Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Rwy'n croesawu galwadau i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymdrin â'r pandemig, ar wahân i ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan. Flwyddyn yn ôl, galwodd fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig, ynghyd â gweithwyr iechyd proffesiynol, ac yn bwysicaf oll, y teuluoedd a oedd yn galaru am y bobl sydd wedi marw yng Nghymru o COVID-19, am yr ymchwiliad hwn, a flwyddyn i'r diwrnod hwnnw, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi gwrthod y cais, ac ond eisiau cael ychydig o baragraffau mewn adroddiad ar gyfer y DU gyfan.
Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwrthod rhoi atebion i bobl Cymru mewn perthynas â'r penderfyniadau a wnaeth. Mae'r Llywodraeth eisiau gwneud yr holl benderfyniadau tra'n osgoi ymchwiliad cyhoeddus i Gymru, oherwydd maent yn gwybod na fyddant yn hoffi'r canlyniad na'r craffu. Mae ymchwiliadau cyhoeddus yn gyfle i ddysgu arferion gorau, ac os yw'r Prif Weinidog yn hyderus ynglŷn â'i ddull o weithredu, nid wyf yn gweld pam fod yna amharodrwydd yma i gael ymchwiliad sy'n benodol i Gymru.
Dywed y Prif Weinidog y byddai'n well ganddo'r ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan. Ac eto, mae ei Lywodraeth wedi cwyno'n arw nad yw llais Cymru'n cael ei glywed yn yr undeb, ac nad yw Llywodraeth y DU yn poeni am Gymru. Fodd bynnag, pan fydd ef a Llywodraeth Cymru eisiau osgoi craffu, maent yn fwy na pharod i guddio y tu ôl i'r dull pedair gwlad o weithredu a throsglwyddo unrhyw gyfrifoldeb i fyny'r M4 a beio rhywun arall.
Y Prif Weinidog oedd yn gyfrifol am ymdrin â'r pandemig hwn yng Nghymru, ac mae angen iddo ef a'i Lywodraeth berchnogi eu penderfyniadau. Felly, gadewch i ni atgoffa ein hunain pa benderfyniadau a gweithredoedd a gymerodd Llywodraeth Cymru yn annibynnol, y penderfyniadau a'r gweithredoedd y maent yn ceisio'u hysgubo o'r neilltu drwy wrthod yr ymchwiliad hwn. Roedd y Llywodraeth yn cefnogi dull pedair gwlad o weithredu ar y dechrau, ac yna fe wnaethant ddweud eu bod am ddilyn eu trywydd eu hunain. O'm rhan i, mae hynny'n dangos y cyfrifoldeb a ddaw gyda hynny.
Anfonodd y Llywodraeth dros 13,000 o lythyrau gwarchod i'r cyfeiriadau anghywir ym mis Ebrill a mis Mai 2020, enghraifft o gamdrafod data cyhoeddus ar raddfa enfawr. Mae angen edrych ar hynny. Honnodd y Llywodraeth ei bod yn cefnogi busnesau, ond mae llawer o fusnesau wedi wynebu misoedd o ansicrwydd, penderfyniadau munud olaf a diffygion wrth ddarparu cymorth ariannol y Llywodraeth. Mae angen ymchwilio i hynny. Cafodd y Llywodraeth ddechrau anhrefnus i'r broses o gyflwyno'r brechlyn, gyda'r Prif Weinidog ei hun yn dweud, 'Nid sbrint ydyw; nid cystadleuaeth ydyw ychwaith.' Nid yw hwnnw'n sylw da iawn i'w wneud. Roedd hyd yn oed Cymdeithas Feddygol Prydain yn dweud bod ei sylw'n 'wirioneddol ddryslyd'. Ac mae'r Llywodraeth hefyd wedi gweld sefyllfa lle mae plant yng Nghymru wedi colli mwy o addysg nag unrhyw ran arall o'r DU.
Mae angen edrych ar y pethau hyn, a gallwn fynd ymlaen ac ymlaen am y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru ar eu pen eu hunain, a'r penderfyniadau a wnaethant hefyd er gwell, neu er gwaeth, ac mae angen craffu ar y rhain i gyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gwneud y peth iawn ac yn rhoi gwahaniaethau pleidiol i'r naill ochr er mwyn darparu'r atebion y mae pobl Cymru yn eu haeddu a phleidleisio dros gynnal ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Diolch, Ddirprwy Lywydd.