6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd

– Senedd Cymru am 4:48 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:48, 7 Gorffennaf 2021

[Anghlywadwy.]—rhwydwaith ffyrdd yw'r ddadl honno. Dwi'n galw ar Natasha Asghar i gyflwyno'r cynnig. Natasha Asghar.

Cynnig NDM7748 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at:

a) methiant llywodraethau olynol Cymru i fynd i'r afael â phroblemau gyda thagfeydd a llygredd aer ar y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru;

b) dosbarthiad annheg buddsoddiad cyfalaf yn y rhwydwaith ffyrdd ledled Cymru;

c) y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwael a thoriadau mewn gwasanaethau bysiau, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.

2. Yn nodi â phryder penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) adeiladu ffordd liniaru'r M4, uwchraddio'r A55 a'r A470, a deuoli'r A40 i Abergwaun;

b) cael gwared ar gynigion i alluogi cyflwyno prisio ffyrdd yng Nghymru;

c) gwella mynediad i seilwaith gwefru cerbydau trydan yn sylweddol;

d) gweithio gyda gweithredwyr bysiau a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn ymarferol i bobl ym mhob rhan o'r wlad.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 4:49, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Yn y ffilm Back to the Future, mae Doc Brown yn dweud wrth Marty McFly, 'Ffyrdd? Ni fyddwn angen ffyrdd lle rydym ni'n mynd.' Wrth wrando ar y geiriau hynny, gallai'n hawdd fod wedi bod yn siarad am Gymru heddiw. Mae'n ffaith drist eu bod yn adlewyrchu agwedd Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Fodd bynnag, mae angen ffyrdd ar Gymru o hyd i weithredu ar gyfer cymudo a chludo nwyddau. Yn y pen draw, mae economi Cymru yn dal i ddibynnu'n fawr ar ffyrdd.

Fel yr adroddodd y Ffederasiwn Busnesau Bach yn 2019, dywedodd 86 y cant o'r cwmnïau a holwyd fod buddsoddi mewn seilwaith ffyrdd yn eithaf pwysig neu'n bwysig iawn, a dyma oedd eu blaenoriaeth bwysicaf o ran trafnidiaeth. Fodd bynnag, mae Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi methu mynd i'r afael â phroblem tagfeydd cynyddol yng Nghymru, drwy gyfuniad o ddifaterwch ac anghymhwysedd. Rhwng 2000 a 2019, dim ond 2.8 y cant o gynnydd a welwyd yn y rhwydwaith ffyrdd, er bod cyfaint y traffig ar y ffyrdd wedi cynyddu 29.5 y cant dros yr un cyfnod. Nid oes modd gwadu bod rhai prosiectau seilwaith ffyrdd yn hwyr yn cael eu cwblhau neu wedi mynd dros y gyllideb. Mae eraill, fel ffordd liniaru'r M4, wedi cael eu haddo ac yna eu canslo. Mae eu methiant i fynd i'r afael â thagfeydd cynyddol, yn ogystal â thrafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd gwael, yn effeithio'n fawr ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl Cymru.

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 4:50, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae gan Gymru beth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Rwyf wedi sôn droeon ers i mi fod yma fod gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau PM10 uwch na naill ai Birmingham neu Fanceinion, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Mae tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn ffactor pwysig yn hyn o beth. Nid yn unig fod traffig sy'n stopio ac ailgychwyn yn gollwng mwy o nwyon tŷ gwydr na thraffig sy'n llifo'n rhydd, mae hefyd yn achosi i fwy o lygredd gronynnol gael ei ollwng. Bydd llif cyson o draffig yn lleihau faint o ronynnau a ryddheir gan draul brêcs a theiars, yn ogystal â chyfyngu ar y carbon deuocsid y mae ceir sy'n cyflymu yn ei gynhyrchu. 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng newid hinsawdd yn 2019. Fodd bynnag, nid ydynt yn darparu'r seilwaith i sicrhau bod cerbydau trydan yn ddewis amgen dilys yn lle rhai sy'n defnyddio tanwydd ffosil. Mae Cymru ar ei hôl hi i raddau helaeth o gymharu â llawer o'r Deyrnas Unedig mewn perthynas â phwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan. Er bod gan yr Alban 7.5 o bwyntiau gwefru cyflym i bob 100,000 o bobl, dim ond 1.8 i bob 100,000 o bobl sydd gan Gymru. Mae eu methiant i fynd i'r afael â newid hinsawdd wedi arwain at adweithiau difeddwl fel rhewi prosiectau adeiladu ffyrdd yn hytrach na gwella trafnidiaeth gyhoeddus a lleddfu tagfeydd ar ffyrdd Cymru.

Dywedodd yr AS Llafur Mark Tami fod penderfyniad sy'n atal cynlluniau ar gyfer cynllun ffordd newydd yn sir y Fflint yn siomedig iawn. Mae gorfodi pobl allan o geir heb ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol fel dewis arall yn anymarferol. Mae nifer y teithiau bws lleol yng Nghymru wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Gan nad oes gan 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau gar at eu defnydd, mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru wrthdroi'r duedd hon er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd ac annog cymudwyr i beidio â defnyddio eu ceir yn y pen draw. Ond rhaid gwneud hyn yn iawn ac nid drwy fyw mewn byd delfrydol, gydag arian yn cael ei daflu at rywbeth heb fawr ddim canlyniad, os o gwbl.

