1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Medi 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penderfynodd eich Llywodraeth gyflwyno pasiau COVID. Rydych chi a fi wedi trafod rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau, yn ôl fel y digwydd, basbortau COVID, ar draws y Siambr hon. Yn amlwg, mae hwnna yn newid eithaf sylweddol o'r hyn y gwnaethoch chi, fel Prif Weinidog, ei ddweud wrthyf i yn ôl ym mis Gorffennaf am eich safbwynt personol. A wnewch chi esbonio i mi, felly, o gyflwyno'r pàs COVID, beth fydd wedi ei gynnwys o dan gategori clwb nos o dan y cyfyngiadau hyn?
Gallaf, mi allaf i wneud hynny yn hawdd iawn, Llywydd, ac rwy'n hapus iawn i wneud hynny. Oherwydd bydd yr Aelod yn ymwybodol bod y broblem hon, yr wyf i'n gweld ei bod wedi ei hailadrodd fel pe bai yn broblem, eisoes wedi ei datrys. Yn ôl yn gynharach yn yr haf, roedd tafarndai ar agor, roedd clybiau nos ar gau. Felly, roedd diffiniad cyfreithiol ar gael ac yn gweithredu yng Nghymru gan fod gwahanol reoliadau yn berthnasol i'r ddau sector. Clybiau nos oedd rhan olaf yr economi gyda'r nos i gael ailagor, ac fe wnaeth y rheoliadau wahaniaethu rhwng y ddau, ac yn gwneud hynny, o gof—felly, ymddiheuriadau os wyf i'n cofio hyn ychydig yn anghywir—o ddechrau'r haf, pan oedd tafarndai yn cael agor, tan fis Awst, pan oedd clybiau nos yn cael agor, ac mae'r rheoliadau yn nodi'r diffiniadau cyfreithiol sy'n gwahaniaethu rhwng un lleoliad a'r llall. [Torri ar draws.]
Rwy'n falch eich bod chi'n gallu egluro hynny, oherwydd rwy'n clywed aelodau eich meinciau cefn yn grwgnach yn y fan yna. Nid oedd eich Gweinidog iechyd ar Radio Wales yn gallu ei egluro brynhawn Gwener, a dywedodd y byddai'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach, yn ei hymateb, rwy'n credu. Felly, er eglurder—ac rwyf i wedi cael llawer o berchnogion yn fy ardal i, sy'n cynnwys dinas Caerdydd, sydd ag economi gyda'r nos fawr, yn amlwg, nad oedden nhw'n siŵr a fyddai'r rheolau hyn yn berthnasol iddyn nhw—y diffiniad blaenorol a oedd yn bodoli o dan gyfyngiadau COVID yw'r diffiniad a fyddai'n cael ei ddefnyddio i nodi'r hyn sy'n cael ei ystyried yn glwb nos yn hytrach na thŷ tafarn o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Un peth sy'n bwysig iawn yn fy marn i y mae angen i'ch Llywodraeth ei gyflwyno hefyd, Prif Weinidog, yw eich cynllun parodrwydd ar gyfer y gaeaf ar gyfer y GIG. Ar 15 Medi y llynedd, roedd hwnnw gennym ni fel Aelodau'r Cynulliad/Aelodau o'r Senedd, ac roeddem ni'n gallu ei ddadansoddi a gweld ei gadernid. Pryd byddwn ni'n gweld y cynllun parodrwydd ar gyfer y gaeaf yn cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru? Oherwydd yn y rhagolwg tair wythnos ar gyfer busnes yn y Senedd hon, nid oes unrhyw arwydd o bryd y bydd y cynllun hwnnw yn cael ei gyhoeddi.
