– Senedd Cymru am 4:28 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Eitem 5, datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: diwygio'r cwricwlwm—y camau nesaf. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ers imi ddod yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, rwyf wedi nodi ein blaenoriaeth i roi lles a chynnydd dysgwyr wrth galon popeth rydyn ni'n gwneud. Rwyf i wedi bod yn siarad gydag ymarferwyr mewn ysgolion, colegau a darparwyr addysg, ac rwyf wedi clywed yn uniongyrchol sut maen nhw wedi addasu i amgylchiadau cyfnewidiol yn y flwyddyn ddiwethaf, a beth arall y gallaf ei wneud i'w cefnogi nhw wrth inni adnewyddu a diwygio addysg yng Nghymru.
Mae ymrwymiad a chymhelliant athrawon o ran y cwricwlwm newydd wedi creu cryn argraff arnaf. Rwyf i wedi clywed y brwdfrydedd dros adnewyddu ac ail-lunio maes addysg, yn ogystal â dyhead i gynnal momentwm y diwygiadau a'r manteision i'w dysgwyr. Mae ymarferwyr hefyd wedi bod yn onest ynghylch yr heriau y maen nhw'n eu hwynebu, ac mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un wahanol iawn i'r arfer.
Wrth inni fynd ati i ddiwygio, mae'n amlwg ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r un a ddychmygwyd wrth gyhoeddi canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 18 mis yn ôl. Ar un llaw, rwy'n cydnabod bod yr amser paratoi ar gyfer y cwricwlwm wedi'i dreulio yn rheoli effaith y pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar y llaw arall, gyda ffocws cryfach byth ar les, a buddsoddiad sylweddol mewn addysgu a dysgu, mae'r gwerthoedd sy'n sail i’r cwricwlwm wedi bod wrth galon y ffordd mae ysgolion wedi bod yn gweithio. Rwyf i wedi ymrwymo i gefnogi ysgolion a lleoliadau i gynnal eu momentwm. Ar yr un pryd, rwy'n cydnabod yr angen am ddisgwyliadau clir, a rhagor o le a chymorth i weithredu cwricwlwm o'r radd flaenaf i bob dysgwr.
Yng ngoleuni'r pandemig, rwyf i wedi penderfynu adnewyddu'r ddogfen 'Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022', sy’n nodi'r disgwyliadau ar ysgolion i ddiwygio'r cwricwlwm. Rwyf am sicrhau ei fod yn glir, yn syml, ac yn canolbwyntio ar sut y diwygir y cwricwlwm, gan gynnwys pwysigrwydd addysgu o'r radd flaenaf. Rwyf hefyd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein disgwyliadau yn ystyried y cyd-destun ar hyn o bryd, gan gydnabod y bydd llawer yn dechrau o wahanol fannau. Bydd yn ddogfen gynhwysfawr i ysgolion a lleoliadau. Rŷn ni'n cydweithio â phartneriaid i ddatblygu hyn a bydd y ddogfen yn cael ei chyhoeddi erbyn dechrau tymor yr hydref.
Fis diwethaf, cyhoeddais i gyfres o fesurau i ysgafnhau'r pwysau ar ymarferwyr, gan greu rhagor o le i gefnogi dysgwyr. Roedd hynny’n cynnwys gohirio mesurau perfformiad, prosesau categoreiddio ysgolion a rhaglen arolygu graidd Estyn i mewn i dymor yr hydref.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mod i'n bwriadu dileu'r gofyniad i ymarferwyr gynnal asesiadau ar ddiwedd y cyfnod sylfaen ac ar ddiwedd cyfnodau allweddol, ym mlwyddyn academaidd 2021-22, ar gyfer y grwpiau blwyddyn a fydd yn trosglwyddo i'r cwricwlwm newydd ym mis Medi flwyddyn nesaf. Dim ond mewn ysgolion cynradd bydd hyn yn berthnasol. Rwy'n credu, trwy ddileu’r gofynion hyn flwyddyn yn gynnar, gellir creu rhagor o le i ymarferwyr sy’n paratoi eu cwricwlwm i'w ddysgu y flwyddyn nesaf. Bydd hefyd yn rhoi gwell ffocws ar gynnydd dysgwyr unigol ac ar wella'r addysgu ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd asesiadau sylfaenol ac asesiadau personol yn parhau, i roi hyder yng nghynnydd y dysgwyr i ymarferwyr, dysgwyr a rhieni.
