Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 15 Medi 2021.
Diolch, Lywydd. Rwy'n sicr yn ddiolchgar iawn i Paul Davies am gychwyn y ddadl hon heddiw am bwysigrwydd gwarchod ein cofebion. Gwn ei fod wedi codi'r mater hwn yn y Senedd ar sawl achlysur ac yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, ac rwy'n cytuno bod cofebion Cymru yn rhannau pwysig o'n treftadaeth. Nid wyf yn credu y gall unrhyw un wadu pŵer emosiynol y cofebion hyn, a'u pwysigrwydd i gymunedau lleol ac yn narlun ehangach ein hanes cenedlaethol.
Ychydig wythnosau'n ôl, ymwelais â Rheilffordd Llangollen, a thra oeddwn yno cefais brofiad ingol iawn. Yn y danffordd yng ngorsaf y Berwyn, gwelais graffiti ysgrifenedig ar y waliau, a adawyd yno gan filwyr yn gadael am y ffrynt yn y rhyfel byd cyntaf. Ni ddaeth rhai ohonynt yn eu holau, a rhestrir eu henwau ar y gofeb ryfel yn y dref. Ond mae gweld y negeseuon a'r llofnodion hynny'n ein hatgoffa'n rymus o'r aberth ofnadwy a wnaed—aberth mor fawr fel na ddylem byth mo'i hanghofio. Mae pob rhyfel yn ofnadwy, ond mae rhywbeth arbennig o erchyll am gyflafan y rhyfel byd cyntaf, lle lladdwyd 35,000 o Gymry. Mae hynny'n dangos yn glir yr angen i ni gofio.
Rhwng 2014 a 2019, rhoddodd menter Cymru'n Cofio gyfle inni weithio gyda sefydliadau ac unigolion ledled Cymru ac yn rhyngwladol i goffáu a myfyrio ar effaith rhyfel. Drwy'r fenter honno, cefnogodd Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid nifer fawr o weithgareddau, digwyddiadau coffa, rhaglenni diwylliannol ac addysgol, yn ogystal â gwarchod cofebion rhyfel a safleoedd hanesyddol eraill sy'n gysylltiedig â'r rhyfel. Roedd y prosiectau'n cynnwys adnewyddu Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn, lle mae £2.8 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol wedi creu canolfan ddiwylliannol a fydd yn sicrhau y bydd ymwybyddiaeth y cyhoedd o arwyddocâd y rhyfel yn parhau. Gwnaethom hefyd gefnogi'r gwaith o greu cofebion rhyfel newydd: parc coffa Cymreig yn Langemark, ac ym mis Tachwedd 2019, dadorchuddiwyd cofeb newydd yng Ngerddi Alexandra yma yng Nghaerdydd, ger ein cofeb genedlaethol, i gydnabod cyfraniad eithriadol dynion a menywod o amrywiol gymunedau ethnig a'r gymanwlad. Gweithio mewn partneriaeth oedd yr allwedd i lwyddiant Cymru'n Cofio, ac yn fy marn i, dylai barhau i fod wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio yn y dyfodol. Rwy'n ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o'r fenter ac sy'n parhau i wneud gwaith mor bwysig ar ein rhan i gadw'n fyw y cof am aberth y rhai a ymladdodd drosom.
Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd cofebion rhyfel fel darnau gweladwy ac ingol o dreftadaeth, a phwyntiau ffocws i gymunedau a theuluoedd allu coffáu. Maent yn gofnod ffisegol o'r rhai a fu farw dros eu gwlad ac yn ein hatgoffa'n weledol o effaith rhyfel. Mae llawer o gofebion rhyfel hefyd yn bwysig i'n treftadaeth bensaernïol a chelfyddydol. Ar ôl y rhyfel byd cyntaf, roedd codi cynifer o gofebion newydd ar draws y Deyrnas Unedig, i bob pwrpas, yn brosiect celf gyhoeddus unigryw, a helpodd gymunedau lleol a oedd yn profi cymysgedd torcalonnus o emosiynau o ddolur i ryddhad yn sgil y fuddugoliaeth. Mae effaith rhyfel wedi bod mor eang fel ei bod wedi arwain at nifer eithriadol o gofebion rhyfel—dros 90,000 ar draws y Deyrnas Unedig a thros 3,700 yma yng Nghymru, yn amrywio o gofebion tref a gynlluniwyd gan artistiaid blaenllaw i blaciau bach mewn pentrefi.