1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 20 Hydref 2021.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni mewn tymhorau blaenorol, rwy'n gweithio gyda National Energy Action, National Energy Action Cymru, a Chynghrair Tlodi Tanwydd Cymru, i ailsefydlu'r grŵp trawsbleidiol yn y chweched Senedd. Bydd ein cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar Zoom am 11 a.m. ddydd Llun, 8 Tachwedd—pawb i roi nodyn yn eu dyddiaduron, os gwelwch yn dda—a diolch am gadarnhau y byddwch yn mynychu fel y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Rydym yn cydnabod bod mynd i’r afael â thlodi tanwydd yn fater cyfiawnder cymdeithasol, ond rydym yn cydnabod y bydd gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi tlawd o ran tanwydd yng Nghymru hefyd yn cyfrannu at amcanion newid hinsawdd yng Nghymru. O ystyried bod tlodi tanwydd yn rhan o'ch portffolio chi, ond bod effeithlonrwydd ynni yn rhan o bortffolio'r Gweinidog Newid Hinsawdd, pa mor benodol rydych chi'n cydgysylltu gweithgarwch gyda hi er mwyn sicrhau nad yw'r nodau cyfiawnder cymdeithasol ehangach wrth fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn cael eu colli wrth geisio cyflawni amcanion newid hinsawdd?
Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn, ac edrychaf ymlaen at fynychu'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd. Yn amlwg, mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn mewn ffordd drawslywodraethol, felly drwy weithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, a deall y mater o'i safbwynt hi fel yr un sy'n gyfrifol am dai a mynd i'r afael â newid hinsawdd. Felly, gan weithio gyda'n gilydd, yn enwedig mewn perthynas â threchu tlodi tanwydd, fe wnaethom gyhoeddi'r cynllun i drechu tlodi tanwydd ym mis Mawrth eleni. Cawsom ymgynghoriad cyhoeddus, gyda llawer o ymatebion, wrth gwrs, gan y rheini a fydd, rwy’n siŵr, yn mynychu’r grŵp trawsbleidiol. Ond credaf ei bod yn bwysig nodi ein targedau, a gwneud hynny, wrth gwrs, ochr yn ochr â fy nghyd-Aelod, Julie James. Ac maent yn dargedau lle nad amcangyfrifir, dros y 15 mlynedd nesaf, y bydd unrhyw aelwyd yn byw mewn tlodi tanwydd difrifol neu barhaus; nid amcangyfrifir y bydd mwy na 5 y cant o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd ar unrhyw adeg benodol; ac y dylem edrych ar nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl o syrthio i dlodi tanwydd, a dylent gael eu haneru, fwy na 50 y cant, yn seiliedig ar asesiad 2018. Yr hyn sy'n hanfodol yw bod angen inni sicrhau bod gan 155,000 o gartrefi—sef 12 y cant o gartrefi yng Nghymru—amgylcheddau cartref diogel a chyfforddus, a dyna ble mae hi mor hanfodol bwysig ein bod yn cydweithio'n agos.
Diolch. Mae'r cysylltiad rhwng tlodi tanwydd ac iechyd yn real iawn. Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2018, nodais fod y gost i GIG Cymru o drin pobl sy'n cael eu gwneud yn sâl am eu bod yn byw mewn cartref oer a llaith oddeutu £67 miliwn bob blwyddyn, gydag effeithiau iechyd a achosir gan gartrefi oer yn bennaf gysylltiedig â phroblemau cardiofasgwlaidd ac anadlol. Mae tymereddau isel hefyd yn lleihau ymwrthedd i heintiau ac yn annog tyfiant llaith a llwydni yn y cartref. Ac mae amgylcheddau oer dan do hefyd wedi'u cysylltu ag iechyd meddwl gwael, yn deillio o bryder a straen, ac mae cartrefi oer hefyd yn gwaethygu ynysigrwydd cymdeithasol ac yn lleihau cyrhaeddiad addysgol, ac felly'n croesi i faterion cyfiawnder cymdeithasol. Wrth siarad yng nghynhadledd tlodi tanwydd National Energy Action Cymru ym mis Chwefror 2019, dywedais fod eich rhagflaenydd wedi dweud wrth y grŵp trawsbleidiol y byddai Llywodraeth Cymru'n datblygu cynllun tywydd oer ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac y byddai cronfa argyfwng, ynghyd â mabwysiadu canllawiau a safon ansawdd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yng Nghymru ar farwolaethau ychwanegol y gaeaf ac afiechyd sy'n gysylltiedig ag oerfel hefyd yn allweddol i hyn. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gyfeiriad o gwbl at dlodi tanwydd yn y datganiad ddoe gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gynllun iechyd a gofal cymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gaeaf. O gofio bod y gaeaf bron ar ein gwarthaf unwaith eto, pa gynlluniau penodol i wrthsefyll y tywydd oer drwy gydol y flwyddyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â hyn, fel y mae'n ymwneud â’r materion trawsbynciol yn eich portffolio cyfiawnder cymdeithasol?
