodelau deddfwriaethol sy'n codi o'r ymchwil.
I gloi, er fy mod wedi ymrwymo i gynnal a diogelu hawliau holl bobl hŷn Cymru ac yn derbyn llawer o'r pwyntiau a wnaed gan y cyfranwyr yn y ddadl heddiw, ni allaf gefnogi'r cynnig hwn. Pan fyddwn yn deddfu, dylem wneud hynny'n gyfannol ar gyfer y gymdeithas gyfan ac mewn ffordd sy'n cydnabod cymhlethdod bywydau a phrofiadau pobl.
Nid oes unrhyw Aelod wedi gofyn am ymyrraeth, felly galwaf ar Gareth Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr eto, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb y prynhawn yma am eu cyfraniadau gwych.
Soniodd Janet Finch-Saunders am y ddeddfwriaeth a fu'n flaenoriaeth i'r Ceidwadwyr Cymreig ers peth amser bellach, diogelu hawliau ymhellach, pobl oedrannus wedi'u hynysu, a'r gefnogaeth gymunedol wych gan glwb rotari Llandudno, ac eraill yn y gymuned leol, sydd yno i helpu ein pobl oedrannus mewn cyfnod arbennig o anodd yn ystod y pandemig dros y 15 mis diwethaf, a'r ymagwedd gyfannol honno a ddaw o ganlyniad i hynny. Oherwydd, yn y bôn, mae'n rhestr ddiddiwedd o anghenion, weithiau, gyda rhai unigolion, ac mae hynny'n bwysig iawn i'w nodi.
Diolch yn fawr iawn hefyd i Peredur, sydd â diddordeb mawr yn y pwnc hwn. Mae'n dda eich gweld yn llefarydd Plaid Cymru ar hyn, ar bwnc rydych chi'n teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Tynnwyd sylw at y diffyg cyfleusterau bancio ar-lein neu ddiffyg gwybodaeth—neu ddiffyg gwybodaeth posibl—pobl oedrannus ynglŷn â sut i wneud defnydd o hynny, ac roeddent yn teimlo wedi'u hynysu o ganlyniad, a sgamiau a chyfraddau marwolaethau mewn cartrefi gofal yn cynyddu.
A diolch yn ogystal i Julie Morgan am ymdrin yn briodol â hawliau dynol a deddfwriaeth y DU sydd eisoes ar waith. Ond credaf ei bod hi'n eithaf siomedig na allwch gefnogi hwn y prynhawn yma. Mae gennym gyfle yma lle mae gennym bwerau datganoledig i ddeddfu ar y pethau hyn, ac mae gan Lywodraeth Cymru gyfle da i sefyll dros y boblogaeth sy'n ffurfio un rhan o bump o'r wlad hon, ac mae'n gyfle gwych i wneud hynny y prynhawn yma. Rwyf am ddod yn ôl a dweud nad yw hyn yn wleidyddol, mae ganddo gefnogaeth drawsbleidiol. Cefais negeseuon cefnogol gan Aelodau Llafur o'r Senedd hyd yn oed y prynhawn yma. Felly, wyddoch chi, mae'n dangos bod hwn yn gonsensws, ac mae'n braf pan fyddwn yn cytuno ar bethau. Felly, rwy'n eithaf siomedig na all Llywodraeth Cymru ei gefnogi y prynhawn yma.
Rwyf am orffen drwy annog cyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd ger eich bron y prynhawn yma. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i Siambr.