– Senedd Cymru am 5:38 pm ar 17 Tachwedd 2021.
Symudwn ymlaen at y ddadl fer. Galwaf ar Huw Irranca-Davies i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn y ddadl hon, byddaf yn nodi'r angen dybryd i gynhyrchu cynllun a ariennir ar y cyd ac a gefnogir gan y Llywodraeth i unioni gwaith nad yw'n ddigon da ar osod cladin allanol a rhywfaint o gladin waliau mewnol mewn cartrefi yng Nghaerau yn fy etholaeth o dan raglen arbed ynni yn y gymuned 2012-13/Arbed 1, ac i wneud iawn am y difrod a wnaed i gartrefi a bywydau pobl.
Mater o gyfiawnder naturiol yw hwn. Bron i ddegawd yn ôl, addawyd cartrefi cynhesach a mwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni gyda biliau is i drigolion. Yn yr achosion gwaethaf, maent bellach yn dioddef lleithder a llwydni helaeth ac amodau dirywiol, lle mae gwaith gosod diffygiol wedi niweidio nid yn unig eu cartrefi ond eu bywydau. Felly, Weinidog, gofynnaf i Lywodraeth Cymru gamu i'r adwy a chwarae rhan arweiniol i ddatrys y materion hyn, oherwydd yn syml iawn, ni all neb arall wneud hyn bellach.
Rwy'n ymwybodol fod enghreifftiau eraill o insiwleiddio is-safonol mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond fy nadl i i'r Gweinidog, serch hynny, a dadl trigolion yng Nghaerau, yw bod maint y difrod yng Nghaerau, nifer y cartrefi yr effeithiwyd arnynt a'r ffaith bod hyn wedi bod yn digwydd ers amser hir, yn golygu bod angen cynllun ar frys i ddatrys y materion hyn. Mae'n hen bryd. Mae angen inni ddatrys hyn yn awr.
I ddechrau, gadewch imi ailddatgan fy nghefnogaeth i bwysigrwydd hanfodol ôl-osod o ansawdd da mewn cartrefi hŷn, oerach ac aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni. Yn wir, ym mis Gorffennaf, nododd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru pa mor enfawr yw'r her, ond hefyd nododd y manteision enfawr o wneud y penderfyniadau cywir ar ôl-osod ac effeithlonrwydd ynni. Dadleuodd y gellid dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2030, gyda £15 biliwn—yn ei geiriau hi—o fuddsoddiad trawsnewidiol i ôl-osod cartrefi er mwyn lleihau'r galw am ynni a gwresogi, gan arbed cannoedd o bunnoedd y flwyddyn i dalwyr biliau a £8.3 biliwn y flwyddyn ar filiau erbyn 2040, gan wella a moderneiddio stoc enfawr Cymru o dai hŷn, creu 26,500 o swyddi bob blwyddyn mewn cymunedau ledled Cymru erbyn 2030, arbed £4.4 biliwn i'r GIG erbyn 2040, a helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau allyriadau carbon sero-net erbyn 2050.
Amlygodd yr adroddiad fod gan Gymru rai o'r tai hynaf a lleiaf effeithlon yng ngorllewin Ewrop, a bod tua un o bob wyth o gartrefi Cymru mewn tlodi tanwydd. Nododd ymhellach fod Cyngor ar Bopeth yn nodi bod mwy na 66,000 o aelwydydd yng Nghymru ar ei hôl hi gyda'u biliau ynni ers dechrau'r pandemig, a bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o fod mewn dyled ynni. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu dadansoddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal fod pobl sy'n agored i niwed sy'n byw mewn cartref oer yn fwy tebygol o ddioddef salwch difrifol ac iechyd gwael neu o farw, ac yn wynebu mwy o risg o ddioddef trawiad ar y galon, strôc, problemau anadlu, ffliw, iselder a chwympiadau. Felly, mae'r achos dros effeithlonrwydd ynni da, gan gynnwys ôl-osod, yn glir. Mae'n rymus, mae'n fater brys. Ond er mwyn bod yn hyderus yn y camau nesaf ar y daith hanfodol honno, mae angen inni hefyd roi hyder i bobl, pan fydd pethau'n mynd o chwith, fel y gwnânt weithiau, y bydd pethau'n cael eu hunioni'n gyflym ac yn effeithlon. Nid yw hyn wedi digwydd yng Nghaerau ac mewn rhai mannau eraill yng Nghymru a'r DU yr effeithiwyd arnynt yn sgil gwaith nad yw'n ddigon da ar osod cladin ar waliau mewnol ac allanol.
