5. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2021.
1. Pa effaith y bydd adolygiad o ffyrdd Llywodraeth Cymru yn ei chael ar welliannau sydd eisoes ar y gweill ar yr A40: ffordd osgoi Llanddewi Felffre i Redstone Cross? TQ572
Fel y gwneuthum gadarnhau i Joyce Watson yn y pwyllgor newid hinsawdd y bore yma, ni fydd prosiect yr A40 Llanddewi Felffre i Redstone Cross yn cael ei adolygu gan y panel adolygu ffyrdd, a bydd yn mynd rhagddo yn ôl y rhaglen.
Diolch ichi, Ddirprwy Weinidog. Mae hynny'n galonogol iawn i'w glywed ar ôl penwythnos pryderus yng ngorllewin Cymru, fel y byddwch yn deall, yn sgil datganiad i'r wasg a ddywedodd i'r gwrthwyneb. Dywedodd eich swyddfa, 'Rydym yn deall y diddordeb yn y prosiect hwn. Mae'n iawn fod cwmpas yr adolygiad mor eang â phosibl. Y tu hwnt i hynny, ni allwn bennu ymlaen llaw beth fydd barn y panel', gan ddynodi'n glir fod prosiect yr A40 yn Redstone Cross/Llanddewi Felffre yn rhan o'r adolygiad. Ac ar lawr y Siambr, rhoesoch sicrwydd bedair gwaith i mi a fy nghyd-Aelodau, ac eto heddiw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y sicrwydd hwnnw. Bydd y bobl yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a Llanddewi Felffre yn ddiolchgar iawn amdano, yn ogystal â chyn grwner Ei Mawrhydi, Mark Layton, a alwodd am hyn hefyd yn dilyn nifer o ddamweiniau angheuol cas ar y darn peryglus hwn o'r ffordd.
Rwy'n ddiolchgar iawn fod hyn wedi digwydd, a'r rheswm rwy'n ei gyflwyno heddiw yw bod hyn yn ymwneud â mwy na'r prosiect hwn ar ei ben ei hun; mae'n ymwneud â chymryd y sicrwydd y mae Gweinidogion y Llywodraeth yn ei roi i ni fel aelodau o'r meinciau cefn a'r gwrthbleidiau—ein bod yn gallu ei dderbyn ar ei olwg, ein bod yn gallu credu'r sicrwydd a gawn i gwestiynau ysgrifenedig ac i gwestiynau llafar yma yn y Siambr. Fel y dywedais, Ddirprwy Weinidog, clywais eich ymateb i fy nghyd-Aelod, Natasha Asghar, yn gynharach ynghylch y Ceidwadwyr a ffyrdd. Mae hyn yn ymwneud â mwy na'r ffordd hon, Ddirprwy Weinidog; mae'n ymwneud â sicrhau bod y wybodaeth a gawn fel Aelodau yn gywir, ac osgoi gwrthdaro diangen pan fydd adroddiadau yn y wasg yn dweud mai'r gwrthwyneb sy'n wir. Felly, rwy'n croesawu eich ymrwymiad i'r prosiect hwn. Gwn y bydd pawb yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn ei groesawu, bydd busnesau'n ei groesawu, yn ogystal â chymuned Llanddewi Felffre, sydd wedi bod yn galw am y prosiect hwn ers nifer o flynyddoedd. Diolch.
Rwy'n hapus iawn i egluro, pan gyhoeddwyd yr adolygiad ffyrdd, ein bod wedi gwahaniaethu rhwng ffyrdd a oedd o fewn y cwmpas a'r rhai a oedd y tu allan i'r cwmpas. Roedd y rhai a oedd y tu allan i'r cwmpas yn rhai lle roedd contractau wedi'u gosod. Yr ymadrodd a ddefnyddiais oedd bod 'cloddwyr yn y ddaear'. Nawr, credaf fod Mr Kurtz wedi dehongli 'cloddio yn y ddaear' braidd yn llythrennol ac wedi gwneud cyfres o awgrymiadau nad oedd cloddwyr yn y ddaear—nad oedd y gwaith yn digwydd. Gwnaeth ef a'r AS lleol gyfres o sylwadau mewn papurau newydd ac yn y Senedd a awgrymai efallai ein bod wedi categoreiddio'r cynllun hwn yn anghywir, ac efallai y dylai fod o fewn yr adolygiad ffyrdd am nad oedd gwaith wedi dechrau. Roeddwn o ddifrif ynglŷn â hynny, fel y credaf y dylwn fod—ynglŷn â'r pwynt yr oedd yr Aelod wedi'i wneud i ni.