Diolch eto am eich cwestiwn dilynol. Rwyf wedi sôn am y cynllun i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Yr hyn sy'n hanfodol amdano yw bod gennym hefyd banel cynghori ar dlodi tanwydd, sydd, wrth gwrs, yn cael ei fynychu gan lawer o'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy yn y grŵp trawsbleidiol, ac mae'n ein cynorthwyo i gydgysylltu camau gweithredu i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru. Yr hyn sy'n bwysig, ac mae'n gysylltiedig â'ch cwestiwn cyntaf, yw rhaglen Cartrefi Clyd, ac mae'n amlwg fod cysylltiad rhwng iechyd a llesiant a mynd i'r afael â thlodi tanwydd hefyd. Felly, mae rhaglen Cartrefi Clyd, fel y gwn eich bod yn gwybod, yn cynnwys cynllun Nyth, sy'n seiliedig ar alw, ac sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2023, a chynllun Arbed, a ddaw i ben yn nes ymlaen eleni, ac mae hwnnw'n darparu cymorth i'r bobl fwyaf anghenus yn y rhaglen Cartrefi Clyd.
Ond credaf ei bod yn bwysig dangos, er enghraifft, mai dyma ble y mae cynlluniau o dan raglen Cartrefi Clyd yn cael y lefel uchaf o fuddsoddiad ar gyfer pob annedd er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cael yr effaith fwyaf bosibl, a gwelliannau nid yn unig er mwyn cael cartrefi cynhesach, ond hefyd er mwyn arbed arian i gartrefi ar eu biliau ynni blynyddol, gan mai dyna sydd mor bwysig am y mesurau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim sy'n cael eu gweithredu drwy gynllun Nyth yn awr.
Diolch, ac er fy mod yn croesawu eich sylwadau am gynllun Cartrefi Clyd, roedd y cwestiwn yn ymwneud yn benodol â'r cynllun tywydd oer, sy'n rhywbeth y mae monitor tlodi tanwydd blynyddol National Energy Action Cymru wedi galw amdano ers peth amser, ac y gwnaeth y Gweinidog yn Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn 2019 ei dderbyn gan ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu.
Ond wrth symud ymlaen, ar 1 Hydref, cynyddodd y cap ar brisiau ynni a osodwyd gan y rheoleiddiwr ynni Ofgem o ganlyniad i'r cynnydd mewn costau ynni, gyda phrisiau nwy yn cyrraedd y lefel uchaf erioed wrth i gyfyngiadau symud gael eu codi ar draws y byd. Er bod y cap ar brisiau'n sicrhau mai costau dilys yn unig y mae'r cyflenwyr yn eu codi ar gwsmeriaid, rhybuddiodd National Energy Action Cymru y byddai'r codiad hwn yn arwain at 22,500 yn rhagor o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd y gaeaf hwn, a galwasant am ddiogelwch cryfach a chymorth ariannol mwy uniongyrchol i aelwydydd incwm isel dros y gaeaf hwn. Sut rydych yn ymateb, felly, i'w datganiad yn dilyn hynny fod gan Lywodraeth Cymru rôl hanfodol i'w chwarae yn cefnogi cartrefi tlawd o ran tanwydd ym mhob math o ddeiliadaeth i ôl-osod ac uwchraddio effeithlonrwydd ynni eu cartrefi, a sut y byddwch yn ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r cymorth ariannol sydd ar gael i gynorthwyo'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd talu biliau ynni cynyddol, yn ogystal â buddsoddiad mwy hirdymor mewn effeithlonrwydd ynni cartref, gan flaenoriaethu'r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon eu defnydd o ynni?
Wel, wrth gwrs, mewn ymateb i'ch cwestiwn penodol y byddaf yn ymateb iddo, ynglŷn â'r cynllun tywydd oer, bydd gennym gynllun tywydd oer ar waith. Soniais am ein cynllun i fynd i’r afael â thlodi tanwydd, ac wrth gwrs, mae pob un o'r rhain yn strategaethau ac yn gynlluniau rhyngweithiol i fynd i’r afael â thlodi tanwydd. Ond byddwn yn gallu ymateb i hynny drwy roi diweddariad erbyn diwedd mis Tachwedd.
