Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Bydd unrhyw oedi cyn gwella cyflog ac amodau staff yn parhau i gael effaith ar recriwtio. Teimlir yr effaith hon gan ein GIG a'n byrddau iechyd lleol, sy'n cymryd sylw ac yn gweithredu'n briodol. Mae rhai byrddau iechyd bellach yn ystyried cyflogi staff gofal yn uniongyrchol. Fodd bynnag, yn hytrach na helpu i fynd i'r afael â'r broblem, mae'r sector gofal o'r farn fod hyn yn arwain at ddwyn staff gan y GIG, sy'n cynnig gwell cyflogau ac amodau. Ddirprwy Weinidog, rydym i fod i integreiddio iechyd a gofal, nid gwneud iddynt gystadlu â'i gilydd. Sut y bydd eich Llywodraeth yn sicrhau nad yw'r cynlluniau peilot hyn gan fyrddau iechyd lleol yn creu prinder yn y sector gofal? Diolch.