Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 19 Hydref 2021.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Mae'n siomedig ei fod wedi'i hyrwyddo yn y cyfryngau am gyfnod mor hir cyn iddo gael ei wneud i Aelodau'r Senedd, ond mae'n debyg mai dyna'n union yr ydym ni'n dod i arfer ag ef yma o dan Lywodraeth bresennol Cymru.
Rwy’n credu ein bod wedi cofnodi'r ffaith y byddwn ni'n cymryd rhan yn y comisiwn hwn. Rydym wedi gwneud hynny'n eithaf clir. Rydym ni'n credu ei bod yn bwysig cael llais unoliaeth wrth y bwrdd, a llais y canol-dde wrth y bwrdd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu'n fawr o weld bod annibyniaeth yn un o'r pethau yr ydych chi wedi rhoi'r dasg i'r comisiwn hwn ei ystyried, oherwydd fe wyddom ni i gyd, ac mae wedi’i bwysleisio gan eich Prif Weinidog eich hun, fod annibyniaeth ar y papur pleidleisio yn etholiadau diweddar y Senedd, oherwydd yr oedd yn flaenllaw ac wrth wraidd ymgyrch Plaid Cymru, ac fe'i gwrthodwyd yn llethol. Yn wir, aeth cyfran Plaid Cymru o'r bleidlais i lawr. Felly, mae y tu hwnt i mi pam ar y ddaear y dylid rhoi'r dasg i'r comisiwn edrych ar annibyniaeth ac ystyried annibyniaeth, yn enwedig pan fo Llywodraeth Cymru'n cwyno gyson am beidio â chael digon o adnoddau i allu gwneud y gwaith go iawn y mae pobl eisiau i chi fwrw ymlaen ag ef, sef datrys yr ôl-groniad yn ein GIG, mynd i'r afael â'r problemau yn ein heconomi, a darparu'r addysg dal i fyny mae ar bobl ifanc ledled Cymru ei hangen yn ddirfawr.
O ran penodi'r cyd-gadeiryddion, rwyf yn croesawu'n fawr benodiad Rowan Williams. Rwy'n credu bod hynny'n benodiad cadarn iawn. Ond bydd rhai pobl, wrth gwrs, yn cwestiynu penodiad Laura McAllister. Byddan nhw'n cwestiynu ei phenodiad oherwydd, wrth gwrs, mae'n gyn-ymgeisydd Plaid Cymru mewn dau etholiad seneddol. Byddan nhw'n cwestiynu a oes ganddi farn eisoes ar y materion hyn, ac a yw'n gwbl annibynnol yn y ffordd y gall drefnu busnes y comisiwn penodol hwn. Felly, gofynnaf i chi, Gweinidog: pam y gwnaethoch chi benderfynu mai Laura McAllister oedd y cyd-gadeirydd priodol i’w phenodi ochr yn ochr â Rowan Williams, o ystyried ei hanes fel ymgeisydd Plaid Cymru? Rwy'n credu ei fod yn gwestiwn difrifol mae pobl yn dechrau ei ofyn.
Rwy'n credu ei bod hefyd yn siomedig, mewn gwirionedd, na fu ymgysylltiad priodol â Llywodraeth y DU ynghylch sefydlu'r comisiwn hwn, oherwydd fe wyddom ni i gyd nad yw cael adroddiad unochrog a gynhyrchwyd gan y comisiwn penodol hwn, sy'n canolbwyntio ar Gymru yn unig, yn mynd i ddelio â mater ehangach diwygio cyfansoddiadol ledled y DU, oherwydd mai dim ond mewn partneriaeth â Llywodraethau eraill ar draws y Deyrnas Unedig y gellir cynnal hynny. Felly, pam ydych chi'n teimlo ei bod yn flaenoriaeth bwrw ymlaen â'r gwaith hwn? Beth am gael sgyrsiau pellach gyda Llywodraeth y DU i allu penderfynu ar ffordd ymlaen ar sail pedair gwlad?
