1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 5 Hydref 2021.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau ac, ar ran y Ceidwadwyr heddiw, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn 2019, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd. Ers y datganiad hwnnw, a allwch chi enwi un mesur arwyddocaol yr ydych chi wedi ei gyflwyno fel Llywodraeth i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd?
Wel, gallaf i enwi unrhyw nifer ohonyn nhw i'r Aelod, ond, os hoffai gael un yn unig, yna fe wnaf i sôn am y rhaglen ôl-osod tai yng Nghymru. Un o'r prif gyfranwyr at y newid yn yr hinsawdd yw'r ffaith bod gennym ni hen stoc dai, sy'n aneffeithlon yn y ffordd y mae'n defnyddio gwres, ac mae'r rhaglen ôl-osod fawr y mae Llywodraeth Cymru wedi ei chyhoeddi yn ein helpu ni i fynd i'r afael ag un o'r prif bethau y gallwn ni eu gwneud i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Wel, Prif Weinidog, roeddech chi'n gwneud rhywfaint o hynna cyn hynny, beth bynnag, a'r gwirionedd yw nad oes digon wedi ei wneud ers y datganiad hwnnw i fynd i'r afael o ddifrif â'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru. Nid yw'r cynnydd hyd yma wedi bod yn ddigon cyflym i sicrhau y bydd gan Gymru allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. A gadewch i mi eich atgoffa bod adroddiad gan y pwyllgor ar newid hinsawdd wedi dweud wrthym ni nad oedd Cymru ar y trywydd iawn ar gyfer ei tharged blaenorol o 80 y cant, heb sôn am sero-net. Ceir trefi a dinasoedd yng Nghymru sydd wedi adrodd am lefelau anghyfreithlon a pheryglus o lygredd aer yn y blynyddoedd diwethaf, a chredir bod llygredd aer yn cyfrannu at dros 2,000 o farwolaethau cynamserol. Ond nid ydym ni eto wedi gweld Deddf aer glân, er ei bod yn un o'ch ymrwymiadau maniffesto arweinyddiaeth eich hun yn ôl yn 2018. Ac, ar ben hynny, mae un o'ch Gweinidogion eich hun wedi cyfaddef ein bod ni ymhell y tu ôl i le mae angen i ni fod o ran targedau plannu coed, ar ôl plannu dim ond 80 hectar o goetir newydd yn 2019-20—y cyfanswm isaf ers degawd.
Ac mae llifogydd yn parhau i gael effaith enfawr ar ein cymunedau. Cafodd Pentre yn Rhondda Fawr ei daro gan lifogydd ar bum achlysur ar wahân yn 2020, er enghraifft, ac adroddwyd heddiw bod gwasanaethau tân yn y de, y canolbarth a'r gorllewin wedi eu llethu gan alwadau am lifogydd. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi enwi un gymuned sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru sy'n fwy diogel erbyn hyn oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru ers eich datganiad, ac a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu'r newid yn yr hinsawdd, o gofio bod cymunedau yn dal i wynebu effaith ddinistriol llifogydd ac o gofio bod eich Llywodraeth wedi methu â chyrraedd unrhyw dargedau arwyddocaol i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ers i chi ddatgan argyfwng hinsawdd?
Wel, mae'r Aelod yn awyddus iawn i gael ateb un enghraifft, felly Pontarddulais yw fy ateb i'w ail gwestiwn. Roeddwn i'n falch iawn o fod yno yn agoriad cynllun amddiffyn rhag llifogydd Pontarddulais, cynllun a fydd yn wir yn gwneud popeth a ofynnodd.
Yn fwy cyffredinol, edrychwch, os ydym ni'n synhwyrol am y pethau hyn, yna mae'n iawn, mae llawer mwy y mae'n rhaid i ni ei wneud er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ac mae hynny'n golygu bod rhai penderfyniadau anodd y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni eu hwynebu. Go brin y byddai adeiladu ffordd liniaru'r M4, er enghraifft, wedi cyfrannu at yr hyn y mae'n rhaid i'r wlad hon ei wneud i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Yr wythnos diwethaf, roedd aelodau o'r blaid honno yn gofyn i mi pam roeddem ni'n ymchwilio i gamau pellach yr oedd eu hangen i fynd i'r afael â chrynodiadau nitrogen ocsid ar hyd traffyrdd. Mae'r pethau hyn i gyd yn anodd. Yr hyn na allwch chi ei wneud yw dweud wrth y Llywodraeth, 'Mae'n rhaid i chi wneud mwy o hyn,' ond bob tro y mae'r Llywodraeth yn ceisio gwneud rhywbeth yn ei gylch—parthau perygl nitradau yn y diwydiant amaeth, er enghraifft—bob tro—[Torri ar draws.] 'Cywilyddus,' rwy'n clywed yr Aelod yn galw. Mae cwestiwn newydd gael ei ofyn i mi am y newid yn yr hinsawdd a llygredd, ac eto mae eich plaid chi yn gwrthod cymryd camau i ymdrin â nhw. Rwy'n gwneud y pwynt syml i'r Aelod o ran y pwyntiau y mae'n eu gwneud ynghylch yr angen i wneud mwy a'i wneud yn gyflymach—fy mod i'n cytuno ag ef. Yr hyn y mae hynny yn ei olygu yw bod cyfrifoldeb ar bob aelod o'r Siambr hon, pan fydd camau ymarferol yn cael eu cymryd, ni allwch chi geisio dweud, 'A, ond ni allwch chi wneud hynna.'
