– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 19 Hydref 2021.
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol: cynllun diogelu iechyd a gofal cymdeithasol 2021-22. Galwaf ar y Gweinidog, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Bob blwyddyn, mae'r GIG yn datblygu cynllun ar gyfer sut y bydd yn ymdopi â'r galwadau cynyddol dros y gaeaf, ac nid yw eleni'n eithriad. Mae'r paratoadau eisoes wedi bod yn digwydd ers misoedd lawer. Rydym yn gwneud y datganiad hwn heddiw er mwyn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd drafod ein cynlluniau cyn cyhoeddi'r adroddiad yn ffurfiol ddydd Iau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i Aelodau nodi, yn gyffredinol, fod cynllun y gaeaf yn gyfarwyddyd i'r GIG ac fel arfer mae'n ddogfen fewnol, er ein bod yn deall y diddordeb gwleidyddol yn y cynllun eleni wrth i ni weld heriau i'n gwasanaethau iechyd a gofal eleni, nad ydym ni erioed wedi gweld eu tebyg yn hanes y GIG.
Rydym yn mynd i'r gaeaf hwn gyda chyfraddau uchel iawn o COVID o hyd, pan ydym yn disgwyl pwysau ychwanegol sylweddol o ffliw'r gaeaf, ac rydym yn ceisio gwneud cynnydd wrth fynd i'r afael â'r ôl-groniad o driniaethau sydd wedi datblygu yn ystod y pandemig. Bydd hyn yn digwydd ar adeg pan fo'r GIG a gweithwyr gofal wedi blino'n lân, pan fo'r llif drwy ein hysbytai wedi'i gyfyngu oherwydd heriau o ran rhyddhau cleifion pan fyddan nhw'n barod i adael, a chynnydd yn y galwadau ar ein meddygfeydd meddygon teulu a phwysau enfawr ar ein gwasanaethau ambiwlans.
Dyna'r cefndir wrth i ni gyhoeddi cynllun y gaeaf hwn. Wrth wraidd cynllun y gaeaf mae penderfyniad i gydweithio â'r GIG, llywodraeth leol ac, yn ddelfrydol, y cyhoedd, wrth ofyn i bob un ohonom chwarae ein rhan i leihau cymaint o'r pwysau sydd ar y system â phosibl. Bydd rhaglen gynhwysfawr i gyfeirio'r cyhoedd at y lle priodol ar gyfer gofal, na fydd bob amser yn feddyg teulu mewn gofal sylfaenol neu'n adran ddamweiniau ac achosion brys mewn gofal eilaidd. Nid yw COVID ar ben, a rhan ganolog o'n cynllun yw sicrhau ein bod yn brechu ac yn parhau â'n rhaglen profi, olrhain a diogelu drwy fisoedd y gaeaf. Byddwn yn adolygu ein rhaglen Adferiad ar gyfer COVID hir, fel yr addawyd, er mwyn cael yr wybodaeth a'r data diweddaraf.
Bydd iechyd meddwl yn ganolog i'r gefnogaeth y byddwn ni'n ei darparu dros fisoedd y gaeaf. Bydd yn parhau i fod yn wasanaeth hanfodol, waeth beth yw'r pwysau dŷn ni'n debygol o'u hwynebu. O ran gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu, bydd pwyslais gwirioneddol ar salwch anadlol, gan sicrhau bod cleifion yn gallu cael mynediad at ofal sylfaenol pan fydd ei angen arnyn nhw. Mae'n bwysig nodi y gallai hyn fod trwy apwyntiad rhithwir, er y bydd apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael os bydd angen. Byddwn yn gofyn i'r fferyllfeydd cymunedol gamu i'r adwy unwaith eto, fel y mae'n nhw wedi parhau i'w wneud drwy gydol y pandemig.
O ran gofal wedi ei gynllunio, byddwn ni'n onest â'r cyhoedd, ac yn egluro y bydd yn anodd gweithio trwy'r niferoedd uchel ar ein rhestrau aros dros y gaeaf. Efallai y bydd angen i ni hyd yn oed addasu'r system a lleihau'r niferoedd sy'n cael triniaeth a oedd wedi ei chynllunio os bydd y pwysau ar y system yn dal i gynyddu. Ond byddwn ni'n sicrhau bod byrddau iechyd yn cadw mewn cysylltiad â phobl sy'n aros, ac yn cynnig y gefnogaeth a'r cymorth lleddfu poen y gall fod ei angen arnyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn y cyfamser, byddwn ni'n gweithio ymhellach ar sut dŷn ni'n bwriadu bwrw ymlaen â diwygiadau er mwyn gallu gwneud cynnydd sylweddol o ran y rhestrau aros. Byddwn yn rhoi rhagor o fanylion am y rhain yn ein huwchgynhadledd ar ofal ym mis Tachwedd.
