Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 3 Tachwedd 2021.
Diolch. Cyfarfûm yn ddiweddar â Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru, a chyfarfûm â hwy eto heddiw; maent yn y Senedd heddiw, ac mae ganddynt lawer o gwestiynau heb eu hateb. Nid oes ganddynt fawr o ffydd y bydd ymchwiliad ledled y DU yn rhoi'r holl atebion y maent yn ysu amdanynt er mwyn rhoi tawelwch meddwl iddynt ar ôl marwolaeth perthynas agos. Mae un o'r prif gwestiynau sydd ganddynt yn ymwneud â marwolaethau o COVID-19 a ddaliwyd yn yr ysbyty. Dywedodd un ymgyrchydd wrthyf fod ei thad wedi marw o COVID ar ôl cael ei anfon adref o'r ysbyty yn dilyn triniaeth am haint ar goden y bustl. Yn ystod ei arhosiad yn yr ysbyty, daeth i gysylltiad â 13 o gleifion, tri yn yr un ystafell, a 14 o staff ar ei ward. Ac eto, cafodd ei anfon adref heb gael ail brawf ac ni chafodd y teulu wybod am ei gysylltiad a'i risg bosibl o ddal COVID-19. Oni chredwch fod gwersi i'w dysgu o ymchwiliad cyhoeddus llawn i ddull Cymru o fynd i'r afael â'r coronafeirws, ac oni chredwch ei bod yn bwysig inni ddysgu gwersi o hyn? Oni ddylech fod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Vaughan Gething ychydig funudau'n ôl—ei bod yn bryd gwneud eich gwaith a sefyll dros Gymru?