Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Gan barhau gyda thema troi allan, yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru, roedd 77,000 o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion ym mis Mawrth 2019, ac fel y gwyddom, mae pwysau colli incwm a cholli cyflogaeth yn debygol o fod wedi gwthio llawer mwy o bobl i ôl-ddyledion rhent. Fe fyddwch yn gwybod, Weinidog, fod y gwaharddiad ar droi allan a gyflwynwyd ym mis Rhagfyr 2020 wedi dod i ben, er fy mod yn croesawu'r ffaith bod yn rhaid i landlordiaid roi chwe mis o rybudd o hyd i denantiaid cyn eu troi allan. Ond mae Shelter Cymru wedi rhybuddio y gallai niferoedd enfawr o bobl gael eu gwthio i ddigartrefedd o ganlyniad, gan ddweud bod y gwaharddiad ar droi allan wedi achub bywydau mewn gwirionedd. A gaf fi ofyn pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i atal pobl rhag cael eu troi allan o dai cymdeithasol o ganlyniad i ôl-ddyledion rhent sy'n gysylltiedig â COVID? Diolch.