Fel y dywedais yn y ddadl ar wasanaethau bysiau bythefnos yn ôl, nid yw'r grant cynnal gwasanaethau bysiau wedi cynyddu yng Nghymru ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl. Mae'r cyllid fesul teithiwr ar gyfer gwasanaethau bysiau yn annigonol ac yn cymharu'n wael â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr rheilffyrdd. Mae'n bosibl bod Greta Thunberg wedi croesawu'r ffaith bod prosiectau adeiladu ffyrdd newydd wedi'u rhewi, ac rydym i gyd yn ei hedmygu am ei chredoau a'i hymroddiad cryf i ymgyrchu yn erbyn newid hinsawdd. Rwy'n cydnabod ei bod yn fodel rôl gwych i fenywod a phobl ifanc ac mae ganddi gredoau angerddol, ond rwy'n cynrychioli barn y rhai sy'n byw yng Nghymru, y rhai sy'n gorfod defnyddio ein ffyrdd is-safonol, a'r rheini na allant ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Rydym i gyd wedi gweld yr adroddiadau newyddion, ac rwyf wedi cael negeseuon dirifedi gan bobl ledled Cymru—y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin—yn mynegi eu dicter a'u siom ynghylch cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog. Mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu gwario £75 miliwn ar deithio llesol, bron i £29 miliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus a £9 miliwn ar seilwaith gwefru di-allyriadau. Mae hyn i'w ganmol, ond beth am y ffyrdd sydd gennym eisoes yma yn awr? Rhaid inni gael rhaglen o welliannau i'n rhwydwaith ffyrdd ac nid moratoriwm. Pan ddeuthum yn Aelod o'r Senedd hon chwiliais am ddogfen—unrhyw ddogfen—i roi rhyw syniad i mi o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth. Er syndod i mi, ar ôl chwilio ym mhob man a gofyn i nifer o bobl, deuthum o hyd i nifer o adroddiadau gan wahanol bobl a sefydliadau, ond dim byd penodol gan Lywodraeth Cymru am eu cynlluniau hirdymor. Nid oes dim yn ysgrifenedig am uwchraddio'r A55, un o'r ffyrdd pwysicaf yn y Deyrnas Unedig, sydd yno, yn y pen draw, i ddarparu cyswllt hanfodol i boblogaeth gogledd Cymru, a rhwng porthladd prysur Caergybi a ffyrdd prifwythiennol allweddol fel yr M6 a gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae angen inni ddeuoli'r A40 i Abergwaun, gan agor y rhanbarth i fuddsoddiad gan fusnesau a chaniatáu mwy o fynediad i dwristiaid. Mae'r A470 yn ddychrynllyd, gydag ond ychydig iawn o leoedd ar gyfer pasio cerbydau arafach. Pe bai hon yn cael ei gwella byddai'n agor canolbarth Cymru ac yn caniatáu ar gyfer cynnydd mewn buddsoddiad yn y rhanbarth, rhywbeth y byddai pawb yn ei groesawu. Pa ystyriaeth a roddwyd i leddfu'r pwysau ar yr M4 drwy adeiladu cyffordd traffordd ar yr M48 lle'r arferai bythau tollau Hafren fod? Yn y pen draw, byddai'r cysylltiad yn lleddfu'r pwysau ar gyffyrdd 23 a 24, gan ddarparu mynediad uniongyrchol i Gyffordd Twnnel Hafren. Pe gallai traffig sy'n mynd i Gaerdydd neu Gasnewydd adael y ffyrdd yng Nghyffordd Twnnel Hafren a bod cymudwyr yn defnyddio'r gwasanaeth trên uniongyrchol i mewn i'r dinasoedd, gallai hyn unwaith eto leihau tagfeydd ar yr M4 yn sylweddol.

Mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi newid ei feddwl ynglŷn â rhewi gwaith adeiladu ffyrdd drwy ganiatáu i brosiect ffordd osgoi Llandeilo barhau. Honnodd y Prif Weinidog, 'Pan fydd y Llywodraeth hon yn dod i gytundeb gyda phlaid arall, byddwn yn ei anrhydeddu'. Fodd bynnag, yng nghytundeb Llafur-Plaid Cymru ar y gyllideb, cytunwyd ar ffigur o £3 miliwn i gefnogi'r gwaith o lunio a datblygu trydedd bont dros y Fenai, ac eto rydym i gyd yma o hyd, ac nid yw'r drydedd bont wedi'i hadeiladu. Mae taer angen adeiladu ar Ynys Môn, fel sawl rhan o Gymru, er mwyn dechrau lleihau tagfeydd. Beth am brosiectau sy'n galw am gytundebau rhwng nifer o randdeiliaid, megis ffordd osgoi Cas-gwent? A yw'r Dirprwy Weinidog yn mynd i ganiatáu i drafodaethau o'r fath i archwilio dichonoldeb y prosiect fynd rhagddynt neu a fyddant hwythau'n ddarostyngedig i'r rhewi hefyd?

Lywydd, mae dros ddau ddegawd o Lywodraethau Llafur wedi methu mynd i'r afael â thagfeydd ar ein ffyrdd, ac mae safonau gwael trafnidiaeth gyhoeddus Cymru yma i bawb eu gweld. O'r hyn a gesglais, nid oes integreiddio na chynllun cadarn ar waith rhwng polisi a chyflawniad Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn amau eu bwriad am un eiliad, ond ni allaf weld y golau ym mhen draw'r twnnel, ac nid oes yr un o'r Gweinidogion wedi fy argyhoeddi fel arall. A dweud y gwir, rwy'n teimlo bod yn well gan Lywodraeth Cymru archwilio trethi ffordd a dirwyon er mwyn datgymell pobl weithgar rhag defnyddio cerbydau preifat. Felly, mae'n bryd cael cyfeiriad newydd, a dyna pam fy mod yn sefyll o'ch blaen chi heddiw i wneud y cynnig. Diolch. 

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 4:56, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Wrth gwrs, yn y rhan o Gymru rwy'n ei chynrychioli, rydym wedi bod yn cael dadl ynghylch y cydbwysedd rhwng ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol ers cryn dipyn o amser, mewn perthynas â'r tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd a llawer o ffyrdd eraill yn ogystal. Bellach mae gennym waith comisiwn Burns a'r uned gyflawni ar waith i ddatblygu'r gwelliannau angenrheidiol.

Os gallwn greu system a chynnig trafnidiaeth gyhoeddus well o lawer drwy waith comisiwn Burns, rwy'n credu'n bersonol y byddwn yn lliniaru'r problemau hyn gyda thagfeydd ar y ffyrdd o amgylch Casnewydd. Ni fydd yn hawdd, mae hynny'n sicr—nid yw byth yn hawdd newid ymddygiad a dulliau teithio—ond mae heriau newid hinsawdd a'r amgylchedd yn ei gwneud yn gwbl glir yn fy marn i nad oes dewis arall ond gwneud y newid hwnnw. Bydd gwaith comisiwn Burns yn bwysig i'n galluogi i wneud hynny yn y rhan hon o dde-ddwyrain Cymru.

Rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dileu'r llwybr gwarchodedig ar gyfer ffordd liniaru'r M4, oherwydd rwy'n gwybod bod hynny'n hanfodol i sicrhau'r warchodaeth sydd ei hangen ar wastadeddau Gwent ac ar gyfer datblygu cynaliadwy ar wastadeddau Gwent. Rwy'n falch iawn o gadeirio gweithgor sy'n edrych ar sut rydym yn bwrw ymlaen â datblygu cymunedol, diogelu'r amgylchedd a bioamrywiaeth ar y gwastadeddau hynod werthfawr hynny. Mae gwaith da iawn wedi'i wneud gan y bartneriaeth Gwastadeddau Byw, a bydd hynny'n creu gwaddol ar gyfer y dyfodol. Mae wedi adeiladu sylfaen dda o weithgarwch cymunedol ar y gwastadeddau, gan weithio gyda'r awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a busnesau. Bydd hynny'n ein rhoi mewn sefyllfa dda wrth inni ddatblygu'r gwaith a fydd yn creu gwaddol cynaliadwy a fydd mor bwysig ar gyfer y dyfodol.

