2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 15 Medi 2021.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith amgylcheddol unedau dofednod dwys yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ56831
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull cyfannol o asesu a lliniaru effaith amgylcheddol unedau dofednod dwys ledled Cymru, drwy well prosesau cynllunio a rheoleiddio, gweithio mewn partneriaeth a chefnogi'r diwydiant drwy raglenni trosglwyddo gwybodaeth a chymorth ariannol.
Diolch am eich ateb, ond yn ôl ymchwil gan Ymddiriedolaeth Natur Cymru, erbyn hyn, mae gan Bowys fwy na 150 o unedau dofednod dwys, sy'n cynnwys oddeutu 10 miliwn o ieir. O ganlyniad, amcangyfrifir bod 2,000 tunnell ychwanegol o ffosffad y flwyddyn yn cael ei wasgaru ar dir yn nalgylch afon Gwy. Fis Medi diwethaf, gofynnais i chi am y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgor ffermio dwys a oedd yn edrych ar ganllawiau cynllunio ar gyfer datblygiadau dofednod newydd, a chefais sicrwydd gennych ei fod yn fater o frys. Ac rwy'n cytuno ei fod yn fater o frys, hyd yn oed yn fwy felly flwyddyn yn ddiweddarach. Y mis diwethaf, ysgrifennodd eich cyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ataf i fy sicrhau bod gwaith ar y gweill i ddeall ffynhonnell llygredd ffosffad mewn afonydd ardaloedd cadwraeth arbennig, ac rwy'n croesawu hynny'n fawr. Fodd bynnag, o gofio bod y sefyllfa'n fater o frys, a allwch amlinellu'r amserlen ar gyfer y gwaith hwnnw, os gwelwch yn dda? A wnewch chi ystyried oedi unrhyw ganiatâd cynllunio ar gyfer unedau dofednod newydd neu estynedig hyd nes bod effaith amgylcheddol a chymunedol yr unedau presennol wedi cael eu hasesu a'u deall yn llawn?
Diolch. Fel roeddech chi'n cydnabod, mae'r gwaith hwnnw bellach yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, ond rwy'n deall bod disgwyl i'r gwaith dosrannu gael ei gwblhau erbyn diwedd eleni. Gwn fod ei swyddogion a'm swyddogion innau wedi gweithio'n agos iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i allu monitro cynnydd y prosiect hwnnw. Mae awdurdodau cynllunio lleol eisoes wedi'u hatal yn gyfreithiol rhag rhoi caniatâd cynllunio os ydynt yn ansicr a fydd datblygiad, naill ai'n unigol neu ochr yn ochr â chyfuniad o rai eraill, yn ychwanegu ffosffadau at ddyfroedd yr ACA, lle mae'r terfynau wedi'u croesi.
Weinidog, ar ddiwrnod cefnogi ffermwyr Prydain a Chymru, hoffwn ddiolch yn bersonol i'r holl ffermwyr ledled Brycheiniog a Sir Faesyfed am y gwaith cwbl anhygoel a wnânt i amddiffyn ein hamgylchedd a diogelu'r cyflenwad bwyd. Ond Weinidog, mae busnesau fferm wedi gorfod arallgyfeirio, gan fod y rhagolygon yn newid yn barhaus, ac mae llawer o ffermwyr wedi gorfod arallgyfeirio i'r diwydiant dofednod fel ffynhonnell incwm i sybsideiddio eu busnesau. Mae'r ffermwyr hynny'n gwneud eu gorau glas i ddiogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth ddiogelu ein cyflenwad bwyd. Fodd bynnag, Weinidog, mae'r cyfryngau, gwleidyddion a grwpiau lobïo'n ymosod yn barhaus ar y teuluoedd ffermio hyn, ac yn ceisio beio'r ffermwyr am ansawdd dŵr gwael. Dros y penwythnos, bu Dŵr Cymru yn pwmpio carthion amrwd i mewn i afon Wysg eto ac nid oes unrhyw beth yn digwydd i fynd i’r afael â hynny. Felly, Weinidog, a allwch ddweud wrthyf beth rydych yn mynd i'w wneud i amddiffyn y ffermwyr hynny sy'n cael eu beio dro ar ôl tro gan y cyfryngau fel ein bod yn dechrau trafod ffeithiau yn hytrach na ffuglen? Diolch, Lywydd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn trafod ffeithiau yn hytrach na ffuglen. Clywaf yr hyn a ddywedwch am Dŵr Cymru. Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau, ond rydych wedi cofnodi'r peth yn awr a byddaf yn sicr yn mynd ar drywydd hynny, gan ei bod yn anodd iawn credu na wnaed unrhyw beth yn y ffordd a amlinellwyd gennych. Rwyf wedi gweithio'n barhaus gyda'r sector amaethyddol ar lygredd. Yn amlwg, fe fyddwch yn ymwybodol fod achos cyfreithiol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd mewn perthynas â'n rheoliadau, felly mae'r hyn y gallaf ei ddweud yn gyfyngedig iawn, ond rwy'n sicr yn cytuno â chi y dylem ddiolch o galon i'r rhan fwyaf o'n ffermwyr, nad ydynt, yn sicr, yn llygru ein cefn gwlad ac sy'n sicrhau bod gennym fwyd ar ein platiau.