– Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
Eitem 11, dadl Plaid Cymru, pwysau gaeaf y gwasanaeth iechyd gwladol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Mae hon yn ddadl sydd wedi cael ei hysgogi gan dreigl amser, treigl amser efo problemau yn dwysáu o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Y gaeaf yn nesáu, yn wir y teimlad bod pwysau'r gaeaf yma yn barod, ac eto ein bod ni heb weld cynllun gan y Llywodraeth ar gyfer y gaeaf eleni. Fe lwyddon nhw i'w gyhoeddi fo yn amserol iawn erbyn canol Medi y llynedd a hynny wedi'r misoedd hynod, hynod heriol yna adeg y pandemig. Y gwir amdani ydy bod cleifion angen yr hyder bod cynllun mewn lle a bod staff angen gwybod bod y camau mewn lle i o leiaf drio tynnu'r pwysau oddi arnyn nhw dros y gaeaf. Does dim ots faint o weithiau rydyn ni'n talu teyrnged i staff, rydyn ni'n dweud y geiriau unwaith eto: a hynny am eu hymroddiad a'u haberth, a'u gwaith drwy'r cyfnod diweddar, dydy geiriau ddim yn gwneud y tro, rywsut.
Dwi'n gwybod mai cefnogaeth mae staff yn chwilio amdano fo. Ers i ni gyflwyno'r cynnig yma, dwi yn falch bod y Llywodraeth wedi dweud bod y cynllun ar ei ffordd. Byddan nhw'n cyhoeddi cynllun y gaeaf ar 18 Hydref. Mi fyddwn ni'n disgwyl bron i bythefnos arall, ac mae yna, dwi'n gwybod, wir benbleth a siom ei bod hi wedi cymryd cyhyd, ond beth allwn ni wneud rŵan, wrth gwrs, efo pythefnos ar ôl, ydy trio dylanwadu ar y cynllun hwnnw, a beth rydyn ni eisiau ei wneud ydy amlinellu rhai o'r meysydd yna y mae rhanddeiliaid wedi dweud wrthym ni y maen nhw am eu gweld yn flaenoriaethau. Rydym ni wedi crynhoi'r mewnbwn hwnnw gan wahanol fudiadau a sefydliadau ar draws iechyd a gofal mewn i bump o feysydd rydyn ni'n credu sydd yn gwbl allweddol i'w cael yn iawn yn y cynllun y gaeaf yma, a dwi'n ddiolchgar iawn i'r rheini sydd wedi cyfrannu at y gwaith yma.
Mae'r rhaglen bum pwynt sydd gennym ni yn dilyn, mewn difrif, siwrnai y claf drwy wasanaethau gofal, achos mae'n rhaid edrych ar y system gyfan. Yn gyntaf, mae eisiau canolbwyntio ar yr ataliol—dwi'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno efo hynny—a hefyd arwyddo pobl i'r llefydd iawn i dderbyn gofal. Mae pethau mor syml â rhaglenni grutio palmentydd yn gallu bod yn werthfawr o ran atal damweiniau, hyd yn oed; mae sicrhau bod pobl yn gynnes yn eu cartrefi yn bwysig er mwyn atal llawer o broblemau iechyd. Ac, wrth gwrs, pan fydd pobl yn mynd yn sâl, fel sydd yn anochel i lawer, mae eisiau gwneud yn siŵr bod y negeseuon ar sut i gael mynediad i wasanaethau yn hollol glir, yn annog pobl i beidio â galw ambiwlans neu fynd i uned achos brys oni bai bod gwir angen gwneud hynny, er enghraifft, a sicrhau bod y ffyrdd amgen o gael gofal yn cael eu cefnogi'n iawn.
