9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:00 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 5:00, 14 Gorffennaf 2021

Yn y rhanbarth dwi'n ei chynrychioli, sef Canol De Cymru, hyd at heddiw, mae yna 58,615 o achosion wedi bod. O hynny, mae 2,095 o bobl wedi marw o COVID-19, a dŷn ni i gyd yn ymwybodol, wrth gwrs, o gymaint o straeon torcalonnus, gyda nifer o bobl yn colli nifer o anwyliaid o fewn yr un teulu, gan feddwl, felly, fod yna dros 2,000 o angladdau wedi bod a chymaint o ddagrau o fewn ein cymunedau ni. A dwi'n siŵr ein bod ni'n gytûn bod yr 16 mis diwethaf yma wedi bod yn heriol dros ben i bob Llywodraeth ledled y byd. Ac, wrth gwrs, i nifer o ymchwilwyr, nid oedd pandemig o'r fath yma yn gyfan gwbl annisgwyl, gan fod nifer o astudiaethau wedi'u cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf yn pwysleisio'r cysylltiad rhwng yr argyfwng hinsawdd ac effaith hyn ar iechyd pobl a'r risg o ledaeniad clefydau heintus.

O ran Cymru, mi oeddem ni mewn sefyllfa fregus dros ben o ran iechyd pobl Cymru, fel y nodwyd yn 'Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol' a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017, a dwi'n dyfynnu:

'Yn gyffredinol, mae disgwyliadau oes a disgwyliadau oes 'iach' yn cynyddu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau sylweddol rhwng y mwyaf a’r lleiaf difreintiedig. O ran disgwyliad oes cyffredinol, mae gwahaniaeth o oddeutu 8 mlynedd rhwng yr ardaloedd â’r mwyaf a’r lleiaf o amddifadedd, ac mae’r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes iach yn oddeutu 18 o flynyddoedd. Ni oes tueddiad amlwg y bydd y gwahaniaethau hyn yn lleihau yn y dyfodol.'

Yn anffodus, dyma oedd y realiti o ran iechyd ein poblogaeth pan ein tarwyd gan COVID-19, a wnaeth unwaith eto amlinellu, yn greulon dros ben, y gwahaniaethau sylweddol rhwng ein dinasyddion mwyaf a lleiaf difreintiedig, a dangos, yn fy marn i, methiant Llywodraeth Cymru—a Llywodraethau Prydain ymhell cyn sefydlu'r Senedd hon—o ran mynd i'r afael â thlodi yng Nghymru. Dwi'n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio—wel, efallai ddim pawb, oherwydd mae rhai Aelodau tipyn yn iau na fi yn y Senedd erbyn hyn—ond mae nifer ohonom yn mynd i gofio'r targedau o gael gwared ar dlodi plant erbyn 2020, ac mi oedd yna dargedau uchelgeisiol yn y fan honno. Ond erbyn 2021, mae lefelau tlodi plant yn uwch nag erioed.

Beth mae hyn wedi'i olygu i'n cymunedau ni, fel y dengys y data diweddaraf, yw mai Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod gyda'r canran ail uchaf o farwolaethau yn y Deyrnas Unedig—yn ail i Southend-on-Sea—gyda 366 o farwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth. A hefyd yn y 10 uchaf o awdurdodau y mae Merthyr Tydfil a Phen-y-bont, gan danlinellu unwaith eto pa mor fregus yw ein cymunedau ôl-ddiwydiannol. Wrth gwrs, er ein bod yn cael ein cynnwys yn y tablau Prydeinig yma yn cymharu o ran awdurdodau ledled y Deyrnas Unedig, does dim gwadu'r ffaith bod y cyd-destun o ran rheoliadau yn wahanol yma yng Nghymru, a dyna pam dwi, heddiw, yn cefnogi'r galw am ymchwiliad annibynnol yn benodol i Gymru.

Wrth gwrs bod yn rhaid inni fod yn rhan o ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig; mi ydyn ni'n gysylltiedig fel gwledydd ac mi fyddai fo'n orffwyll os byddem ni ddim. Ond, ar Lywodraeth Cymru mae pobl Cymru wedi bod yn ddibynnol dros y cyfnod yma o bandemig. Ar ran Llywodraeth Cymru y mae'r heddlu wedi bod yn gweithredu o ran y gweithdrefnau a sicrhau bod pobl yn cydfynd â'r rheoliadau yma yng Nghymru. Does dim ond angen edrych ar bethau fel Sky News a'r BBC i weld eu bod yn pwysleisio pa mor wahanol yw'r rheolau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ac, yn Rhondda Cynon Taf, gwelsom Lywodraeth Cymru—nid Llywodraeth Prydain—yn cymryd y penderfyniad i ddod â rheoliadau penodol i Rhondda Cynon Taf pan oedd yr achosion ar eu gwaethaf.

Felly, i fi, gyda'r feirws yma i aros a gyda'r posibilrwydd o fwy o glefydau heintus yn y dyfodol, mae'n hanfodol ein bod ni'n cael ymchwiliad llawn yma yng Nghymru er mwyn ein bod ni'n dysgu'r gwersi a sicrhau bod ein cymunedau ni, yn y dyfodol, pan fydd y math yma o beth yn digwydd eto, ddim yn gweld y lefelau erchyll hyn o golli bywyd, a hefyd, wrth gwrs, y sgil-effeithiau o ran COVID tymor hir. I mi, mae'n rhaid inni edrych o ran pam yr oedd Cymru mewn sefyllfa mor fregus a sut aethon ni ati. Os na wnawn ni gael ymchwiliad yma yng Nghymru, ni fyddwn yn gallu gwneud dim i amddiffyn ein cymunedau yn y dyfodol, ac mi fydd nifer o'r marwolaethau hyn wedi bod i ddim.