Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 13 Hydref 2021.
Yn ystod fy natganiad fis diwethaf ar gynlluniau'r DU ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE a'r agenda codi'r gwastad yn gyffredinol, rhannais nid yn unig fy mhryderon, ond pryderon Llywodraethau cenedlaethol datganoledig eraill yn y DU, seneddau, pwyllgorau ac arbenigwyr blaenllaw. Mae'n dal yn wir fod dull Llywodraeth y DU hyd yma yn gymysglyd, yn anhrefnus, yn brin o unrhyw resymeg economaidd sylweddol neu gydlynol, ac nid oes cytundeb na mewnwelediad yn perthyn i'r dull cyfredol. Os bydd yn parhau ar y daith hon, bydd yn methu cyflawni'r canlyniadau y mae ein cymunedau'n eu haeddu. Ac nid wyf yn golygu i Gymru'n unig yma chwaith oherwydd y gwir amdani yw nad fy marn i'n unig y bydd pobl yn gyfarwydd â hi, ond pe baech yn cael y sgwrs hon gyda llywodraeth leol, y sector addysg uwch, neu'r trydydd sector yn yr Alban neu Loegr yn ogystal ag yma yng Nghymru, byddai'r farn yn debyg ar y cyfan. Yr her yw mynd drwy'r dryswch hwnnw a chyrraedd fframwaith a allai sicrhau'r math o fanteision y gallai pob Llywodraeth o wahanol liwiau ledled y DU ymrwymo iddynt a chytuno arnynt.
Mae fy rhagflaenydd a minnau wedi gofyn am gyfarfodydd gyda Gweinidogion y DU sy'n arwain yn y maes hwn i drafod y pryderon hynny ac i fod eisiau dod i gytundeb am ffordd well ymlaen. Mae'n hen bryd cynnal y cyfarfodydd, o ystyried bod dros 18 mis wedi mynd heibio ers Brexit. Yn anffodus, gwyddom nad yw'r gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa codi'r gwastad wedi gweld un penderfyniad yn cael ei wneud o'r cynlluniau peilot a gyhoeddwyd. Dim un penderfyniad ar y cynlluniau peilot hynny. Rydym ar y pwynt lle na fydd awdurdodau lleol ledled y DU yn llwyddo i wario'r arian hwnnw o fewn y flwyddyn galendr hon, ac mae honno'n her wirioneddol. Rydym yn colli blwyddyn o amser ac arian ac mewn gwirionedd, fel y mae pethau, byddwn yn colli mwy o amser i mewn i'r flwyddyn nesaf, oherwydd credaf y bydd yn heriol iawn i unrhyw Lywodraeth ddarparu fframwaith priodol a fydd yn barod ac ar gael i'w weithredu o fewn y flwyddyn nesaf.
Felly, rydym yn disgwyl yn awr y gallem gael fframwaith polisi lefel uchel i gyhoeddi'r gronfa ffyniant gyffredin yn yr adolygiad o wariant yn ddiweddarach y mis hwn. A dywedaf eto fy mod yn gobeithio y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, Michael Gove, yn mabwysiadu ymagwedd wahanol i'w ragflaenwyr, ac yn gyffredinol yn gweithio gyda ni i ddarparu arian ledled y DU a fydd yn sicrhau gwell gwerth am arian, gwell canlyniadau, ac na fydd yn peryglu'r gwaith o ddarparu cynlluniau cenedlaethol fel Busnes Cymru, prentisiaethau a'r banc datblygu. Mae'r dull presennol o weithredu hefyd yn peryglu'r cyllid hanfodol ar gyfer ystod eang o bartneriaid eraill, nid llywodraeth leol yn unig, sy'n hanfodol ar gyfer y twf yn ein cymunedau, ond fel y dywedais, y trydydd sector, busnes, ac addysg uwch ac addysg bellach hefyd.
Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol fod Alun Davies wedi tynnu sylw at ei rôl flaenorol fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros raglenni Ewropeaidd, nid dim ond y rôl hirsefydlog a fu gan y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn gwneud y dewisiadau hynny gyda Chymru ac ar ei rhan, ond y realiti ein bod wedi dysgu gwersi ar beth i'w wneud. Symudasom oddi wrth ddull a oedd yn ymwneud â phrosiectau bach iawn, i edrych ar brosiectau mwy o faint a mwy strategol. Ac eto, mae'r peilot presennol ar gyfer y gronfa godi'r gwastad a'r gronfa adfywio cymunedol yn ceisio symud oddi wrth hynny'n fwriadol i gael dull llawer llai, llawer mwy lleol o weithredu na fydd yn caniatáu i brosiectau rhanbarthol neu arwyddocaol yn genedlaethol gael eu cyflwyno. Felly, mae llawer gennym i'w ddysgu am yr hyn a wnaethom yn dda, yn ogystal â'r hyn nad ydym yn credu ei fod wedi gweithio, ac mae hynny'n rhan o'r her a nodwyd gan yr Aelod ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Ond er gwaethaf yr holl heriau sy'n ein hwynebu, yng Nghymru rydym yn bendant yn fwyaf llwyddiannus pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd i ddatblygu atebion, ac roeddwn yn falch o glywed Alun Davies yn tynnu sylw at y dalent a'r ymrwymiad sy'n bodoli o fewn Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac yn y sector preifat hefyd yn wir. Ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda'r partneriaid hynny—felly, busnes, undebau llafur, llywodraeth leol, y trydydd sector a Llywodraeth Cymru. Rydym i gyd wedi cael sgyrsiau, nid yn unig yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, lle maent wedi bod yn gymharol ddwys, ond mewn gwirionedd ers i mi fod yn Weinidog a chyn hynny. Mewn sawl ffordd, mae'r pandemig wedi dod â ni yn nes fyth at ein gilydd, nid yn unig ar gyfer y busnes anodd o oroesi, ond y cyfleoedd i wella ac adfywio.
Nawr, mae'r Aelod wedi tynnu sylw at y ffaith bod tasglu'r Cymoedd wedi dod i ben, ond mae Dawn Bowden a minnau yn gweithio i ymgorffori gwaith y tasglu yn ein cynlluniau hirdymor o fewn y Llywodraeth yn ogystal â chyda'r partneriaid y soniais amdanynt. Ac ni ellir gwadu bod angen gwneud mwy, ac mae'r her y mae'r Aelod yn ei gosod yn un deg ynglŷn â sut y gwnawn wahaniaeth: yn hytrach na siarad am yr hyn y dymunwn ei wneud, beth y mae hynny'n ei olygu i bobl a chymunedau ar lawr gwlad? Ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion a phartneriaid gydweithio'n agosach, nid yn unig gydag ymroddiad parhaus, ond i gofio bod a wnelo hyn â gwella canlyniadau. Ac rwy'n cydnabod peth o her yr Aelod ynglŷn â gweithio ar adolygiadau neu brosiectau ar draws y Llywodraeth. Cefais rywfaint o'r profiad hwnnw yn fy rôl gyntaf yn y Llywodraeth, ac roedd yn her cael Gweinidogion i gydweithio tuag at amcan a rennir y dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth ar y pryd. Felly, mae her yma, ond mae llawer o hynny'n ymwneud â'r gwahanol ysgogiadau sydd gennym, ymrwymiad Gweinidogion, a'r gallu i ddefnyddio arian i'r un cyfeiriad er mwyn cyflawni amcanion.