1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2021.
7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol yng Nghymru i wella'r modd y darperir gwasanaethau? OQ57015
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol yng Nghymru drwy amrywiaeth o fecanweithiau ymgysylltu ffurfiol ac anffurfiol ar draws pob portffolio. Mae Gweinidogion yn gweithio gydag arweinwyr, ac mae ein swyddogion yn gweithio gyda'i gilydd, i sicrhau eu bod yn datblygu polisïau gwell a chanlyniadau gwell wrth ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru.
Diolch yn fawr, Weinidog. Credaf ei bod yn deg dweud bod yna farn gyffredinol fod Llywodraeth Cymru, yn ystod y pandemig, wedi gweithio'n dda iawn gydag awdurdodau lleol ac arweinwyr awdurdodau lleol, gyda'r dechnoleg newydd, weithiau, yn helpu hynny i sicrhau bod cyfarfodydd wythnosol a chyfarfodydd rheolaidd iawn yn llawer haws i'w gwneud, a bod awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda'r sector gwirfoddol yn gallu gwneud hynny'n gyflymach a chyda llai o fiwrocratiaeth.
Tybed, Weinidog, i ba raddau y mae'r profiad hwnnw o weithio yn ystod y pandemig wedi cael ei werthuso, ac yn cael ei werthuso, fel y gellid cadw rhai o'r ffyrdd gwell hynny o weithio, ffyrdd mwy effeithiol o weithio, lle bo'n briodol. Rwy'n tybio mai ar gyfer sefyllfa o argyfwng fwy neu lai yn unig, fel y gwelsom, y gallai rhai ohonynt fod wedi bod yn addas. Ond mae'n debyg y gellid cadw rhai ohonynt er budd pobl Cymru.
Hefyd, i ba raddau y mae trawsnewid digidol, sydd eto wedi bod yn bwysig iawn yn ystod y pandemig wrth ddarparu gwasanaethau a ffyrdd newydd o weithio—? I ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y posibiliadau digidol hynny'n cael eu defnyddio a'u defnyddio'n llawn, unwaith eto er budd ein cymunedau yma yng Nghymru?
Mae John Griffiths yn iawn i ddweud bod y cysylltiadau'n rhagorol drwy'r pandemig, ac fe wnaeth y ffyrdd newydd o weithio alluogi hynny mewn gwirionedd. Mae'n bwysig ein bod yn adeiladu ar y cysylltiadau a'r technolegau newydd sydd wedi galluogi'r cysylltiadau hynny i fod yn gryf iawn drwy gydol y pandemig.
Felly, fe gadeiriais—yr wythnos diwethaf, rwy'n credu—gyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cymru a phob un o'r 22 arweinydd awdurdod lleol yng Nghymru, a dyna'r tro cyntaf inni ddod at ein gilydd mewn fforwm o'r fath, a gwnaethom hynny'n ddigidol. Roedd yn gyfarfod rhagorol, lle gwnaethom ganolbwyntio'n fanwl ar ddwy o'r problemau mawr a'r heriau mawr sy'n ein hwynebu—yr heriau ym maes gofal cymdeithasol a heriau newid hinsawdd—gan archwilio sut y gallwn gydweithio i fynd i'r afael â'r ddwy her fawr. Felly, roedd hwnnw'n gyfarfod gwirioneddol ddefnyddiol, addysgiadol a chyffrous ar y ffyrdd newydd o weithio a chanlyniadau hynny.
Cyhoeddwyd y strategaeth ddigidol ar gyfer Cymru ym mis Mawrth eleni. Felly, fe'i cyhoeddwyd i raddau helaeth yng nghyd-destun COVID, ac mae'n nodi gweledigaeth ac uchelgais cryf iawn ar gyfer dull digidol cydgysylltiedig o weithredu yma yng Nghymru. Felly, rydym yn awr yn gweithio ar gyflawni'r strategaeth honno, ac fel rhan o hynny, rydym yn ystyried beth arall y gallwn ei wneud drwy Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol Cymru, a sefydlwyd y llynedd i gefnogi sector cyhoeddus Cymru yn ei gyfanrwydd i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny'n allweddol, mewn gwirionedd, i lwyddiant y strategaeth. Un enghraifft o ble y mae'n dangos gwerth cydweithio a chynllunio gwasanaethau o amgylch anghenion defnyddwyr yw drwy weithio gyda thri awdurdod, hyd yma, ar brosiect trawsnewid digidol ar fynediad at wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion a rhannu dysgu. Felly, cyfleoedd enfawr, rwy'n meddwl, gyda digidol, i ni wella gwasanaethau cyhoeddus a phrofiadau pobl.
Weinidog, a gaf fi ofyn ichi am gefnogaeth i gynghorau cymuned, yn arbennig, gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n ymwybodol, o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fod gofyniad i gynghorau cymuned sefydlu systemau i ganiatáu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, o bell neu hybrid. Mae llawer o gynghorau cymuned, wrth gwrs, yn cyfarfod mewn canolfannau cymunedol neu neuaddau pentref, ac nid oes ganddynt fynediad at y rhyngrwyd. Felly, mae angen cymorth ar y cynghorau hynny, yn arbennig. Rwy'n ymwybodol fod gan Lywodraeth Cymru gronfa a oedd ar gael i bobl wneud cais amdani, ond mae'r gronfa honno bellach ar gau i geisiadau newydd. Felly, a gaf fi ofyn pa gefnogaeth bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynghorau cymuned lleol yn y cyd-destun hwn?
Wel, yn ddiweddar iawn, cymeradwyais gyllid ar gyfer rheolwr cyflawni digidol newydd ar gyfer cynghorau tref a chymuned yng Nghymru, a'r disgwyl yw y byddant yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i sefydlu. Wrth gwrs, fe wnaethom ymgynghori ar y gofyniad ynglŷn â gweithio hybrid yn y dyfodol, a dylai fod yn glir mai'r hyn sy'n ofynnol gan gynghorau tref a chymuned yw y dylai'r sawl sy'n mynychu o bell allu clywed a chael ei glywed. Felly, credaf y gellir gwneud hynny am gost isel, os oes angen. Ond rwy'n awyddus i weithio gyda chynghorau tref a chymuned, drwy'r rheolwr cyflawni digidol newydd, i ddeall yn well beth yw'r problemau penodol ac a oes ffyrdd y gallwn helpu i'w datrys.
Ac yn olaf, Vikki Howells, cwestiwn 8.