Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 15 Medi 2021.
Mae'r Amgueddfa Ryfel Ymerodrol yn cadw cofrestr o gofebion rhyfel ac mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth ariannol i'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel i wneud gwybodaeth am y cofebion hynny'n fwy hygyrch i'r cyhoedd drwy War Memorials Online. Mae'n cynnwys miloedd o gofnodion ac mae'n rhoi llwyfan i aelodau'r cyhoedd gymryd rhan drwy gyfrannu eu ffotograffau eu hunain a manylion am gofebion. Mae ffynonellau gwybodaeth eraill yn cynnwys cronfa ddata ar-lein Cadw Cof Cymru, sy'n rhoi manylion dros 230 o gofebion rhestredig, a'r cofnodion amgylchedd hanesyddol statudol a gedwir gan bedair ymddiriedolaeth archeolegol Cymru. Yn ogystal â chofebion rhyfel, wrth gwrs, mae'r rhain hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gannoedd o adeiladau a strwythurau hanesyddol sy'n gysylltiedig ag amddiffyn Prydain a bywyd ar y ffrynt cartref, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag ymosodiadau, meysydd glanio, ysbytai a ffatrïoedd arfau, ac archwiliwyd y cyfan gan yr ymddiriedolaethau archeolegol drwy gymorth cyllid gan Cadw dros y 10 mlynedd diwethaf.
Nawr, fel y dywedodd Paul Davies, mae'r amrywiaeth o gofebion rhyfel yng Nghymru yn rhyfeddol, o gerfluniau coffa, obelisgau a phlaciau i ffenestri, gerddi, neuaddau cymunedol, ysbytai, capeli a phontydd. Mae ystod y mathau o berchnogaeth yr un mor amrywiol, ond mae'r rhain i gyd yn asedau cymunedol pwysig. Yn aml, talwyd amdanynt drwy danysgrifiadau gyda chysylltiadau personol â theuluoedd ac unigolion. Er bod rhai wedi dadfeilio, ni ddylem anwybyddu llwyddiant cynifer o fentrau cymunedol sy'n parhau i ofalu am y cofebion hyn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth gyda hynny. Mae'r ddogfen ganllaw, 'Gofalu am Gofebion Rhyfel yng Nghymru', a gynhyrchwyd gan Cadw ar y cyd â'r Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel, yn darparu canllawiau gyda'r nod penodol o helpu cymunedau i ofalu am eu cofebion rhyfel. Mae'n cynnwys cyngor ymarferol ar gadwraeth ac atgyweirio ac mae wedi'i darlunio'n hyfryd gyda ffotograffau o gofebion o bob rhan o Gymru, ac enghreifftiau o brosiectau cadwraeth llwyddiannus. Rwy'n annog yr holl Aelodau i'w darllen. Gellir ei lawrlwytho am ddim drwy wefan Cadw.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi cymorth ariannol hael i ddiogelu cofebion rhyfel rhag dadfeilio. Mae Cadw yn darparu grantiau i helpu i warchod henebion hanesyddol ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi cynnwys bron i £240,000 ar gyfer atgyweirio cofebion rhyfel. O dan y cynllun grantiau ar gyfer cofebion rhyfel, rhoddodd arian i 45 o brosiectau mewn cymunedau ledled Cymru. Cyn bo hir, bydd Cadw yn cyhoeddi cynllun grantiau newydd ar gyfer treftadaeth gymunedol a fydd yn cynnig grantiau o hyd at £15,000 i gefnogi'r gwaith o gynnal a chadw ac atgyweirio asedau cymunedol, a bydd cofebion rhyfel rhestredig yn gymwys i wneud cais am gymorth. Nawr, gwn fod Cadw bob amser yn awyddus i gefnogi asedau hanesyddol ledled Cymru sydd ag arwyddocâd arbennig i'w cymunedau, a'r peth olaf y dymunwn ei weld yw bod strwythurau ac adeiladau hanesyddol pwysig yn cael eu colli, yn enwedig y rheini sy'n golygu cymaint i bobl leol.
Mae cronfa dreftadaeth y Loteri Genedlaethol hefyd wedi bod yn hael iawn yn ei chefnogaeth i brosiectau. Yn ogystal â darparu'r £2.8 miliwn i ariannu'r gwaith o adfer Yr Ysgwrn, fel y soniais yn gynharach, darparodd dros £1 filiwn o gymorth grantiau i 126 o brosiectau coffa a arweinir gan y gymuned sy'n adlewyrchu treftadaeth rhyfel. Ac ar hyn o bryd mae'n gweithio gyda Cadw i ddarparu cynllun grant treftadaeth 15 munud newydd sy'n annog ymgysylltiad cymunedol â threftadaeth leol.
Ond yn ogystal ag ariannu gweithgareddau yng Nghymru, rydym hefyd wedi ariannu cofebion yn Ffrainc a Gwlad Belg, ac rwy'n falch ein bod wedi cefnogi'r gwaith o adnewyddu'r gofeb i'r 38ain Adran (Gymreig) yng Nghoed Mametz, a oedd yn un o'r pwyntiau ffocws ar gyfer gwasanaeth coffa cenedlaethol Cymru'n Cofio, a fynychwyd gan Brif Weinidog Cymru yn 2016. Rydym hefyd wedi ariannu'r heneb genedlaethol yn Pilkem Ridge yn Langemark yng Ngwlad Belg. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, er bod cofebion rhyfel mewn trefi a phentrefi ledled Cymru yno ar gyfer cymunedau lleol, fod cofebion ar safleoedd y brwydrau eu hunain yn darparu ffocws pwysig arall ar gyfer coffáu yn y mannau lle collwyd cynifer o fywydau.
