Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 13 Hydref 2021.
Mae yna wers o ran cysondeb personél, cysondeb Gweinidogion. Bu gormod o Weinidogion yn rhan o hyn dros gyfnod rhy fyr, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog sydd yn ei le y prynhawn yma yn ei le am sawl prynhawn ac y bydd yn gallu hyrwyddo agenda bolisi sy'n gyson dros amser. O ystyried y ddadl yr ydym newydd ei chael ar yr hinsawdd, yr eironi yw mai'r unig bolisi cyson a gyflwynwyd yn y Cymoedd oedd deuoli'r A465. Dyma'r unig bolisi cyson a ddilynwyd dros y degawd diwethaf, ac mae anawsterau wedi codi, ond mae Gweinidogion wedi mynd ar ei drywydd, ac mae Gweinidogion olynol wedi sicrhau bod y polisi wedi'i gyflawni ac yn cael ei gyflawni. Ond nid ydym wedi cael cysondeb o ran polisi, ac nid ydym wedi cael cysondeb o ran dull o weithredu, ac nid ydym wedi cael cysondeb o ran personél, ac mae hynny wedi gwanhau ein gallu i gyflawni ar ran y Cymoedd.
Nid ydym wedi sicrhau chwaith fod gennym yr uchelgeisiau a'r amserlenni a'r targedau wedi'u cytuno bob amser, ac nid ydym bob amser—a dyma'r pwynt allweddol yr hoffwn ei wneud yn fy sylwadau y prynhawn yma—wedi canolbwyntio'n ddigonol ar gyflawni. Cofiaf yn dda y sgwrs a gefais gyda Carwyn Jones pan wnaeth fy mhenodi i arwain tasglu'r Cymoedd. Dywedodd, 'Rwyf am i chi arwain tasglu'r Cymoedd.' Nid oedd unrhyw amwysedd yno. Dywedodd, 'Nid oes gennych gyllideb ac nid oes gennych adran; rwyf am i chi ddod â phobl at ei gilydd er mwyn cyflawni dros Gymoedd de Cymru.' Nid oedd gennyf gyllideb ar gyfer rhentu man cyfarfod na darparu te neu goffi. Yr hyn yr oedd yn rhaid inni ei wneud oedd perswadio Gweinidogion—a bydd y Gweinidog ei hun yn cydnabod pa mor anodd y gall hyn fod—i roi benthyg swyddogion i mi yn y bôn, i roi benthyg cyllidebau i mi ac i roi ymrwymiad gwleidyddol i mi. A dyna un o'r pethau anoddaf y gallwch ofyn i unrhyw un ei wneud mewn Llywodraeth, oherwydd mae swyddogion—. Mae llawer o nonsens yn cael ei ddweud am y gwasanaeth sifil. Mae'r gwasanaeth sifil yn beiriant gwych ac mae ganddo lawer iawn o bobl dalentog, ond mae'n gweithio mewn modd hierarchaidd; mae'n gweithio i Weinidog. A phan fyddwch yn gofyn i swyddog weithio i Weinidog arall, nid yw'n gweithio, ac roedd hynny'n eithriadol o anodd.
Ond fe wnaethom nodi ein huchelgeisiau ac roeddwn yn glir iawn, a daeth hyn yn dilyn y bleidlais ar Brexit—a chredaf fod gan y bleidlais ar Brexit yng Nghymoedd de Cymru lawer mwy i'w wneud â'r lle hwn nag â Brwsel; roedd gan y bleidlais lawer mwy i'w wneud â methiannau yma ac yn Llundain nag â methiannau ym Mrwsel, felly credaf fod angen inni gydnabod hynny. Ac un o'r pethau yr oeddwn am ei wneud oedd sicrhau bod gennym lefel o atebolrwydd, a bydd yr Aelodau yma'n cofio i mi ddod i'r Siambr hon a nodi targedau, nodi amcanion, nodi amserlenni y byddem yn eu cyflawni dros y cyfnod hwnnw o bedair neu bum mlynedd. Rwy'n siomedig na wnaeth y Llywodraeth flaenorol adrodd ar y materion hynny. Dylent fod wedi gwneud hynny. Rhoesom ein gair i'r bobl yn y cymunedau y byddem yn cyflawni'r pethau hyn dros y cyfnod o bum mlynedd. Nid ydym wedi adrodd ar yr hyn a wnaethom, ac mae angen inni allu gwneud hynny.
Mae angen inni allu sicrhau bod rhaglen y Cymoedd Technoleg—ac rwy'n ddiolchgar am amser y Gweinidog i'w thrafod yr wythnos hon—yn cael ei chyflwyno yn fy etholaeth i. Gwnaethom addewid i bobl Blaenau Gwent y byddem yn cyflwyno'r rhaglen honno, a chofiaf yn dda y cyhoeddiad a wnaeth Ken Skates gyda mi yng Nglyn Ebwy ar hynny. Gwnaethom addewid, ac mae angen inni gyflawni hynny ac mae angen inni nodi sut y bydd hynny'n digwydd. Hefyd, rydym angen nodi—a dyma'r cyfle yr hoffwn i'r Gweinidog ei gymryd, nid y prynhawn yma efallai, ond dros yr wythnosau nesaf ar ddechrau'r Senedd hon—yr hyn y byddwn yn ei gyflawni dros y pum mlynedd nesaf.