Byddwn yn lansio rhwydwaith genedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm yn yr hydref. Bydd hwn yn gorff a arweinir gan ymarferwyr. Bydd yn agored i bob ysgol, wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn gyfrwng allweddol i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm newydd. Bydd ymarferwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid ehangach yn gweithio gyda'i gilydd i gynnal ac ehangu'r gwaith datblygu ar bob lefel, gan fynd i'r afael â rhwystrau rhag gweithredu. Bydd yn fforwm allweddol lle gall ymarferwyr ddysgu oddi wrth ei gilydd ar faterion pwysig sy'n ymwneud â datblygu'r cwricwlwm, gan ddatblygu dulliau o ddylunio'r cwricwlwm ar y cyd.
Rwyf hefyd yn cyhoeddi £7.24 miliwn o gyllid y flwyddyn ariannol hon yn uniongyrchol i ysgolion, i'w cefnogi wrth iddyn nhw ddiwygio'r cwricwlwm. Bydd hyn yn helpu i ymgysylltu â'r prif faterion o ran gweithredu'r cwricwlwm, gan gynnwys drwy'r rhwydwaith genedlaethol. I ategu hyn, bydd canllawiau clir ar sut y gall ysgolion wario'r cyllid.
Drwy fy nhrafodaethau â'r sector, mae'n amlwg bod dyhead cryf am ddiwygio o hyd. Rwy'n benderfynol o adeiladu ar y ffocws sydd wedi'i roi ar les a'r hyblygrwydd sydd wedi'i ddangos dros y flwyddyn ddiwethaf. Bydd hynny'n cyd-fynd yn agos â'r gwaith o gyflwyno'n cwricwlwm newydd. Felly, rwy'n cadarnhau heddiw y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn parhau i gael ei weithredu mewn ysgolion cynradd, ysgolion meithrin a gynhelir, a lleoliadau meithrin nas cynhelir o fis Medi 2022 ymlaen. Hoffwn gadarnhau ein bod yn gweld taith ddysgu barhaus o 2022 ymlaen, a byddwn yn parhau i gefnogi ysgolion i ddatblygu a gwella eu cwricwla.
Rwy'n cydnabod bod ysgolion uwchradd wedi wynebu heriau penodol fel rheoli cymwysterau, sydd, mewn rhai achosion, wedi effeithio ar eu parodrwydd i gyflwyno'r cwricwlwm. Rwy'n deall y pryderon hyn, ac wedi penderfynu darparu rhagor o hyblygrwydd i ysgolion sy'n teimlo bod angen hynny arnynt. Yn 2022, bydd ysgolion sy'n barod i gyflwyno diwygiadau'r cwricwlwm i flwyddyn 7 yn gallu bwrw ymlaen. Fodd bynnag, ni fydd gweithredu'r cwricwlwm newydd yn ffurfiol yn orfodol tan 2023, gan ei gyflwyno yn y flwyddyn honno i flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd. Mewn addysg heblaw yn yr ysgol, gan gynnwys unedau cyfeirio disgyblion, bydd y cwricwlwm newydd yn orfodol i ddysgwyr oedran ysgol gynradd ym mis medi 2022. Bydd yn orfodol i ddysgwyr blynyddoedd 7 ac 8 o fis Medi 2023 ymlaen. Bydd hyn yn wir hefyd mewn ysgolion arbennig ac ysgolion i blant tri i 16 oed.
