9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i'r ffordd yr ymdriniwyd â phandemig COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:46 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:46, 14 Gorffennaf 2021

Diolch am gael cyd-gyflwyno'r cynnig yma y prynhawn yma. Ers dros flwyddyn bellach, mae Plaid Cymru hefyd wedi bod yn galw am ymchwiliad cyhoeddus sydd yn benodol i Gymru. Mi fyddai hynny yn rhoi cyfle unigryw i asesu a dysgu gwersi o'r ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â'r pandemig, ond, yn hytrach na hynny, mae'r Llywodraeth wedi penderfynu dewis cael un bennod Gymreig mewn ymchwiliad ledled y Deyrnas Unedig.

Rŵan, bydd Aelodau yn llwyr ymwybodol dros y 18 mis diwethaf yma fod Plaid Cymru wedi cytuno yn amlach na pheidio gyda'r modd pwyllog y mae'r Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i warchod iechyd cyhoeddus Cymru, mewn gwrthgyferbyniad llwyr efo gweithredoedd peryglus y Torïaid yn San Steffan. Ond dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni wedi rhoi sêl bendith i bob penderfyniad, a dydy hynny ddim yn golygu nad oes yna ddim gwersi i'w dysgu.

Mae bron i 6,000 o bobl wedi marw yn sgil COVID-19 ers cychwyn y pandemig. Mae yna lefelau anfesuradwy o salwch wedi cael eu creu, heb sôn am yr anabledd cronig sy'n gysylltiedig â COVID hir. Ar ben hynny, collwyd chwe mis o ddiwrnodau addysg, a chafwyd sgil-effeithiau economaidd pellgyrhaeddol a straen cynyddol ar ein gwasanaethau iechyd. Mae hyn i gyd yn dweud bod angen ymchwiliad, ac mae angen ymchwiliad penodol i Gymru, a hynny oherwydd, yn syml iawn, mae'r argyfwng yma wedi digwydd mewn maes sydd wedi'i ddatganoli. Rydyn ni wedi gallu siartio ein cwrs ein hunain yn ystod y pandemig am fod iechyd yn faes wedi'i ddatganoli, ac felly mae'n gwneud synnwyr llwyr ein bod ni'n craffu yn fanwl ar y camau unigryw a gymerwyd yng Nghymru oherwydd bod y maes wedi'i ddatganoli i ni, a bod gennym ni'r cyfle i fod wedi creu ein hymateb ni ein hunain. Dro ar ôl tro, mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio mai ymateb Cymreig sydd gennym ni i'r pandemig yng Nghymru, ac felly rhaid i'r chwyddwydr fod ar yr ymateb yma yng Nghymru. Doedd o a dydy o ddim yr un peth â'r ymateb yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig.

Mae'r Institute for Government yn dweud y byddai sefydlu un ymchwiliad mawr a allai ymchwilio i bob un o'n pedair Llywodraeth yn yr un modd yn anodd yn gyfreithiol, yn logistaidd ac yn wleidyddol. Mae Plaid Cymru'n croesawu'r ymchwiliad ar lefel y Deyrnas Unedig hefyd, ond a ydyn ni'n credu bod ymchwiliad o'r math yna, efo un bennod ar faterion Cymreig, yn mynd i fedru asesu bob dim efo'r manylder sydd ei angen? Mae perig y bydd llais a phrofiad Cymru ar goll unwaith eto.

Os na fydd yna ymchwiliad Cymreig, sut byddwn ni'n gwybod os gwnaiff Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi o'r ymarfer dril pandemig Cygnus nôl yn 2016? Sut byddwn ni wir yn gwybod pam roedd Llywodraeth Cymru mor hwyr yn ymateb i'r feirws ar y cychwyn? Dwi'n cofio'n glir yr oedi efo canslo'r gêm rygbi rhwng Cymru a'r Alban, er enghraifft. Sut byddwn ni wir yn gwybod beth ddigwyddodd efo ffiasgo profion Roche? Sut byddwn ni wir yn gwybod pam gwnaeth Llywodraeth Cymru adael i gleifion efo feirws fynd o'r ysbytai i'r cartrefi gofal? 

Yn yr un modd, sut byddwn ni'n gallu gwybod sut i adeiladu ar rai o'r llwyddiannau sydd wedi bod, adeiladu ar gyfer y dyfodol—er enghraifft, fel y mae Russell George wedi sôn amdano fo, ein llwyddiant ni fel gwlad efo'r cynlluniau brechu a'r system tracio ac olrhain llwyddiannus iawn mae'n cynghorau sir ni wedi arwain arnyn nhw?

I gloi, felly, gorau po gyntaf y gallwn ni gael ymchwiliad Cymreig a'i roi o ar waith yn fuan i ni gael at y gwir ac i ddysgu'r gwersi ar gyfer y dyfodol. Felly, dwi'n annog pawb i gefnogi'r cynnig yma heddiw. Diolch.