Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
A gaf i ddechrau drwy, efallai, gydnabod yr amgylchiadau heriol mae'r Llywodraeth wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yma, gyda diffyg adolygiadau gwariant, diffyg sicrwydd o safbwynt y cyllid sy'n dod, a'r ariannu ad hoc yn dod o gyfeiriad San Steffan? Mae'n dda deall ein bod ni'n gobeithio nawr symud i gylchdro bach mwy sefydlog, gyda dwy gyllideb atodol yn lle tair, ac yn y blaen. Mae pawb, dwi'n siŵr, yn croesawu hynny. Fel plaid, wrth gwrs, rŷn ni'n hapus i fod yn bragmatig a chydnabod yr amgylchiadau anodd hynny, cyhyd â bod y Llywodraeth a'r Gweinidog yn dryloyw ac yn agored gyda ni wrth i ni fynd ati i graffu'r prosesau yna.
Mi fyddem ni'n cefnogi'r galwadau am well trafodiadau rynglywodraethol. Dwi wedi bod ar y Pwyllgor Cyllid yn y Senedd ddiwethaf, wrth gwrs, yn gwrando ar yr Ysgrifennydd Gwladol mewn un sesiwn yn dweud bod yna gannoedd o filiynau o arian ychwanegol yn dod i gyfeiriad Cymru yn sgil un cyhoeddiad, ac wedyn, dwy funud wedyn, yn clywed Gweinidog Cymru yn dweud mai degau o filiynau o arian ychwanegol a oedd yn dod lawr y ffordd. Dyw hynny ddim, yn fy marn i, yn adlewyrchu yn dda iawn ar y sefyllfa sydd ohoni. Mae pawb yn crafu pen ynglŷn â ble mae'r gwir, a dwi yn meddwl bod angen i'r ddwy Lywodraeth godi uwchlaw hynny yn y cyfnod nesaf yma. Dyw hi ddim yn gwneud lles i unrhyw un, a dyw hi ddim, yn sicr, yn help o safbwynt craffu i ni fel Aelodau, na chwaith i sicrhau bod yr arian ychwanegol yna, faint bynnag sy'n dod yn y pen draw, yn gweithio mor galed ag sy'n bosib o safbwynt darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl yng Nghymru. Ond dyna ddiwedd y bregeth ar hwnna.
Wrth gwrs, dwy elfen sydd, i bob pwrpas, yn y gyllideb atodol yma, fel oedd y Gweinidog yn esbonio. Mae ymarferiad technegol o ailddatgan cyllidebau i adlewyrchu portffolios newydd, a dwi wastad, fel Aelod o wrthblaid, eisiau mwy o wybodaeth. Mae wastad yn anodd dilyn lle mae'r arian yna yn mynd, o un portffolio i'r llall, a byddwn i eto yn ategu'r ple sydd wedi cael ei wneud yn y gorffennol i gynnig mwy o fanylder i ni pan fo'n dod i rai o'r ffigyrau hynny.
Yr ail beth, efallai—ie, cyllideb atodol yw hi, ond mae yna deimlad retrospective iawn, onid oes, yn y gyllideb atodol yma? Mae'r rhain i gyd yn gyhoeddiadau y mae'r Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo iddyn nhw. Rŷn ni'n cadarnhau, i bob pwrpas, yr ymrwymiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod, lle efallai y byddwn i'n awyddus i ni gael mwy o gyfle i drafod dyraniadau posib yn edrych ymlaen, yn symud ymlaen o safbwynt y gyllideb o fewn y flwyddyn yma. Y peryg yw y bydd yr ail gyllideb atodol nawr, wrth gwrs, yn edrych yn ôl ar rai o'r dyraniadau y bydd wedi digwydd o heddiw ymlaen, hefyd, sydd jest yn elfen o rwystredigaeth, efallai, o'm rhan i.