Bydd y Senedd yn ymwybodol bod y pwysau ar ein system gofal brys ac argyfwng yn enfawr. Mae gyda ni gynllun clir iawn ar sut i fynd i'r afael â'r mater hwn, gan gynnwys cyflwyno'r gwasanaeth 111 yn genedlaethol, defnyddio cymorth y fyddin, mwy o bwyslais ar drosglwyddo cleifion ambiwlans yn brydlon, a'r system o flaenoriaethu cleifion mewn adrannau achosion brys. Un o'r meysydd y byddwn ni wir yn canolbwyntio arnynt yw pwysigrwydd rhoi cefnogaeth a chymorth i'n gwasanaethau gofal. Byddwn yn manylu rhagor am hyn yn nes ymlaen yn ystod yr wythnos yma, ond allaf i ddim pwysleisio ddigon pa mor bwysig yw hi i gefnogi ein gwasanaethau gofal a'n gweithwyr gofal dros y cyfnod heriol hwn. Os ydym ni am ryddhau pobl o'r ysbyty, mae angen inni wybod y byddan nhw'n cael eu cefnogi yn y gymuned, a byddwn yn parhau i weithio gyda'n hawdurdodau lleol i gyflawni hyn.
Yn olaf, allwn ni ddim gwneud dim o hyn heb ein gweithlu iechyd a gofal anhygoel. Byddwn yn sefyll gyda nhw ac yn eu cefnogi wrth iddynt ddechrau ar yr amser anoddaf yn eu hanes. Bydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei wthio i'r eithaf y gaeaf hwn, a dŷn ni'n gofyn i'r cyhoedd ddefnyddio'r gwasanaethau hyn yn ddarbodus, a gwneud eu rhan nhw er mwyn inni allu symud drwy'r gaeaf gyda'n gilydd. Diolch.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich diweddariad a gawsom heddiw ynghylch y cynllun iechyd a gofal ar gyfer y gaeaf? Ond dyna ydyw, wrth gwrs, heddiw—diweddariad ac nid y cynllun ei hun. Rwy'n credu y bydd Aelodau ar draws y Siambr hon, a'r cyhoedd yng Nghymru, yn siomedig eu bod nhw wedi gorfod gweld oedi pellach ychydig cyn i ni fynd at doriad y Senedd. Ac rwy'n nodi yn eich sylwadau agoriadol heddiw, Gweinidog, i chi ddweud mai datganiad yw hwn er mwyn rhoi cyfle i Aelodau'r Senedd drafod y cynlluniau cyn iddyn nhw gael eu cyhoeddi'n ffurfiol ddydd Iau. Ond os nad ydyn nhw'n cael eu cyhoeddi'n gyhoeddus, yna mae'n anodd iawn i ni graffu ar y cynlluniau hynny, wrth gwrs. Rwyf am ddiolch i chi, Gweinidog, am eich galwad y bore yma; rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y briff technegol a roddoch i mi ac Aelodau eraill y Siambr hon y bore yma, gan eich swyddogion. Gwerthfawrogwyd hynny'n fawr.
Rhaid imi ddweud, serch hynny, nad wyf yn derbyn eich pwyntiau o fewn eich datganiad ei bod fel arfer yn ddogfen fewnol i'r GIG—ac rwy'n barod i gael fy nghywiro os yw hynny'n anghywir. Ond os yw hynny'n wir, yna byddwn i'n dweud: beth a wnaeth eich rhagflaenydd ei gyhoeddi ar 15 Medi 2020 yn ei gynllun diogelu'r gaeaf? Roedd hyn yn cynnwys fframwaith ar wasanaethau hanfodol a rheolaidd, gofal brys ac argyfwng, y rhaglen frechu, gofal sylfaenol a chymunedol, gofal cymdeithasol, cartrefi gofal—gallwn fynd ymlaen. Ond soniodd hefyd am ddyraniadau gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r GIG dros y gaeaf. Soniodd hefyd o ran ei ddiben am gynllun trosfwaol Llywodraeth Cymru, sy'n disgrifio'r cyd-destun a'r blaenoriaethau eang ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol tan fis Mawrth 2021. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog am esboniad ar nifer o faterion yn y fan yna? Pam na chyhoeddwyd y cynllun yn gynharach ym mis Medi? Pam y cawsom oedi pellach cyn y caiff y cyhoedd weld y cynllun hwn? Ac efallai y gwnewch chi hefyd egluro pam yr ydych yn dweud bod y cynllun hwn fel arfer yn ddogfen fewnol, o ystyried yr hyn yr wyf newydd ei ddweud.
Mae wedi cymryd amser hir i Lywodraeth Cymru ddod â'i dogfen fframwaith at ei gilydd, ac mae'n ymddangos, dros y mis diwethaf, nad yw'r cyfathrebu rhwng Gweinidogion a GIG Cymru wedi bod yn gwbl glir. Rhoddaf rai enghreifftiau yn hynny o beth: mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid ym mis Medi ynghylch cyhoeddi cynlluniau pwysau'r gaeaf, fe wnaeth y Prif Weinidog osgoi hyn yn llwyr, gan gyfeirio at ddiweddaru'r cynllun rheoli coronafeirws yn rheolaidd. Ond, ddeuddydd yn gynharach, ac ar ôl i chi sôn wrth y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eich bod wedi bod yn paratoi ar gyfer y gaeaf yn gynharach nag erioed o'r blaen, sicrhaodd y prif weithredwr y pwyllgor y bydd cynllun gaeaf clir iawn i'w weld ac y bydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod mis Hydref. Gweinidog, a wnewch chi roi rhywfaint o sicrwydd i'r Senedd heddiw eich bod chi a Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu'n glir â GIG Cymru ac awdurdodau lleol ynghylch eich nodau cyffredinol ar gyfer lliniaru pwysau'r gaeaf? Byddwn i'n dweud, Gweinidog, ei bod yn gwbl hanfodol, ar yr adeg hon o bwysau eithafol ar GIG Cymru, fod gennym gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gennym amseroedd aros damweiniau ac achosion brys sy'n torri record, nifer y bobl ar restrau aros yn torri record, ac mae un o bob pedwar o bobl yn aros am fwy na 12 mis am driniaeth. Felly, mae'n hanfodol bod gennym gynllun clir gan Lywodraeth Cymru.