Cyhoeddwyd asesiad annibynnol ym mis Gorffennaf 2020 o ddim ond 36 o gartrefi sampl yng Nghaerau, a oedd yn rhan o raglen arbed ynni yn y gymuned 2012-13/rhaglen effeithlonrwydd ynni Arbed 1. Adroddodd fod gan bob un o'r 36 o gartrefi yn y sampl a arolygwyd—pob un ohonynt—ryw fath o ddiffyg a achoswyd gan waith nad oedd yn ddigon da. Heb ystyried a oeddent yn rhan o gynllun Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Llywodraeth Cymru, neu Lywodraeth y DU—heb ystyried hynny—amcangyfrifir bod cyfanswm cost atgyweirio'r holl gartrefi yng Nghaerau oddeutu £1.1 miliwn. Rwyf wedi dweud yn gyson wrth Weinidogion ers peth amser—wrth y Gweinidog presennol ac wrth Weinidogion blaenorol yn nhymor diwethaf y Senedd—mai'r ffordd i'w ddatrys yw drwy gynllun wedi'i ariannu ar y cyd, gan ddefnyddio cyfraniadau ar ffurf arian neu'n weithredol gan bawb a oedd â rhan i'w chwarae yng nghynlluniau 2012-13. Mae'n rhaid i hynny gynnwys Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rheoleiddiwr y DU, fel dirprwy i'r cwmnïau ynni mawr a ariannodd y cynlluniau hyn drwy gronfa ardoll, ac awdurdodau lleol a weinyddodd rannau o'r cynlluniau hefyd.
Yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y problemau a all godi ac a wnaeth godi yn rhai o'r cynlluniau cynnar. Yn 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad o'r enw 'Canllaw Prosiectau Inswleiddio Waliau
allanol (EWI): Canllaw caffael ar gyfer EWI i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig'. I osod y cyd-destun, nododd fod tua chwarter yr anheddau yng Nghymru â waliau solet, un o bob 25 yn anheddau heb fod yn draddodiadol ac ychydig dros un o bob 10 â cheudodau cul. Mae'n nodi
'Er mwyn gwella perfformiad thermol anheddau â’r mathau hyn o waliau, mae angen inswleiddio ochr fewnol neu allanol y wal'.
Mae'n nodi bod hon yn
'broses ddrutach o lawer na’r mesurau gwella mwy cyffredin y cyfeiriwyd atynt yn gynharach. Fodd bynnag, mae’n gallu lleihau biliau ynni yn sylweddol a gwneud y cyfryw anheddau yn fwy cyfforddus.'
Popeth yn iawn hyd yma. Ond hoffwn nodi bod y rhan fwyaf o ddiffygion a difrod yng Nghaerau wedi deillio o'r math hwn o osodiad yn union, yn bennaf gyda chladin waliau allanol, ond rhai â chladin waliau mewnol hefyd. Felly, rwyf fi a'r trigolion yn nodi gyda diddordeb fod yr adroddiad y cyfeiriaf ato yn mynd rhagddo i ddweud, ac rwy'n dyfynnu:
'Yn anffodus, mae astudiaethau diweddar wedi nodi enghreifftiau o sgil-effeithiau annymunol yn dilyn gwaith inswleiddio ôl-addasu mewn anheddau â waliau ceudod a waliau solid. Mae hyn wedi arwain at lefelau uwch o anwedd a llwydni mewn anheddau, gan ddifrodi’r adeilad.'