Mae'r ail bennawd gennym ni yn ymwneud â'r mynediad cyntaf un yna i ofal iechyd drwy ofal sylfaenol. Mae'n rhaid dod o hyd i ffyrdd o ryddhau amser staff iechyd i weld cleifion. Ymhlith y camau angenrheidiol yn fanna y mae cyflymu'r symudiadau at gyflwyno technoleg newydd—dadl yr ydym ni wedi'i chael yn y fan hon yn ddiweddar—yn cynnwys e-ragnodi, wrth gwrs. Mi all hyd yn oed mesurau fel dod â rhagor o staff, yn cynnwys meddygon teulu, yn ôl o ymddeoliad dros gyfnod y gaeaf fod yn rhywbeth y gellid gwneud gwaith brys arno fo. Ac mae sicrhau hefyd, dwi'n meddwl, mynediad i bobl hŷn at ofal sylfaenol yn allweddol, a dwi'n cyfeirio'r Gweinidog at adroddiad newydd gan Sefydliad Bevan mewn cydweithrediad efo Cynghrair Henoed Cymru, 'Mynediad pobl hŷn i wasanaethau meddyg teulu'. Mae'n ddogfen ymchwil bwysig iawn, dwi'n credu.
Yn drydydd, cryfhau gwaith diagnostig a chyfeirio. Mae rhaid gweld parhad, er enghraifft, gwasanaethau sgrinio drwy'r gaeaf. Mae yna risg go iawn y gall cyfraddau goroesi canser lithro'n ôl am y tro cyntaf ers degawdau, ac mae'r gaeaf heb os yn hynny o beth yn creu sialensiau ychwanegol. Mae'n rhaid sicrhau bod gwasanaethau canser yn cael eu gwarchod y gaeaf yma, bod cleifion yn derbyn diagnosis a thriniaeth brydlon, ac wrth gwrs mae angen rhoi hyn yn y cyd-destun ehangach mwy hirdymor, yr angen am gynllun canser cenedlaethol. Mae materion y gweithlu yn gyffredinol yn faterion mwy hirdymor hefyd, ond mae eisiau rhywsut gallu blaenoriaethu'r elfen yna o gryfhau gweithlu sydd angen sylw rŵan, yn syth, y gaeaf yma.
Y bedwaredd thema, yr her o gynyddu capasiti: dwi'n edrych ymlaen i glywed datganiad y Llywodraeth wythnos i ddydd Llun, a dwi'n gobeithio y bydd ymrwymiad i greu hybs COVID-lite cadarn yn rhan o hynny.
Ac, yn olaf, mae trefniadau'r gaeaf yma o ran sicrhau llif cleifion drwy'r system iechyd ac ymlaen i ofal cymdeithasol yn bwysicach nag erioed. Mi glywn ni fwy am hynny gan fy nghyd-Aelod i yn y man. Rydyn ni wedi clywed am brofiadau pobl efo'r gwasanaeth ambiwlans, er enghraifft. Mewn un llythyr y cefais i yr wythnos yma, roedd rhywun wedi aros bron 24 awr am ambiwlans. Llif cleifion drwy'r system ydy'r broblem yn y fan honno. Rydyn ni i gyd wedi clywed profiadau tebyg.
Does yna ddim cuddio'r her o'n blaenau ni y gaeaf yma. Mi fydd angen adnoddau sylweddol, ond mi fydd angen arloesedd syniadau hefyd. Felly, dwi'n edrych ymlaen at glywed y cyfraniadau y prynhawn yma.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, i gynnig yn ffurfiol welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Yn ffurfiol.
A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ail ddadl bwysig hon y prynhawn yma? Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydym yn llwyr gefnogi cynnig Plaid Cymru, felly byddwn yn cefnogi hwnnw heddiw. Wrth gwrs, rydym ni fel Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn galw am gynllun pwysau gaeaf ers cryn dipyn o amser, felly nid oes amheuaeth nad yw'n gwbl hanfodol cael y cynllun hwnnw i ddangos i'r Senedd hon, i ddangos i bobl Cymru a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, beth yw cyfarwyddyd y Gweinidog i'n byrddau iechyd ar adeg pan wyddom nad oes digon o staff ar gael a phan fydd rheoli ac atal heintiau'n mynd yn anos.