Byddwn yn annog ysgolion uwchradd sydd yn gallu i ddilyn eu cynlluniau presennol yn 2022 i fwrw ymlaen gyda'r cynlluniau hynny, gyda chefnogaeth consortia rhanbarthol. Bydd fframwaith 'Beth rydym yn ei arolygu' Estyn yn cefnogi'r hyblygrwydd hwn. Bydd Estyn yn annog cynnydd ar hyd y daith o ddiwygio'r cwricwlwm ar gyfer ysgolion uwchradd.
Bydd rhai ysgolion uwchradd yn dewis parhau â'u llwybr tuag at ddiwygio'r cwricwlwm o 2022 ymlaen, er mai yn 2023 fydd yn dod yn orfodol i flynyddoedd 7 ac 8 gyda'i gilydd. Rwy'n falch o allu cynnig yr hyblygrwydd hwn ac yn rhagweld y bydd y gwaith o ddiwygio'r cwricwlwm yn mynd rhagddo yn fuan, yn enwedig gwaith ymgysylltu uniongyrchol rhwng ysgolion uwchradd a chynradd o hyn ymlaen ac i mewn i 2022 i helpu â throsglwyddo'r dysgwyr.
Ar ôl 2023, bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn, a bydd y cymwysterau cyntaf sydd wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu dyfarnu gyntaf ym mlwyddyn academaidd 2026-27, yn unol â'r bwriad.
Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm. Rhaid i'r uchelgais gyffrous sy'n sail i'n cwricwlwm gyd-fynd â'n system gymwysterau. Bydd yr hyblygrwydd i ysgolion uwchradd yn 2022 yn rhoi lle i'r sector weithio gyda Cymwysterau Cymru dros y flwyddyn nesaf i helpu llunio cyfres o gymwysterau o’r radd flaenaf i gyd-fynd ag athroniaethau'r cwricwlwm newydd, ac i fanteisio ar gyfleoedd newydd a ddaw yn sgil dulliau asesu.
Wrth wrando ar y proffesiwn, rwy'n dal yn ffyddiog ein bod ni'n gwneud y peth iawn drwy fwrw ymlaen â'n diwygiadau. Mae gennym ni gyfle prin i chwyldroi ansawdd cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc. Mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar ddiwygio’r cwricwlwm, a'n bod yn gwneud pethau'n iawn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch. Gweinidog, a gaf i ddechrau drwy groesawu eich datganiad? Rwyf i wir yn ei groesawu, er ei fod yn brin o rai manylion. Mae'r sector, rhieni a'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am wythnosau am hyblygrwydd wrth weithredu, felly rwy'n falch fod y Llywodraeth hon wedi gwrando ar y galwadau hyn a nawr mae gan y cwricwlwm newydd y cyfle gorau posibl i gyflawni ei nodau.
Yn dilyn yr ymweliadau yr wyf i wedi'u gwneud yn rhinwedd fy swydd newydd yn Weinidog addysg yr wrthblaid yn ystod y mis diwethaf, mae'n amlwg bod ysgolion yn rhannu awydd, fel yr ydych chi wedi dweud yn eich datganiad, i gyflwyno'r cwricwlwm newydd fel y mae wedi'i gynnig, ond, oherwydd y pwysau ychwanegol gormodol a'r gwaith ychwanegol sydd wedi'i roi ar yr ysgolion a'r staff addysgu drwy gydol y pandemig, ni fydd rhai ysgolion mewn gwirionedd yn barod, fel yr ydych chi wedi'i amlinellu, i gyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn mewn da bryd. Rwy'n croesawu eich bod chi wedi cydnabod hyn ac erbyn hyn mae ganddyn nhw y lefel ychwanegol o hyblygrwydd yr ydym ni wedi bod yn galw amdano. Nid yw'n fethiant; mae'n gwneud synnwyr, Gweinidog, os ydym ni i gyd o ddifrif ynghylch sicrhau llwyddiant y newid mwyaf yn ein cwricwlwm ers degawdau.
Gweinidog, a allwch chi ymhelaethu ar ba feini prawf y bydd eu hangen i benderfynu ar oedi? Ac a fydd hwn wir yn benderfyniad wedi'i arwain gan ysgolion, ac a fydd dyddiad cau erbyn pryd y gall ysgolion benderfynu, yn realistig, na fyddan nhw'n barod i'w gweithredu?