O, dewch yn eich blaen, Prif Weinidog, os mai modurwyr sydd wedi eu dal yn nhagfeydd parhaus yr M4 yw'r polisi mwyaf ecogyfeillgar sydd gan Lywodraeth Cymru, yna rydym ni mewn trafferthion difrifol, onid ydym ni? Nawr, Prif Weinidog, nid yn unig y mae'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein cymunedau a'n pobl, ond mae hefyd yn effeithio ar ein byd naturiol a'n bywyd gwyllt hefyd. Bydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol COP15 yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf i gytuno ar fframwaith bioamrywiaeth byd-eang newydd, a thrwy lofnodi datganiad Caeredin, mae Llywodraeth Cymru o leiaf wedi cydnabod y bygythiad difrifol y mae colli bioamrywiaeth yn ei achosi i'n bywoliaeth a'n cymunedau. Fodd bynnag, mae angen mynd i'r afael â'r argyfwng hwn ar frys hefyd. Mae Cymru yn syrthio y tu ôl i weddill y DU o ran dynodi ardaloedd morol gwarchodedig, nid yw Cymru eto yn bodloni pedwar nod hirdymor rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, a dangosodd adroddiad 'Sefyllfa Byd Natur' yr RSPB yn 2019 fod mwy na 30 y cant o rywogaethau wedi lleihau o ran dosbarthiad ers y 1970au— rhywogaethau fel gwiwerod coch a llygod y dŵr, a oedd yn gyffredin yng Nghymru ar un adeg ac sydd bellach wedi eu cyfyngu i ychydig o safleoedd ac sydd o dan fygythiad gwirioneddol o ddiflannu.
Felly, Prif Weinidog, gadewch i mi roi cynnig arall arni: a allwch chi enwi un rhywogaeth sy'n fwy diogel erbyn hyn, felly, oherwydd ymyrraeth Llywodraeth Cymru, ac o gofio mai un o nodau strategol COP26 ym mis Tachwedd yw addasu i ddiogelu cymunedau a chynefinoedd naturiol drwy ddiogelu ac adfer ecosystemau, a wnewch chi gadarnhau y bydd eich Llywodraeth bellach yn cyflwyno strategaeth frys cyn hynny i fynd i'r afael ag argyfwng natur Cymru?
Llywydd, rwy'n cytuno bod colli bioamrywiaeth yng Nghymru yn fater difrifol iawn a bod angen gwneud mwy er mwyn defnyddio'r cyfle sydd gennym ni tra'i fod dal gennym ni. Rwy'n credu mai un o'r pethau mwyaf trawiadol a ddarllenais yn yr adroddiad RSPB hwnnw oedd, os byddwn ni'n colli'r foment sydd gennym ni, y gallai rhywfaint o'r golled honno o fioamrywiaeth fod yn anadferadwy. Dyna pam y gwnaeth y Llywodraeth yn y gyllideb yn syth cyn argyfwng y coronafeirws ysgogi buddsoddiad gwerth £130 miliwn mewn colled o fioamrywiaeth ac adfer cynefinoedd. Mae'r cynllun lleoedd lleol ar gyfer natur sydd gennym ni yn golygu y gall bioamrywiaeth fod yn fater nid yn unig ar gyfer cynlluniau ar raddfa fawr, ond ar gyfer camau bach iawn y gellir eu cymryd, hyd yn oed mewn ardaloedd trefol poblog, lle gall y camau lleol hynny helpu i atgyweirio'r golled yr ydym ni wedi ei gweld ac i roi hyder i bobl y gall gweithredu ar y cyd, lle gallan nhw chwarae eu rhan, ein helpu o hyd i atgyweirio'r difrod sydd wedi ei wneud.
