Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 3 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:32, 3 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Rydym yn derbyn bod problemau gwirioneddol ym maes gofal cymdeithasol ac mae'n anodd iawn recriwtio ar hyn o bryd. Y rheswm y mae mor anodd recriwtio yw bod swyddi mwy deniadol wedi dod ar gael yn ddiweddar yn y sector manwerthu neu yn y sector lletygarwch i rai gweithwyr gofal. Mae'n anodd iawn denu pobl i'r maes gofal cymdeithasol ar hyn o bryd. Ond rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r cyflog byw go iawn. Cyhoeddir y diweddariad i'r cyflog byw go iawn ar 15 Tachwedd, er fy mod yn credu bod angen inni aros i weld faint yn union y bydd. Rydym am i hyn gael ei gyflwyno cyn gynted ag y gellir yn y tymor hwn. Rydym yn edrych tuag at gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr, pan fyddwn yn gallu gwneud rhagor o gyhoeddiadau ynglŷn â sut y byddwn yn symud ymlaen, yn enwedig yn dilyn cyhoeddi'r cynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol yn Lloegr.