2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 14 Gorffennaf 2021.
4. Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i leihau'r amser ysgol a gaiff ei golli yn ystod pandemig COVID-19? OQ56772
Mae amrywiaeth o fesurau ar waith i gefnogi dysgu a lleihau'r amser a gaiff ei golli. Rydym wedi ymrwymo dros £150 miliwn mewn buddsoddiadau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ac addysgwyr. Ac ysgrifennais hefyd at yr ysgolion ddydd Gwener diwethaf yn amlinellu mesurau i geisio lleihau nifer y disgyblion sy'n hunanynysu.
Diolch am hynny, Weinidog. Fel y clywsom yn gynharach, rwy'n credu bod pryder cyffredinol ynghylch faint o amser ysgol a gaiff ei golli oherwydd y pandemig. Yn amlwg, mae hynny i'w deimlo'n eang ledled Cymru—rhieni, athrawon a thimau ysgol gyfan, yn ogystal ag Aelodau'r Senedd a Llywodraeth Cymru, rwy'n credu. Mae'n frawychus iawn fod yr holl amser hwnnw wedi'i golli, a chredaf inni weld perfformiad anghyson yn yr ysgolion mewn perthynas â dysgu gartref, ac yn wir, collwyd mwy o amser ysgol mewn rhai ysgolion nag eraill. Mae rhan o hynny, yn amlwg, o ganlyniad i batrwm y pandemig, ond efallai fod ffactorau eraill hefyd.
Weinidog, o ystyried y profiad hwnnw, o ystyried y gallem weld tonnau pellach yn yr hydref a thu hwnt, tybed pa wersi sydd wedi'u dysgu fel y bydd cysondeb ac ansawdd dysgu gartref yn llawer gwell ledled Cymru os bydd yn rhaid inni ddychwelyd at hynny i ryw raddau. Ac wrth edrych yn fwy hirdymor—a gwn fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar wyliau'r haf ar ei hyd—beth yw barn ddiweddaraf y Llywodraeth am y gwyliau haf hir hynny, yn enwedig o gofio y bydd nifer go fawr o ysgolion yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael tua 7.5 wythnos o wyliau haf, os ychwanegir hyfforddiant athrawon a diwrnodau HMS at wyliau'r haf eu hunain?
Ar y pwynt olaf hwnnw, dyddiadau HMS ac yn y blaen, yn amlwg, rydym yn disgwyl i ysgolion edrych yn ofalus ar pryd y trefnir y rheini a rhoi cymaint o rybudd â phosibl i rieni ynglŷn â hynny. Ar bwynt ehangach yr Aelod mewn perthynas â phrofiad y flwyddyn ddiwethaf, yn amlwg, mae ysgolion wedi addasu'n gyflym i allu rhoi cymorth i ddysgwyr gartref, ac i roi cymorth i'w rhieni a'u gofalwyr i wneud hynny hefyd. A dros y flwyddyn ddiwethaf, credaf fod ansawdd yr adnoddau a'r cysondeb wedi gwella'n sylweddol iawn, fel y byddech yn disgwyl. Rwy'n credu bod gwersi y gellir eu dysgu'n gyffredinol ar gyfer addysgeg yn y dyfodol mewn perthynas â dysgu cyfunol, ac rwy'n gobeithio y gallwn sicrhau bod y datblygiadau arloesol hynny'n cael eu cadw lle maent wedi gallu creu hyblygrwydd ychwanegol ac asedau ychwanegol i ysgolion.
Rwy'n awyddus i fod yn glir, serch hynny, mai'r bwriad yn y trefniadau y soniais wrth benaethiaid amdanynt yr wythnos diwethaf yw cydnabod, yn y bôn, fod swigod wedi chwarae rhan bwysig yn lleihau cysylltiadau rhwng dysgwyr, ond wrth inni symud drwy'r pandemig, rydym wedi dysgu y gallant fod yn arf di-fin i bob pwrpas. Ac felly, dyna sydd y tu ôl i'r argymhelliad na fydd grwpiau cyswllt yn rhan o fywyd yr ysgol mwyach, a diben hynny yw lleihau nifer y dysgwyr sy'n hunanynysu'n ddiangen, os caf ei roi felly, drwy ofyn i'n cydweithwyr yn y system brofi, olrhain a diogelu ddarparu cyngor penodol i ysgolion mewn perthynas â'r materion hynny.
Prynhawn da, Weinidog. Un o effeithiau mwyaf dinistriol y pandemig—ar wahân i'r bywydau a gollwyd mor drasig wrth gwrs—yw'r niwed a wnaed i ddatblygiad addysgol ac emosiynol ein plant ysgol. Yn fy etholaeth i, Dyffryn Clwyd, rydym wedi gweld ysgolion cyfan yn cau o ganlyniad i ambell achos o COVID-19, yn aml ar adegau o ganlyniad i drosglwyddiad asymptomatig a nodwyd drwy brofi grwpiau blwyddyn gyfan a anfonwyd adref i hunanynysu. Mae hyn nid yn unig yn tarfu ar addysg y plentyn, mae hefyd yn ddiangen. Rwy'n falch eich bod wedi newid y canllawiau o'r diwedd, ond Weinidog, sut y byddwch yn sicrhau bod plant yn Nyffryn Clwyd yn dal i fyny gyda'r holl addysg y maent wedi'i cholli o ganlyniad i bolisïau blaenorol Llywodraeth Cymru? Diolch yn fawr iawn.
