Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 14 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Samuel Kurtz Samuel Kurtz Conservative 2:22, 14 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae papur ymchwil Cymru ar berchnogaeth ail gartrefi a gyhoeddwyd ddoe yn datgan, ac rwy'n dyfynnu:

'Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth gadarn sy’n rhoi sylw i effaith ail gartrefi ar gynaliadwyedd a chydlyniant cymunedol, gan gynnwys er enghraifft yr effaith ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant'.

O gofio bod ymgynghoriad ar y cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg wedi'i drefnu ar gyfer yr hydref hwn, fel y sonioch chi, Weinidog, a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried cynnal unrhyw ymchwil pellach i gasglu mwy o dystiolaeth i sicrhau bod y penderfyniadau a wneir yn gadarn, yn deg ac yn hirsefydlog, yn hytrach nag yn ddifeddwl ac adweithiol?