Wel, Llywydd, mae yna gynllun yn bodoli, oherwydd yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yn rheolaidd yw diweddaru'r cynllun COVID y gwnaethom ei gyhoeddi yn ystod y pandemig. Y fersiwn ddiweddaraf o'r cynllun yw'r un a nododd y lefelau rhybudd ac yna cynnwys lefel rybudd 0, y lefel rybudd yr ydym ni wedi bod arni ers y chwe wythnos diwethaf bellach. Ein bwriad yw cyhoeddi fersiwn arall o'r cynllun i adlewyrchu'r sefyllfa wrth i ni fynd i mewn i'r gaeaf, ond bydd yn rhan o'r gwaith o ddiweddaru yn rheolaidd y cynllun sydd wedi bod ar gael—mae ar gael i'r Aelod neu unrhyw un arall ei archwilio. Ac, fel y dywedais i, yn rhan o'r dull yr ydym ni wedi ei fabwysiadu drwy gydol diweddariadau rheolaidd y cynllun rheoli coronafeirws, bydd fersiwn arall dros yr wythnos neu ddwy nesaf.
Rwy'n ddiolchgar am yr eglurder hwnnw, Prif Weinidog. Felly, rwy'n cymryd na fydd cynllun penodol o ran parodrwydd ar gyfer y gaeaf, fel y mae'r Llywodraeth wedi ei gyflwyno gerbron y Senedd yn hanesyddol. Fel y dywedais i, roedd un ar 15 Medi y llynedd a gafodd ei gyflwyno i ni bori drosto a gallu edrych a chraffu ar ei gadernid. Heddiw, rydym ni eisoes wedi gweld uwch feddyg ymgynghorol yn adrannau damweiniau ac achosion brys Hywel Dda yn nodi'r pwysau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn y rhan honno o Gymru. Rwy'n derbyn bod y pwysau hyn yn bodoli ar draws y Deyrnas Unedig, a dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael cynllun parodrwydd ar gyfer y gaeaf. A hefyd, o ran yr awgrym bod y fyddin yn mynd i mewn i gynorthwyo'r gwasanaeth ambiwlans, mae'n ymddangos bod rhywfaint o anghytuno ynghylch a yw'n opsiwn neu a yw'n ymrwymiad gwirioneddol. Rwy'n sylwi bod prif weithredwr y gwasanaeth ambiwlans yn sôn ei fod yn ymrwymiad bod y fyddin yn dod i mewn i helpu'r gwasanaeth ambiwlans. Roedd llefarydd Llywodraeth Cymru neithiwr yn sôn amdano fel opsiwn yn unig sydd yn cael ei ystyried ar hyn o bryd. A wnewch chi gadarnhau mai'r ffaith yw y bydd gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cael cymorth gan y fyddin, ac a wnewch chi gadarnhau pryd y gallai'r cymorth hwnnw fod ar gael i'r gwasanaeth ambiwlans yma yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Ar bob cyfrif, Llywydd. Rwy'n hapus i egluro i'r Aelodau y broses o allu sicrhau cymorth gan y lluoedd arfog. Ei henw yw'r broses MACA—cymorth milwrol i'r awdurdodau sifil—ac mae'r broses yn gweithio fel hyn: mae'n dibynnu ar gais, yn yr achos hwn, gan y bwrdd iechyd lleol, sy'n nodi natur y cymorth y byddai ei angen arno—mae'n ddrwg gen i, yn yr achos hwn, gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru—sy'n nodi natur y cymorth y byddai ei angen arni, y swyddi y mae'n credu y gallai personél y lluoedd arfog ei chynorthwyo â nhw, nifer y bobl y maen nhw'n credu y byddai eu hangen arnyn nhw. Daw'r cais hwnnw, yn gyntaf, i Lywodraeth Cymru. Mae'r cais hwnnw wedi dod i law bellach. Mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth naill ai i gymeradwyo 'r cais hwnnw neu ei anfon yn ôl ar gyfer gwaith pellach.