Dyma ble y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd a minnau'n cydweithio'n agos iawn, ac rydym yn cyflwyno ein sylwadau i Lywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n gwneud hynny hefyd. Rydych yn cyflwyno sylwadau i mi, ond mae angen cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar gyfer mynd i'r afael â'r materion hyn. Ac yn amlwg, mae angen inni sicrhau bod cyllid ar gael i'n galluogi i chwarae ein rhan. A byddwn yn edrych i weld beth sy'n digwydd yn y cyhoeddiadau ynghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant cyn bo hir.
Ond hefyd, ar Ofgem eu hunain, cyfarfodydd a gynhaliwyd gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a sylwadau rydym yn eu cyflwyno, gan gydnabod y bydd cynnydd yn nifer yr aelwydydd sy'n wynebu tlodi tanwydd, mewn gwirionedd, trafodwyd hyn yn llawn yn ein Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y bore yma yng nghyd-destun cyngor ar ddyledion, a’r ffaith ein bod yn sicrhau nid yn unig ein bod yn rhyddhau £20.1 miliwn i gynllun Nyth—100 y cant o osodiadau'n cael eu cwblhau gan gwmnïau gosod wedi'u lleoli yng Nghymru, gan gynnwys prentisiaethau—ond rydym yn edrych ar archwiliadau hawl i fudd-daliadau, sydd ynddynt eu hunain, drwy ein rhaglen pwyslais ar incwm, yn arwain at sicrhau bod aelwydydd agored i niwed yn manteisio ar fudd-daliadau i'w cefnogi; agored i niwed oherwydd y toriadau rydym newydd fod yn sôn amdanynt i gredyd cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo, a phrisiau tanwydd a bwyd cynyddol hefyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn dilyn y cwestiwn blaenorol, efallai y byddwch yn cofio fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gynharach yr haf pan ddaeth y newyddion gyntaf am y codiadau mewn tariffau tanwydd. Rhybuddiais bryd hynny am yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar gyllidebau aelwydydd, yn enwedig yng ngoleuni penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i fwrw ymlaen â chael gwared ar yr ychwanegiad i'r credyd cynhwysol, er eu bod yn ymwybodol o'r niwed y byddai hynny'n ei achosi. Rydym yn y sefyllfa hon yn rhannol oherwydd blerwch y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn methu buddsoddi mewn capasiti storio nwy, gan wneud y DU yn arbennig o agored i siociau allanol. I mi, mae hyn yn tanlinellu cynlluniau Plaid Cymru i sefydlu cwmni ynni yma yng Nghymru a fyddai’n cynyddu ein gwytnwch ac yn lleihau ein dibyniaeth ar rymoedd allanol. Does bosibl nad yw'r ychydig fisoedd diwethaf wedi dweud wrthym na allwn ddibynnu ar San Steffan gyda'r cyflenwad ynni. A yw cynyddu ein hannibyniaeth ynni'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried yn weithredol er mwyn mynd i’r afael â thlodi tanwydd a phrisiau afresymol? Ac os nad ydyw, pam ddim?
Wel, diolch yn fawr. Ac mae'n hollol iawn ac yn amserol fod y cwestiynau hyn yn codi ynglŷn â pha rôl a phŵer sydd gennym, fel Llywodraeth Cymru, o ran mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Buom yn siarad y bore yma am y storm berffaith a fydd yn taro ac yn effeithio ar deuluoedd agored i niwed. Felly, mae angen inni sicrhau y gallwn gael cymaint o afael a rheolaeth a chyfrifoldebau â phosibl i allu bwrw ymlaen â hyn, o ran cyflenwad ynni ac adnoddau. Yn amlwg, nid yw hyn yn gyfan gwbl yn fy mhortffolio, ond yn y ffordd drawslywodraethol y gweithiwn yn Llywodraeth Cymru, rwy'n amlwg yn gweithio gyda fy nghyd-Aelodau, y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog newid hinsawdd ar y materion hyn.
Diolch yn fawr. I symud ymlaen at rywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo: dros y misoedd diwethaf, mae Cymru wedi croesawu ffoaduriaid, yn dilyn cwymp sydyn Llywodraeth Affganistan. Mae'n anodd dychmygu'r ofn a deimlent wrth ffoi o'u cartrefi, ac mae'n iawn fod Cymru wedi chwarae ei rhan wrth fod yn hafan ddiogel i rai o'r teuluoedd hyn. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae WARD neu gynllun Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru wedi cael cryn lwyddiant yn cynorthwyo pobl i ailddechrau eu bywydau proffesiynol yma yng Nghymru. Maent wedi gwneud hyn drwy gael gwared ar y rhwystrau rhag cofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, sy'n ofynnol er mwyn ymarfer yn y DU. Mae'r cynllun hefyd wedi arbed llawer o arian, gan fod hyfforddi meddygon newydd yn costio oddeutu £230,000, ond mae proses WARD yn costio oddeutu £30,000 am bob meddyg sy'n cwblhau'r cynllun. A all Llywodraeth Cymru ymrwymo i gynorthwyo mwy o weithwyr proffesiynol sy'n ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ailddechrau eu gyrfaoedd drwy geisio ehangu cylch gwaith y cynllun WARD gwreiddiol i gynnwys gweithwyr proffesiynol eraill, a helpu ein GIG?
