2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 6 Hydref 2021.
6. Sut mae'r Gweinidog yn sicrhau bod pob prosiect adeiladu ysgolion newydd yn ddi-garbon? OQ56953
Mae gan y sector addysg rôl sylfaenol yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd. Roeddwn yn trafod hyn mewn cyfarfod ag Aelodau eraill o'r Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol y bore yma. Dyna pam y mae carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol o dan fuddsoddiad y rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a pham y mae cyllid ychwanegol eisoes ar gael i gefnogi prosiectau peilot carbon sero-net mewn ysgolion.
Nid wyf yn hollol siŵr a yw carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol neu'n rhwymedigaeth ym mhob prosiect newydd, felly efallai y gallech egluro hynny. Roeddwn eisiau tynnu sylw at y ffaith fy mod, mewn bywyd blaenorol, yn arolygydd lleyg gydag Estyn, ac roeddwn mewn ysgol yn y Cymoedd—roedd hyn dros ddegawd yn ôl—a oedd wedi gosod pwmp gwres o'r ddaear yn ei adeilad newydd, ond roeddent yn dweud na wyddent sut i'w ddefnyddio, felly roeddent yn dal i ddefnyddio nwy. Nid oedd hynny'n ymwneud â'r hyn yr oeddem yn ei arolygu mewn gwirionedd, ond gadewais y lle gan feddwl, 'Mae hyn yn ofnadwy.' Rwy'n ymwybodol o ysgolion yng Nghaerdydd lle nad yw'r system ddŵr llwyd, er enghraifft, erioed wedi gweithio, neu mae'r systemau digidol ar gyfer rheoli adeiladu mor gymhleth fel nad oes neb yn gwybod sut i'w defnyddio. Felly, Weinidog, beth a wnewch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn codi'r safon mewn gwirionedd ac yn sicrhau, pan fyddant yn cymeradwyo prosiectau, eu bod yn gwybod bod pob system yn yr adeilad yn gweithio'n iawn a bod y defnyddiwr terfynol, sef yr ysgol, yn gwybod sut i ddefnyddio'r offer hwn?
Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, os caf fi ddweud. Ar y pwynt cyntaf, mewn perthynas â charbon sero-net, rydym ar y daith i sicrhau bod pob ysgol yn ysgol carbon sero-net, ond yn amlwg, nid ydym yn agos at gyrraedd y lan ar hyn o bryd. Ein tasg fel Llywodraeth yw gwneud cynnydd mor gyflym â phosibl ar hyd y llwybr hwnnw. Y rôl y mae'r cynlluniau peilot yn ei chwarae yn hynny o beth yw ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau a nodwyd gan yr Aelod yn ail ran ei chwestiwn, sef sut y gellir cyflawni rhai o'r gofynion polisi hynny'n ymarferol. Felly, mae cwestiynau yma am aeddfedrwydd peth o'r dechnoleg, am rai problemau capasiti y gadwyn gyflenwi. Mae pob un o'r rheini'n gyfyngiadau ymarferol ar ba mor gyflym y gallwn symud ar hyd y llwybr hwnnw. Ond dyna rôl y cynllun peilot—ein helpu i wneud hynny'n gyflymach.
Ar yr ail bwynt, ynglŷn â sut y cysylltwn y gwaith o adeiladu'r adeilad â gweithrediad yr adeilad, fel y dywed ei chwestiwn, er mwyn cael gwerth llawn o'r buddsoddiad hwnnw a'r budd llawn yn amgylcheddol, mae angen inni sicrhau bod dealltwriaeth rhwng awdurdodau lleol a'u rheolwyr ystadau ynglŷn â sut y mae'r adeiladau di-garbon newydd yn gweithio. Un o'r materion y mae'r prosiectau peilot yn eu harchwilio yw sut y gallwn ddatblygu adnoddau addysgu a dysgu, i gefnogi'r ysgolion eu hunain a hefyd i ddarparu cymorth a hyfforddiant technegol i helpu'r staff i gynnal a gweithredu'r ysgolion mewn ffordd sy'n eu galluogi i fanteisio'n llawn ar y pethau hyn.
Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi targed lleihau allyriadau carbon o 37 y cant erbyn 2025, a 67 y cant erbyn 2030. Pa asesiadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud o allbwn carbon presennol ein hysgolion a pha fuddsoddiad sydd ei angen ganddo i gynorthwyo pob ysgol i gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon ei Lywodraeth?
Wel, gan adleisio'r pwynt a godwyd yn y drafodaeth yn gynharach, yn sicr, gallwn wneud mwy o gyfraniad na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod wedi gosod polisi i ni ein hunain o sicrhau ein bod yn symud tuag at ysgolion carbon sero-net, ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd y gellir ei chyflawni, ac mae'r cynlluniau peilot a lansiwyd gennym—mae un ym Mro Morgannwg, mae un yn sir y Fflint, mae tair ysgol yn Rhondda Cynon Taf yn cael eu hystyried o dan y trefniadau—yn ein helpu i ddeall beth arall sydd angen inni ei wneud a pha mor gyflym y gallwn symud ar hyd y llwybr i sicrhau bod yr ystâd ysgolion ym mhob rhan o Gymru yn manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf, y dulliau adeiladu diweddaraf, er mwyn cyflawni ei chyfraniad tuag at ddatgarboneiddio'r ystâd gyhoeddus yng Nghymru.