Gan droi at eich datganiad ei hun, rydych yn sôn mai rhan ganolog o'r cynllun fydd brechu, a dywedodd eich datganiad ym mis Medi eich bod wedi dechrau'r rhaglen atgyfnerthu rhag COVID. Nid ydym eto wedi gweld unrhyw ffigurau ynghylch y bobl sy'n manteisio ar y rhaglen i ddangos pa mor llwyddiannus, neu beidio, yw'r rhaglen hon hyd yma. Nid yw eich dogfen 'y cynnydd yn erbyn y strategaeth', a gyhoeddwyd o fewn yr awr ddiwethaf, ychwaith yn rhoi unrhyw arwydd o faint sydd wedi manteisio ar y brechiad atgyfnerthu. Rwyf wedi cael rhai adroddiadau gan gyd-Aelodau fod rhai mewn rhannau eraill o Gymru heb gael gwybodaeth—y rhai sydd dros 50 oed—ynghylch pryd y byddan nhw'n cael y brechiad atgyfnerthu. Rwyf hefyd wedi cael adroddiadau am bobl yn aros hyd at awr y tu allan i ganolfannau brechu er mwyn cael eu brechiad atgyfnerthu a hwythau wedi cael amser penodol ar ei gyfer. Rwy'n arbennig o bryderus ynghylch hynny, o gofio mai grŵp oedran hŷn yw hwn, ac o gofio ein bod yn dechrau cyfnod o dywydd mwy difrifol—hefyd os bydd rhaid i bobl aros y tu allan er mwyn cael eu brechiad atgyfnerthu. Felly, efallai y gwnewch chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth yn hynny o beth.
A wnewch chi hefyd ddarparu amserlen o ran y ffigurau ynghylch faint sy'n manteisio ar y brechiad atgyfnerthu sydd ar gael i'r cyhoedd? A beth yn union ydych chi'n ei olygu wrth ddweud y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael cynnig y brechiad atgyfnerthu erbyn 31 Rhagfyr yn eich datganiad brechu COVID heddiw? Gallai hynny fod yn 51 y cant. Efallai y gwnewch chi roi ychydig mwy o fanylion yn hynny o beth. Sonioch chi hefyd am ofal wedi'i gynllunio—
A wnaiff yr Aelod ddod i gasgliad?
Gofynnaf fy nghwestiwn olaf felly, Dirprwy Lywydd. Sonioch hefyd am ofal wedi'i gynllunio, ac rwy'n nodi eich bod yn gadael cynllun ffurfiol tan yr uwchgynhadledd gofal wedi'i gynllunio ym mis Tachwedd. Yn y cyfamser, mae Lloegr a'r Alban wedi bod yn gwneud eu gorau glas i leihau'r amseroedd aros hynny gyda chanolfannau diagnosis cymunedol, ac rydym wedi clywed am ganolfannau llawfeddygol a'r defnydd o ofal iechyd annibynnol i gefnogi rhestrau aros y GIG. Felly, a gaf i ofyn ichi am ychydig mwy o wybodaeth yn hynny o beth? Oherwydd y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn gofyn i chi am tua phedwar mis ynghylch canolfannau llawfeddygol, Gweinidog iechyd.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod dealltwriaeth bod cynllun wedi bod erioed i ni gyhoeddi'r adroddiad hwn mewn digwyddiad dysgu yn y gaeaf, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, fel ein bod yn ymgysylltu â'r GIG yn uniongyrchol. Yr unig ffordd y bydd y cynllun hwn yn cael ei weithredu yw os caiff ei ddefnyddio a'i gymryd o ddifrif gan y GIG a chan ein gweithlu gofal. Felly, mae'n bwysig ein bod yn siarad â'r gynulleidfa gywir, a dyna beth yw'r cynllun hwn. Mae'n gyfarwyddyd iddyn nhw, a dyna pam yr oeddem ni o hyd yn bwriadu gwneud hynny ddydd Iau.