Un o'r gwersi y credaf fod angen inni ei dysgu yw ei bod yn bwysicach buddsoddi mewn lleoedd a all weithredu fel catalydd ar gyfer newid na dweud bod gan bawb rywbeth, sydd, yn y pen draw, yn annigonol. Roeddwn yn glir iawn wrth nodi'r uchelgeisiau ar gyfer tasglu'r Cymoedd, fod gennym—. Credaf iddo droi'n saith hyb, a chofiaf fod yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn awyddus iawn inni gael wyth neu naw hyb i gynnwys y Cymoedd yn ei etholaeth ef, a phwy all ei feio? Byddwn i wedi gwneud yr un peth yn union. Ond fe wnaethom nodi'r gyfres honno o hybiau, a hoffwn ddeall beth yn union sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r polisi hwnnw.
Hefyd—ac mae hon yn siom bersonol fawr iawn i mi—nid ydym wedi darparu'r parc rhanbarthol. Roeddwn yn teimlo bod hwnnw'n gysyniad ysbrydoledig a oedd yn dod â phobl at ei gilydd, a chofiaf siarad â phobl mewn gwahanol rannau o'r Cymoedd am yr hyn y gallem ei wneud drwy'r parc rhanbarthol, a hoffwn weld hynny'n cael ei gyflawni, Weinidog. Credaf ei fod yn rhywbeth a allai ysgogi newid ar draws de Cymru, fel ein bod yn gwneud mwy na sicrhau twf economaidd yn ein cymunedau, fel sydd angen inni ei wneud, ond ein bod hefyd yn buddsoddi yn nyfodol cymunedau a phobl a lleoedd. Weithiau, rwy'n credu ein bod yn sôn am ddatblygu economaidd yn nhermau ffigurau'n unig, ond rhaid inni siarad yn nhermau pobl a lleoedd hefyd. Ac roedd parc y Cymoedd yn fodd o wneud hynny. Ac mae'r gwaith y mae'r Aelod dros Ogwr wedi'i wneud mewn gwahanol leoedd wedi bod yn dempled ar gyfer hynny mewn gwirionedd.
Ond gadewch imi ddweud hyn wrth gloi fy sylwadau: y wers a ddysgais drwy gydol y cyfnod hwn ac wrth edrych yn ôl yw, beth bynnag fo uchelgais a diffuantrwydd yr uchelgais hwnnw a'r ffordd y mynegir y weledigaeth, ni chaiff byth mo'i gyflawni oni bai bod gennych fodd i wneud hynny. A dyma fyrdwn fy sylwadau y prynhawn yma. Nid ydym erioed wedi creu'r cyfrwng cyflawni a all sicrhau newid radical a pharhaol a chyson; rydym wedi creu llu o bwyllgorau, llond gwlad o gomisiynau, ac rydym wedi creu cyfle i bobl siarad. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw mynd ati i gyflawni, ac amlinellais—. A bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy safbwyntiau ar greu asiantaeth datblygu'r Cymoedd, a chynnwys cymunedau, llywodraeth leol, busnesau a Llywodraeth Cymru yn dod at ei gilydd, fel y maent wedi'i wneud yn ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban gan sicrhau effaith wirioneddol mewn gwahanol rannau o'r wlad honno.
Credaf y byddwn yn parhau i ailadrodd ein camgymeriadau oni bai ein bod yn creu modd a mecanwaith ar gyfer cyflawni. A dyma un o'r pethau y gobeithiaf y bydd y Gweinidog yn eu hystyried. Rydym wedi gweld dinas-ranbarth Caerdydd dros y blynyddoedd diwethaf yn methu sicrhau unrhyw fuddsoddiad ystyrlon ym Mlaenau'r Cymoedd; cawsom y buddsoddiad yn Zip World yn Hirwaun, ond nid ydym wedi gweld unrhyw fuddsoddiad ystyrlon arall. Nid ydym wedi gweld cynllun swyddi i fanteisio ar y gwaith ar ddeuoli'r A465; nid ydym wedi gweld y strategaeth economaidd a all fod yn sail i hynny, a dyna un o'r pethau y ceisiais ei sefydlu yn y swydd, ac nid yw wedi cael ei ddilyn ers i mi adael y swydd. Yr hyn y mae angen inni allu ei wneud, Weinidog, yw creu'r dull o gyflawni—y dull o gyflawni a'r gallu i gyflawni. Gwyddom fod gennym bobl wych yn gweithio mewn llywodraeth leol. Mae gennym swyddogion gwych yn gweithio yn Llywodraeth Cymru. Mae gennym arweinwyr llywodraeth leol gwych ar draws gwahanol rannau o'r Cymoedd. Ond yr hyn nad oes gennym yw'r capasiti yn y sefydliadau hynny i sicrhau newid parhaol ar y raddfa y mae angen i ni ei wneud.
Ac mae hynny'n golygu newid. Mae'n golygu newid ein dull o weithredu, herio ein hunain, gofyn cwestiynau anodd i ni'n hunain a bod yn onest yn y ffordd yr wyf wedi ceisio bod yn onest y prynhawn yma, a gwneud penderfyniadau yr ydym weithiau'n teimlo'n anghyfforddus yn eu cylch. Gwn nad yw Llywodraeth Cymru, ar wahanol adegau, wedi cefnogi dull o weithredu sy'n seiliedig ar asiantaethau. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych yn fanwl ar yr hyn sydd gan y dyfodol i'w gynnig ac yn edrych yn fanwl ar yr hyn a wnaed ac a gyflawnwyd gennym yn y gorffennol, ac yn edrych yn fanwl ar yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd yn y dyfodol. Diolch.