Wrth gwrs, nid gwastadeddau Gwent yn unig sy'n hanfodol o ran yr hyn sydd angen inni ei weld er mwyn herio'r niwed a wnaed i'n hinsawdd a'n hamgylchedd. Mae llawer o broblemau lleol wedi dod i'r amlwg mewn perthynas â llygredd aer, ac mae hynny mor allweddol i iechyd y cyhoedd. Unwaith eto, mae angen inni weld newid dulliau teithio os ydym am sicrhau gwelliant gwirioneddol yn ansawdd ein haer ar gyfer iechyd a budd amgylcheddol o amgylch Casnewydd. Dyna pam rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'r cyllid sydd ganddi i deithio llesol, oherwydd mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r hafaliad cyffredinol mewn perthynas â gwella ansawdd aer a goresgyn heriau newid dulliau teithio.

Gwn fod sawl agwedd ar bolisi Llywodraeth Cymru yn gyrru i'r cyfeiriad iawn mewn perthynas â hyn. Un agwedd ar hynny yw'r terfyn cyflymder diofyn o 20 mya ar gyfer ein ffyrdd trefol mewnol, oherwydd, unwaith eto, bydd hynny'n ein galluogi i gael traffig oddi ar y ffordd, gwella diogelwch ar y ffyrdd, cael mwy o bobl i feicio a cherdded, ac yn wir, mwy o blant i chwarae y tu allan i'w cartrefi a mwy o bobl oedrannus i gerdded. Gan eu bod yn gallu gwneud hynny'n fwy diogel, mae'n creu mwy o ymgysylltiad cymunedol ac ysbryd cymunedol er budd pawb.

Rwyf o ddifrif eisiau gweld yr uned gyflawni, sydd bellach wedi'i sefydlu o dan gomisiwn Burns, yn bwrw ymlaen â'u hargymhellion gyda gweithredu cynnar da; gweld y buddsoddiad teithio llesol yn cael ei wireddu'n lleol; gweld y terfynau cyflymder 20 mya ar waith cyn gynted â phosibl. Ac os gallwn wneud hynny i gyd, wyddoch chi, a llawer mwy ar ben hynny yn wir, byddwn yn gwneud y math o gynnydd y mae angen inni ei weld yng Nghymru os ydym o ddifrif ynghylch ymateb i heriau newid hinsawdd: mynd i'r afael â llygredd aer; creu amgylchedd gwell; ymdrin â thagfeydd ar ein ffyrdd a galluogi pobl i gyrraedd lle mae angen iddynt fynd yn gyflymach, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon. Diolch yn fawr, Lywydd.

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 5:00, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o fod yn rhan o'r ddadl hon heddiw. Gwn ei bod yn ddadl nad yw llawer o bobl am inni ei chael o bosibl, yn sicr rhai o'r cyd-Aelodau gyferbyn yn y Siambr, ond mae'n un bwysig. Mae'n debyg y byddaf yn canolbwyntio mwy ar bwynt 2 o'r cynnig, sef penderfyniad Llywodraeth Cymru i oedi pob cynllun gwella ffyrdd newydd. Rwy'n credu bod ofn mawr fod 'oedi' yn air ffug; 'atal' ydyw mewn gwirionedd, a dyna'r pryder mawr: a fydd rhai o'r pethau hyn yn cael eu hailgychwyn pan gânt eu hasesu ymhellach?

Teimlaf fod y Llywodraeth o bosibl yn gwneud drwg iddi hi ei hun yma drwy dynnu buddsoddiad mewn seilwaith yn y dyfodol yn ôl, buddsoddiad y mae cymaint o'i angen i ategu eu dyheadau eu hunain mewn perthynas â newid hinsawdd. Fel y nododd Natasha, nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i ddileu'r seilwaith a fydd yn ein galluogi i newid i ffordd wahanol o deithio yn y dyfodol, gyda mwy o gerbydau trydan a cherbydau tanwydd amgen. Credaf inni glywed sôn hefyd am enghraifft o lle gellir cyfiawnhau buddsoddi mewn ffyrdd newydd—sef ffordd osgoi Cas-gwent. Bydd llawer o bobl yn gwybod mai elfen bryn Hardwick o'r A48, wrth iddi deithio i fyny drwy Gas-gwent, yw un o'r ffyrdd mwyaf llygredig yng Nghymru gyfan erbyn hyn mae'n debyg, ac mae llawer o gerbydau sy'n mynd ar y draffordd o Swydd Gaerloyw yn gyrru ar honno. Mae'n sefyllfa ofnadwy yno a rhaid mynd i'r afael â hi. Byddai buddsoddi mewn ffordd osgoi yn helpu'r agenda werdd mewn gwirionedd, a byddai'n troi Cas-gwent yn lle a allai ddod yn dref werdd. Felly, ni ddylem droi cefn ar brosiectau newydd fel hynny, ac rwy'n falch o'r gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi yn hynny o beth hyd yma. Peidiwch â gadael i beth o'r meddylfryd hwn atal cynnydd yn y meysydd allweddol hynny.

Yn wir, gallwn ddadlau'r un peth ynglŷn â'r M4. Gwn fod y ddadl honno'n un dreuliedig ym marn llawer o bobl, ond mae'n hollbwysig. Rwyf wedi bod yn teithio arni y rhan fwyaf o wythnosau bellach wrth i mi ddod yma, a hyd yn oed ar derfyn cyflymder o 50 mya, mae'n dal i fod yn eithaf prysur. Rwy'n gweld lefelau traffig yn dychwelyd i lefelau cyn COVID. Yn wir, rwyf hyd yn oed wedi bod yn y twnelau'n symud yn araf ac rwy'n anadlu'r mygdarth yn y twnelau hynny yn fy nghar fy hun. Dyn a ŵyr beth fyddai'n digwydd pe byddem ar stop yn y twnelau hynny. Wyddoch ch, unwaith eto, dyma lle gall seilwaith, buddsoddi mewn seilwaith, alluogi'r pethau hyn i ddigwydd. Mae pawb yn cytuno â'r angen am well gwasanaeth cyhoeddus neu fuddsoddiad mewn teithio llesol. Rwy'n defnyddio beic trydan; byddwn wrth fy modd yn gallu beicio i lawer o leoedd, ond y gwirionedd yw ein bod flynyddoedd i ffwrdd o allu cael dulliau teithio amgen yn lle priffyrdd. Ac yn wir, gallai'r pethau hyn gydfodoli, ond mae'n rhaid inni feddwl yn ofalus iawn sut rydym am symud ymlaen.