Un pryder rydym i gyd yn ei rannu rwy'n siŵr—a gwn fod Paul wedi cyffwrdd â hyn, fel y mae siaradwyr eraill heno—yw'r difrod troseddol megis fandaliaeth sy'n effeithio ar y cofebion hyn. Yn anffodus, mae'r newyddion syfrdanol diweddar am ddifenwi'r gofeb i'r bardd Hedd Wyn ynghanol Trawsfynydd yn berthnasol i'n dadl heddiw. Rwy'n ymuno â'r gymuned leol i gondemnio'r weithred ffiaidd hon o ddiffyg parch at gofeb sy'n cynrychioli'r holl ddynion o Drawsfynydd a gollodd eu bywydau yn y rhyfel byd cyntaf. Rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gobeithio y daw'r heddlu o hyd i'r tramgwyddwyr cyn bo hir a'u dwyn o flaen eu gwell.
Yn anffodus, mae gennyf innau hefyd brofiad o enghraifft o fandaliaeth a ddigwyddodd yn fy etholaeth i heb fod yn bell yn ôl. Mae cofeb hardd ym mharc Troed-y-rhiw ym Merthyr Tudful ar ffurf cerflun o filwr. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd dryll y milwr, a wnaed o farmor, nid metel, ei ddwyn. Talwyd am yr heneb drwy danysgrifiad cyhoeddus, ac mae'r weithred hon o fandaliaeth yn amharchu'r cof am 73 o ddynion lleol y rhestrir eu henwau arni ac a fu farw yn y rhyfel byd cyntaf a'r ail ryfel byd, ac mae hefyd yn amharchu'r bobl leol a roddodd eu harian prin i adeiladu'r gofeb honno yn y lle cyntaf. Rwy'n falch o ddweud bod gwaith bellach ar y gweill i'w hatgyweirio, gyda chymorth gan yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel.
Nid yw gweithredoedd lleiafrif o fandaliaid yn cynrychioli barn y mwyafrif ac ni ddylid eu goddef. Mae gan yr heddlu bwerau eisoes i fynd i'r afael â fandaliaeth, a gellir erlyn cyflawnwyr o dan drosedd difrod troseddol, sy'n gallu golygu dedfryd o garchar. Mae troseddau treftadaeth yn rhywbeth sy'n cael ei gymryd o ddifrif yng Nghymru, ac mae Cadw yn gweithio'n agos gyda heddluoedd lleol i ymchwilio ac atal troseddau o'r fath, er mwyn annog y defnydd o ataliadau fel SmartWater, y cyfeiriodd Paul atynt, i ddiogelu cofebion sydd mewn perygl o gael eu dwyn. Rwy'n deall y gall unrhyw un sy'n gyfrifol am gofeb ryfel wneud cais i Sefydliad SmartWater am ddefnyddio'r cynnyrch hwn am ddim.
Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol yn chwarae rhan bwysig yn gofalu am gofebion rhyfel, yn benodol y rhai sydd o dan warchodaeth statudol, ac mae ganddynt bwerau hefyd o dan y ddeddfwriaeth bresennol i wneud gwaith i atgyweirio henebion. Mae llawer wedi cynnal mentrau i gefnogi ymgysylltiad y gymuned â chofebion. Felly, nid wyf yn credu bod angen defnyddio deddfwriaeth ychwanegol i bwyso arnynt i weithredu, ond yn hytrach eu bod yn cymryd rhan mewn ysbryd o bartneriaeth gydweithredol.
Mae pwysigrwydd cofebion rhyfel yn cael ei dderbyn yn eang, ac mae awdurdodau lleol ledled Cymru eisoes yn gwneud gwaith atgyweirio pwysig. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod lle i wella bob amser, ac rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau ar awdurdodau lleol i barhau i fod yn rhagweithiol yn eu cefnogaeth i gofebion rhyfel, ac i sicrhau eu bod yn chwilio am gyfleoedd i gynorthwyo cymunedau i ymgysylltu ar bob lefel. Gellir hwyluso hyn drwy swyddogion unigol o fewn awdurdodau lleol sy'n gweithio i annog partneriaethau, a hefyd drwy annog y defnydd o'r nifer fawr o adnoddau sydd ar gael yn y maes hwn, megis y pecynnau addysg dwyieithog a gynhyrchwyd i gefnogi ysgolion cynradd ac uwchradd ar Hwb.
Mae coffáu'n parhau i fod yr un mor bwysig heddiw â phan adeiladwyd ein cofebion gyntaf, felly diolch i Paul Davies unwaith eto am godi'r pwnc hwn heddiw a chydnabod y rôl y mae cofebion yn ei chwarae ym mywydau ein cymunedau heddiw a'r rôl y byddant yn ei chwarae yn y dyfodol. Diolch.