Roedd y panel adolygu ffyrdd, pan gafodd ei sefydlu gan Dr Lynn Sloman, yn gweithio yn ôl cylch gorchwyl a ddywedai na fyddai prosiectau'n rhan o'r adolygiad os oedd y gwaith yn rhy ddatblygedig i'w ddirwyn i ben. O ystyried yr hyn a ddywedodd Mr Kurtz, cawsom drafodaeth gyda'r panel ynglŷn ag a oedd hyn yn wir ai peidio. Gofynnodd y panel a fyddent yn gallu edrych ar y cynllun fel rhan o'u hadolygiad ai peidio, a chyfarfûm â swyddogion i ddeall cyflwr y cynllun. Ac ar ôl edrych arno, rwy'n fodlon fod y ffordd, mewn gwirionedd, wedi datblygu gormod i ddirwyn y gwaith i ben. Mae cost y ffordd oddeutu £80 miliwn am ychydig o ddarnau; mae oddeutu £20 miliwn o'r arian hwnnw wedi'i ymrwymo ac ni ellir ei adfer. At hynny, pe baem yn gohirio'r cynllun ymhellach, mae perygl gwirioneddol y byddai Cymru'n colli'r arian Ewropeaidd yn gyfan gwbl.
Felly, o gofio hynny, mae fy natganiad gwreiddiol yn sefyll. Credaf ei fod yn gwbl ddiffuant pan gafodd ei ddweud, ac fel y dywedais, dim ond ar ôl i Sam Kurtz holi dro ar ôl tro a allem fod wedi cael hyn yn anghywir y gwnaethom edrych arno eto. Ond ar ôl edrych arno eto, rwy'n fodlon fod y dyfarniad gwreiddiol yn gywir ac y dylai'r ffordd fynd yn ei blaen.
Pan ofynnais y cwestiwn i chi yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y bore yma, roedd hi'n braf cael ateb yr oeddech eisoes wedi'i roi o'r blaen, yn ôl pob golwg. Rwy'n teithio ar y ffordd hon—i fyny ac i lawr—o leiaf ddwywaith yr wythnos a gallwn weld yn glir fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Nid wyf yn siŵr a welais beiriant cloddio, ond yn sicr, gallwn weld gwaith. Roeddwn yn sicr yno mewn goleuadau traffig hefyd, a oedd yn dal traffig yn ôl, yn gwbl briodol.
Ond credaf mai'r hyn a welwn yma yw buddsoddiad o £80 miliwn mewn gwella ffordd, gan gyflawni addewid a wnaed gennym. Ac rwy'n anghytuno â'r ffaith bod yn rhaid i'r hyn rydym ni—rydych chi, fel Gweinidogion—yn ei ddweud wrth bobl fod yn gredadwy. Wel, hyd y gwelaf, roedd bob amser yn gredadwy, gan fod eich atebion yn eithaf clir i unrhyw un a oedd yn dymuno gwrando. Felly, fy ngair olaf ar hyn yw ei bod yn ymddangos i mi fod hyn yn llawer o ffwdan ynghylch dim.
Ddirprwy Weinidog, a hoffech ychwanegu unrhyw beth?
Ni chredaf fod unrhyw beth i'w ychwanegu. Diolch i Joyce Watson am ei sylwadau ac rwy'n cytuno â'i chrynodeb.
Diolch, Dirprwy Weinidog. Y cwestiwn amserol nesaf, Peredur Owen Griffiths.