Yn drasig, y gaeaf diwethaf gwelsom bobl yn marw oherwydd trosglwyddiad COVID-19 o un ward i'r llall mewn mannau a ddylai fod yn ddiogel i gleifion, felly ni allwn fforddio caniatáu i hyn ddigwydd eto fel y gwnaeth y llynedd. Gwyddom fod rhestrau aros yn dal i fod yn hir iawn: mae un o bob pedwar yn dal i aros dros flwyddyn am driniaeth ac mewn cymhariaeth, yn Lloegr mae'r ffigur hwnnw'n un o bob 16. Felly, ni all cleifion Cymru sydd wedi bod yn aros dros flwyddyn fforddio aros yn hirach am driniaeth hanfodol, oherwydd gwyddom y rhesymau am hynny.
Fel y gwnaeth Rhun wrth agor, rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth y byddant yn cyhoeddi eu cynllun ar 18 Hydref. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod hynny fis yn ddiweddarach nag y'i cyhoeddwyd gan ragflaenydd y Gweinidog y llynedd, yn 2020, ac wrth gwrs daw'r cynllun ar ôl pwysau parhaus gan y gwrthbleidiau dros yr wythnosau diwethaf hefyd.
Nawr, fel rhan o'r cynllun hwnnw, mae angen inni weld gweithredu'n digwydd mewn nifer o feysydd. Mae arnom angen y wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd hon yng Nghymru am y cynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud ar y cynlluniau a gyflwynwyd gan fyrddau iechyd lleol ar gyfer hybiau rhydd o COVID; mae arnom angen diweddariad i'r Senedd hon yng Nghymru ar greu canolfannau diagnosis cymunedol, fel y gellir dod o hyd i'r rhai a allai fod â chanser neu gyflyrau eraill yn gyflym; mae arnom angen diweddariad i'r Senedd hon fel rhan o'r cynllun hwnnw ar gynnydd rhaglen brechiad atgyfnerthu COVID a ffliw, a sut y caiff hyn ei weithredu drwy gydol yr hydref a'r gaeaf; mae arnom angen y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â sut y mae ysbytai'n cynllunio ar gyfer rheoli ac atal heintiau'n well drwy gydol cyfnod y gaeaf; hefyd, wrth gwrs, mae angen inni gael y wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am gynlluniau ar gyfer gofal brys y gaeaf hwn.
Credaf fod staff y GIG, cleifion ysbyty a chleifion Cymru yn gyffredinol angen sicrwydd fod gan Lywodraeth Cymru gynllun i'w cadw'n ddiogel y gaeaf hwn, felly fel Ceidwadwyr Cymreig byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn heddiw. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rwy'n dyfalu ein bod i gyd yn gyfarwydd â phwysau arferol y gaeaf sy'n dod gyda thymor y ffliw, a'r straen cyffredinol ar iechyd yn ystod y gaeaf, a'r effaith y mae hynny'n ei chael ar ein meddygfeydd a'n hysbytai. Y tro hwn, wrth gwrs, gyda COVID a'r ôl-groniad cynyddol o driniaethau, mae'r pwysau'n debygol o fod hyd yn oed yn fwy nag arfer.
I mi, fel cynrychiolydd Dwyrain Casnewydd, Ddirprwy Lywydd, yr hyn a welaf yn awr yn fy mag post yw llawer o bryder ynghylch mynediad at wasanaethau meddygon teulu, ynghylch pethau sylfaenol fel y system ffôn a gallu cael apwyntiadau wyneb yn wyneb pan fo'n briodol. Mae'n amlwg fod rhai o'r problemau'n rhagflaenu'r pandemig, ond maent yn sicr wedi gwaethygu, a chredaf fod y cyngor iechyd cymuned, er enghraifft, wedi dangos tystiolaeth o hynny yn eu gwaith.