Fodd bynnag, rydym eisoes wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith mewn cysylltiad â pharatoi ar gyfer y gaeaf. Rydym wedi bod yn ei wneud ers amser maith, mae gennym fframwaith cynllunio'r GIG sy'n nodi disgwyliadau ar gyfer byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ers amser maith. Mae cyfarfodydd wythnosol yn digwydd rhyngom ni, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i ddarparu fforwm ar gyfer cymryd camau pellach o ran paratoi ar gyfer y gaeaf. Mae gennym strwythur cynllunio ac ymateb COVID, wrth gwrs, sydd i gyd wedi cyfrannu at y cynllun hwn. Felly, nid yw fel pe baem yn dechrau o ddim byd yma, rydym yn adeiladu ar yr hyn a oedd yno'n barod. Ac wrth gwrs, mae'r fframwaith dewisiadau lleol yn rhywbeth y mae byrddau iechyd eisoes yn ymwybodol ohono, ac rydym yn sicrhau bod hynny'n cael ei ddiweddaru mewn cysylltiad â phwysau COVID, ac maen nhw'n deall lle bydd cyfleoedd i fod yn hyblyg wrth i ni ddechrau'r gaeaf.
Rydych yn gofyn am sefyllfa gofal wedi'i gynllunio, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig bod pobl yn deall ein bod eisoes wedi rhoi cryn dipyn o arian i'r system, mae £250 miliwn eisoes wedi'i gyhoeddi, a bod cyfathrebu, fel y dywedais i, eisoes wedi bod yn digwydd.
O ran y cynlluniau brechu, gallaf sicrhau'r Aelod fod tua 30 y cant o bobl rhwng 12 a 15 oed bellach wedi cael eu dos cyntaf, a byddwn ni'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer sy'n manteisio ar y brechiad atgyfnerthu ddydd Iau yr wythnos hon, felly gobeithio y gwnewch chi fod ychydig yn amyneddgar ac aros inni wirio'r ystadegau hynny cyn inni gyhoeddi'r rheini. Nodwyd yn y cynllun brechu hwnnw y byddai pobl dros 50 oed yn cael cynnig eu dosau atgyfnerthu cyn y flwyddyn newydd. Nawr, roedd grŵp arall o bobl, fel y sonioch chi, a fyddai'n cael cynnig y brechiad atgyfnerthu cyn hynny, a oedd yn cynnwys pobl fel gweithwyr gofal, pobl mewn cartrefi gofal, gweithwyr y GIG, ac felly rydym ar y trywydd iawn i gyflawni yn unol â'r cynllun brechu hwnnw a nodais yr wythnos diwethaf.
Ac yna, yn olaf ar ofal wedi'i gynllunio y gwnaethoch chi ofyn amdano, fel y dywedais i, rydym eisoes wedi cyhoeddi £250 miliwn. Mae'r byrddau iechyd wedi dod yn ôl atom yn awr ac wedi awgrymu sut yr hoffen nhw wario'r arian hwnnw, felly rydym yn gwneud yn siŵr nawr bod popeth mewn trefn er mwyn sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig a, gobeithio, y byddwn ni'n gallu rhoi mwy o wybodaeth am sut yn union y bydd hynny'n cael ei wario yn yr uwchgynhadledd gofal wedi'i gynllunio honno yn ddiweddarach.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr. Mae hon yn drafodaeth ddiddorol, cyfle cyntaf i sgrwtineiddio cynllun y gaeaf. Yn anffodus, does gennym ni ddim cynllun gaeaf i'w sgrwtineiddio eto. Dwi'n gwerthfawrogi'r briefing byr gawson ni yn gynharach heddiw fel aelodau o'r pwyllgor iechyd ar rai o'r egwyddorion sydd y tu ôl i'r cynllun a gawn ni ddydd Iau. Dwi'n gwerthfawrogi cael rhyw ragflas gan y Gweinidog heddiw am rai o'r egwyddorion hynny, ond mewn ffordd, gosod mwy o gwestiynau mae'r sesiwn yma. Mae yna sôn am fynediad i bobl i ofal sylfaenol, mae yna sôn am wneud iechyd meddwl yn ganolog i wasanaethau ond y cwestiynau rydyn ni eisiau atebion iddyn nhw ydy sut, a dyna, wrth gwrs, fyddwn ni'n gobeithio ei gael yn yr adroddiad ei hun ddydd Iau.
Mae yna nifer o elfennau ac egwyddorion dwi'n eu croesawu—rhai ohonyn nhw y bues i'n eu hamlinellu fel blaenoriaethau buaswn i'n licio eu gweld yn y sesiwn bythefnos yn ôl erbyn hyn, yn gofyn am well 'signpost-o' pobl i'r lle iawn i gael gofal, er enghraifft, ac mae'r Gweinidog wedi dweud bod hynny'n mynd i fod yn flaenoriaeth. Dwi'n gwybod bod y BMA yn tynnu sylw heddiw at waith ymchwil sy'n awgrymu mai dim ond rhyw 10 y cant oedd yn ymwybodol o raglen Choose Well y Llywodraeth o 2018, felly mae angen, wrth gwrs, rhoi llawer mwy o fuddsoddiad i mewn i'r math yna o waith. Ac eto, dwi'n edrych ymlaen at gael mwy o fanylion ar hynny ddydd Iau gobeithio. Ac mi fyddwn i'n apelio ar y Gweinidog i sicrhau bod yna amser yn cael ei wneud yn amser y Llywodraeth ar ôl yr hanner tymor inni gael sgrwtineiddio a gofyn cwestiynau yn sgil cyhoeddi'r adroddiad ei hun.