Nid wyf i'n derbyn bod Cymru y tu ôl i'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill yn hyn o beth. Mae gennym ni rai cynlluniau grymus ar waith gyda rhywfaint o gyllid yr ydym ni wedi gallu dod o hyd iddo i'w cefnogi. Ac mae'n rhaid yn awr i ni gymryd o ddifrif y ffaith, oni bai ein bod ni'n barod i weithredu tra bod gennym ni'r cyfle, efallai na fydd y cyfle hwnnw yn bodoli mwyach.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae aelodau pob un o bedwar undeb mwyaf y GIG bellach wedi pleidleisio i wrthod cynnig cyflog eich Llywodraeth o 3 y cant; a gwnaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru hynny o ganran enfawr o 94 y cant. A wnewch chi gytuno nawr i'w cais am drafodaethau cyflog ffurfiol?
Wel, Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau mewn trafodaethau gyda'r prif undebau llafur yng Nghymru ar y cynnig cyflog. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi dewis peidio â chymryd rhan yn y trafodaethau parhaus hynny. Byddwn i'n eu hannog i ddychwelyd at y bwrdd, oherwydd dim ond trwy drafodaeth y byddwn ni'n gallu dod o hyd i ateb.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog fy mod i wedi siarad gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol y bore yma, ac nid wyf i'n credu bod y sefyllfa yr ydych chi wedi ei hamlinellu yn rhoi'r darlun gwirioneddol—o'u safbwynt nhw, yn sicr—oherwydd yr hyn y maen nhw wedi ei ddweud yw eu bod nhw eisiau siarad gyda'r Llywodraeth am gynnydd i gyflogau ar draws y bwrdd ac rydych chi wedi gwrthod ymgysylltu â nhw ar hynny. Nid ydych chi'n cynnull pwyllgor negodi cyflogau fforwm partneriaeth y GIG, ac eto chi sydd i fod y Llywodraeth o bartneriaeth gymdeithasol. Pam nad ydych chi'n ei arfer?
Nawr, y rheswm y mae hyn yn bwysig ac yn fater brys yw bod chwyddiant fel y'i mesurir gan y mynegai prisiau defnyddwyr, fel y gwyddom ni, yn 3.2 y cant ar hyn o bryd—4.8 y cant os defnyddiwch chi'r mynegai prisiau manwerthu. Mae ar fin cynyddu hyd yn oed yn fwy. A ydych chi'n derbyn barn yr undebau—pob un o'r undebau—ac, yn wir, hyd yn oed arweinydd Plaid Lafur Prydain, fod cynnig codiad cyflog o 3 y cant bellach yn cynrychioli toriad cyflog mewn termau real? Oni fyddai hyn, yn sgil yr aberth arwrol dros y 18 mis diwethaf, yn gwneud tro gwael iawn â miloedd o weithwyr gofal iechyd?
Wel, Llywydd, gadewch i mi wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn ymwybodol o hanes hyn i gyd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru, yn aml yn dilyn anogaeth y mudiad undebau llafur, ymrwymo ein hunain i'r broses adolygu cyflogau annibynnol. Fe wnaethom ni sylwadau iddo. Fe gyhoeddodd adroddiad, ac argymhellodd gynnydd o 3 y cant i gyflogau, a phenderfynodd Llywodraeth Cymru anrhydeddu hyn. Er mwyn ariannu'r cynnydd hwnnw o 3 y cant i gyflogau, mae gennym ni gynnydd o 1 y cant gan Lywodraeth y DU. Felly, rydym ni'n gorfod dod o hyd i'r 2 y cant arall o'r adnoddau sydd ar gael i ni at ddibenion ac eithrio cyflogau. Cost pob 1 y cant y mae'r bil cyflogau yn y GIG yn ei godi yw £50 miliwn. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn dod o hyd i £100 miliwn, o adnoddau nad oedden nhw wedi eu hanfon atom ni at ddibenion cyflogau, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n bodloni argymhellion y corff adolygu cyflogau. Ydw i'n credu bod hynny yn ddigon? Nac ydw, dydw i ddim. Ydw i'n credu y gall Llywodraeth Cymru barhau i ddod o hyd i dalpiau o £50 miliwn er mwyn cynyddu'r dyfarniad cyflog uwchlaw a'r tu hwnt i'r hyn yr ydym ni'n cael ein hariannu i'w wneud? 'Nac ydw' yw'r ateb i hynny hefyd.