Felly, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i feddwl yn ddwys am y negeseuon hynny ynghylch y penderfyniad i oedi'r broses o wella ffyrdd. Mae'n iawn pwyso a mesur, ond peidiwch â rhoi'r gorau i ddarnau pwysig iawn o seilwaith sydd eu hangen i alluogi ein heconomi i anadlu ac i gynnal y boblogaeth sy'n tyfu a'r angen cynyddol am deithio ar draws y sir. Felly, Lywydd, yn sicr, byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw, a hoffwn annog eraill i wneud hynny hefyd. Diolch.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:05, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae cyffyrddiad o'r Jekyll a Hyde am y cynnig hwn, onid oes? Ar y naill law, cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau ynghylch llygredd aer, yr angen am fwy o fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gwella pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gweithio gyda gweithredwyr bysiau—maent i gyd yn faterion pwysig iawn. Yna, mae'n ymddangos bod ail a thrydedd ran y cynnig yn tandorri'r rhan gyntaf, wrth sôn am adeiladu ffordd liniaru'r M4, doed a ddelo. Hyd yn oed wrth i Gymru flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, cerbydau trydan, bydd angen ffyrdd arnom o hyd, Lywydd, ond pam nad yw'r cynnig yn sôn am lonydd blaenoriaeth? Pam nad yw'n sôn am gynlluniau i addasu ffyrdd ar gyfer bysiau a thramiau a cherbydau trydan ac ar gyfer priffyrdd trydan yn unig? Gallai'r ddadl hon fod wedi sbarduno trafodaeth am ddatganoli treth ffyrdd a tholl ar danwydd, am ddatganoli'r ardoll ar gerbydau nwyddau trwm fel y gallem greu ardoll eco newydd yn ei lle yn seiliedig ar ddefnydd o ffyrdd, opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus lleol ac allyriadau. A pham nad yw'r cynnig yn sôn am barthau allyriadau isel yn ein dinasoedd, gan integreiddio'r rhwydwaith teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, neu'n cynnig syniadau am lonydd beicio mewn ardaloedd cymudo? Gallai'r Ceidwadwyr fod wedi manteisio ar y cyfle hwn i argymell syniadau ar gyfer wynebu argyfyngau'r unfed ganrif ar hugain, yn lle ein llethu gan syniadau o'r ugeinfed ganrif.  

Ond mae rhan gyntaf y cynnig, Lywydd, yn codi pryderon hanfodol am lygredd aer—dyna'r hyn rwyf am ganolbwyntio arno. Pan fydd pobl yn siarad am ffyrdd, neu unrhyw brosiect seilwaith mawr, caiff ei wisgo fel arfer mewn iaith am bweru'r dyfodol, y daith i yfory, ond mae ein hobsesiwn cyfunol â choncrit yn golygu mai plant yw'r difrod cyfochrog. Dywedir bod tagfeydd traffig yn tagu prifwythiennau ein gwlad, ond mae hefyd yn tagu ysgyfaint ein plant. Mae'n ein caethiwo mewn dyfodol o fwrllwch a tharmac. Nid anghyfleustra yn unig ydyw, mae'n lladdwr araf. Mae Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn gweithio gyda llawer ohonom ar ymgyrch i gyflwyno Deddf aer glân yng Nghymru. Y rheswm pam ein bod am gael y Ddeddf honno yw bod plant sy'n tyfu i fyny ger y strydoedd mwyaf llygredig bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef am nad yw eu hysgyfaint yn datblygu fel y dylent. Rydym yn byw mewn adeg o bandemig, pan fo feirws anadlol bron â bod wedi dod â'r byd i stop, felly ni ddylem anwybyddu hynny. Gall cysylltiad tymor byr hyd yn oed waethygu cyflyrau fel asthma plentyndod a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae cysylltiad hirdymor â nitrogen deuocsid yn gysylltiedig ag afiachusrwydd anadlol cronig—afiachusrwydd cronig. Nid ydynt yn dermau y dylem fod yn eu lleisio'n ysgafn fel pe baent yn dderbyniol neu'n normal, dylent lenwi pob un ohonom â chywilydd. Credir bod asthma ar bron i 10 y cant o'r holl blant sy'n byw yng Nghymru, ac i bawb sy'n byw o fewn 50m i ffordd fawr, mae'r risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint yn cynyddu hyd at 10 y cant.

Mae'n gwaethygu, Lywydd. Mae llygredd aer yr un mor ddrwg i fenywod beichiog ag ysmygu. Mae'n cynyddu'r risg o esgor cynamserol a marw-enedigaeth. Os caiff babi ei eni'n gynamserol, gall olygu pwysau geni isel, ysgyfaint nad ydynt wedi datblygu'n ddigonol a gall arwain at farwolaeth babanod yn fuan ar ôl eu geni. Ac mae astudiaethau'n gweld cysylltiad rhwng mygdarth ceir a chamesgoriad. Mae un astudiaeth yn awgrymu y gall mygdarthau o'r fath gynyddu'r perygl o golli beichiogrwydd 16 y cant. Gadewch i ni beidio â diystyru hynny am fy mod wedi dechrau dyfynnu ffigurau. Mae'r rheini'n fywydau nad ydynt yn dechrau. Drwy fethu gweithredu ar lygredd aer, rydym yn gamblo gyda chyfleoedd bywyd cenedlaethau nad ydynt wedi'u geni eto. Rydym yn condemnio plant i dyfu i fyny gydag ysgyfaint diffygiol heb ddatblygu'n llawn. Dylai'r cynnig hwn fod wedi dod i ben gyda'r cymal cyntaf. Dyna'r sgandal. Mae arnom angen Deddf aer glân i Gymru, nid yn y datganiad deddfwriaethol nesaf, nid ymhen ychydig fisoedd, mae arnom ei hangen yn awr, ac mae arnom ei hangen yn ddybryd. 

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

A allwch chi fy nghlywed yn awr?

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Gallwn. Parhewch.

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel Aelod o'r Senedd hon sy'n cynrychioli etholaeth yng ngogledd Cymru, gwn yn rhy dda am fethiannau ein rhwydwaith trafnidiaeth. Rwy'n defnyddio'r term hwnnw'n llac iawn, oherwydd mae'n fwy o gasgliad o lwybrau na rhwydwaith. Gall fy etholwyr deithio i Fanceinion neu Lundain yn haws ac yn gyflymach nag y gallant gyrraedd eu prifddinas eu hunain i lawr yma yng Nghaerdydd. Deillia hyn o ddiffyg cysylltiadau ffyrdd gweddus, a diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy yn ogystal. Disgrifiodd busnesau yn ne Cymru yr M4 o amgylch Casnewydd fel troed ar gorn gwddf economi Cymru. I ni, i fyny yma yng ngogledd Cymru, mae'r A55 yn cael yr un effaith. Ers bron i chwarter canrif, mae Llywodraethau Cymru wedi methu mynd i'r afael â'r problemau, sydd wedi arwain at fwy o dagfeydd traffig. Rydych wedi methu sicrhau y gall pobl deithio o gwmpas Cymru ar gyfer gwaith neu at ddibenion hamdden, ac wedi methu mynd i'r afael â'r diffyg dewisiadau dibynadwy eraill yn lle'r cerbyd preifat. Heb welliannau i'r A55 i hybu capasiti a chynyddu cysylltiadau ar draws y llwybr hwn, bydd fy etholaeth i a gogledd Cymru i gyd yn parhau i gael eu dal yn ôl yn economaidd.