Mae yna gwestiynau dwi'n gallu eu gofyn heddiw yma yn sicr o gwmpas y ffaith, fel y gwnaeth y Gweinidog ei ddweud wrthym ni, mai COVID a'r pandemig ydy cyd-destun y gaeaf yma o hyd. Roeddwn i yn feirniadol yr wythnos ddiwethaf o glywed y Gweinidog yn dweud ein bod ni mewn cyfnod sefydlog, ein bod ni mewn cyfnod stable o ran y pandemig. Mae yna beryg, wrth gwrs, bod 'stable' yn cael ei weld fel rhywbeth cadarnhaol, ond mae'r ffigurau'n frawychus o uchel yng Nghymru, wrth gwrs, fel y mae'r Gweinidog yn gwybod. Mae'n rhaid dod â'r ffigurau yna i lawr. Ymhlith plant ysgol, mae yna bryder mawr yn cael ei leisio efo fi gan bobl o bob rhan o Gymru. Mi fyddwn i'n licio gwybod gan y Gweinidog y prynhawn yma beth ydy'r camau brys sy'n cael eu cymryd rŵan i drio dod ag achosion i lawr mewn ysgolion.
Yn dilyn ymlaen o'r cwestiwn gan lefarydd y Ceidwadwyr, dwi'n meddwl bod angen mwy o awgrym o beth ydy'r strategaeth fydd yn dangos brys efo'r rhaglen booster. Mi glywson ni funud yn ôl y Gweinidog yn dweud y byddwn ni'n cael rhagor o ffigurau ddydd Iau; a fyddwn ni'n cael diweddariad ar newid strategaeth, ar newid gêr, o bosib? Achos efallai ein bod ni'n dioddef yn fan hyn o fod wedi cael rhaglen frechu gynnar a llwyddiannus, sef bod y cyfnod o leihau effeithlonrwydd y brechiad, o bosib, yn ein taro ni ynghynt na rhai gwledydd eraill ar draws Ewrop. Wel, mae hynny'n golygu bod angen rhuthro ymlaen efo'r rhaglen booster yn gyflymach. Felly, mi fyddai gwybodaeth ar hynny yn ddefnyddiol. A hefyd yn yr oriau diwethaf rydyn ni'n clywed am, o bosib, amrywiolyn newydd yn gysylltiedig â'r amrywiolyn delta gwreiddiol, a bod hynny o bosib yn gyfrifol am gymaint â 6 y cant o achosion newydd rŵan. Mi fyddai diweddariad gan y Gweinidog ar beth allai goblygiadau hynny fod a beth sy'n cael ei wneud i fonitro hynny yng Nghymru yn ddefnyddiol hefyd.
Dwi am ddefnyddio'r cyfle yma hefyd i ofyn un cwestiwn penodol ynglŷn â phroblem y gallem ni ei gael dros y gaeaf efo rhoi diagnosis i bobl, sef y prinder mawr o gyflenwad o boteli i gymryd gwaed. Mae hyn yn achosi problemau difrifol ar draws y gwasanaeth iechyd, efo meddygon yn gorfod gwneud dewisiadau anodd iawn, iawn, iawn ar bwy—pa gleifion—ddylai gael profion gwaed oherwydd y diffyg sydd ganddyn nhw yn y vials yma. Pa bryd mae'r broblem yma yn mynd i gael ei datrys, achos mae hi'n mynd ers wythnosau erbyn hyn, ac mae yna bryderon go iawn, fel rydw i'n dweud, ar draws y gwasanaethau iechyd, bod hyn yn dal diagnosis a thriniaeth yn ei ôl?
Ac yn olaf, yn fyr iawn, mi glywson ni'r Prif Weinidog heddiw yma'n dweud ei fod o wedi cael ei fodloni gan y Prif Weinidog ddoe efo'i addewidion o ynglŷn â rhoi llais i Gymru o fewn ymchwiliad COVID drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'r ymgyrchwyr yn flin. Mae'r ymgyrchwyr yn siomedig efo ymateb y Prif Weinidog, yn dilyn ei sgwrs efo Prif Weinidog Prydain ddoe. Dydyn ni ddim wedi gweld dim byd ar ddu a gwyn, pam ddylwn ni drystio Boris Johnson ar hyn pan ydy o wedi bod yn tanseilio Cymru mewn cymaint o ffyrdd eraill yn ddiweddar?
Wel, diolch yn fawr, Rhun. Un o'r rhesymau pam roeddwn i'n awyddus i wneud yn siŵr bod yna gyfle i roi briefing i rai ohonoch chi'r bore yma oedd i wneud yn siŵr eich bod chi'n gweld, neu'n cael rhyw fath o syniad, cyn hanner tymor achos rŷn ni'n ymwybodol bydd pob un i ffwrdd a doedden ni ddim eisiau ei adael e'n rhy hir cyn ein bod ni'n cael cyfle i rannu ein syniadau gyda chi. Wrth gwrs, bydd yna fwy o fanylion yn yr adroddiad.
