Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 6 Gorffennaf 2021.
Diolch i chi am y gyfres yna o gwestiynau. Rwy'n falch bod yr Aelod yn croesawu ac yn cydnabod y newid y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud i'w hymagwedd o ran mesurau diogelu dur. Rwy'n credu bod hwnnw yn gam cymesur a gymerwyd, ac rwyf i yn croesawu'r camau sydd wedi eu cymryd, fel y gwyddoch chi, rydym ninnau wedi galw amdanyn nhw hefyd.
O ran y gwaith rhwng y Llywodraethau yn y dyfodol, mae ein prif ymgysylltiad gydag adran Kwasi Kwarteng yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Yn anffodus, nid oedd Kwasi Kwarteng yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod yr oeddwn i fod i'w gael gyda fe ddoe, felly rydym yn aildrefnu hynny i ddigwydd yn y dyddiau nesaf. Mae hynny'n ymgysylltiad pwysig, ac mae'r ohebiaeth gychwynnol rhwng ein swyddogion yn wirioneddol adeiladol. Mae llawer o feysydd yr ydym yn anghytuno â Llywodraeth y DU yn eu cylch, ond rydym yn cydnabod bod hwn yn faes lle y byddem ni i gyd yn elwa ar ddull adeiladol, oherwydd ein bod yn cydnabod bod gan bob un ohonom rywbeth i'w ychwanegu ac i'w ennill, ac mae'n newid mewn gonestrwydd sydd i'w groesawu o'i gymharu â barn Llywodraeth y DU ychydig flynyddoedd yn ôl ar y sector dur. Erbyn hyn, rwy'n credu bod barn fwy cadarnhaol ar gyfer dyfodol y sector, ac mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle y mae hynny'n ei gynnig.
Bydd hynny hefyd yn arwain ymlaen at y gwaith sy'n cael ei wneud gan fusnesau ac undebau llafur—felly, grŵp cyflogwyr y Cyngor Dur. Felly mae UK Steel, y grŵp o gyflogwyr, wedi cyflwyno cynigion i'w hystyried o ran symud tuag at ddatgarboneiddio'r sector, ac maen nhw bellach yn gweithio trwy hynny gydag undebau llafur. Felly, efallai y cawn ni gynnig mwy unedig gan y sector ei hun, o'r ddwy ochr, i ddeall sut y gellid cyflawni'r trawsnewid hwnnw, a sut i fuddsoddi mewn ffordd nad yw'n aberthu llawer o swyddi. Felly, rwy'n edrych ymlaen at gyfarfod y Cyngor Dur a fydd yn cael ei gynnal yn ystod yr haf, lle gallwn gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yno a'r gwaith y mae ein swyddogion yn ei wneud i geisio cefnogi hynny, ac rydych yn sôn am nifer o feysydd y byddaf i'n dod iddyn nhw pan all hynny fod o gymorth. Rwyf i, yn ogystal â chyfarfod â UK Steel yn gyffredinol yn y Cyngor Dur, eisoes wedi cwrdd â chynhyrchwyr Cymru hefyd, yn ogystal â'r undebau llafur.
Fe wnaethoch chi sôn am y pwynt pwysig am y cyflenwad trydan yr ymdriniais ag ef yn fy natganiad. Os gallwn ni sicrhau'r cyflenwad mwyaf posibl a'i wella, mae gennym ni gyfleoedd gwirioneddol arwyddocaol yng Nghymru gydag ynni adnewyddadwy, ond hefyd sgwrs heb ei gorffen am y rhan y gallai'r diwydiant niwclear ei chwarae yn y ffordd y gallwn ni gynhyrchu trydan ei hun. Yna mae gennym ni ddewisiadau buddsoddi sylweddol i'w gwneud, neu yn hytrach ar y cyd â phobl sy'n gyfrifol am fuddsoddi yn y grid, i sicrhau y gallwn ni ddarparu'r capasiti cynyddol hwnnw i'r lle y mae ei angen, i'r sector dur a sectorau eraill hefyd. Ac mae hynny wedi bod yn nodwedd o'r sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael gydag amrywiaeth o bobl, pa un a ydyn nhw'n ymwneud â'r diwydiant ynni adnewyddadwy, neu yn wir mewn cyflenwi batris hefyd. Felly, rydym ni eisoes yn gweithio gydag Ofgem a pherchnogion rhwydweithiau i gael dealltwriaeth gyffredin o sut bydd y grid yn edrych erbyn 2050, ac i sicrhau y gellir cysoni penderfyniadau cynllunio a gwario er mwyn sicrhau bod capasiti yno ac yn cael ei wireddu.