O ran y rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm, gwnaethoch chi sôn amdano ym mis Ionawr, o'r hyn rwy'n ei gofio, a nawr, a dim ond nawr yr ydym ni'n clywed y bydd yn cael ei weithredu yn yr hydref. Gan fod hyn i'w weld mor hanfodol o ran helpu ysgolion i baratoi ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm, rwy'n tybio pam, Gweinidog, y mae wedi cymryd cyhyd a pham y caiff ei gyflwyno yn yr hydref. Mae'n ymddangos bod—. Gan y bydd y fforwm allweddol hwn yno fel adnodd da i athrawon, mae'n drueni ein bod ni ar ein colled o ran cael ar yr adborth a'r cyfle hwnnw dros fisoedd yr haf i'w drafod a pharatoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Ac mae'n ymddangos yn drueni na fyddai wedi bod modd gwneud yr adnodd hwn yn gynharach.
Hefyd, Gweinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwaith y fforwm hwn pan fydd yn mynd rhagddo? A hefyd, a wnaiff y Gweinidog ddarparu data treigl i'r Siambr hon ar faint o ysgolion sy'n barod i weithredu'r cwricwlwm, faint o ysgolion fydd yn defnyddio'r cyfle i ohirio am flwyddyn—dim ond ar sail dreigl, fel y gallwn ni gael y ffydd sydd gennych chi y bydd yn symud ymlaen?
Hefyd, Gweinidog, mae arnom ni eisiau—. A gawn ni sicrwydd ynghylch sut y bydd popeth yn iawn, gan symud ymlaen yn dda, ond—? O, mae'n ddrwg gennyf i am hynny. Yr arian—ia hwnnw. Mae'r arian, y £7.24 miliwn yr ydych chi wedi'i amlinellu yn eich datganiad, yr ydych chi wedi'i gyhoeddi, yn dod â chafeat ynghylch canllawiau clir y byddwch chi'n eu rhoi i ysgolion ar sut y maen nhw i fod i wario'r cyllid hwn. Tybed, Gweinidog—onid ydych chi'n cytuno â mi mai ysgolion, mae'n debyg, sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar gyfer beth y maen nhw'n defnyddio'r arian hwn, yr arian hwn sydd wedi'i neilltuo, a pha mor barod y byddan nhw ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud i addasu er mwyn iddi fod felly?
Hefyd, yn olaf, Dirprwy Lywydd, ni welaf sôn chwaith ynghylch y sector addysg bellach yn eich datganiad, ac mae angen i ni ystyried y daith yn ei chyfanrwydd, fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi'n cytuno, wrth baratoi, ond sut ydych chi'n gweithio gydag addysg bellach i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer yr addysgu, y ddarpariaeth, ac yn enwedig o ran pynciau galwedigaethol? Diolch.
Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei chwestiynau, ac rwy'n falch ei bod yn croesawu'r hyblygrwydd y mae fy natganiad i'n ei ddisgrifio, sydd, yn fy marn i, yn ymateb cymesur i'r amrywioldeb mewn rhannau o'r sector o ran bod yn barod. Mae'r penderfyniadau wedi'u gwneud, yn amlwg, ar ôl gwrando ar ymarferwyr am wythnosau lawer ers i mi ddod yn Weinidog addysg, a gwnes i synhwyro ymrwymiad clir iawn i egwyddorion a realiti'r cwricwlwm, brwdfrydedd dros symud ymlaen gyda'r cwricwlwm, ond hefyd ymdeimlad mewn rhai mannau bod ychydig mwy o amser efallai i ganolbwyntio ac ychydig mwy o hyblygrwydd i wneud hynny i'w groesawu, ac rwyf i wedi gwrando ar hynny. Rwyf i eisiau bod yn glir iawn, serch hynny: nad oedi sylweddol i'r cwricwlwm yw hwn. Bydd y cwricwlwm yn dechrau cael ei gyflwyno yn 2022 a bydd yn dod i ben yn unol â'r amserlen wreiddiol. Yr hyn y mae'n ei ddarparu yw elfen o hyblygrwydd o ran cyflwyno blwyddyn 7 y flwyddyn nesaf, a daw hynny'n orfodol yn 2023. Mae ysgolion yn gallu penderfynu drostyn nhw eu hunain a ydyn nhw'n barod i symud ymlaen gyda chyflwyno diwygiadau i'r cwricwlwm yn 2022 neu'r flwyddyn ganlynol, ac felly byddwn ni'n ymddiried ym marn ysgolion o ran hynny, fel y mae ei chwestiwn yn gofyn.