Mae yna raglen o ran rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd am ble y gallan nhw fynd am fwy o help eisoes wedi dechrau, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cario ymlaen gyda hwnna dros y gaeaf. Felly, mae'r rhaglen yna eisoes wedi dechrau. Ac rydych chi'n eithaf iawn mai COVID yw'r cyd-destun ar gyfer paratoi am y gaeaf yma, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n tanlinellu mai dyma un o'r gaeafau mwyaf anodd yn hanes yr NHS. Pan ydych chi'n dweud ei fod yn gyfnod sefydlog, wel mae pob peth yn relative onid yw e? Ac felly dwi'n meddwl mai beth rydyn ni'n sôn am yn fan hyn yw amser pan nad oes yna amrywiolyn rydyn ni'n poeni amdano ar hyn o bryd. Ac felly dyna ran o'r rheswm pam rydyn ni'n sôn ein bod ni mewn cyfnod sefydlog, lle rydyn ni'n ymwybodol bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth wedi cael rhyw fath o amddiffyniad oherwydd eu bod wedi cymryd y cyfle i gael y brechlyn.
O ran ein hysgolion ni, rydyn ni yn ymwybodol bod y niferoedd yn uchel dros ben yn ein hysgolion ni, ond rydyn ni hefyd yn ymwybodol nad ydyn ni ddim eisiau i'n plant ni i golli mwy o amser ysgol, a dyna pam fydd y peiriannau ar gyfer monitro'r awyr yn ein hysgolion ni yn cael eu dosbarthu yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ac o ran newid y strategaeth, wel, dim ond wythnos ddiwethaf wnes i gyhoeddi'r strategaeth newydd ar y brechlyn dros y gaeaf, felly na, dydyn ni ddim yn mynd i roi rhaglen newydd eto ar ôl inni gyhoeddi un yr wythnos diwethaf, ond wrth gwrs, rŷn ni wastad yn wyliadwrus o ran edrych mas am amrywiolion newydd. Dyna pam rŷn ni mor bryderus ynglŷn â'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cymryd cymaint o'r amddiffynfeydd o ran cadw pethau allan o Brydain i ffwrdd. Mae hwnna yn ein poeni ni, ond wrth gwrs mae hwnna'n anodd i ni achos bod y ffin mor agored a bod y rhan fwyaf o bobl sy'n teithio dramor yn teithio trwy Loegr.
O ran y problemau o ran prinder offer cymryd gwaed, mae hynny wedi bod yn broblem, fel ŷch chi'n dweud, ers wythnosau lawer; mae'n broblem ryngwladol. Rŷn ni'n gwybod pan ddaw'r vials yma yn ôl mewn, bydd pwysau aruthrol ar GPs unwaith eto i orfod ailddechrau gwneud y gwaith maen nhw fel arfer yn ei wneud. Felly, rŷn ni yn poeni am hynny, ond wrth gwrs, mae gwaith yn cael ei wneud ar draws y byd i geisio cynhyrchu mwy o'r vials yma.
Ac o ran ymchwiliad COVID annibynnol: wel, rôn i ar yr alwad gyda'r Prif Weinidog ddoe pan glywais i Boris Johnson yn ei gwneud hi'n glir y byddai fe yn fodlon siarad gyda Chymru ynglŷn â beth fydd hyd a lled y ffordd dŷn ni'n pwyso a mesur yr ymchwiliad COVID yma, ac mi fyddai fe'n cymryd y sefyllfa yng Nghymru i mewn i ystyriaeth.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynghylch sicrhau bod pobl yn cael eu cyfeirio at y ffynhonnell briodol o gymorth a chyngor meddygol, ac mae'n amlwg bod gan fferyllfeydd cymunedol ran allweddol i'w chwarae, fel y gwyddoch chi. Ond sut y gallwn ni sicrhau bod pobl yn gwybod eu bod yno a bod gan bobl wybodaeth dda am y cynllun anhwylderau cyffredin a sut y gellir ei ddefnyddio? Hefyd, gallai pwysau ychwanegol yn fy etholaeth i gael ei achosi yn sgil cau'r uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon dros dro, ac er fy mod yn gwerthfawrogi sylwadau Cwm Taf Morgannwg y gwneir hyn i wneud y gwasanaeth yn gynaliadwy tra bod staff yn cael eu huwchsgilio i redeg yr uned, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y bydd darpariaeth gyson ar waith cyn gynted ag sy'n bosib?
Ac yn olaf, rwy'n dechrau cael mwy o waith achos gan bobl yr effeithir arnyn nhw gan oedi wrth drosglwyddo gofal, a hynny er gwaethaf y gwaith rhagorol sydd eisoes wedi'i wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a gwn fod Gweinidogion Cymru wedi cefnogi ymatebion arloesol, er enghraifft y cynllun Cadw'n Iach Gartref a ariennir gan y gronfa gofal canolraddol. Rwy'n nodi eich sylwadau y bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhyddhau yr wythnos hon, ond sut y byddwch yn gweithio gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill i fabwysiadu'r dull cyfannol hwnnw er mwyn sicrhau, er enghraifft, fod cartrefi'n addas ar gyfer bobl sy'n cael eu rhyddhau?