Aiff ymlaen i fanylu ar achosion sylfaenol cyffredin sy'n cynnwys caffael, gosod a chynnal a chadw gwael. Maent mewn gwirionedd yn cynnwys yr holl ffactorau y bydd fy etholwyr yn gyfarwydd â hwy yng Nghaerau, megis safonau arolygu gwael o'r cychwyn; diffyg system ddylunio gadarn; dewis eiddo sy'n amhriodol ar gyfer y mesurau a ddewiswyd; manylebau gwael; dim defnydd o fanylion i fynd i'r afael â lefelau cysylltiad â'r tywydd na'r potensial ar gyfer pontio thermol; diffyg gwiriadau ansawdd ar safleoedd; diffyg gwirio a chynnal a chadw parhaus yn dilyn y gwaith gosod.
Felly, Weinidog, nod canllawiau Llywodraeth Cymru y cyfeiriaf atynt yw cywiro camgymeriadau blaenorol drwy gryfhau'r canllawiau ar ddefnyddio a chomisiynu mesurau ôl-osod effeithlonrwydd ynni. Maent i'w croesawu'n fawr iawn. Ond mae yna gydnabyddiaeth ddealledig fod pethau wedi bod yn mynd o chwith, hyd yn oed os yw'r rhan fwyaf o osodiadau ledled Cymru wedi bod yn llwyddiannus. Ac nid yw'n llawer o gysur i fy etholwyr sy'n gorfod wynebu camgymeriadau cynlluniau cynnar blaenorol.
Felly, ar y pwynt hwn, gadewch imi ailadrodd: Rhif 1, mae angen clir a grymus ar frys i barhau i ôl-osod eiddo hŷn, fel y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'i nodi, ac i wneud hynny'n gyflymach a chyda mwy o frys; ond Rhif 2, mae angen gwneud hyn mewn ffordd sy'n dysgu gwersi o bethau sydd wedi mynd o chwith, ac sy'n osgoi ailadrodd y camgymeriadau hynny; a Rhif 3, yn bwysicaf oll, mae yna angen yr un mor glir a grymus, i unioni camgymeriadau cynlluniau'r gorffennol a gwneud hynny yn awr. Oni wnawn hyn, bydd yr hyder mewn cynlluniau newydd yn sigledig, ar y gorau.
Felly, mae'r canllawiau diwygiedig y cyfeiriais atynt uchod wedi ceisio cryfhau gweithdrefnau, arferion a safonau. Mae'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd eisiau cyfeirio at y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio fel cam allweddol arall wrth ôl-osod yn dda, gyda'r gosodiadau cywir, yn yr eiddo cywir, gan y gosodwyr cywir, gyda'r oruchwyliaeth gywir, a chyda'r amddiffyniad cywir i breswylwyr. Ond nid yw hyn yn unioni'r problemau hanesyddol a pharhaus sy'n wynebu fy etholwyr yng Nghaerau, ac eraill ar draws rhannau eraill o Gymru ac yn y DU o ran hynny, lle mae'r gwaith o osod cladin wedi mynd o chwith.
Felly, Weinidog, rhaid canolbwyntio yn awr ar adfer eiddo lle mae pethau wedi mynd o chwith, ni waeth beth a achosodd y broblem yn y lle cyntaf a dweud y gwir. Dyna pam, ar ran fy etholwyr sydd wedi cael eu heffeithio, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru heddiw i helpu i ddatrys hyn.
Mae'r Gweinidog a minnau—a'i rhagflaenydd, yn wir—wedi trafod hyn yn fanwl, a'r rhwystrau niferus. Yn yr enghraifft hon yng Nghaerau, fel gyda chymaint, mae'r gosodwyr gwreiddiol wedi hen roi'r gorau i fasnachu. O ganlyniad, mae dwylo Safonau Masnach wedi'u clymu ar y mater hwn, gan fod y cwmnïau wedi diflannu. Mae gennym gymhlethdod ychwanegol, yn absenoldeb y cwmnïau gwreiddiol ac anallu Safonau Masnach i fynd ar drywydd hyn, oherwydd nid oes unrhyw endid cyfreithiol arall yn derbyn cyfrifoldeb, er mawr rwystredigaeth i mi a'r preswylwyr—ac i Weinidogion hefyd, rwy'n tybio.