Ac wrth sôn am ymchwil dur, rydym ni eisoes yn cefnogi amrywiaeth o fentrau ymchwil yma yng Nghymru: yr ymchwil yr ydym ni wedi ei wneud i Brifysgol Abertawe, ond sydd hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o bobl eraill, felly mae'r Sefydliad Dur a Metelau yn Abertawe yn cael ei gydnabod ar draws y sector am y gwerth y mae'n ei ychwanegu, ond hefyd y gwaith y mae Abertawe'n ei wneud mewn cydweithrediad â phrifysgolion Sheffield a Warwick, ac mae hynny ar sail cyllid y DU—cymorth gan y cyngor ymchwil. Felly, mae gwaith eisoes yn edrych ar sut yr ydym yn gwneud hynny, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod hynny'n cael ei gefnogi gan ein prif weithgynhyrchwyr yma yng Nghymru, yn Tata, Celsa a mannau eraill.
Rydych chi'n gwneud pwynt pwysig ynglŷn â chaffael, gan ei fod yn un o'r materion a godir yn rheolaidd gan gynhyrchwyr dur. Rhan o'u pryder, er enghraifft, oedd mai dim ond tua 25 y cant o'r dur sy'n cael ei ddefnyddio mewn rheilffyrdd cyflymder uchel dwy linell oedd yn tarddu o'r DU ac wedi'i gynhyrchu yn y DU. Mae her o ran yr hyn y mae ein rheolau'n ei ddweud ynghylch pa un a yw'n tarddu o ffynonellau'r DU, lle gall ddod i mewn o ran arall o'r byd ond ei fod yn wedi ei ffynnonellu gan brynwr yn y DU, neu wedi ei gynhyrchu yn y DU, sydd, wrth gwrs, yn wahanol. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydym yn gweithio trwyddo wrth weithredu'r siarter dur, felly mae gwaith yn cael ei wneud ac mae cynnydd yn cael ei wneud. Mae mwy i ni ei wneud, ond yma yng Nghymru mae gennym ni gynllun 10 pwynt eisoes ar gyfer gwella caffael cyhoeddus, ac mae hwnnw'n sicr yn ystyried o ble y daw'r dur mewn prosiectau datblygu newydd, ac rwy'n falch o ddweud bod Trafnidiaeth Cymru, er enghraifft, wedi ymrwymo'n llawn. Felly, wrth iddyn nhw ehangu eu gweithrediadau a'r cyfleoedd i ehangu cledrau, fel y maen nhw'n ei ystyried yn rhan o'u strategaeth gaffael, rwy'n credu mai her allweddol i ddatblygu'r weledigaeth fydd sut y byddan nhw'n chwilio am ddur a gynhyrchir ym Mhrydain yn rhan o hyn, oherwydd gall caffael fod yn ysgogydd mawr iawn i sector gwirioneddol gynaliadwy ac un sy'n ystyried sut y cynhyrchir dur yn y lle cyntaf, sut y mae'n cyrraedd y pwynt mynediad yn y DU, neu, mewn gwirionedd, os caiff ei gynhyrchu yn y DU, sut y caiff ei gynhyrchu hefyd. Fel arall, gallem ni yn y pen draw alw pethau yn ddur gwyrdd heb ystyried y carbon ychwanegol o ran ei fewnforio o bosibl o rannau eraill o'r byd.
Mae dealltwriaeth dda o'ch pwynt ynglŷn â phrentisiaethau. Mae her onest yn y fan yma, a byddaf i'n ceisio mynegi hyn mor dyner, ond mor onest, â phosibl. Mae'r ffordd yr ydym ni'n darparu prentisiaethau yng Nghymru yn dibynnu ar yr hyn a oedd yn gronfeydd strwythurol Ewropeaidd, ac mae cyfran sylweddol o'r cyllid ar gyfer hynny wedi dod trwy'r llwybr hwnnw. Felly, mae'r dewisiadau a wneir ynglŷn â sut y defnyddir y cronfeydd olynol hynny yn berthnasol iawn i gefnogi sgiliau ar draws yr economi gyfan, gan gynnwys darparu prentisiaethau, ac os bydd gennym ni ddull gweithredu yn y pen draw nad yw'n caniatáu prosiectau strategol rhanbarthol neu genedlaethol sylweddol, yna mae hynny'n risg wirioneddol gan gynnwys yn y maes hwn. Fodd bynnag, dylwn i ddweud bod y sicrwydd ynglŷn â'r llwybr i'r diwydiant dur yn rhan o gyflawni'r sicrwydd hwnnw, er mwyn sicrhau y gellir buddsoddi mewn prentisiaethau. Serch hynny, byddwn i'n dweud bod gan y cyflogwyr yma yng Nghymru, yn fy marn i, hanes da, ac yn y sgyrsiau yr wyf i wedi eu cael â nhw, maen nhw yn sicr wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn parhau i ailfuddsoddi yn eu gweithlu, i chwilio am weithwyr newydd i ddod i mewn i'r diwydiant, a hefyd i ddeall o ble maen nhw'n dod, i sicrhau ei fod yn ddiwydiant dur mwy amrywiol o ran ei gyfansoddiad a'i weithlu.