Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 14 Gorffennaf 2021.
O ddilyn y camau syml hyn, fe allwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gadw'r coronafeirws dan reolaeth ac atal y drydedd don yma rhag codi'n rhy uchel. Mae'r holl dystiolaeth yn awgrymu bod amrywiolion newydd, na fyddan nhw o bosib yn ymateb i'r brechlynnau, yn fwy tebygol o ddatblygu pan fydd niferoedd yr achosion o goronafeirws yn uchel. Mae hi'n dal i fod yn hollol bwysig ein bod ni'n parhau i gydweithio i gadw'n gilydd yn ddiogel ac i gadw Cymru yn ddiogel hefyd. Diolch yn fawr.