Felly, er bod cynllun 2012-13 wedi'i ariannu ar y cyd yn wreiddiol gan y cwmnïau ynni mwy o dan eu rhwymedigaeth cwmni ynni (ECO), mae'r cwmnïau ynni hynny'n dadlau wrth gwrs nad oes ganddynt unrhyw beth i'w wneud â hyn ar lefel leol. Mae rheoleiddiwr cenedlaethol y DU sy'n goruchwylio rhwymedigaethau ynni ac ECO yn dadlau'r un peth. Maent yn rhy uchel i fyny.
Ar lefel genedlaethol, cafodd y gosodiadau hyn yng Nghaerau eu hysgogi gan Lywodraeth y DU o dan gynlluniau'r Rhaglen Arbed Ynni Cymunedau a'r rhwymedigaeth cwmni ynni, a Llywodraeth Cymru o dan gynllun Arbed, gan gymhlethu'r darlun ymhellach. Fy nealltwriaeth i, er efallai y gall y Gweinidog gadarnhau neu wrthod hyn, yw bod cynifer â phedwar o bob pump o'r gosodiadau yng Nghaerau wedi digwydd o dan gynlluniau'r DU. Ond mae hynny'n dal i olygu bod un o bob pump wedi'u gosod o dan gynllun Arbed.
Ar lefel leol iawn, gweinyddwyd rhai—er nad pob un—gan yr awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, er eu bod hwy'n dadlau mai'r gosodwr sy'n gyfrifol am y problemau, fel y mae'r adroddiadau wedi'i ddangos, nid y broses gaffael a dyfarnu contractau neu oruchwylio gwaith. Dylwn grybwyll hefyd, ond nid wyf am ei drafod yn fanwl, y ffaith bod ymchwiliad ombwdsmon cyfochrog ar y gweill i agweddau ar y modd y cafodd contractau eu dyfarnu'n wreiddiol.
Ond wyddoch chi, i drigolion yr effeithiwyd arnynt, mae'r cymhlethdod hwn yn amherthnasol. Mae'r ateb iddynt hwy yn amlwg iawn: mae angen i rywun gamu i'r adwy ac unioni'r difrod a wnaed. Mae'n hen bryd. Felly, Weinidog, gadewch imi ofyn rhai cwestiynau penodol iawn. Yn gyntaf oll, rwy'n croesawu uchelgais datganedig y cyngor, a chefais gadarnhad o hynny ganddynt, sef cytuno ar gynllun cynhwysfawr gyda Llywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â'r problemau ym mhob eiddo yr effeithiwyd arnynt mewn modd sy'n gyson ac yn deg sut bynnag yr ariannwyd y gwaith yn wreiddiol. Weinidog, ai dyma fyddai bwriad Llywodraeth Cymru hefyd?
Weinidog, fe ysgrifennoch chi ataf yn gynharach eleni i gadarnhau eich bod—ac rwy'n croesawu hyn—wedi gwahodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gyflwyno cynnig i ddatrys y mater yn dilyn trafodaethau cynharach, a deallaf eich bod wedi derbyn hwn ar 6 Medi. A allech chi gadarnhau hyn, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar gynnydd?
A allai'r Gweinidog hefyd ystyried, mewn unrhyw gynllun adfer yn y dyfodol, y bydd angen i Lywodraeth Cymru danysgrifennu unrhyw risg i'r awdurdod lleol, a'r trethdalwr lleol wrth gwrs?
A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, Weinidog, am y trafodaethau a gawsoch gyda'r rheoleiddiwr ynni a Llywodraeth y DU ar eu rôl a'u cyfraniadau posibl i unrhyw gynllun adfer? Ac a fyddwch yn gofyn i Lywodraeth y DU gyfrannu at unrhyw gynllun adfer fel nad yw'r baich yn disgyn yn gyfan gwbl ar gyllideb Cymru neu ar drethdalwyr lleol ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Ac a fyddai'n cytuno â mi, a'r awdurdod lleol yn wir, y bydd oedi pellach cyn bwrw ymlaen â'r gwaith yn creu risgiau sylweddol, gan gynnwys difrod pellach i'r cartrefi yng Nghaerau wedi'i achosi gan y gwaith gosod gwreiddiol o ansawdd gwael a wnaed; yr effaith negyddol sylweddol ehangach ar wasanaethau cyhoeddus oherwydd y perygl posibl o orfod ailgartrefu teuluoedd os daw eu cartrefi'n anaddas i fyw ynddynt; ac effeithiau negyddol pellach ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol sy'n ymdrin â chanlyniadau llesiant y sefyllfa hon?