Ac mae'n ofid i mi fod y Llywodraeth hon wedi cefnu ar ffyrdd. Nid awn i'r afael â materion yn ymwneud â'r hinsawdd nac ansawdd aer drwy gael gwared ar welliannau i'r seilwaith. Rwy'n cefnogi safbwynt y seneddwyr Llafur Mark Tami a Jack Sargeant, sydd wedi condemnio'r oedi i'r llwybr coch. Mae'r penderfyniad hwnnw nid yn unig yn effeithio ar Alun a Glannau Dyfrdwy, mae'n effeithio ar bob etholaeth ar hyd coridor yr A55, ac mae'n ychwanegu at y tagfeydd. Mae hynny, yn ei dro, yn ychwanegu at gynnydd mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn effeithio'n ddifrifol ar ansawdd aer. Mae traffig sy'n stopio ac ailgychwyn yn gollwng mwy o ddeunydd gronynnol. Hyd nes y bydd gan fy etholwyr ddewis amgen glân a dibynadwy yn lle'r car, byddant yn parhau i ddibynnu ar gerbydau personol i fynd o A i B, ac oni bai eich bod yn bwriadu chwalu pob ffordd, bydd hynny'n golygu bod mwy a mwy ohonynt yn eistedd mewn traffig sy'n stopio ac ailgychwyn. Oni allwn sicrhau y gall ein seilwaith ffyrdd fodloni'r gofynion, bydd ein hansawdd aer a'n hallyriadau yn parhau i ddirywio. Y dewis arall yw trafnidiaeth gyhoeddus orlawn ac annibynadwy. Ni allwch orfodi newid i ddulliau teithio os na cheir trafnidiaeth amgen.

Yr hyn y mae angen inni ei dderbyn yw'r ffaith nad yw'r car yn mynd i ddiflannu, felly rhaid inni wneud y car yn wyrddach. Mae'n anffodus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi methu paratoi i newid i gerbydau di-allyriadau. Mae gennym lai o bwyntiau gwefru trydan ledled Cymru na chynghorau Wandsworth a San Steffan gyda'i gilydd. Dim ond 60 o'n pwyntiau gwefru sy'n bwyntiau gwefru cyflym. Mae gennym record waeth fyth gyda bysiau hydrogen neu drenau trydan. Rydym am i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus wrth gwrs, ac eto yn fy rhan i o'r wlad, mae'r drafnidiaeth honno'n dal i ddefnyddio'r tanwydd ffosil mwyaf brwnt, sef diesel. Mae'n bryd rhoi'r gorau i feio'r modurwyr am fethiannau Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Jane Dodds Jane Dodds Liberal Democrat 5:12, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

'Mae ein tŷ ar dân.' Dyna a ddywedodd Greta Thunberg. Mae gennym argyfwng hinsawdd, a phan fydd gennym argyfwng, yn union fel y gwelsom gyda COVID, mae pethau y gallwn barhau â hwy, ac mae rhai pethau y mae'n rhaid inni roi'r gorau iddynt. Ac mae hwn yn gynnig sgitsoffrenig braidd, os nad oes ots gennych imi ddweud. Er fy mod yn cytuno â rhai pethau ynddo—ynglŷn â mwy o bwyntiau gwefru trydanol, ac rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar ein seilwaith bysiau. Ni allwn glywed gan y Ceidwadwyr eich bod yn cefnogi bioamrywiaeth un wythnos ac eisiau mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac yna, ar y llaw arall, eich bod am adeiladu mwy o ffyrdd. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Rhaid inni roi'r gorau i rywbeth, a lle mae angen inni fynd yw meddwl ein bod yn dod allan o'n cerbydau ac yn buddsoddi mewn gwell trafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyflymder bysiau'n gostwng yn gyflymach nag unrhyw fath arall o drafnidiaeth. Mae ffigurau Stagecoach yn dangos gostyngiad o 13 y cant yng nghyflymder bysiau rhwng 1995 a 2015, gan ei gwneud yn ofynnol i gael chwe bws ychwanegol i bob gwasanaeth.

Mae cerbydau trydan yn wych, ac rydym am gael hynny, ond maent yn mynd i ddod yn lle cerbydau tanwydd, nid yn ychwanegol atynt, ac felly, nid oes arnom angen ffyrdd newydd. Yn bendant, rhaid inni fuddsoddi mewn cerbydau trydan.

Dyma a ddywedodd Andrew R.T. Davies y llynedd yn eich cynhadledd Geidwadol:

'Credaf yn angerddol fod egwyddorion amgylcheddol yn egwyddorion cynhenid Geidwadol, ac fel rhywun sy'n dadlau dros gyfrifoldeb personol, maent yn mynd at wraidd yr hyn rydym yn credu ynddo.'

Rwy'n erfyn arnoch, os ydych chi'n credu go iawn mewn newid hinsawdd, os ydych yn credu mewn bioamrywiaeth, nid yw adeiladu ffyrdd newydd yn cydweddu â hynny. Felly, dim mwy o ffyrdd newydd yng Nghymru, ac nid wyf am adeiladu ffyrdd newydd, rwyf am adeiladu pontydd. Rwyf am adeiladu pontydd ar draws y Siambr hon fel y gallwn i gyd weithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng hinsawdd. Diolch yn fawr iawn. 

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 5:15, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Wel, heddiw mae fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig a minnau'n galw am lawer o bethau—maent yn ddewisiadau synhwyrol iawn—ond o'm safbwynt i, am uwchraddio'r A55 ar frys. Mae hwn yn llwybr prifwythiennol allweddol sydd nid yn unig yn cefnogi'r chweched porthladd gyrru i mewn ac allan mwyaf yn y DU yng Nghaergybi ond sydd hefyd yn dod â nwyddau a masnach i fy etholaeth hardd yn Aberconwy.

Yn anffodus, nid yw cyflwr ffyrdd gwael a thanfuddsoddi yng ngogledd Cymru yn ddim byd newydd. Drwy gydol y pumed Senedd, ymgyrchais yn ddi-baid i weld fy llwybrau gwledig lleol yn gwella a therfynau cyflymder yn gostwng o 60 mya i ddiogelu ein cymunedau gwledig. Byddai hyn yn cael effaith fuddiol o wneud ffyrdd yn fwy diogel, yn gwella cyflwr ffyrdd ac yn annog teithio llesol. A diolch i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am wrando ar alwadau, ac erbyn hyn mae gennym ardaloedd lle mae rhai mesurau wedi'u rhoi ar waith. Mae mwy i'w wneud, fodd bynnag. 

