Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Mae gennym argyfwng ym maes gofal cymdeithasol, onid oes, a chredaf fod hynny'n ffaith—argyfwng a achoswyd gan ddiffyg staff. Ni allwn recriwtio digon o bobl i weithio yn y sector gofal, oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r cyflog a'r amodau'n ddeniadol. Ddirprwy Weinidog, fe wyddoch fy marn am gyflog gweithwyr gofal a'r ffaith y dylem fwrw ymlaen i godi cyflogau. Fodd bynnag, mae pethau wedi newid ers y tro diwethaf inni drafod hyn. Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r gronfa gofal cymdeithasol a bydd cyllideb yr wythnos diwethaf yn golygu biliynau o bunnoedd yn ychwanegol i Gymru bob blwyddyn. Pryd y bydd gweithwyr cartrefi gofal yn gweld cyflog byw go iawn, Ddirprwy Weinidog? Gwn eich bod wedi sôn o'r blaen ei fod yn £9.50, ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi bod yn galw am isafswm cyflog o £10 i weithwyr cartrefi gofal a staff gofal cymdeithasol. Felly, a oes unrhyw gynnydd tuag at weld hynny'n dwyn ffrwyth?