Mae'n broblem sylfaenol, gyda phobl yn ffonio'n barhaus ac yn methu mynd drwodd ar y ffôn o fewn y cyfnod dynodedig pan gânt drefnu apwyntiad y diwrnod hwnnw. Pan lwyddant i fynd drwodd, mae'n rhy hwyr i drefnu apwyntiad y diwrnod hwnnw a dywedir wrthynt am ffonio yfory, ac yna byddant yn mynd drwy'r un profiad eto, ac yn amlwg, maent yn anobeithio ynglŷn â chael yr apwyntiad wyneb yn wyneb y maent am ei gael. Wrth gwrs, credaf fod hynny'n arwain at bwysau ychwanegol ar ofal heb ei drefnu adrannau damweiniau ac achosion brys mewn ysbytai, oherwydd bydd rhai pobl yn mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys wedyn pan na ddylent wneud hynny. Ceir problemau pellach yno gyda rhyddhau o'r ysbytai ac argaeledd staff gofal cartref a chartrefi gofal.
Mae'r fath goctel o broblemau'n bodoli ar hyn o bryd, ac i ryw raddau, roedd yn bodoli cyn y pandemig, ond mae'n sicr wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19. Tybed beth y gall y Gweinidog ei ddweud heddiw am weithredu gan Lywodraeth Cymru ar hyn. I ba raddau y ceir asesiad o'r problemau hyn, gan weithio gyda'r byrddau iechyd lleol, i ddeall pa wasanaethau meddygon teulu sy'n cael problemau penodol, er enghraifft, gyda'u systemau ffôn, pa uwchraddio sy'n digwydd i'r systemau ffôn hynny er mwyn datrys y problemau, pa feddygfeydd meddygon teulu sy'n cael problemau penodol gyda darparu'r hyblygrwydd angenrheidiol mewn perthynas ag apwyntiadau wyneb yn wyneb, a beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hynny? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r cyngor iechyd cymuned i ddeall y dystiolaeth a phrofiadau pobl?
Rwy'n gwybod bod angen hyblygrwydd, Ddirprwy Lywydd. Mae rhai pobl eisiau defnyddio'r technolegau newydd i gyrchu gwasanaethau, ond mae rhai eisiau gwasanaethau wyneb yn wyneb, a phan fyddant yn briodol, mae'n amlwg fod angen eu darparu. Felly, byddwn yn ddiolchgar am rai ymatebion gan Lywodraeth Cymru i'r materion penodol hynny.
Mae pobl hŷn yn rhan fawr a phwysig o'm portffolio i ar gyfer Plaid Cymru. Yn ystod yr wythnos diwethaf, ces i gyfle i wneud webinar gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Roedd yn sesiwn ar-lein a lansiodd adroddiad cyflwr y genedl gan y comisiynydd. Un o'r prif bwyntiau oedd yn cael ei wneud yn ystod y webinar oedd y dirywiad sylweddol yn iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn oherwydd y pandemig. Canfu'r adroddiad hefyd bod pobl hŷn wedi ei chael hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau yn y gymuned, yn enwedig gwasanaethau iechyd a gofal, dros y 18 mis diwethaf.
Roedd un ystadegyn yn yr adroddiad yn amlwg iawn i mi, sef bod llai na chwarter o bobl hŷn yn ei chael hi'n hawdd cael gafael ar wasanaethau iechyd ar-lein. O ystyried ein bod ni'n byw fwyfwy mewn oes ddigidol gyda llawer o wasanaethau a oedd unwaith yn wasanaethau wyneb yn wyneb yn mynd ar-lein, mae hyn yn golygu bod pobl hŷn yn cael eu hamddifadu fwyfwy a'u gwthio i ymylon cymdeithas. Dydyn ni'n methu â gadael i hyn barhau, a hoffwn glywed sut mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu mynd i'r afael â'r broblem gynyddol yma.
Un agwedd ar iechyd sy'n fwy tebygol o effeithio ar bobl hŷn, ond sydd hefyd yn gallu taro pobl o unrhyw oed, yw gwasanaethau canser. Mae lle i wella yn y gwasanaethau hyn os ydym am sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion. Byddai'n ddefnyddiol cael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar ganser. Mae angen inni weld arweinyddiaeth gref ar gyfer canser yng Nghymru, a dylai cynlluniau clir gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer olrhain cynnydd tuag at y tymor hwy. Mae Plaid Cymru hefyd am weld mwy o fuddsoddi mewn staff, offer a seilwaith os ydym am wella cyfraddau goroesi canser.
