1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 5 Hydref 2021.
1. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi busnesau yn nhymor presennol y Senedd? OQ56948
Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mewn wythnos pan fo'r cymorth i fusnesau yng Nghymru a ariannwyd gan y cynllun ffyrlo wedi ei dynnu yn ôl gan Lywodraeth y DU, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i fusnesau Cymru.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod sector manwerthu sy'n ffynnu yn hanfodol i ddatblygiad economaidd pob cymuned ledled Cymru. Mae'n destun pryder i mi, fodd bynnag, fod bron i un o bob pum siop yng Nghymru yn wag bellach yn ôl Consortiwm Manwerthu Cymru. Un o'r prif ffactorau sy'n achosi dirywiad ein strydoedd mawr yw'r lefel uchel o ardrethi busnes yma yng Nghymru. Clywais eich ateb i fy nghyd-Aelod James Evans ynghylch hyn yr wythnos diwethaf, pan wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
'Pan fydd Llywodraeth Lafur yn gallu gweithredu'r polisi hwnnw ar gyfer Lloegr, yna bydd yr arian yn llifo i Gymru i ganiatáu i ni barhau i ddatblygu'r cynllun sydd gennym ni.'
Felly, Prif Weinidog, pam ydych chi wedi gwrthod polisi eich plaid yn Lloegr i ddiddymu ardrethi busnes pan mai Cymru yw'r unig ran o'r DU lle mae Llafur mewn grym ac yn gallu gweithredu hyn mewn gwirionedd? Diolch.
Wel, mae'n rhaid bod y sawl a ofynnodd y cwestiwn yn gwybod yr ateb iddo cyn iddi ddechrau'r cwestiwn. Mae'r arian sy'n dod i Gymru yn dibynnu ar benderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU, ac yna mae'r arian hwnnw yn cael ei drosglwyddo i Gymru drwy fformiwla Barnett. Y funud y bydd eich plaid chi yn Lloegr yn diddymu ardrethi busnes, bydd arian yng Nghymru i ni wneud yr un peth. Nid ydych chi wedi gwneud unrhyw addewid o'r fath. Bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn gwneud hynny; yna bydd arian yng Nghymru i ni allu rhoi sylw i ardrethi busnes yma.
Prif Weinidog, galwodd llythyr diweddar gan Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru at Aelodau'r Senedd am ymyriadau allweddol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau fel Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru i gael eu diogelu a'u datblygu. Gydag ansicrwydd parhaus ynghylch cyllid ar ôl yr UE, ac ymdrechion amlwg Llywodraeth y DU i adennill arian a phwerau, a ydych chi'n cytuno bod hyn yn fygythiad i allu Llywodraeth Cymru i ddatblygu atebion wedi eu llunio yng Nghymru i gynorthwyo busnesau yng Nghymru?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd, ac mae'n un pwysig iawn o ran cymorth busnes. Rwy'n cofio'r llythyr a ysgrifennodd y Ffederasiwn Busnesau Bach at yr Aelodau yn ôl ym mis Mehefin eleni. Yr oedd yng nghyd-destun y gronfa ffyniant gyffredin, a dywedodd y Ffederasiwn Busnesau Bach, beth bynnag fo ffurf y gronfa ffyniant gyffredin, ei bod hi'n hanfodol bod arian yn parhau i ddod i Gymru fel y gellir diogelu a datblygu seilwaith cymorth busnes craidd, gan gynnwys Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru, yn y dyfodol. Nawr, y gwir amdani, ar sail yr wybodaeth bresennol sydd gennym ni gan Lywodraeth y DU, yw y bydd cyllid Banc Datblygu Cymru yn cael ei leihau. Byddwn yn colli hyd at draean o'r arian yr ydym ni'n ei wario ar brentisiaethau yng Nghymru—mae hynny yn £30 miliwn bob blwyddyn. Byddwn ni'n colli £12 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi yn Busnes Cymru.
Felly, mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn gwbl hanfodol. Er mwyn i ni allu gwneud yr hyn y gofynnodd y cwestiwn gwreiddiol i ni ei wneud, mae angen i ni weld yr arian sydd wedi dod i Gymru yn y gorffennol, sydd wedi ein caniatáu i ni wneud y buddsoddiadau hynny, yn parhau i lifo yma. Os na fydd, ni ddylai neb gredu bod rhyw storfa gyfrinachol o arian ar gael i Lywodraeth Cymru y byddem ni'n gallu ei defnyddio i wneud yn iawn am y diffygion a fyddai'n bodoli wedyn o ran cyllid gan y Deyrnas Unedig. Byddwch chi'n cofio'r addewid,—rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn cofio'r addewid—na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Wel, rydym ni eisoes yn gwybod nad yw'r addewid hwnnw wedi ei gyflawni—£137 miliwn yn waeth ei byd o ran cyllid gwledig yn unig. Os na chawn ni'r arian newydd mewn cymorth busnes, yna mae'n anochel y bydd y pethau allweddol hynny y cyfeiriodd y Ffederasiwn Busnesau Bach atyn nhw yn ei lythyr at yr Aelodau o dan fygythiad.
Prif Weinidog, y cwbl roeddwn i eisiau ei ofyn mewn gwirionedd oedd cwestiwn cryno iawn am gymorth i ganol ein trefi. Fel y byddech chi'n cytuno, rwy'n siŵr, yn ystod cyfnod COVID, mae llawer o siopau bach wedi bod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau. Ac felly, byddai gen i ddiddordeb mawr mewn gwybod sut y byddwch chi'n cynorthwyo canol ein trefi yn y dyfodol. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr i Jane Dodds am y cwestiwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo canol trefi. Mae gan y gronfa Trawsnewid Trefi ddegau lawer o filiynau o bunnoedd ynddi yr ydym ni'n eu buddsoddi ledled Cymru i greu canol trefi'r dyfodol. Dyna'r pwynt yr wyf i bob amser yn ceisio ei wneud—os ydym ni'n credu y byddwn ni'n cynnal canol trefi ac, yn wir, y sector manwerthu dim ond trwy geisio mynd yn ôl i'r ffordd yr oedd pethau yn arfer bod, rwy'n credu bod yr ymdrech honno yn sicr o fethu. Mae dyfodol i ganol trefi, ond bydd yn dibynnu ar amrywiaeth ehangach o weithgareddau na manwerthu yn unig. Bydd yn cynnwys gweithgareddau hamdden, bydd yn cynnwys dibenion preswyl, bydd yn cynnwys pethau sy'n dod â phobl i ganol ein trefi mewn ffordd a fydd yn eu gwneud yn lleoedd bywiog y bydd pobl yn dymuno ymweld â nhw.
Nawr, mae amrywiaeth eang o bethau yr ydym ni'n eu gwneud: o un pen i'r sbectrwm, £200,000 i wneud yn siŵr y gellir gwella cysylltedd digidol mewn rhai o'n canol trefi mwyaf difreintiedig, i £15 miliwn o fuddsoddiad i ganiatáu i bob awdurdod lleol fynd i'r afael â'r adeiladau segur hynny sy'n rhy aml yn difetha canol trefi ac yn ei gwneud hi'n fwy anodd eu gwneud nhw'n lleoedd deniadol yr ydym ni'n dymuno iddyn nhw fod. Pan fyddwch chi'n rhoi hynny i gyd at ei gilydd, Llywydd, fel y dywedais i, mae'n dod i werth dros £100 miliwn o fuddsoddiad at y dibenion y mae Jane Dodds wedi tynnu sylw atyn nhw.