1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Hydref 2021.
1. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed dros fisoedd y gaeaf? OQ57008
Llywydd, mae aelwydydd o dan bwysau ariannol digynsail o ganlyniad i'r pandemig, ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, costau byw cynyddol a thoriadau niweidiol i daliadau lles a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a all arwain at dlodi wrth helpu pobl i sicrhau'r incwm mwyaf a datblygu cadernid ariannol.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Hoffwn groesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl agored i niwed, a hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i'n helusennau a sefydliadau eraill yn y trydydd sector sy'n gwneud gwaith gwych i helpu ein cymunedau.
Fel y byddwch chi'n gwybod, Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £500 miliwn yn ddiweddar i helpu pobl drwy'r pandemig, yn ogystal â misoedd y gaeaf. Bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu i gynghorau yn Lloegr erbyn mis Hydref. Oherwydd hyn, bydd Cymru yn derbyn £25 miliwn yn ychwanegol. A wnewch chi gadarnhau sut bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo teuluoedd ledled Cymru a pha un a fydd cynghorau yn cael yr arian hwn yn uniongyrchol fel y gallan nhw sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf? Diolch.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Peter Fox am bwysigrwydd sefydliadau gwirfoddol a thrydydd sector sydd wedi gwneud cymaint i helpu teuluoedd a chymunedau dros gyfnod y pandemig yn ddiweddar. Ond gadewch i ni fod yn glir: mae Llywodraeth y DU yn tynnu £300 miliwn o bocedi rhai o'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru ac yn cynnig £25 miliwn yn gyfnewid am hynny. Nid yw'n fargen o gwbl i'r teuluoedd agored i niwed hynny a'r cymorth y bydd ei angen arnyn nhw dros y gaeaf hwn.
Nawr, rydym ni eisoes wedi darparu dros £25 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn ein cronfa cymorth dewisol, cronfa y cefnwyd arni gan y Blaid Geidwadol yn Lloegr, lle nad oes unrhyw hawl i gynllun mor genedlaethol wedi ei seilio ar reolau. Byddwn yn edrych i weld sut y gallwn ni ddefnyddio'r £25 miliwn i sicrhau'r effaith orau posibl, gan gynorthwyo'r ystod o sefydliadau sy'n gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, gan fod yn gwbl glir ynghylch y ffaith nad yw colli £300 miliwn a chael cynnig £25 miliwn i wneud iawn am hynny yn unrhyw fargen o gwbl.
Prif Weinidog, mae unigrwydd wedi bod yn broblem sylweddol i filoedd o bobl yn ystod y pandemig, ac wrth i ni ddechrau misoedd y gaeaf, gallai mwy o bobl deimlo eu bod wedi eu hynysu hyd yn oed yn fwy oddi wrth ffrindiau a theulu. Pan fydd pobl yn unig, gallan nhw fod mewn mwy o berygl o ynysu eu hunain oddi wrth wasanaethau hefyd, a gall hynny, yn ei dro, gael ei waethygu os oes rhwystrau eisoes i ddefnyddio'r gwasanaethau hynny, fel rhestrau aros hir. Rwy'n gwybod bod y Groes Goch wedi tynnu sylw at sut y gallai fod angen cymorth wedi ei deilwra ar bobl sy'n dioddef o unigrwydd pan fyddan nhw'n aros am driniaeth, cymorth nad yw'n ymwneud â'u salwch corfforol yn unig ond ag ymdopi â'r broses o aros, yn enwedig os yw hynny yn ymestyn yr amser cyn y gallan nhw ryngweithio â ffrindiau a theulu yn haws. Felly, Prif Weinidog, pa gymorth sydd ar waith, neu y gellid ei roi ar waith, os gwelwch yn dda, i helpu pobl ar restrau aros hir i ymdopi â'r ynysigrwydd y gallai hynny ei achosi iddyn nhw, yn ogystal â'r effaith ar eu hiechyd corfforol, wrth gwrs?