Diolch yn fawr iawn, Vikki, ac rydych chi yn llygad eich lle wrth ddweud ei bod yn bwysig iawn ein bod yn lleihau'r pwysau ar y lleoedd y mae pobl yn draddodiadol yn mynd am gymorth, a dyna pam y mae gennym ymgyrch weithgar iawn, 'Helpwch Ni i'ch Helpu Chi', sy'n parhau ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, bydd hynny'n gallu helpu pobl a phwyntio pobl i gyfeiriad fferyllfeydd cymunedol a mannau eraill lle gallan nhw fynd am gymorth. Hefyd wrth gwrs, byddwn ni'n annog pobl i ddefnyddio'r gwasanaeth 111 i gael cyngor dros y ffôn ac ar-lein sydd ar gael iddyn nhw, ac sydd hefyd yn llwyddo i dynnu pwysau oddi ar bobl.
Yn amlwg rwy'n cadw llygad ar y sefyllfa yng Nghwm Cynon mewn cysylltiad â'r ganolfan iechyd yno. Un o'r rhesymau, wrth gwrs, y byddwch yn ymwybodol ohono, yw prinder staff; mae COVID yn effeithio ar bawb, ac mae'n effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Ac felly er mwyn sicrhau eu bod yn gynaliadwy, a gallwn roi gwasanaeth cynaliadwy, yn y tymor hirach, mae'n rhaid i ni atgyfnerthu fel y gall staff gydweithio ar adegau. Rwyf wedi cael sicrwydd y bydd y sefyllfa yno'n cael ei newid yn y flwyddyn newydd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi diwedd ar y sïon y ddeallaf eu bod yn mynd o amgylch y gymuned y bydd ar gau'n barhaol. Gallaf eich sicrhau nad yw hynny'n wir ac mae'n bwysig bod pobl yn deall bod hyn yn rhan o'r gwaith y bydd yn rhaid inni ei wneud i fynd drwy'r gaeaf hwn gyda'n gilydd.
Ac o ran yr oedi wrth drosglwyddo gofal, rwy'n treulio llawer iawn o amser gyda fy nghyd-Aelod Julie Morgan ar fater gofal ar hyn o bryd. Rydym ni'n cael cyfarfodydd wythnosol, rwy'n falch o ddweud, gydag Andrew Morgan, sy'n arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, ac sy'n cymryd diddordeb mawr, ac yn ceisio tanlinellu'r ffaith na allwn ni, mewn gwirionedd, ddatrys y broblem o ran ein hysbytai nes ein bod yn mynd i'r afael â phroblemau ein gwasanaethau gofal. Felly, mae cael pobl o gwmpas y bwrdd gyda'i gilydd o'n hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd yn wythnosol i feddwl am unrhyw syniadau arloesol ynghylch sut y gallwn fynd drwy'r gaeaf hwn, wedi bod yn ymarfer pwysig, ac rydym yn dal i gymryd camau gweithredu yn wythnosol ar hynny. Fel y dywedais i, bydd rhagor o wybodaeth am hynny pan fyddwn ni'n cyhoeddi'r adroddiad yn iawn ddydd Iau.
Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ac am ddarparu swyddogion i friffio aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn y datganiad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n fanwl ar eich cynlluniau, ond, cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ateb un neu ddau o gwestiynau yn ymwneud ag ochr gofal y paratoadau. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi rhybuddio bod y sector yn wynebu ei argyfwng gwaethaf mewn cof. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried yr effaith y mae materion ym maes gofal cymdeithasol yn ei chael ar gapasiti ysbytai, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau digon o gapasiti mewn gofal cymdeithasol dros y misoedd nesaf?
Mae staff sy'n gweithio yn y sector gofal yr un mor agored i salwch â phawb arall. Sut, felly, y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â'r miloedd o weithwyr cartrefi gofal nad ydyn nhw wedi'u brechu'n llawn yn erbyn COVID-19? Ac yn olaf, Gweinidog, mae'r holl arbenigwyr yn rhybuddio y bydd y gaeaf hwn yn gweld un o'r tymhorau ffliw gwaethaf mewn cof. Pam, felly, y mae'n rhaid i weithwyr cartrefi gofal, yn wahanol i'w cydweithwyr yn y GIG, geisio pigiad ffliw gan eu fferyllfa gymunedol? Mewn rhai ardaloedd rydym ni'n gweld amseroedd aros hir am frechlynnau ffliw. Siawns na ddylai'r rhai sy'n gweithio mewn gofal gael blaenoriaeth. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn, Gareth. A gaf i eich sicrhau ein bod yn siarad yn rheolaidd iawn â chynrychiolwyr o'r sector gofal annibynnol hefyd? Rydym yn ymwybodol iawn o'r math o bwysau y maen nhw'n gweithio oddi tano ar hyn o bryd.
Rwy'n credu ei bod yn werth tanlinellu yma unwaith eto y ffaith, mewn gwirionedd, mai rhan o'r rheswm dros y pwysau yr ydym yn ei ddioddef ar hyn o bryd yw oherwydd bod cynifer o'n gweithwyr gofal cymdeithasol yn ddinasyddion yr UE ac maen nhw wedi mynd adref. Felly, er enghraifft—. Nid yw'r rhifau'n swnio'n dda iawn os cymerwch chi nhw fel canran—roedd tua 6 neu 7 y cant ohonyn nhw'n ddinasyddion Ewropeaidd—ond mewn gwirionedd mae hynny'n cyfateb i tua 2,000 i 3,000 o weithwyr gofal, sydd, os ydych chi'n meddwl am hynny, yn nifer enfawr o bobl sydd bellach ar goll o'n system. Felly, rwy'n credu na allwn ni ddianc rhag y ffaith bod Brexit, mewn gwirionedd, wedi bod yn rhan fawr o'r broblem yma.