Mae'r bylchau yng ngweithlu'r GIG yn parhau i fod yn bryder mawr sy'n llesteirio'r galw cynyddol ac ymdrechion i leihau amseroedd aros a gwella canlyniadau. Dylid buddsoddi yng ngweithlu'r GIG ar frys. Gwyddom fod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, ac eto mae bob amser i'w weld fel pe bai'n dal Llywodraethau olynol ar y droed ôl. Rhaid cael ffordd o dorri'r cylch o un argyfwng y gaeaf ar ôl y llall. Credaf fod llawer mwy o gyfle i gyflawni mesurau ataliol, fel rhaglen raeanu fwy trwyadl a chynhwysfawr ar gyfer palmentydd. Bob gaeaf, mae llawer o bobl mewn adran damweiniau ac achosion brys am eu bod wedi torri esgyrn ar ôl llithro ar balmentydd rhewllyd. Bydd llawer o gynghorau'n ymatal rhag graeanu palmentydd a phrif lwybrau cerdded oni bai bod cyfnod hir o eira neu rew; nid oes ganddynt adnoddau i'w wneud.
Yn fy mhrofiad fy hun fel cynghorydd cymuned, gwn mai diffyg adnoddau yw'r rheswm mwyaf cyffredin pam y bydd awdurdod lleol yn gwrthod gwneud hyn pan ofynnwn ar ran trigolion. Dylem ofalu am ein palmentydd yn ogystal â'n ffyrdd. Nid yw'n dderbyniol gofyn i bobl aros gartref yn ystod y tywydd oer oherwydd diffyg adnoddau. Drwy fod yn rhagweithiol ar hyn a rhoi adnoddau ac arweiniad i awdurdodau lleol weithredu arno, byddwn yn caniatáu i bobl fyw eu bywydau drwy gydol y gaeaf yn ogystal â lleddfu'r baich ar y GIG. Gobeithio y gall y Llywodraeth gefnogi hynny.
Rydych yn llygad eich lle; bob blwyddyn cawn aeaf. Mae cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf yn rhywbeth rhesymol i ofyn amdano, ac fel y nododd cyd-Aelodau y prynhawn yma, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gosod ei hamcanion fel mater o drefn er mwyn i'n system iechyd a gofal allu ymateb i bwysau galw tymhorol cynyddol tra'n ceisio darparu gofal wedi'i gynllunio a llawdriniaethau. Yn wir, roedd cynllun o'r fath ar gael ar gyfer y cyfnod diweddaraf, 2020-21. Er iddo gael ei gyhoeddi yn ystod y pandemig ac mewn ymateb iddo i raddau helaeth, dangosodd fod gan y Llywodraeth rôl yn arwain a chefnogi ein gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod cyfnod heriol. Yn fy marn i, mae arnom angen cynllun, targed cyflawn gydag adnoddau da, wedi'i dargedu at y mesurau y dylai ein swyddogion wybod eu bod yn mynd i weithio er mwyn sicrhau y gall iechyd a gofal gydweithio'n agosach wrth ymateb i'r galw.
Gwyddom fod risg uwch y bydd angen i gleifion ffliw fynd i'r ysbyty. Byddai tymor y ffliw y llynedd wedi bod yn wannach oherwydd y mesurau a weithredwyd i ymdopi â COVID, megis cau lleoliadau cymdeithasol a phobl yn methu cymysgu yng nghartrefi ei gilydd neu wedi'u cyfyngu i raddau helaeth rhag gwneud hynny. Felly, er y byddai nifer yr achosion o'r ffliw wedi bod yn llai, bydd lefel yr imiwnedd hefyd yn is am y byddai llai o gyfle i gymysgu â theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Bydd y risg, felly, o fwy o bobl yn mynd yn sâl eleni, ac yn fwy sâl, ychydig yn uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol, ac mae angen cynllunio ar gyfer hynny.