Llywydd, diolch i Delyth Jewell am y pwynt pwysig yna. Bydd hi'n gwybod bod rhai dadansoddwyr yn dweud y dylid ychwanegu unigrwydd at y pum cawr a nodwyd gan Beveridge ar ddechrau'r wladwriaeth les yn un o heriau polisi cymdeithasol mawr ein hoes. Rwy'n diolch iddi am yr hyn a ddywedodd am bwysigrwydd y Groes Goch. Bydd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru, dros y gaeaf diwethaf, wedi ariannu cyfres o gamau gweithredu gan y Groes Goch ei hun i helpu i ddychwelyd pobl i'w cartrefi eu hunain ar ôl iddyn nhw gael eu rhyddhau—weithiau ar ôl cyfnod byr yn ymweld ag adran damweiniau ac achosion brys; weithiau ar ôl aros yn yr ysbyty—am yr union reswm o wneud yn siŵr bod gan y bobl hynny sy'n unig ac yn ynysig berson arall ochr yn ochr â nhw pan oedden nhw'n dychwelyd i'w cartrefi eu hunain, ac yn cael eu helpu i ymgartrefu a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw bopeth yr oedd ei angen arnyn nhw. A gaf i gymeradwyo hefyd waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn y maes hwn? Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidog Julie Morgan wedi bod yn gweithio yn agos gyda'r comisiynydd a'i swyddfa i roi gwasanaethau ar waith i fynd i'r afael ag unigrwydd ymhlith hen bobl. Ac weithiau mae hyn yn gyfres syml iawn o drefniadau, yn y maes y cyfeiriodd Peter Fox ato, o'r sector gwirfoddol a'r trydydd sector—gall dim mwy na galwad ffôn syml i rywun nad yw'n clywed llais dynol arall o un diwrnod i'r llall, a chymryd diddordeb mewn sut mae'n teimlo a'r hyn y mae'n mynd drwyddo, wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl. A cheir llawer iawn o wirfoddolwyr erbyn hyn, ym mhob rhan o Gymru, sy'n cymryd rhan yn y mesurau syml ond effeithiol hynny a all wneud gwahaniaeth i unigrwydd.
Prif Weinidog, yn fy etholaeth i ym Mhen-y-bont ar Ogwr, rwyf i wedi bod yn holi trigolion am eu profiadau o gysylltu â gofal sylfaenol. Mae'r adborth wedi amrywio o 'dda iawn' i bobl a oedd yn teimlo eu bod nhw wedi aros yn rhy hir. Rwy'n pryderu y gallai hyn effeithio ar bobl agored i niwed yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf. Felly, sut gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan ein meddygfeydd teulu y dechnoleg orau fel y gall pobl wneud apwyntiadau a chael gwasanaeth cyson ledled Pen-y-bont ar Ogwr?
Wel, diolch i Sarah Murphy am y pwynt yna. Gan fod gofal sylfaenol wedi dibynnu yn gwbl briodol ar ffyrdd technolegol o ddarparu cyngor a chanlyniadau triniaeth i bobl, mae'r angen i wneud yn siŵr bod y llwyfannau technolegol hynny yn effeithiol i bobl hyd yn oed yn bwysicach nag yr oedd o'r blaen. Yn rhan o'n trefniant mynediad gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, fe wnaethom ddarparu miliynau o bunnoedd o fuddsoddiad newydd i gynorthwyo meddygfeydd teulu i wneud yn siŵr bod eu systemau ffôn, er enghraifft, yn addas ar gyfer y gymdeithas sydd ohoni. Rwy'n gwybod bod y darlun yn gymysg, yn y ffordd y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi sôn. Yn y pen draw, fel y bydd yn gwybod, contractwyr preifat yw'r rhain sy'n gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer gwasanaethau teleffon. Fodd bynnag, rydym ni'n gweithio gyda nhw, ac rydym ni'n gweithio gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, gan gynnwys drwy gyllid ychwanegol, i geisio gwneud perfformiad y system gyfan cystal ag y mae ar gyfer y gorau. Ac rwy'n gwybod, o'r gwaith y mae hi wedi ei wneud yn ei hetholaeth ei hun, y gwnaeth hi ei rannu â mi, ei bod hi wedi dod o hyd i rai enghreifftiau da iawn lle mae pobl yn teimlo bod y gwasanaeth y maen nhw'n ei gael gan eu meddygfa eu hunain yn diwallu eu hanghenion yn dda iawn. Nawr mae angen i'r gweddill fod yn yr un sefyllfa.