Ond er i'r Prif Weinidog ddweud wrthyf y byddai'r canllawiau 'Gosod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru' yn cael eu hadolygu o haf 2020 ymlaen, nid yw hyn wedi digwydd eto. Felly, rwy'n glir fod yn rhaid newid o'r strategaeth adweithiol bresennol tuag at orfodi polisi rhagweithiol o hyd. Ni allwn aros mwyach i ddamweiniau ddigwydd cyn i'r newidiadau angenrheidiol i derfynau cyflymder gael eu gwneud. Felly, byddwn yn croesawu ymrwymiad gan y Dirprwy Weinidog heddiw y bydd adolygiad o'r fath o'r terfynau cyflymder yn cael ei gynnal. 

Nawr, er ei fod yn destun pryder mawr fod y weinyddiaeth Lafur hon yng Nghymru wedi penderfynu oedi pob prosiect adeiladu ffyrdd newydd, efallai y bydd hyn yn rhoi cyfle i swyddogion y Llywodraeth adolygu'r camau cynllunio ar gyfer pob gwaith ffordd. Ar hyn o bryd, mae gwaith ar yr A5 ger Capel Curig a'r A470 drwy ddyffryn Conwy yn achosi aflonyddwch mawr a sylweddol wrth inni nesáu at dymor twristiaeth yr haf. Ar ôl 15 mis o her ddifrifol i'w busnesau, dyma'r peth olaf sydd ei angen arnynt. 

Nawr, mae ein dadl yn tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod gan Gymru beth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU, gydag ymchwil ddiweddar yn canfod bod gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau PM10 sy'n uwch na Birmingham neu Fanceinion. Yn ogystal â thanlinellu'r angen am Ddeddf aer glân, mae'r ffaith hon hefyd yn dynodi angen i gefnogi dulliau glanach o deithio. Fodd bynnag, rydym yn dal i fod ar ei hôl hi o gymharu â llawer o'r DU gyda phwyntiau gwefru cyflym, gyda dim ond 60 o'r 990 o bwyntiau gwefru yng Nghymru yn bwyntiau gwefru cyflym. A chyda mwy na 500,000 o geir trydan bellach yn teithio ar ein ffyrdd, mae angen cywiro hynny ar frys. 

Er fy mod yn croesawu'r cyhoeddiad ariannu diweddar gan Ofgem, a fydd yn helpu gorsaf reilffordd Llandudno i gyflawni ei hymrwymiadau i gerbydau trydan drwy gynnwys newidydd 1,000 kVA i ddarparu 600 kW o orsafoedd gwefru, mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi newid hirdymor. Felly, galwaf ar y Gweinidog i amlinellu sut y bydd yn gweithio gyda'n cymdeithasau tai a'n hawdurdodau lleol i gynyddu'r ddarpariaeth wefru cerbydau trydan ar y stryd i aelwydydd heb dramwyfa.

Yn yr un modd, o dan Lafur Cymru, mae nifer y teithiau bws lleol yng Nghymru wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Felly, un ffordd o ymateb i'r duedd hon yw hyrwyddo rhinweddau gwyrdd y diwydiant. Yn ddiweddar, mae Llew Jones International o Lanrwst wedi prynu dau gerbyd hybrid, a fydd yn lleihau eu defnydd o ddiesel tua 65 y cant. Byddant hefyd yn gweithredu llwybr cyntaf TrawsCymru yng Nghonwy, a fydd â dau gerbyd cwbl drydanol yn gweithio ar amserlen gynyddol rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog erbyn diwedd mis Medi. Ond mae angen cymorth ar ein gweithredwyr bysiau hefyd i helpu i wneud y newidiadau hyn, megis drwy gronfa arbenigol i helpu i wneud y gwelliannau angenrheidiol i'w cerbydau gwyrdd newydd, megis cynwysyddion a gwefrwyr. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog gyflwyno'r achos dros hynny yng nghyfarfod nesaf y Cabinet. 

Mae'r chweched Senedd yn adeg i ailgychwyn y sgwrs hon, i roi cerbyd y Llywodraeth yn y gêr ôl a dadwneud y blynyddoedd o ddiffyg gweithredu ar dagfeydd traffig, terfynau cyflymder a newid hinsawdd. Am y rheswm hwn, galwaf ar bawb yn y Siambr heddiw, ac ar Zoom, i gefnogi cynnig ein dadl. Diolch, Lywydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:19, 7 Gorffennaf 2021

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyfrannu—Lee Waters.

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Roeddwn yn arbennig o falch o glywed Janet Finch-Saunders ar y diwedd yno'n dweud ei bod yn bryd inni ailgychwyn y drafodaeth yn y chweched Senedd, ac fe'm calonogwyd yn fawr bythefnos yn ôl pan glywais Janet Finch-Saunders yn dweud bod cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 5:20, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

'yn rhybudd pwysig i Gymru', ac fe'm calonogwyd hefyd pan glywais hi'n dweud wythnos yn ôl

'Yn awr rhaid troi'r rhethreg yn gamau beiddgar a phendant' pan alwodd arnom i ddatgan argyfwng natur.

Rwyf wedi bod yn darllen am rywbeth o'r enw anghyseinedd gwybyddol, sy'n gysyniad seicolegol lle nad yw dwy weithred neu ddau syniad yn gyson yn seicolegol â'i gilydd, a dyna rwyf wedi'i glywed yn y Siambr y prynhawn yma gan y Ceidwadwyr. Rydym wedi cael pythefnos o wynt poeth yn datgan eu rhinweddau gwyrdd wrth alw am weithredu beiddgar ar newid hinsawdd a mynd i'r afael â'r argyfwng bioamrywiaeth a natur, ac araith ar ôl araith gyda'r un hen rwtsh o'r un hen bolisïau sydd wedi ein harwain at y sefyllfa rydym ynddi heddiw. [Torri ar draws.] Mae yna wrth-ddweud rhwng galw am gamau gweithredu gwahanol i gyflawni canlyniadau gwahanol a galw arnom wedyn i barhau i fuddsoddi arian mewn prosiectau sy'n cynnwys carbon, a thrwy gynyddu traffig, yn cynhyrchu carbon nid yn unig i ni, ond i genedlaethau'r dyfodol y maent yn dweud eu bod yn sefyll drostynt.