Rwyf hefyd am i'r Llywodraeth fod yn agored ac yn onest ynghylch niferoedd y bobl dros y gaeaf sy'n dal y ffliw a chael eu derbyn i'r ysbyty. I gefnogi ein system iechyd a gofal, credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried amrywiaeth o gamau gweithredu. Rhif 1: asesu'r capasiti mewn gofal sylfaenol ac a oes angen gwelliannau tymor byr yn yr ystod o dimau amlddisgyblaethol i helpu i'n cael drwy gyfnod y gaeaf. Bydd llawer o bobl angen cael eu gweld mewn gofal sylfaenol, gan gynnwys y tu allan i oriau, felly mae sicrhau capasiti a chymysgedd sgiliau cywir yn hanfodol. Rhif 2: mae angen inni sicrhau hefyd fod cymorth ar gael i wella mesurau rhyddhau cynnar o ysbytai er mwyn lleihau hyd arosiadau mewn ysbytai acíwt a chymunedol, a lleihau'r straen ar reoli gwelyau. Rhif 3: mae angen inni nodi capasiti yn ein hysbytai ar gyfer y bobl fwyaf oedrannus y bydd angen eu derbyn, yn anffodus, mewn ymateb i'r ffliw. Yn absenoldeb cynllun penodol, a chan gymryd y bydd y Gweinidog y prynhawn yma yn diystyru'r galwadau hyn, byddaf am gael sicrwydd fod y Llywodraeth yn archwilio ystod o fesurau, gan roi ystyriaeth lawn i faint posibl yr her dros y misoedd nesaf. Mae pobl wedi bod yn rhybuddio am hyn ers peth amser; nawr yw'r amser i weithredu. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch yn fawr am y ddadl. Mae arnaf i ofn na fydd hi ddim yn bosibl i fi fanylu ar yr holl bwyntiau—nifer sydd yn ddilys iawn, dwi'n meddwl—yn ystod y pedair munud nesaf, ond mi gawn ni gyfle, gobeithio, unwaith y bydd y cynllun gaeaf yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf.
Eleni, mae'r pwysau ar y system iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn gwbl ddi-baid. Mae effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol pandemig COVID-19 wedi ei gwneud hi'n anodd tu hwnt i staff rheng flaen ymroddedig. A gall y gaeaf hwn, unwaith eto, fod y mwyaf heriol yn hanes y GIG, gyda gofynion parhaus y pandemig a galwadau cynyddol am wasanaethau iechyd eraill—effaith feirysau anadlol y gaeaf, fel y mae Altaf Hussain newydd ei grybwyll, y bregusrwydd yn ein system gofal cymdeithasol y soniodd sawl un amdano, yr angen i barhau â mesurau rheoli atal heintiau, a gorflinder ymhlith staff y GIG, gyda rhai ohonynt yn absennol o'u gwaith gyda COVID.
Amlinellir ein dull o reoli'r pandemig yng nghynllun rheoli'r coronafeirws, sy'n cael ei ddiwygio a'i ailgyhoeddi wrth i'r sefyllfa newid. Gwnaethom hefyd gyhoeddi dogfen edrych ymlaen ym mis Mawrth, yn dangos sut y byddem yn ailadeiladu'r GIG. Yng ngoleuni pwysau cynyddol, gwnaethom adolygu ac ailgyhoeddi ein fframwaith dewisiadau lleol yn ddiweddar i gefnogi penderfyniadau lleol i ddiogelu cleifion a staff. Ac mae disgwyliadau cynllunio yn cael eu cyfleu'n flynyddol i sefydliadau'r GIG drwy ein fframwaith cynllunio. Gofynnwyd i sefydliadau ledled Cymru weithio mewn partneriaeth i ddatblygu cynlluniau i fodloni gofynion iechyd a gofal cymdeithasol pobl Cymru yn ddiogel. Mae'r amrywiadau yng nghyfraddau achosion COVID-19 yn ychwanegu at gymhlethdod cynllunio gwasanaethau, ac mae angen inni barhau i fod yn barod i ymateb i amgylchiadau sy'n newid yn gyflym.