Rŷn ni wedi clywed, wrth gwrs, bod yna £2 biliwn o arian wrth gefn sydd heb ei glustnodi, ac mae rhywun yn deall y risg o bethau fel trydedd don a'r angen i sicrhau bod modd gan Lywodraeth Cymru ymateb i hynny, ond mae yna risg, dwi'n meddwl, ein bod ni'n colli cyfle yn y flwyddyn ariannol yma. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn glir ynglŷn â'r angen i greu mwy o stimiwlws economaidd drwy fuddsoddi mewn seilwaith i gael yr economi i symud unwaith eto. Mae'r her newid hinsawdd, wrth gwrs, yn cynnig ei hun fel canfas eang eithriadol o safbwynt interventions posib mewn projectau seilwaith mawr y byddwn ni i gyd, dwi'n siŵr, yn cytuno sydd angen eu gwireddu. Rŷn ni hefyd wedi bod yn glir ynglŷn â'r angen i'r Llywodraeth roi ei phwerau benthyg ar waith yn fwy effeithiol. Roedd y Gweinidog, wrth agor y ddadl, yn dweud ei bod hi'n awyddus i gael mwy o hyblygrwydd pan fo'n dod i bwerau benthyg—wel, defnyddiwch y pwerau sydd gyda chi yn y lle cyntaf, gyda chi. Os nad ydych chi'n credu bod angen defnyddio'r pwerau hynny ar hyn o bryd, wrth i ni geisio adeiladu'n ôl yn well, yn decach, yn wyrddach, yna pryd fydd hynny, dywedwch?
Nawr, o safbwynt rhai o'r dyraniadau—dwi'n ymwybodol o'r amser—penodol yn y gyllideb atodol yma, o safbwynt iechyd, wrth gwrs, rŷm ni'n croesawu ac yn cydnabod y buddsoddiad o £128 miliwn ychwanegol at adfer a lleihau rhestrau aros—sy'n frawychus o hir, byddem ni gyd yn cytuno—o fewn y gwasanaeth iechyd. Ond mae angen mynd tu hwnt i hynny a rhoi strategaethau clir mewn lle gyda chyllid digonol i'w gweithredu nhw, sydd nid yn unig yn adfer gwasanaethau ac yn delio efo'r backlog ar ôl COVID, ond sydd hefyd yn galluogi'r gwaith o adeiladu NHS sy'n fwy gwydn a chynaliadwy nag o'r blaen; hynny yw, sy'n caniatáu ail-ddylunio gwasanaethau ar gyfer y tymor hir. Mae gan fyrddau iechyd gynlluniau, dwi'n gwybod, sydd angen eu gweithredu, a nawr yw'r amser i fynd ati o ddifrif i greu'r isadeiledd newydd yna sy'n creu gwasanaeth iechyd gwladol mwy cydnerth, a mwy ffit ar gyfer y dyfodol hirdymor.
Ac, yn olaf, mae'r £206 miliwn sydd wedi cael ei roi i awdurdodau lleol drwy'r gronfa caledi llywodraeth leol, wrth gwrs, yn chwe mis cyntaf y flwyddyn ariannol yma yn rhywbeth, dwi'n gwybod, mae awdurdodau lleol yn ei groesawu, ond mae arweinwyr cyngor yn dweud wrthyf i eu bod nhw dal ddim yn glir ynglŷn â'r bwriad ar gyfer ail hanner y flwyddyn ariannol yma. Rŷch chi wedi awgrymu eich bod chi yn ymrwymo i barhau i ariannu hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol, ond ydy hwnna yn £206 miliwn arall? Ydy e'n swm amgen, neu ydy'r £206 miliwn yna i fod para hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol? Mae arweinwyr cynghorau yn dweud wrthyf i eu bod nhw dal ddim yn glir, ac mi fyddai eglurder ar hynny yn rhywbeth dwi'n credu fyddai'n cael ei groesawu. Diolch.