Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
Wel, buaswn i ddim yn derbyn bod hyn yn digwydd mewn ffordd sydd jest yn ymatebol. Rwy'n credu bod yma broblem sydd yn amlwg i gymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith; mae hyn yn amlwg i lawer iawn ohonom ni. Mae'n sicr bod angen data; mae'n sicr bod angen edrych yn ofalus ar y diffiniadau rŷn ni'n eu defnyddio yn y maes yma. Mae'r rheini'n bwysig er mwyn ein bod ni'n cael y datrysiadau cywir, ond mae'r gwaith hynny'n gallu digwydd wrth ein bod ni'n mynd â'r rhaglen waith sydd gennym ni rhagddi eisoes. Fel dwi'n dweud, mae Dr Brooks yn glir yn ei adroddiad bod amryw o'r elfennau yma yn cydblethu ac yn gyd-ddibynnol, ac mae’n rhaid i ni edrych ar bob un ohonyn nhw i sicrhau ein bod ni'n cael y datrysiadau cywir.