Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Aelodau, mae'n drueni fod angen i ni gael y ddadl hon heddiw, gan na ddylai fod ei hangen mewn gwirionedd, ac rwy'n ofni, Ddirprwy Lywydd, y bydd llawer ohonom yn dweud yr un pethau, oherwydd maent yn negeseuon cryf ac rydym yn credu'n angerddol ynddynt. Gan fod y penderfyniadau ar sut yr ymdrinnir â'r pandemig COVID wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru, nid yw ond yn iawn fod rhaid i hynny olygu bod y craffu a'r atebolrwydd sy'n gysylltiedig â hynny i gyd yn digwydd yng Nghymru hefyd. A dylai gael ei ffocws Cymreig ei hun hefyd drwy ymchwiliad annibynnol i Gymru.
Pe bai'r gwledydd datganoledig, drwy gydol y pandemig, wedi cytuno i ddull gweithredu cyson yn y DU, credaf y byddai achos teg wedi bod dros gael un bennod i Gymru mewn ymchwiliad ar gyfer y DU gyfan, ond drwy gydol yr 16 mis diwethaf, rydym wedi gweld dehongliadau gwahanol o'r cyngor meddygol a gwyddonol, gan arwain at ystyriaethau Cymru'n unig. Ac nid oes unrhyw beth o'i le ar hynny. Mae hyn hefyd wedi digwydd yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, a dylent hwythau hefyd gynnal eu hymchwiliadau cyhoeddus eu hunain. Heddiw, unwaith eto, clywsom gan Brif Weinidog Cymru, a rannodd safbwynt y Llywodraeth, safbwynt gwahanol, ac mae hynny'n deg hefyd. Ond unwaith eto, mae'n dangos bod penderfyniadau gwahanol yn cael eu gwneud yma a bod angen eu dwyn i gyfrif yma.
Droeon, rydym wedi gweld a chlywed llefarwyr y Llywodraeth yn beirniadu gweithredoedd Llywodraeth y DU, yn briodol neu'n amhriodol ar adegau, a gwn fod llawer o bobl yn aml wedi teimlo bod rhai penderfyniadau wedi'u gwneud yng Nghymru yn sgil awydd i fod yn wahanol yn wleidyddol heb unrhyw reswm arall. Nawr, nid wyf yn dweud bod hynny'n wir, ond mae yna ganfyddiad o hynny, ac mae'n rhaid dwyn y rheini ohonom sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau i gyfrif am ein penderfyniadau. A lle mae'r rheini, yn yr achos hwn, yn cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, nid yw ond yn iawn ac yn briodol i ni gael ein hymchwiliad cyhoeddus ein hunain i edrych ar bob agwedd ar y pandemig a sut y cafodd ei reoli.
Mae'n rhaid iddo hefyd dynnu sylw at yr hyn sydd wedi gweithio'n dda a nodi'r hyn nad yw wedi gweithio'n dda, a pha wersi y mae angen i ni fod wedi'u dysgu o'r daith ofnadwy hon rydym i gyd wedi bod arni. Mae cymaint o Gymry wedi cael eu heffeithio mewn cymaint o ffyrdd, ac mae angen atebion Cymreig ar lawer ohonynt a cheir awydd i ddeall pam y digwyddodd rhai pethau a pham na ddigwyddodd pethau eraill. Ddirprwy Lywydd, gwn nad oedd llawlyfr ar sut i reoli pandemig, ac ni allaf ond dychmygu pa mor anodd oedd hi i Weinidogion a'r Llywodraeth wneud rhai o'r penderfyniadau y maent wedi'u gwneud yn ystod y cyfnod eithafol a heriol hwn. Ac rydym yn diolch yn ddiffuant iddynt am hynny, ond mae pobl Cymru yn haeddu eu hymchwiliad eu hunain.
Nid diben ymchwiliad cyhoeddus yw ceisio dal pobl ar eu bai, ond fel y dywedais yn gynharach, mae'n ymwneud mwy â dysgu gwersi fel y gallwn fod yn gwbl barod os byddwn, duw a'n gwaredo, mewn sefyllfa debyg eto. Felly, Ddirprwy Lywydd, rwyf am roi'r gorau iddi yn awr—mae'r neges yn glir—ond er lles pobl Cymru, rwy'n annog yr Aelodau yma i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.