2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2021.
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am ymateb y Llywodraeth i'r argymhellion a wnaed gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ57046
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar gyfiawnder ar 30 Medi, ac ychydig dros 10 diwrnod yn ôl, cefais y fraint o annerch cynrychiolwyr yng nghynhadledd Cymru'r Gyfraith, pan wneuthum ailddatgan ein hymrwymiad i fynd ar drywydd yr achos dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno â mi ar draws y meinciau yn y Siambr fod toriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU yn golygu ei bod yn anos i bobl gyffredin gael mynediad at gyfiawnder. Rwy'n siŵr fod Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn cytuno â mi na ddylai mynediad at gyfiawnder fodoli ar gyfer y cyfoethog yn unig. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu sefydliadau i ddarparu cyngor cyfreithiol, ac mae hyn yn achubiaeth wirioneddol i lawer, ac mae'n hanfodol fod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n effeithlon. Nawr, Gwnsler Cyffredinol, argymhellodd yr adroddiad 'Cyfiawnder yng Nghymru dros Bobl Cymru', ac rwy'n dyfynnu:
'Dylai'r cyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol a'r trydydd sector sy'n rhoi cyngor a chynhorthwy gael ei ddwyn ynghyd yng Nghymru i ffurfio un gronfa o dan gyfeiriad strategol corff annibynnol.'
Gwnsler Cyffredinol, a ydych yn cytuno â'r argymhelliad hwnnw ac os felly, pa mor gyflym y gallwn weithredu'r argymhelliad hwn?
Wel, diolch am hynny, ac ydw, rwy'n cytuno â'r argymhelliad. Wrth gwrs, gwnaed yr argymhelliad yng nghyd-destun datganoli cyfiawnder ymhellach. Hefyd, efallai, hoffwn ailddatgan y sylwadau a wnaethoch mewn perthynas ag effaith toriadau i gymorth cyfreithiol. Mae hyn yn rhywbeth a godwyd gennyf bron bob tro y cefais gyfarfod gyda swyddogion y gyfraith a'r farnwriaeth berthnasol. Mae'n fater sy'n cael ei godi'n rheolaidd yn y Siambr hon, gan fod gennym, i bob pwrpas, system gyfiawnder ddwy haen bellach: system gyfiawnder i'r rheini a all ei fforddio a fawr iawn o gyfiawnder i'r rheini na allant ei fforddio.
Rydym ni fel Llywodraeth Cymru wedi camu i'r adwy gydag adnoddau nas bwriadwyd ar gyfer hyn gyda'r gronfa gynghori sengl y cyfeiriodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ati'n gynharach, pwysigrwydd honno, ond nid yw'n cymryd lle system gyfiawnder a ariennir yn briodol a system gymorth cyfreithiol a ariennir yn briodol. Rwy'n gobeithio, serch hynny, fod y gronfa gynghori sengl a'r buddsoddiad a wnawn yn y cymorth hwnnw'n darparu'r sylfaen ar gyfer sefydlu cronfa cymorth cyfreithiol i Gymru yn y pen draw.
Credaf ei bod hefyd yn werth cyfeirio at y sylwadau a wnaed yn ddiweddar gan y cyn-Arglwydd Ganghellor, Robert Buckland, a soniodd, yn y bôn, am y ffordd y tanfuddsoddwyd mewn cyfiawnder ers degawdau, ac rwy'n cytuno â hynny, a chredaf mai'r toriadau mewn perthynas â chymorth cyfreithiol oedd yr enghraifft waethaf, bron iawn, o hynny. Ond nid oes unrhyw amheuaeth y bu methiant hirdymor i werthuso pwysigrwydd y system gyfiawnder a bod y system gyfiawnder, yn y pen draw, yn ymwneud â grymuso pobl yn ein cymunedau. Felly, credaf ei fod yn fater arall sy'n gysylltiedig â phwynt a wnaed yn gynharach mewn perthynas â'r comisiwn a'r angen am yr adolygiad sy'n debygol o ddigwydd.