2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Gorffennaf 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth breifat o fewn y GIG? OQ56718
Cyfrifoldeb y byrddau iechyd yw sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau i ateb anghenion eu poblogaeth leol. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd ddefnyddio capasiti lleol y gwasanaeth iechyd yn y lle cyntaf, ac yna, unrhyw gapasiti sydd ar gael yn y gwasanaeth iechyd yn Lloegr, gan ddefnyddio capasiti yn y sector annibynnol dim ond pan nad oes unrhyw opsiwn arall.
Diolch ichi am hynny.
Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma am boen a dioddefaint aruthrol pobl sy'n aros am wasanaethau ar hyd a lled y wlad, yn dilyn y pandemig neu wrth i'r pandemig ddominyddu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Weinidog, a yw'n bryd inni ystyried atal y defnydd o adnoddau'r GIG ar gyfer gwaith preifat er mwyn sicrhau bod holl adnoddau'r gwasanaeth iechyd gwladol yn cael eu darparu ar gyfer y rhai mwyaf anghenus a'r rhai sy'n dioddef fwyaf o boen ac sydd angen gwasanaethau, ac nid i'r rheini sy'n gallu talu?
Mae'n ben-blwydd y gwasanaeth iechyd gwladol yr wythnos hon wrth gwrs, a phan oedd Nye Bevan yn creu'r gwasanaeth iechyd gwladol, roedd am greu gwasanaeth a oedd yn diwallu anghenion pobl mewn angen, ac nid y rhai sy'n gallu fforddio talu. Felly, yn yr argyfwng y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wynebu heddiw, onid yw'n bryd ein bod yn atal yr holl ddefnydd o'r sector preifat a gwaith preifat o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol i sicrhau bod anghenion pobl mewn angen yn cael eu diwallu?
Diolch yn fawr, Alun. Rwy'n ymwybodol iawn o'r ffaith bod yna gannoedd o filoedd o gleifion yn llythrennol, gyda llawer yn aros mewn poen difrifol am lawdriniaeth. Gallaf eich sicrhau, ar wahân i COVID a pharatoi'r GIG ar gyfer y gaeaf, mai mynd i'r afael â'r ôl-groniad hwn yw fy mhrif flaenoriaeth.
Nawr, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y mwyafrif helaeth o staff y GIG wedi mynd ymhell y tu hwnt i alwad dyletswydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Caiff meddygon ymgynghorol eu contractio i gynnal nifer penodol o sesiynau y maent yn eu darparu i'r GIG, ac mae'n rhaid iddynt wneud hynny cyn iddynt gynnig unrhyw waith ychwanegol y tu allan i'r GIG.
Canfu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fod lefel gweithgarwch y sector preifat yng nghyfleusterau'r GIG oddeutu 0.02 y cant o'r holl weithgarwch, felly mae'n lefel isel iawn beth bynnag. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn cydnabod bod arosiadau hir ar hyn o bryd yn golygu bod rhai cleifion yn gwneud y penderfyniadau anodd hynny i fynd yn breifat, ond gallaf eich sicrhau bod pob claf yn cael ei weld yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.
Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod y rhai sydd angen gofal brys yn cael eu gweld yn gyntaf. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn rhoi ein mesurau ar waith, fel y buom yn sôn yn gynharach, i baratoi'r GIG er mwyn ein rhoi mewn sefyllfa well ar gyfer y tymor canolig, nid yn unig i fynd i'r afael â'r argyfwng uniongyrchol sy'n ein hwynebu heddiw.
Weinidog, mae Clinig Pen-y-bont ar Ogwr yn glinig preifat sydd wedi'i leoli yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'n unigryw i Gymru, ac am y 24 mlynedd diwethaf mae wedi gweithio mewn partneriaeth â'r GIG, gyda mwy na 50 o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y clinig ac yn Ysbyty Tywysoges Cymru, tra bod elw'n cael ei roi yn ôl i'r GIG lleol.
Gwyddom i gyd fod y GIG yn sefydliad rhyfeddol, ond ni ddylem ei guddio rhag partneriaethau ystyrlon a buddiol sy'n cyflawni ar gyfer cleifion. A wnaiff y Gweinidog archwilio'r canlyniadau a gyflawnwyd gan y bartneriaeth hon fel y gall byrddau iechyd eraill ystyried manteision adeiladu capasiti yn y ffordd hon? Diolch.
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Altaf. Nid wyf yn gwybod digon am y bartneriaeth benodol hon i wneud sylwadau arni, ond byddaf yn sicrhau fy mod yn ymchwilio ymhellach. Gwn fod rhai o'r bobl roeddwn ar alwad â hwy ddydd Sadwrn yn ymwneud ag Ysbyty Tywysoges Cymru, felly byddaf yn edrych ymhellach i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei ddysgu o hynny. Diolch.