O ran y rhwydwaith cenedlaethol, rwy'n credu bod hwn yn fforwm pwysig iawn, a fydd yn dwyn ynghyd gweithwyr addysgu proffesiynol, arbenigwyr, rhanddeiliaid a llunwyr polisi, a'r nod, mewn gwirionedd, yw nodi ac ymdrin â rhwystrau a chyfleoedd sy'n gysylltiedig â gweithredu'r cwricwlwm, a bydd yn agored i bob ysgol a lleoliad, ac rwyf i wir eisiau i'r fforwm gael ymdeimlad o gyd-adeiladu cenedlaethol os hoffech chi. Bydd yn helpu i ddatblygu, rwy'n credu, ar lefel genedlaethol, amrywiaeth o ddulliau a syniadau y gall ymarferwyr eu dwyn yn ôl i lywio'r gwaith o gynllunio a gweithredu'r cwricwlwm yn eu hysgolion a'u lleoliadau, ac argymhellion ar sut i gomisiynu a datblygu adnoddau a chymorth penodol ynghylch dysgu proffesiynol hefyd.
Mae hi'n sôn am weithio ar hyn drwy gydol misoedd yr haf; rydw i eisiau i athrawon fod, cyn belled ag y bo modd, mewn sefyllfa i fanteisio ar gyfle i orffwys ac i fyfyrio, os hoffech chi, ar brofiad y flwyddyn diwethaf yn ystod misoedd yr haf. Rwy'n gwybod ei bod hi yn teimlo hynny hefyd.
O ran pa mor barod y mae ysgolion, rwy'n awyddus i beidio â bod mewn sefyllfa lle rwy'n chwilio am rwymedigaethau adrodd newydd i'w gosod ar ysgolion eu hunain, ond rwy'n credu y gall hi gymryd fy ngair i, y byddwn ni'n cymryd ein harweiniad o ysgolion ynghylch a ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n barod i ddechrau diwygiadau yn 2022 neu i ddilyn y ddarpariaeth orfodol yn 2023.
O ran gweithredu'r cwricwlwm yn fwy cyffredinol, byddaf i'n darparu adroddiad blynyddol ar y sefyllfa, os hoffech chi, o ran hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddefnyddiol iddi hi, fel y bydd i Aelodau eraill gobeithio.
O ran y swm o arian o £7.24 miliwn y gwnes i sôn amdano, y canllawiau, mewn gwirionedd, yw cefnogi ysgolion i wneud y defnydd gorau o hwnnw. Y bwriad yw caniatáu i ysgolion wneud penderfyniadau ynghylch sut y maen nhw'n cydweithio ag eraill i neilltuo amser a lle i ddylunio a chynllunio dulliau o ymdrin â'r cwricwlwm, a gobeithio y bydd hynny o gymorth i ysgolion.
Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich datganiad, Weinidog, yn trafod y cwricwlwm a chymwysterau. Dwi'n falch eich bod chi'n cydnabod yr angen am ddisgwyliadau clir a rhagor o le a chymorth i weithredu'r cwricwlwm newydd. Rydych chi hefyd yn sôn am lansio rhwydwaith cenedlaethol ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm yn yr hydref, ond beth yn union fydd pwrpas hwn a phwy fydd yn cynnull y rhwydwaith yma? Pwy fydd yn cael pobl at ei gilydd? Fydd o'n gweithredu ar lefel genedlaethol ynteu trefniadau lleol fydd ar waith? Oni fydd hyn yn ofyniad ychwanegol ar amser prin athrawon, ac yn eu tynnu nhw oddi ar eu gwaith dysgu, o gofio bod ysgolion eisoes yn gweithio mewn clystyrau ar gyfer rhannu arfer da o gwmpas y cwricwlwm newydd, a bod y consortia hefyd yn trefnu fforymau o gwmpas y cwricwlwm? Felly, fy nghwestiwn i ydy: oes gwir angen y rhwydwaith yma, ac oni fydd o'n dyblygu gwaith sydd yn digwydd mewn mannau eraill?
Rydych chi'n cyhoeddi arian i gefnogi diwygio'r cwricwlwm ac, mewn gwirionedd, sôn yn y fan yma ydyn ni, mae'n debyg, am gyflogi staff cyflenwi er mwyn rhyddhau amser staff sydd yn dysgu a rhoi'r gofod yna iddyn nhw ar gyfer trafod materion y cwricwlwm. Fedrwch chi jest gadarnhau hynny? Mae'n siŵr y bydd nifer o ysgolion yn falch o glywed eich bod chi am roi rhagor o hyblygrwydd i ysgolion sy'n teimlo bod angen mwy o amser arnyn nhw er mwyn gweithredu'r cwricwlwm. Ond, oni fydd hyn yn arwain at anghysondeb yn y sector uwchradd ar draws Cymru, efo plant blynyddoedd 7 ac 8 yn cael profiadau reit wahanol yn dibynnu ar le maen nhw'n byw? Ydych chi'n gweld bod hyn yn mynd i greu anawsterau, yn y tymor byr yn sicr? Ai, mewn gwirionedd, dyma'r peth gorau ar gyfer y plant penodol yma sydd dan sylw, sydd wrth gwrs yn wynebu newid mawr yn eu bywydau wrth iddyn nhw drosglwyddo o'r cynradd i'r uwchradd?
Dwi'n croesawu'r cymal yn eich datganiad sydd yn trafod cymwysterau. A dweud y gwir, roeddwn i wedi disgwyl clywed mwy am yr agwedd yma yn eich datganiad chi brynhawn yma, ond mi ydych chi'n dweud hyn, a dwi'n meddwl bod hyn yn bwysig:
'Bydd diwygio cymwysterau yn chwarae rhan sylfaenol yn llwyddiant ein cwricwlwm.'
Dwi'n cytuno'n llwyr efo'r datganiad yna, ond beth mae hynny'n ei olygu yn ymarferol? Dyna ydy'r cwestiwn sydd angen ei ofyn. Mae angen alinio cymwysterau i'r cwricwlwm ar fyrder os ydy'r cwricwlwm i fod yn llwyddiannus. Rydych chi'n gwybod ein bod ni ym Mhlaid Cymru o'r farn ei bod hi'n bryd i roi mwy o bwyslais ar asesu parhaus yn hytrach nag arholiadau. Rydyn ni o'r farn bod angen dod â chymwysterau TGAU, Safon Uwch a BTEC i ben, yn raddol—dwi'n pwysleisio hynny; yn raddol—a'r nod gennym ni fyddai symud oddi wrth y strategaeth o wthio nifer cynyddol o ddisgyblion drwy lwybr academaidd cul a rhoi statws cyfwerth i addysg alwedigaethol a thechnegol. Felly, hoffwn i wybod beth ydy eich gweledigaeth chi o gwmpas yr holl faes pwysig yma sydd angen mynd i'r afael â hi. Ydych chi'n barod i wneud y newidiadau radical sydd eu hangen er mwyn i'r cwricwlwm fod yn llwyddiannus? Diolch yn fawr.