Wel, rwy'n credu bod cwestiwn yr Aelod yn anhygoel o annheg yn y ffordd y mae'n ei orffen. Rydym wedi bod yn wynebu'r amgylchiadau mwyaf eithriadol yn ein system ysgolion, fel ym mhob rhan arall o Gymru a ledled y DU—yn rhyngwladol yn wir—ac rwyf am dalu teyrnged i'r gweithlu addysgu ac addysgol am y gwaith y maent wedi'i wneud i leihau'r aflonyddwch hwnnw, yn wyneb anawsterau mawr, a chredaf eu bod wedi datblygu ffyrdd anhygoel o arloesol a hyblyg o gefnogi ein dysgwyr mewn amgylchiadau anodd iawn.
Mae'n sôn am 'ddal i fyny' yn ei gwestiwn. Nid dyna'r iaith a ddefnyddiwn yn y ffordd y disgrifiwn y dasg sydd o'n blaenau. Nid ydym am gael model diffyg lle dywedir wrth blant eu bod ar ei hôl hi. Rydym am annog ein myfyrwyr i ailymgysylltu â'r sgiliau sy'n eu galluogi i fod yn ddysgwyr effeithiol—yn ymwneud â chymhelliant, hyder, ac ymdeimlad o allu dysgu ac ymgysylltu â'i gilydd. Dyna'r egwyddorion rydym am eu cael i arwain ein hadferiad yng Nghymru, a dyna'r egwyddorion sy'n sail i'r cynllun adnewyddu a diwygio a'r cyllid a gyhoeddais.
Gan fynd ar ôl yr union bwynt hwnnw, Weinidog, rwy'n poeni ein bod i gyd yn defnyddio'r term 'coll' pan fyddwn yn sôn am ddysgu neu brofiadau i bobl ifanc oherwydd y pandemig. Os bydd pobl ifanc yn parhau i glywed y gair 'coll' mewn perthynas â'u hunain, mae perygl y byddant yn meddwl eu bod wedi torri neu fod rhywbeth wedi mynd na ellir ei adfer, ac rwy'n credu bod y genhedlaeth hon o bobl ifanc yn wydn. Maent wedi mynd drwy lawer, ond ein gwaith ni a gwaith cymdeithas yw sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi yn awr ac y gallant adfer ymdeimlad o lawenydd mewn dysgu ac mewn bywyd—felly, sicrhau bod asesiadau'n cael eu cynnal mewn ffordd sy'n cymell plant i dyfu, nid i boeni am ddisgwyliadau is na faint sydd i'w wneud i ddal i fyny. Felly, gan adeiladu ar yr hyn rydych newydd ei ddweud, Weinidog, pa waith sy'n digwydd yn y Llywodraeth i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ymadfer wedi'r flwyddyn ddiwethaf ac na fydd neb, mewn gwersi neu y tu allan i'r ystafell ddosbarth, yn teimlo pwysau'r label 'coll' ar eu cefnau?
Dyna'r union egwyddor sy'n sail i'r cynllun adnewyddu a diwygio a gyhoeddwyd gennym ychydig wythnosau'n ôl, ac rwy'n ategu'n llwyr yr hyn a ddywed Delyth Jewell. Nid ydym am i ddysgwyr deimlo mai fel colled y diffiniwn y flwyddyn ddiwethaf. Rydym am gydnabod yr heriau y mae dysgwyr wedi'u hwynebu, yn ogystal â gweithio gyda hwy a'u cefnogi yn y ffordd y maent yn symud ymlaen. Dyna'r egwyddor sy'n sail i'r ffordd rydym am wneud hynny, a chredaf mai dyna sy'n digwydd ar lefel ysgolion. Un o'r pethau hyblyg, os hoffech, yn y rhaglen honno, yw ei bod yn caniatáu i arweinwyr ysgolion wneud y penderfyniadau ynglŷn â'r ffordd orau o ddefnyddio'r cyllid hwnnw. Gwyddom fod angen cymorth arbennig ar garfannau penodol yn y blynyddoedd i ddod—dysgwyr blynyddoedd cynnar, dysgwyr ôl-16, dysgwyr difreintiedig—ac mae angen gwahanol fathau o gymorth ar bob un ohonynt, ac mae'r cynllun adnewyddu a diwygio yn galluogi ysgolion i wneud y penderfyniadau hynny, gan adlewyrchu anghenion eu carfannau penodol.