Diolch yn fawr am eich cwestiwn, Peredur. Roeddwn yn falch iawn o fod yn Weinidog iechyd pan ddechreuasom ar y llwybr hwnnw, gyda’r cynllun meddygon sy'n ffoaduriaid, fel yr oeddem yn ei alw bryd hynny, 20 mlynedd yn ôl. Ac rwyf bob amser yn cofio adroddiadau Aled Edwards ar faint o'r meddygon o ffoaduriaid hynny yr oeddem yn eu cefnogi gyda sgiliau iaith, drwy'r cynllun a ddatblygwyd, ac sydd bellach wedi'i efelychu a'i ddilyn, nid yng Nghymru, ond ledled y DU a thu hwnt, a sut yr oedd cymaint o'r meddygon hynny a gydnabuwyd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gweithio wedyn yn y GIG ledled Cymru a'r DU. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar y cyfleoedd a chwmpas y cynllun hwnnw. Bydd yn fater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—. Mewn gwirionedd, rwyf wedi trafod y cwestiwn hwnnw gyda hi, nid yn unig o ran meddygon, ond gweithwyr iechyd proffesiynol eraill hefyd. Ond hoffwn ddweud bod gennym gyfleoedd, unwaith eto, gyda'r ffoaduriaid o Affganistan sy'n dod i ymuno â ni yma yng Nghymru, gyda llawer ohonynt yn meddu ar sgiliau—eu teuluoedd cyfan; mae gan y gwŷr a’r gwragedd sgiliau—fel y gwelsom gyda’r ffoaduriaid o Syria, sydd bellach yn chwarae eu rhan, yn enwedig yn y GIG, ac yn sicr, byddaf yn codi’r pwynt eto ynglŷn â’r cynllun a sut y gallwn ei wella.
Diolch, a diolch am fwrw ymlaen â hynny. Yn ddiweddar, cyflwynais ddadl ar gamddefnyddio sylweddau. Yn ystod y ddadl honno, nododd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod dull y Llywodraeth o ymdrin â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn canolbwyntio ar iechyd a lleihau niwed. O gofio hyn, sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac yn ymgysylltu â hwy i sicrhau bod y dull hwn yn cael ei drosi'n weithredu gyda'r heddlu ar lawr gwlad? Yn benodol, sut y mae'r Llywodraeth a'r comisiynwyr heddlu a throseddu'n cynorthwyo swyddogion i nodi problemau camddefnyddio sylweddau neu gaethiwed ac i ymateb yn briodol yn unol â'r dull iechyd a lleihau niwed?
Wel, diolch am eich cwestiwn. Mae'n amserol iawn eto, gan y byddaf yn cyfarfod â'r comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol yfory, Dafydd Llywelyn, a byddaf i, ac yntau, rwy'n siŵr, yn ymwybodol o'r cwestiynau a ofynnwyd i mi y prynhawn yma gyda fy rôl arweiniol mewn perthynas â phlismona. Rwy’n cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth plismona gyda’r Prif Weinidog, ac mae'n rhaid imi ddweud, dros y 18 mis diwethaf, er ein bod wedi bod yn canolbwyntio ar effaith y pandemig a’r cymorth y mae’r heddluoedd wedi bod yn ei roi i ymateb i'r pandemig a chyflwyno nifer fwy o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu, sy'n galonogol iawn, mae camddefnyddio sylweddau hefyd wedi bod yn amlwg ar yr agenda. Mae'n rhywbeth lle mae'r heddluoedd, yn arbennig, dan arweiniad y comisiynwyr heddlu a throseddu, yn edrych ar atal o ran rôl gwasanaethau'r heddlu yng Nghymru. Ac rydym yn canolbwyntio ar beth yw anghenion Cymru ac amgylchiadau Cymru, a byddaf yn codi hyn eto gyda Dafydd Llywelyn, y comisiynydd heddlu a throseddu arweiniol, pan fyddaf yn cyfarfod ag ef yfory.
Mae cwestiwn 3 [OQ57061] wedi'i dynnu yn ôl. Cwestiwn 4, Mabon ap Gwynfor.