Nawr, yn amlwg, wrth edrych ar eu hwynebau, nid ydynt yn deall yr hyn rwy'n ei ddweud, ac mae hyn yn—[Torri ar draws.] Os ydym o ddifrif ynglŷn ag ailgychwyn y sgwrs yn y Senedd hon, rhywbeth sy'n rhaid inni ei wneud os ydym am gyrraedd targedau'r Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd i ddyblu'r gostyngiadau mewn allyriadau a gyflawnwyd gennym dros y 30 mlynedd diwethaf dros y 10 mlynedd nesaf, rhaid inni wneud hynny ar draws y Siambr hon. Nid oes unrhyw ddiben gwneud areithiau er mwyn ennill penawdau hawdd, ond o ran y cam cyntaf sy'n rhaid inni ei gymryd i roi'r rhethreg honno ar waith, trown yn hytrach at y cyfraniadau slic hyn am wneud yr un peth, a lladd arnom am wneud cam â modurwyr a siomi pobl. Nonsens yw hyn, ac mae arnaf ofn fod angen i'r Ceidwadwyr wynebu hyn, fel pob plaid yn y Siambr hon. Mae gwrth-ddweud ar bob ochr yma. Yr ymateb cyffredinol i fy nghyhoeddiad ynglŷn ag oedi cynlluniau adeiladu ffyrdd oedd: 'Rydym yn cytuno â'r egwyddor, ac eithrio'r cynllun ffyrdd yn ein hetholaeth ni.' A gallaf ddeall hynny fel Aelod etholaeth fy hun, ac mae cynlluniau ffyrdd yn fy etholaeth sydd wedi ennyn cefnogaeth gref, ac mae dweud wrth bobl, 'Mae angen inni oedi ac ystyried' yn neges wleidyddol anodd i'w rhoi i bobl.

Nawr, rwy'n deall y pryderon sy'n bodoli, ac rwyf am gofnodi nad yw'r adolygiad ffyrdd a gyhoeddwyd gennym yn golygu ein bod yn rhoi diwedd ar fuddsoddi mewn ffyrdd yng Nghymru. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gallwn newid o wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru a gwario mwy o arian ar gynnal a chadw ein ffyrdd a buddsoddi mewn dewisiadau amgen go iawn sy'n rhoi dewis ystyrlon i bobl. A dyna'r gair pwysig: dewis. Nid yw hyn yn ymwneud â mynnu unrhyw beth neu orfodi pobl i wneud unrhyw beth; mae'n ymwneud â rhoi dewis amgen realistig i bobl, rhywbeth na allwn ei wneud os ydym yn parhau i arllwys buddsoddiad i mewn i gynlluniau sy'n cynhyrchu allyriadau carbon ychwanegol. A byddaf yn cyhoeddi aelodau'r panel a'r cylch gorchwyl cyn bo hir, lle bydd rhagor o fanylion ar gael. Am y tro, gallaf ychwanegu, ar gynlluniau unigol, y bydd y panel adolygu yn datblygu ei feini prawf adolygu ei hun ac yn cyflwyno adroddiad cychwynnol i Weinidogion o fewn tri mis i'w benodi ar y prosiectau buddsoddi mewn ffyrdd o fewn cwmpas yr adolygiad.

Rydym yn gwneud cyfres o bethau eisoes. Roedd cyhoeddi ein strategaeth drafnidiaeth i Gymru yn gynharach eleni yn nodi bod nod clir gennym bellach i gynyddu dulliau teithio drwy drafnidiaeth gynaliadwy o draean i 45 y cant o deithiau erbyn 2040. Ac mae'n rhaid i'r buddsoddiad ddilyn hynny, ac mae'n dilyn yn rhesymegol, os ydym am wario mwy o arian ar gynnal ffyrdd, gwario mwy o arian ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwario mwy o arian ar deithio llesol, fod hynny'n golygu bod yn rhaid inni wario llai o arian ar gynlluniau sy'n cynhyrchu allyriadau carbon ychwanegol.

Dywedodd nifer o siaradwyr Ceidwadol—a dywedodd Gareth Davies hyn, rwy'n credu—ein bod yn cael gwared ar fuddsoddiadau seilwaith. Nid ydym yn gwneud y fath beth. Rydym yn buddsoddi mewn seilwaith sy'n annog pobl i leihau eu hallyriadau carbon. Felly, nid yw hyn yn cael gwared ar unrhyw fuddsoddiadau seilwaith. Rydym yn newid y pwyslais, ond rydym yn ei wneud ar sail tystiolaeth, a dyna beth sydd angen i'r adolygiad ei wneud a dyna pam y mae angen iddo gymryd ei amser i'w wneud. Mae angen iddo edrych ar faint o hyblygrwydd sydd gennym mewn perthynas â charbon o fewn y targedau newid hinsawdd roeddem i gyd yn eu cefnogi bythefnos yn ôl. Nawr, mae cefnogi'r egwyddor yn cynnwys cefnogi'r arfer, felly mae arnom angen dadansoddiad o faint o hyblygrwydd sydd gennym mewn perthynas â charbon ar gyfer trafnidiaeth, gydag 17 y cant o'r elfennau sy'n cyfrannu at allyriadau carbon i chwarae â hwy, a pha rôl sydd i ffyrdd o fewn yr hyblygrwydd hwnnw mewn perthynas â charbon. Ac mae'n ddigon posibl o ganlyniad i hynny y bydd dadleuon dros ffyrdd er mwyn mynd i'r afael ag ansawdd aer, er enghraifft—mai ffordd yw'r ateb cywir. Nid ydym yn dechrau o'r safbwynt nad dyna'r ateb cywir. Ac os felly, gallwn fwrw ymlaen â chynlluniau ffyrdd sydd â manteision eraill, ond ni allwn fwrw ymlaen â phob cynllun ffordd a chyrraedd ein targed allyriadau carbon. Mae hynny'n amlwg, ac mae'n galw am newid ffordd o feddwl.

Nawr, y peth arall sy'n werth ei grybwyll yw'r buddsoddiad rydym yn ei wneud mewn trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym wedi cyhoeddi grant o £17 miliwn i gyngor Blaenau Gwent ar gyfer rhoi pedwar trên yr awr ar reilffordd Glynebwy, fel rhan o weithredu argymhellion Burns. Bwriad y 58 argymhelliad oedd dangos sut y gallai system drafnidiaeth gyhoeddus fodern leihau tagfeydd yng Nghasnewydd, mynd i'r afael â'r problemau y bwriadwyd i gynllun yr M4 eu datrys am hanner y pris, mewn ffordd sy'n lleihau allyriadau ac yn helpu cyfiawnder cymdeithasol—nad yw gwario £2 biliwn ar gynllun ffordd yn ei wneud, pan ystyriwch nad yw chwarter y bobl yn meddu ar gar.