Drwy gydol y pandemig cyfan, bob tro rydym ni wedi cael cais o'r math hwnnw gan y gwasanaeth iechyd, rydym ni wedi ei gymeradwyo bob tro. Yna, mae'n rhaid i ni ei anfon ymlaen, gan mai'r Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n gyfrifol am y penderfyniad ynghylch pa un a ddylid cymeradwyo'r cais hwnnw ai peidio. Yn ystod y pandemig, mae'r rhan fwyaf o geisiadau wedi eu cymeradwyo, ond nid pob un. Felly, nid yw'n ymarfer sêl bendith; mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn edrych arno ac yn penderfynu a yw'n gallu helpu ai peidio. A dyna fydd y cam y byddwn ni arno nesaf, gan wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y cais gorau posibl i'r Weinyddiaeth Amddiffyn, a gan obeithio y byddan nhw'n gallu cynnig y cymorth y maen nhw wedi ei gynnig i ni ar raddau mawr iawn yn ystod y pandemig.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Datgelodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf fod lefelau llygredd o nitrogen deuocsid yn nhrenau dau-fodd newydd Great Western Railway, ar gyfartaledd, bum gwaith yn uwch, ac, ar lefelau brig, 20 gwaith yn uwch na'r rhai a gofnodwyd ar stryd fwyaf llygredig Cymru, Ffordd Hafodyrynys ger Crymlyn—yr ystyriwyd ei bod hi mor wael ei bod yn cael ei dymchwel yr wythnos hon. Dim ond ar y rhan o'r rheilffordd o Paddington i Bryste Temple Meads lle mae'r trenau yn defnyddio eu moduron trydan yn bennaf y cafodd astudiaeth y Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd ei chynnal, ac nid ar hyd yr adran yng Nghymru, lle defnyddir, o reidrwydd, diesel i raddau helaeth, ac mae'r lefelau llygredd dilynol yn debygol o fod hyd yn oed yn uwch. A wnaiff Llywodraeth Cymru ofyn i'r bwrdd ymestyn ei waith monitro i Gymru ar frys—y gogledd a'r de—fel y gallwn ni wybod beth yw'r sefyllfa bresennol o ran llygredd ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru?
Wel, roedd yn siom fawr, Llywydd, gweld adroddiadau'r Bwrdd Diogelwch a Safonau'r Rheilffyrdd, a bydd yn syniad da iawn yn wir pe baen nhw'n ymestyn ystod eu hymchwil i Gymru. Oherwydd, fel y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei ddweud, mae'n gwbl eglur, o'r hyn yr ydym ni wedi ei weld, mai'r pwynt lle mae'r lefelau nitrogen deuocsid hynny yn codi yw'r pwynt lle mae trenau yn newid o drydan i ddiesel. Ble yw'r man lle mae hynny yn digwydd amlaf? Wel, pan fydd trenau yn dod i mewn i Gymru. Gadewch i mi roi un gyfres o ffeithiau, Llywydd, i ddangos methiant gwarthus Llywodraeth y DU i roi sylw digonol i anghenion Cymru yn y maes hwn: yn Lloegr, mae 41 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; yn yr Alban, mae 25 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio; yng Nghymru, mae 2 y cant o'r trac wedi'i drydaneiddio. Dyna record y Llywodraeth Geidwadol—[Torri ar draws.]—yn y ffordd y mae wedi trin Cymru, gyda'i haddewidion, Llywydd, fel y cofiwn mewn etholiad cyffredinol i drydaneiddio'r brif reilffordd yr holl ffordd i Abertawe. Ni fyddwn i'n gwneud sylwadau o safle eisteddog pe bawn i'n arweinydd yr wrthblaid; byddwn i'n cadw'n dawel, gan obeithio nad yw pobl yn ei atgoffa o'i record.
Amddiffynnodd y Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig, David T.C. Davies, unwaith eto yr wythnos diwethaf y penderfyniad y ganslo trydaneiddio prif reilffordd de Cymru i Abertawe, gan ddadlau na fyddai wedi arwain at unrhyw fanteision i deithwyr. Nawr, byddai datgarboneiddio, ar wahân i'w effaith amgylcheddol gadarnhaol, wedi cael y fantais eithaf sylweddol i deithwyr o beidio â'u gwenwyno. Er nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli, ac eithrio rheilffyrdd craidd y Cymoedd, mae ansawdd aer. Felly, i ba raddau y gall Llywodraeth Cymru gymell Llywodraeth y DU i wyrdroi ei thro pedol ar drydaneiddio a rhoi'r gorau i drin Cymru fel stwmp sigarét rheilffyrdd Prydain?
