2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 10 Tachwedd 2021.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain? OQ57137
Mae rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain wedi buddsoddi £1 biliwn yn ein hystâd addysgol hyd yn hyn. Fel y cyhoeddais yn ddiweddar, byddwn yn parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan ddiwallu'r galw lleol am addysg a hefyd i gefnogi ein hymrwymiadau mewn perthynas â'r argyfwng hinsawdd a sicrhau ein bod yn darparu cymunedau dysgu cynaliadwy.
Weinidog, roedd yn bleser ymuno â chi yn agoriad swyddogol yr ysgol newydd gwerth £10.2 miliwn, Ysgol Gynradd Hirwaun, ddydd Iau diwethaf, y rhoddodd Llywodraeth Cymru 65 y cant o'r cyllid tuag ati. Dyma’r ysgol ddiweddaraf mewn cyfres o ysgolion newydd i gwm Cynon, pob un wedi’i hariannu ar y cyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru, gan fuddsoddi o ddifrif mewn pobl ifanc yn lleol. Mae ysgol Hirwaun hefyd yn cynnwys cyfleuster Dechrau'n Deg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, felly pa drafodaethau y mae eich adran wedi'u cael ynglŷn â sut y gellir ymgorffori cyfleusterau tebyg mewn prosiectau ysgolion yn y dyfodol a adeiladir drwy gyllid cymunedau dysgu cynaliadwy?
[Anghlywadwy.]—fel y gwn fod yr Aelod, gan y cyfleoedd sydd wedi codi yn yr ysgol honno drwy gydleoli'r ddarpariaeth Dechrau'n Deg gyda'r ysgol ei hun. A chlywsom, rwy’n meddwl, gan ystod o staff pa mor llwyddiannus y bu hynny wrth gefnogi plant ar eu taith ddysgu.
Cyflwynir rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain, a'r rhaglen cymunedau dysgu cynaliadwy fel y caiff ei galw o'r flwyddyn nesaf ymlaen, mewn partneriaeth â ffrydiau cyllido eraill Llywodraeth Cymru, megis y grant gofal plant, y grant hybiau cymunedol ac eraill. Felly, golyga hynny fod y ddarpariaeth gofal plant wedi'i hymgorffori i raddau helaeth yn y broses o werthuso cynigion, wrth iddynt gael eu cyflwyno, a chânt eu hadolygu gan swyddogion polisi'r blynyddoedd cynnar yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir gwneud y defnydd gorau o'r cyfleusterau yn y ffordd y mae hi'n awgrymu. Rydym yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol i ariannu cynlluniau cyfalaf Dechrau'n Deg i gefnogi darpariaeth barhaus y rhaglen flaenllaw, ac rydym yn edrych am bob cyfle ymarferol i alinio'r amcanion hynny lle bynnag y gallwn.
Diolch i'r Gweinidog.