Rwyf wedi nodi bod yr amserlen ar gyfer gwaith y comisiwn hwn yn ymddangos yn hir iawn. Pam mae'n ddwy flynedd? Pam, yn eich barn chi, mae angen dwy flynedd ar y comisiwn i ddod i'w gasgliadau terfynol? Beth yw goblygiadau hynny o ran y costau sy'n gysylltiedig â'r comisiwn hwn? A allwch chi ddweud wrthym ni beth yw'r costau yr ydych chi wedi cyllidebu ar eu cyfer o fewn eich adnoddau cyfyngedig fel Llywodraeth Cymru? A fydd yr aelodau annibynnol yn cael eu talu? A fydd y cyd-gadeiryddion yn cael eu talu? Os felly, beth yw eu tâl? Rwy'n credu bod y rhain yn gwestiynau pwysig y mae angen i ni eu gwybod a dylid rhannu hynny yn gyhoeddus.
Rydych chi, yn amlwg, wedi dweud ychydig wrthym ni am y cylch gorchwyl, ac rwy'n nodi bod datganiad a gyhoeddwyd y prynhawn yma tra'r oeddem ni yn y Siambr. Mae'n beth da fy mod i’n gwirio fy negeseuon e-bost, Llywydd, neu fel arall ni fyddwn wedi gallu ei weld. Gallaf weld mai dau amcan cyffredinol syml yw'r cylch gorchwyl. Yn wir, maen nhw mor eang fel na fyddai'n fy synnu pe bai'r comisiwn hwn yn cymryd 20 mlynedd i lunio ei argymhellion. Byddwn i'n gofyn a oes unrhyw fanylion pellach y gallwch chi eu rhoi i ni o ran y cylch gorchwyl neu ai dyna ni’n syml, y ddau amcan cyffredinol hynny:
'Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni;' ac
'Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar'.
Beth mae hynny’n ei olygu? Beth mae 'prif opsiwn blaengar' yn ei olygu 'i gryfhau democratiaeth Cymru'? Ydy hynny'n golygu, o gofio bod pob peth ar y bwrdd, y byddwch chi'n ystyried diddymu'r Senedd? Nid yw hynny'n rhywbeth y byddem ni yn ei gefnogi, ond, yn amlwg, mae hynny'n opsiwn y gellid ei ystyried fel rhan o'r sylw am fod â phopeth ar y bwrdd, yr wyf wedi'i glywed gan un o'r cyd-gadeiryddion hyd yn hyn.
Rydych chi wedi cyfeirio at y panel o arbenigwyr ac rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n dweud mwy wrthym ni am bwy yw'r arbenigwyr hynny. A gaf i ofyn i chi pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i'w safbwyntiau sydd eisoes wedi'u datgan ymlaen llaw pan fyddwch chi mewn gwirionedd yn gwneud penodiadau i'r panel hwnnw o arbenigwyr, ac yn wir yr aelodau annibynnol eraill yr ydych i'w penodi eto?
Gallaf weld bod fy amser ar ben. Mae gennyf gwpl o gwestiynau eraill os caf i, Llywydd; mae'n fater pwysig. Un o'r heriau sydd gennym ni yma yng Nghymru yw bod yn rhaid i ni fynd â'r cyhoedd gyda ni ar unrhyw daith wrth symud ymlaen. Mae'r cyhoedd wedi'u darbwyllo o'r awydd i gael Senedd sy'n gryf, sydd â phwerau deddfu yng Nghymru, ac ymgyrchodd llawer ohonom mewn refferenda ar gyfer hynny. Yn wir, yn y refferendwm diwethaf, ymgyrchais yn drwm dros Senedd rymus gyda phwerau deddfu. Ond os ydych chi'n sôn am fynd â phethau ymhellach o ran y llwybr annibyniaeth hwn, yna mae arnaf ofn y gallaf weld y gefnogaeth hon i'n Senedd yn ei heffeithio’n andwyol. Ydy Llywodraeth Cymru wedi ystyried hynny? Oherwydd rydw i’n ofni ei fod yn rhywbeth a allai danseilio'r Senedd hon a'r gefnogaeth iddi o ddifrif.