Wel, mae arnaf i ofn nad yw'r ferf 'cymell' yn disgrifio'r sefyllfa yr ydym ni ynddi, ond yr hyn yr ydym ni'n sicr mewn sefyllfa i'w wneud yw mynd ati i ddadlau'r achos pryd bynnag y cawn ni gyfle i wneud hynny. Ac nid yw ein dadl dros drydaneiddio yn dod i ben gyda phrif reilffordd de Cymru chwaith, Llywydd; mae angen trydaneiddio rheilffordd arfordir gogledd Cymru hefyd, fel y gall gwasanaethau redeg rhwng gogledd Cymru, gogledd Lloegr ac yna ymlaen i Lundain. Rydym ni angen i seilwaith rheilffyrdd fod wedi ei ddatganoli, rydym ni angen setliad ariannu teg gydag ef, ac yna byddwn ni'n gallu blaenoriaethu a chyflawni datgarboneiddiad gwasanaethau rheilffyrdd, nid yn unig ar reilffyrdd craidd y Cymoedd, yr ydym ni eisoes yn ei wneud, ond ar y rhannau eraill hynny o'r system hefyd.
Mae esgeulustod cyfresol San Steffan o rwydwaith rheilffyrdd Cymru wedi gadael Cymru gyda'r trac hynaf ac yn y cyflwr gwaethaf yn y DU a'r trenau mwyaf araf a budr. Yr ateb amlwg yw i ni gymryd rheolaeth dros ein seilwaith ein hunain, ond, er bod San Steffan yn parhau i wrthsefyll, a allwn ni fforddio sefyll yn ein hunfan? Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig wedi awgrymu yn ddiweddar y dylid creu bwrdd rheilffyrdd Cymru, sy'n cynnwys Llywodraethau'r DU a Chymru, a chwaraewyr allweddol eraill fel Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, i ddatblygu cyfres o gynigion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd. Mae'r Athro Mark Barry, a sefydlodd metro de Cymru, wedi awgrymu cynllun buddsoddi 10 mlynedd y gallai'r bwrdd gytuno arno, gyda chyllid craidd gan Lywodraethau Cymru a'r DU. A yw'r Prif Weinidog yn gweld rhinwedd, o leiaf fel ateb dros dro, yn y syniad o fwrdd ar y cyd a chynllun Barry, a allai arwain o bosibl at gynnydd triphlyg i fuddsoddiad arfaethedig yn rheilffyrdd Cymru dros y degawd nesaf?
Wel, Llywydd, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig, ac os ydyn nhw'n fodlon dod at y bwrdd ar ffurf trefniant ar y cyd, yna yn sicr byddan nhw'n gweld ein bod ni'n awyddus i ddod o hyd i ffordd o helpu i wneud i hynny ddigwydd. Rydym ni'n ei wneud mewn rhannau eraill o gyfrifoldebau Cymru. Nid yw cyfiawnder ieuenctid wedi ei ddatganoli i Gymru; mae gennym fwrdd cyfiawnder ieuenctid ar y cyd, wedi ei gadeirio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a gan y bwrdd ei hun, ac mae wedi cyflawni rhai newidiadau rhyfeddol yma yng Nghymru. Nid yw'n amhosibl na allem ni wneud yr un peth o ran rheilffyrdd hefyd, ond mae angen partner parod arnom ni. Mae angen Llywodraeth y DU arnom ni sy'n barod i weithio gyda ni, yn hytrach na chredu mai'r ffordd o ymdrin â dyfodol y Deyrnas Unedig yw tynnu pwerau oddi wrth lefelau datganoledig bob amser, a meddwl bob amser mai nhw sy'n gwybod orau.