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran disgwyliadau clir, nawr rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod angen hynny. Rwy'n bwriadu, cyn tymor yr hydref, ailgyflwyno'r ddogfen sydd yn dangos y llwybr i 2022, ac edrych ar y cyd ar y broses o symud tuag at y cwricwlwm ar un llaw, gyda'r broses o ddelio ag impact y pandemig ar y llall, a sicrhau bod y ddau beth yn dilyn llwybr cyson yn hytrach na thynnu yn erbyn ei gilydd. Rwy'n credu y bydd ysgolion yn gwerthfawrogi hynny.
O ran y rhwydwaith cenedlaethol, gwnaf jest gyfeirio llefarydd Plaid Cymru at yr hyn y gwnes i ei ddweud wrth lefarydd y Ceidwadwyr: bwriad y rhwydwaith yw sicrhau bod adnoddau ar gael i ysgolion i allu cydweithio a chreu adnoddau sydd yn ddefnyddiol iddyn nhw yn eu hysgolion a helpu dylunio hynny ar gyfer ysgolion eraill hefyd. Felly, mae'n gyfle cenedlaethol i bobl allu cydweithio gyda'i gilydd er mwyn creu adnoddau a chyflwyno ffyrdd newydd o ddysgu o fewn y cwricwlwm.
O ran yr arian, mae e yno i greu capasiti newydd, i ryddhau amser, i greu gofod i ddylunio approaches ar gyfer y cwricwlwm. Felly, bydd y canllawiau yn cefnogi ysgolion i wneud y defnydd gorau o hynny. Mae Siân Gwenllian yn gofyn cwestiwn pwysig ynglŷn â'r cwestiwn a ydy hyn yn creu anghydraddoldeb, os gwnaf i ei ddodi fe yn y ffordd wnaeth hi ei ofyn. Beth fyddwn i'n dweud yw hyn: yr egwyddor wreiddiol wrth sail hyn oll yw bod pob dysgwr yn cael mynediad at y cwricwlwm pan fydd hynny yn digwydd yn y ffordd orau i'w cefnogi nhw. Hynny yw, mae ysgolion a dysgwyr yn cael eu trin yn hafal ar sail parodrwydd i ddysgu o fewn dulliau'r cwricwlwm newydd, ac felly mae'r elfen o hyblygrwydd honno yn cefnogi bod hynny yn digwydd. Ac a gaf i sicrhau Siân Gwenllian fod y trosglwyddo o ysgol gynradd i ysgol eilradd yn mynd i ddigwydd mewn ffordd esmwyth? Hynny yw, hyd yn oed i ysgolion sydd yn dewis aros tan 2023 cyn cyflwyno dulliau cwricwlwm newydd i flwyddyn 7, hyd yn oed yn y sefyllfa honno, flwyddyn nesaf bydd y cwricwlwm cynradd yn cael ei gyflwyno, a'r flwyddyn ar ôl hynny fe fydd yr un uwchradd yn cael ei gyflwyno. Felly, bydd y llwybr o'r cynradd i'r uwchradd yn un sydd yn ddi-dor, os gallaf i ei ddisgrifio felly.
O ran cymwysterau, rwy'n moyn gweld ein cymwysterau ni yn uchelgeisiol, yn adlewyrchu egwyddorion y cwricwlwm. Bydd cyfle dros y flwyddyn nesaf i brofi hynny gyda'r sector, bod athrawon yn gallu helpu siapio hynny mewn ffordd sydd yn adlewyrchu eu huchelgais nhw dros y cwricwlwm hefyd. Felly, mae cyfle, rwy'n gobeithio, yn sgil yr hyblygrwydd ychwanegol hynny, i gyfrannu at hynny hefyd. Ac a gaf i hefyd sicrhau Siân Gwenllian fod gen i ymrwymiad personol ac ymrwymiad y Llywodraeth i sicrhau bod addysg alwedigaethol ac academaidd yn hafal? Dyna'r egwyddor sydd y tu ôl i'r Bil rŷm ni'n bwriadu ei gyflwyno yn y flwyddyn gyntaf ar gyfer addysg ôl-ofynnol.
Diolch, Weinidog. Byddwn nawr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny yn brydlon. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.