A Llywydd, gadewch i mi fod yn eglur, fel nad oes gan yr Aelodau unrhyw amheuaeth yn ei gylch: rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau gyda'r undebau llafur. Cefais gyfarfod â nhw fy hun; mae'r Gweinidog iechyd yn cyfarfod â nhw yr wythnos hon. Rydym ni'n sôn am becyn o fesurau efallai y gallem ni ei roi at ei gilydd. Nid yw'r trafodaethau hynny yn hawdd, credwch chi fi, oherwydd bod yr undebau llafur, yn gwbl briodol, yn dadlau yn gryf iawn ar ran eu haelodau. Ond ni allwch chi ddod o hyd i ateb os nad ydych chi'n barod i ddod at y bwrdd a chael y trafodaethau hynny. Nid yw'r Coleg Nyrsio Brenhinol wrth y bwrdd hwnnw. Byddai'n dda gen i pe baen nhw.
Ond nid ydyn nhw wrth y bwrdd oherwydd eich bod chi wedi diystyru trafod cynnydd i gyflogau ar draws y bwrdd gyda nhw. Nawr, o ran y rhan fwyaf o weithwyr y GIG—i'r rhan fwyaf ohonyn nhw, mae'r cynnydd o 3 y cant eisoes wedi ei ganslo gan gynnydd i gyfraniadau pensiwn. Bydd yr ardoll iechyd a gofal cymdeithasol newydd y flwyddyn nesaf yn dileu bron i hanner y cynnydd y flwyddyn nesaf, ac mae hynny cyn i chi hyd yn oed ystyried yr argyfwng costau byw ac erydiad cyflogau dros yr 11 mlynedd diwethaf. Nawr, mae gwaith ymchwil—[Torri ar draws.] Anhygoel fy mod i'n cael fy heclo gan Aelodau Llafur wrth i fi ddadlau'r achos dros weithwyr y GIG. Awgrymodd gwaith ymchwil y llynedd fod traean o nyrsys yn ystyried gadael y GIG, gyda'r mwyafrif yn cyfeirio at gyflogau.
A gaf i—?
Mae 1,600 o swyddi gwag yn y GIG yng Nghymru eisoes. Ar ôl y flwyddyn y maen nhw wedi ei chael, sut bydd cynnydd o 3 y cant i gyflogau yn argyhoeddi'r rhai sydd yn weddill i aros pan fydd hyd yn oed Llywodraeth Lafur yn gorfodi dyfarniad cyflog is na chwyddiant ar nyrsys? A allwch chi eu beio nhw mewn gwirionedd pan fo staff y GIG yn teimlo eu bod wedi cael cam, nad ydyn nhw'n cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol a'u bod nhw'n cael eu hanwybyddu?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n anghytuno â llawer o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod ar ddechrau yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud. Yr hyn y mae'n rhaid iddo ei wynebu yw: o ble fydd yr arian hwnnw yn dod? Rwy'n gweld rhestr o gwestiynau ar y papur trefn heddiw, llawer gan Aelodau ei grŵp ei hun, a fydd yn fy annog rwy'n siŵr i wario mwy o arian ar wahanol agweddau ar y gwasanaeth iechyd—mwy o arian. Ac eto, pe bawn i'n dilyn ei gyngor ef, byddai gennym ni lai o arian i wneud y pethau y bydden nhw'n gofyn i ni eu gwneud, oherwydd bod swm penodol o arian ar gael, ac, os bydd mwy ohono yn cael ei wario ar gyflogau, bydd llai ohono i ddarparu gwasanaeth. Mae hynny yn gydbwysedd anodd iawn i'w daro; rydym ni wedi ei daro drwy ddod o hyd i £100 miliwn i anrhydeddu argymhellion y corff adolygu cyflogau. Rydym ni'n parhau i drafod gyda'r rhan fwyaf o'r undebau llafur sy'n barod i ddod o amgylch y bwrdd a pharhau â'r trafodaethau hynny.
Pe bawn i'n dilyn y cyngor gor-syml yr wyf i wedi ei gael, creu arian hud o'r awyr i dalu pobl—yr wyf i eisiau eu talu, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod, eu bod nhw'n haeddu mwy, ond mae'n rhaid dod o hyd i'r arian hwnnw o rywle a dim ond trwy leihau hyd yn oed yn fwy ddarpariaeth gwasanaethau y bydd ei Aelodau ef, rwy'n gwybod yn fy annog i y prynhawn yma y dylem ni fod yn gwneud mwy i'w cynorthwyo, a hynny yn gwbl briodol, y gellid dod o hyd iddo.