2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 14 Gorffennaf 2021.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg yng Ngogledd Cymru? OQ56780
Yn 2021-22, bydd ysgolion yng ngogledd Cymru wedi cael cyfanswm o dros £12 miliwn drwy'r grant addysg awdurdodau lleol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, lleiafrifoedd ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, addysg ddewisol yn y cartref, llesiant, recriwtio, adfer a chodi safonau a lleoliadau nas cynhelir.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac fel y gwyddoch mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth addysg, a gall fod yn wych i ddysgwyr o bob gallu ac oedran, ac o fudd iddynt mewn cynifer o wahanol ffyrdd, ac wrth gwrs, mae gan ogledd Cymru rai o'r canolfannau addysg awyr agored gorau yn y wlad. Fodd bynnag, drwy gydol COVID-19, nid yw wedi bod yn bosibl cael mynediad at y canolfannau hynny a'r gweithgareddau hynny yn y ffordd arferol, ac yn anffodus mae hynny wedi llesteirio addysg rhai dysgwyr. Rwy'n croesawu eich cyhoeddiad diweddar ar aros dros nos mewn canolfannau awyr agored preswyl, a bod modd caniatáu i blant ysgol gynradd wneud hynny, ac mae rhywfaint o arian wedi'i ryddhau hefyd. Ond Weinidog, hoffwn ofyn beth arall y byddwch yn ceisio ei wneud i gyflymu'r defnydd o ganolfannau addysg awyr agored a dysgu yn yr awyr agored yn gyffredinol wrth inni gefnu ar y pandemig?
Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n sicr yn cydnabod y rôl bwysig y mae dysgu yn yr awyr agored yn ei chwarae wrth ddarparu ystod eang o brofiadau i'n dysgwyr, a bydd hynny'n dod yn bwysicach fyth yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd rydym yn ei gyflwyno. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod darparwyr addysg awyr agored—ac mae nifer o Aelodau wedi ysgrifennu ataf yn benodol mewn perthynas â hyn, felly hoffwn gydnabod hynny—wedi cael eu heffeithio'n sylweddol iawn gan y cyfyngiadau, fel y mae'n dweud. Bwriedir i'r gronfa addysg awyr agored breswyl fod yn gyfraniad at rai o'r costau hynny y bydd canolfannau wedi'u hysgwyddo o ganlyniad—mae'n gronfa o £2 filiwn i geisio mynd i'r afael â hynny. Fel y dywed yn gywir, mae newidiadau wedi'u gwneud i hwyluso teithiau i blant ysgol gynradd, ac mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi heddiw y byddwn yn dweud mwy am hyn yn y Siambr yn ddiweddarach, gyda llacio pellach a fydd yn caniatáu i hyd at 30 o blant o sefydliadau fynychu canolfannau preswyl dros wyliau'r haf. Felly, yr hyn a welwn yw llacio cynyddol, a fydd, gobeithio, yn cael croeso gan y sector.
Diolch, Weinidog. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud
'Mae darparu mynediad at addysg o safon mewn ardaloedd gwledig yn hanfodol i ddiwallu anghenion pobl ifanc yng nghefn gwlad, a hefyd i ddenu teuluoedd ifanc i ymgartrefu yn yr ardaloedd hyn.'
Roeddwn yn falch fod Cymru, o dan arweiniad Kirsty Williams, wedi cyflwyno ei strategaeth a'i chynllun gweithredu cyntaf erioed ar gyfer ysgolion gwledig, i nodi sut y gallwn gefnogi ein hysgolion bach a gwledig i sicrhau rhagoriaeth i'n plant a'n pobl ifanc yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd i Gymru wrth gwrs. Weinidog, rwy'n pryderu bod Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno cynlluniau i gau 11 o ysgolion gwledig ar sail cyfyngiadau ariannol a gallu i gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru. A wnewch chi egluro dau beth i mi, os gwelwch yn dda, Weinidog? Yn gyntaf, pwy sy'n gyfrifol am argymell cau ysgolion, ac a all ysgolion bach, gwledig gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru? Diolch yn fawr iawn.
Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel y dywedodd, cyhoeddodd fy rhagflaenydd y cynllun gweithredu cyntaf erioed ar gyfer addysg wledig yn 2018, gan ddwyn ynghyd yr holl ymyriadau a mentrau mewn perthynas ag ysgolion bach a gwledig o'r strategaeth 'Cenhadaeth ein Cenedl' a chreu un cynllun gweithredu cydlynol i ganolbwyntio'n benodol ar yr amgylchiadau y mae ysgolion gwledig yn eu hwynebu.
Mewn perthynas ag ad-drefnu sy'n gysylltiedig ag ysgolion gwledig, gwnaethom gryfhau'r cod trefniadaeth ysgolion yn yr un flwyddyn hefyd, fel bod awdurdodau lleol, sy'n llywio'r penderfyniadau yn y cyd-destun hwn, pan fyddant yn ystyried cyflwyno cynigion i gau ysgol wledig, yn gorfod gwirio yn gyntaf a yw'r ysgol honno ar restr, ac os ydyw, mae gofyn cymhwyso gweithdrefnau pellach yn y cyd-destun hwnnw. Bydd rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgol. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad oes modd cau'r ysgol, ond mae'n golygu y bydd yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf iawn, ac na ddylid gwneud hynny nes bod dewisiadau amgen dichonadwy wedi'u harchwilio.
Credaf yn sicr fod ysgolion gwledig yn gallu cyflwyno'r cwricwlwm, ac rwyf eisiau bod mewn sefyllfa yn ystod y flwyddyn nesaf i sicrhau bod ysgolion gwledig, fel pob ysgol arall yng Nghymru, yn gallu manteisio, er enghraifft, ar y rhwydwaith cenedlaethol, a fydd yn galluogi ysgolion i gydweithio i ddatblygu adnoddau er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei weithredu'n llwyddiannus ym mhob rhan o Gymru.