Yn ddiweddarach y mis hwn, fel y gwyddoch, byddwn yn cyhoeddi ein cynllun gaeaf cynhwysfawr ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i nodi ein blaenoriaethau mewn ymateb i bwysau disgwyliedig ac eithriadol y gaeaf. Mae'r blaenoriaethau hyn eisoes yn hysbys, a chyflawnir rhai ohonynt yn barod ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, gyda ffocws ar leihau'r risg y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl a chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Rwy'n falch o ddweud bod llawer o'r pwyntiau y soniodd Rhun ap Iorwerth, yn sicr, amdanynt ynglŷn â'r angen i edrych ar atal, a sicrhau ein bod yn cyfeirio pobl i'r lleoedd iawn—mae llawer o hynny eisoes yn digwydd. Mae gennym ymgyrch Helpwch Ni i'ch Helpu Chi sy'n mynd i'r afael â'r materion y gofynnodd John Griffiths amdanynt: sut y mae dweud wrth bobl ble i fynd? Sut y mae cael pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau cywir? Felly, mae llawer o hynny'n cael ei wneud eisoes, a gwyddom fod angen inni gadw'r ffocws ar leihau'r risg y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl a chadw pobl yn ddiogel ac yn iach.
Bydd y blaenoriaethau hyn yn cael eu cefnogi gan ein buddsoddiad o £140 miliwn ar gyfer adfer a £48 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i'r staff iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob cwr o Gymru. Maen nhw wedi gweithio'n ddiflino, gydag ymroddiad a thosturi, i ddarparu gwasanaethau drwy gydol y pandemig. Mae diogelu iechyd a lles ein staff yn un o'n prif flaenoriaethau ni y gaeaf hwn. Dwi'n edrych ymlaen at roi gwybodaeth fanylach pan fyddwn ni'n cyhoeddi ein cynllun gaeaf ni cyn hir.
Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch am gyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriad at broblemau cyfarwydd iawn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, ac wedi clywed llawer o syniadau ar draws y pleidiau, a bod yn deg, ar gyfer yr ymateb y gellid ei roi mewn lle. O ran y Gweinidog, dwi ddim yn meddwl y byddem ni'n disgwyl mwy, ychydig ddyddiau, neu lai na phythefnos, cyn cyhoeddi'r cynllun ei hun, nag amlinelliad o rai o'r egwyddorion fydd yn cael eu dilyn ganddi, ac mi edrychwn ni ymlaen at weld cyhoeddi'r adroddiad hwnnw, hyd yn oed os ydw i'n gorfod ychwanegu'r geiriau 'o'r diwedd' ar ddiwedd hynny hefyd.
Allwn ni ddim dod allan o'r gaeaf yma mewn gwaeth sefyllfa nag yr ydyn ni'n mynd i mewn iddo fo, mewn difrif, a hynny oherwydd cyflwr truenus gwasanaethau oherwydd y pwysau sydd wedi bod arnyn nhw. Bellach na hynny, mae'n rhaid, rhywsut, i'r gwasanaeth allu delio efo pwysau ychwanegol y gaeaf yma—gaeaf COVID arall, wrth gwrs—a dod allan ohono fo efo arwyddion clir, beth bynnag, bod sefyllfa gyffredinol gwasanaethau iechyd a gofal a'r prognosis ar gyfer y gwasanaethau hynny'n edrych yn well, a dyna'n sicr yr her sydd o'n blaenau ni.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r eitem tan y bleidlais a fydd yn digwydd yn y cyfnod pleidleisio.
Cyn cynnal y bleidlais, fe fyddwn ni'n cymryd toriad byr i sicrhau bod y dechnoleg a phopeth yn barod.