Nawr, pan soniwch chi am weithwyr gofal nad ydyn nhw'n cael eu brechu, rwy'n falch iawn o ddweud mai ychydig iawn o weithwyr gofal sydd yng Nghymru, mewn gwirionedd, nad ydyn nhw wedi cael eu brechu, ac mae'r niferoedd yn eithriadol o uchel yng Nghymru. Os oes pobl nad ydyn nhw wedi cael eu brechu, mae fel arfer oherwydd bod llif drwy'r system mewn gwirionedd—maen nhw naill ai newydd ddod i mewn, neu maen nhw ar fin gadael, felly maen nhw wedi cael eu pigiad cyntaf ac yna maen nhw wedi gadael. Felly, mae trosiant eithaf mawr, fel y gwyddoch chi, yn y system ofal, ac mae hynny'n mynd rhan o'r ffordd i esbonio'r nifer bychan iawn o weithwyr gofal nad ydyn nhw wedi cael eu brechu, a dyna pam nad ydym ni wedi gorfod mynd i lawr y llwybr y maen nhw wedi'i ddilyn yn Lloegr, gan roi hyd yn oed mwy o bwysau ar eu gwasanaethau gofal.
O ran y ffliw, wrth gwrs y bobl hynny sy'n agored i niwed sy'n gweithio yn y sectorau gofal hynny, byddan nhw yn gymwys i gael y pigiad ffliw hwnnw hefyd.
Yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau croesawu eich datganiad, ac wrth gwrs y briff y bûm i ynddo y bore yma gyda Dr Andrew Goodall. Rwy'n arbennig o falch o weld bod hwn yn gynllun ar y cyd. Nid yw'n ymwneud ag iechyd yn unig; mae'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol a gweithio gyda phartneriaid i helpu i ddarparu gwasanaeth sydd angen cymorth yn y pen draw gan fyrddau iechyd lleol, awdurdodau lleol a darparwyr gofal. Fe wyddoch chi, Gweinidog, fod Hywel Dda wedi lansio cynllun pontio, lle maen nhw'n gweithio i wneud y daith honno o'r ysbyty i'r cartref neu pa leoliad bynnag yn rhwyddach; mae mawr ei angen, ac mae'n cynnig cyfle mewn dwy ffordd: (1) i gael pobl allan o leoliad gofal, ond hefyd cyfle arall i ddod â phobl i mewn i'r lleoliad gofal, a hefyd yn cynnig—
Mae angen i chi ofyn eich cwestiwn nawr.
—cyfle i gamu ymlaen yn eu gyrfa. Felly, fy nghwestiwn i yw hyn, Gweinidog: a wnewch chi edrych ar ganlyniadau'r cynllun pontio hwnnw a gweld a ellir ei ailadrodd ledled Cymru?
Diolch yn fawr iawn, Joyce, a'r un peth yr wyf wedi'i ddysgu ers cael fy mhenodi i'r swyddogaeth hon yw'r gydberthynas absoliwt rhwng iechyd a gofal. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn deall mai rhan o'r rheswm dros y ffaith bod gennym ambiwlansys yn sefyll mewn rhes ger ein drws ffrynt yw oherwydd na allwn ni gael pobl allan drwy'r drws cefn oherwydd gwendid yn ein system ofal, a dyna pam yr ydym ni wedi cael ymgyrch recriwtio enfawr i geisio cael mwy o bobl i ymddiddori mewn swyddogaeth bwysig iawn, swyddogaeth gyfrifol iawn a swyddogaeth sy'n rhoi boddhad mawr. A byddwn ni'n lansio ymgyrch recriwtio arall yn weddol fuan hefyd.
O ran y cynllun pontio yn Hywel Dda, roeddwn yn falch iawn o weld hynny'n cael ei ddatblygu, ac mae gan Abertawe hefyd gynllun gweithredu arloesol iawn mewn cysylltiad â'r math hwnnw o bontio y mae angen ei wneud, a mynd â phobl o'r ysbyty i'r cartref. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn tanlinellu'r ffaith mai'r awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ofal, a'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn anrhydeddu ein hymrwymiad a wnaethom yn y maniffesto a thalu'r cyflog byw i'r gweithwyr hynny yn y sector gofal. Rydym ni'n gweithio'n galed iawn gyda'r undebau llafur ar hyn o bryd i weld sut yn union y gallwn ni wneud hynny. Felly, bydd hynny'n rhan o'r gwaith y byddwn ni'n canolbwyntio arno mewn gwirionedd, pan fydd gennym syniad gwell o lawer o sut mae'r gyllideb gan Lywodraeth y DU yn edrych hefyd.
Diolch, Weinidog. Byddwn yn awr yn atal y trafodion dros dro er mwyn caniatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny yn brydlon, os gwelwch yn dda. Bydd y gloch yn cael ei chanu dau funud cyn i drafodion ailgychwyn. Dylai unrhyw Aelodau sy'n cyrraedd ar ôl y newid aros tan hynny cyn mynd i mewn i'r Siambr.