Rydym hefyd yn ymestyn gwasanaeth bws Fflecsi ar alw Casnewydd ar draws y ddinas gyfan fel model ar gyfer datblygu hynny ledled Cymru, ac mae gennym gyfres o gynigion ar gyfer y Gymru wledig, lle mae'r problemau hyn yn wahanol ac yn galw am ddull gwahanol o weithredu, ond gwyddom o sawl enghraifft ryngwladol ei bod yn gwbl bosibl caniatáu i newid ddigwydd o ran dulliau teithio mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n credu bod gan glybiau ceir a chlybiau ceir trydan ran bwysig iawn i'w chwarae yn hynny. Nid oes angen inni fod yn berchen ar geir lluosog ym mhob cartref os oes dewis hyblyg arall ar gael i gymunedau ei ddefnyddio, ac eleni rydym yn gwario £8 miliwn drwy'r gronfa trawsnewid cerbydau allyriadau isel iawn gwerth £38 miliwn i gynghorau gyflwyno pwyntiau gwefru ychwanegol i gerbydau trydan yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Felly, rydym eisoes wedi ymrwymo i wneud llawer, ond mae angen inni wneud llawer mwy i gyrraedd y targedau rydym i gyd wedi ymrwymo i'w cyrraedd, ac mae gan yr adolygiad ffyrdd ran bwysig i'w chwarae yn hynny. Ond mae angen i'r Aelodau ar draws y Siambr ddygymod â'r ffaith nad oes diben ymrwymo i dargedau oni bai eich bod yn barod i ddilyn y camau sydd eu hangen i weithredu'r targedau hynny. Diolch.

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Wrth grynhoi'r ddadl hon, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'm holl gyd-Aelodau am y cyfraniadau pwysig a diddorol y maent wedi'u gwneud, a chanmol fy nghyd-Aelod o dde-ddwyrain Cymru am arwain y ddadl hon. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb.

Seilwaith trafnidiaeth effeithiol, cydgysylltiedig ac integredig yw'r hyn y mae pobl Cymru nid yn unig yn ei haeddu, ond dyna hefyd sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu potensial. Y feirniadaeth a gaiff ei chyfeirio'n aml at Lywodraeth Cymru yw bod gormod o sylw i'r Gymru drefol, gan adael y Gymru wledig ar ôl, ac rwy'n teimlo bod hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â thrafnidiaeth. Rydym wedi gweld heddiw fod diffyg seilwaith trafnidiaeth yn fater sy'n ein plagio yma yng ngogledd Cymru, yn ne Cymru, yng nghanolbarth Cymru, a minnau yng ngorllewin Cymru hefyd.

Fel y soniwyd, bythefnos yn ôl gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad i'r Senedd yn oedi nifer o brosiectau ffyrdd, gan siomi llawer o gymunedau ledled Cymru. Rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelod Peter Fox—pan glywaf 'oedi', credaf mai'r hyn a olygir yw 'wedi'i ganslo', ac os bydd y prosiectau hyn yn cael y golau gwyrdd ac yn mynd yn eu blaenau, byddant yn anochel wedi eu gohirio.

Fodd bynnag, roeddwn yn falch o gael sicrwydd ynglŷn â'r gwaith hirddisgwyliedig i uwchraddio'r A40 yn Llanddewi Felffre, ac y bydd hwnnw'n digwydd. Mae hwn yn gynllun sydd wedi'i drafod ers nifer o flynyddoedd, ac mae wedi wynebu oedi diddiwedd. Edrychaf ymlaen at gael gwybod pryd y bydd y peiriant cloddio wedi torri tir ar y prosiect hwn a phryd y caiff ei gwblhau'n llawn. Yn amlwg, byddai'n well gennyf fi a'r gymuned fusnes weld yr A40 yn cael ei deuoli yr holl ffordd i borthladd Abergwaun, rhywbeth y gwn fod fy nghyd-Aelod Paul Davies yn Preseli Sir Benfro wedi galw amdano ac wedi dadlau drosto ers tro byd. Ond bydd y gwaith uwchraddio cyfredol ar yr A40 yn gwella rhai o'r mannau cyfyng ar y llwybr hwn a achoswyd gan gerbydau nwyddau trwm trawsgyfandirol, carafanau, cerbydau amaethyddol a thraffig arall sy'n symud yn araf wrth deithio ar un gerbytffordd.

Mae angen imi fynegi rhai pryderon ynghylch y llythyr a anfonwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol at y Dirprwy Weinidog ac y derbyniodd yr holl Aelodau gopi ohono, llythyr a oedd nid yn unig yn croesawu oedi'r prosiectau uchod, ond hefyd yn galw am roi ystyriaeth bellach i ailystyried prosiectau a gafodd sêl bendith. Ddirprwy Weinidog, mae digon o ansicrwydd eisoes—peidiwch â chaniatáu i fwy gael ei greu.

Nid yw'r car yn mynd i unman, ond yr hyn sy'n newid yw'r ffordd y caiff ei bweru, ac mae hwn yn bwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod Delyth Jewell a Gareth Davies ill dau yn eu cyfraniadau. Rydym ar daith, fel y mae'r Deyrnas Unedig gyfan, i ddileu ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ond mae angen inni sicrhau bod pob cwr o Gymru yn cael eu cefnogi ar y daith hon. Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r un ffocws ar sicrhau bod gan ardaloedd gwledig yr un mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydanol ag a geir yn y prif ardaloedd trefol. Ac ynglŷn â'r Ddeddf aer glân y soniodd Delyth Jewell a'r Dirprwy Weinidog amdani, ceir cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr, a Dirprwy Weinidog, fe fyddwch yn gwthio wrth ddrws agored os yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r Bil aer glân hwnnw.

Hoffwn sôn i orffen hefyd pa mor bwysig yw hi i drafnidiaeth gyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned wledig. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i dynnu ceir oddi ar y ffordd, ac mae llawer o bobl mewn ardaloedd fel yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli heb fod mewn sefyllfa i fod yn berchen ar gar. Mae hyn yn achosi problemau os ydynt yn gweithio y tu allan i oriau gwaith naw tan bump arferol, yn enwedig mewn diwydiannau fel y sector lletygarwch. Cefais fy hysbysu yn ddiweddar mai ychydig ar ôl 6 p.m. y mae'r bws olaf yn gadael Dinbych-y-pysgod yn ôl i Hwlffordd yn sir Benfro ar nosweithiau'r wythnos. Nid yw hynny'n caniatáu i bobl gyfrannu at ein heconomi a datblygu o'i mewn. Mae rhai busnesau mwy o faint yn gallu darparu cludiant i'w staff eu hunain, ond eithriad yn hytrach na'r rheol yw hyn yn aml. Gellir ystyried hyn yn ffactor sy'n cyfrannu at y ffordd y mae busnesau yn y sector yn wynebu heriau cynyddol i lenwi'r swyddi gwag rydym i gyd wedi clywed amdanynt yn ein hetholaethau ein hunain. 

Wrth gloi, Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig i roi hwb o adrenalin i'n heconomi drwy godi'r droed oddi ar ein corn gwddf economaidd, helpu i lanhau ein haer a chael Cymru i symud unwaith eto. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:31, 7 Gorffennaf 2021

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Oes, mae gwrthwynebiad.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:31, 7 Gorffennaf 2021

Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, fe fyddwn ni'n atal y cyfarfod dros dro er mwyn paratoi ar gyfer y bleidlais yna.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:31.

Ailymgynullodd y Senedd am 17:37, gyda'r Llywydd yn y Gadair.