Yn olaf, yn ogystal â chryfhau safonau gosod a chaffael, fel y nodais yn gynharach, a fyddai'r Gweinidog yn cytuno i roi ystyriaeth ofalus a manwl iawn i argymhellion Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu ar gyfer cymhwyster prentisiaeth inswleiddio yng Nghymru; yr angen am gynlluniau sgiliau manwl ar gyfer ôl-osod, gan gynnwys safonau a chymwysterau newydd; yr angen i ddatblygu a gorfodi systemau, sgiliau a gofynion cymhwysedd newydd o ansawdd cyn y cylch nesaf o gontractau; ac unrhyw ffyrdd eraill o gryfhau ansawdd y gwaith o insiwleiddio adeiladau'n dda?
Ac yn olaf, yn olaf, os na allwch, am ba reswm bynnag, roi'r atebion llawn imi ar gynllun adfer heddiw oherwydd bod yn rhaid i chi aros am benderfyniadau cyllidebol, neu oherwydd nad ydych wedi cael y cyngor terfynol eto gan swyddogion ar y cynigion gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a wnewch chi gytuno o leiaf i geisio datrys y materion hyn yn gyflym ac adrodd yn ôl i'r Senedd, i mi, ac i fy etholwyr cyn gynted â phosibl?
Rwyf wedi dweud yn glir, Weinidog, fod angen yn bendant i ni barhau i gyflwyno mesurau effeithlonrwydd ynni, gan gynnwys, ac yn enwedig mewn peth o'r stoc dai hŷn, lle mae tlodi tanwydd ac aneffeithlonrwydd ynni i'w weld yn fwyaf amlwg. Ond er mwyn gwneud hynny mae angen i ni adfer hyder, ac mae hynny'n golygu unioni camgymeriadau'r gorffennol, yn ogystal â buddsoddi mewn sgiliau a safonau gwell ar gyfer y dyfodol. Felly, Weinidog, cafodd cartrefi a bywydau fy etholwyr eu difrodi gan fesurau gosod gwael mewn cynllun a gefnogwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, gyda rolau sylweddol yn cael eu chwarae gan y rheoleiddiwr ar lefel uchel a'r cyngor ar lefel leol, a chefnogaeth gan y cwmnïau ynni mawr. Gyda'r chwaraewyr hyn i gyd yn chwarae rhan i ryw raddau, roedd ganddynt hwy a minnau bob rheswm i gredu y byddai eu cartrefi'n cael eu gwella. Gwnaed cam â hwy. Mae'n bosibl mai gosodiadau gwael neu amhriodol yw'r achos sylfaenol, Ddirprwy Lywydd, ond mae'r ateb y tu hwnt i'r cwmnïau gosod sydd wedi hen fynd. Mater i ni, mewn partneriaeth, yw ei ddatrys drwy gyflwyno cynllun. Gofynnaf am eich cymorth chi a chymorth Llywodraeth Cymru i wneud hyn.
Diolch yn fawr iawn, Huw, am godi'r mater pwysig hwn. Mae'r ddadl heddiw yn dilyn cwestiynau ysgrifenedig ym mis Medi, ein cyfarfod ar 29 Medi, a'n trafodaeth yn y Cyfarfod Llawn wythnos yn ôl. Mae eich angerdd i ddod o hyd i ateb i'r digwyddiadau anffodus hyn yn gymeradwy iawn ac yn dyst i'ch ymrwymiad i'ch etholwyr.
Gadewch imi ddechrau drwy ddweud, wrth gwrs, fod iechyd a lles trigolion Caerau, ac yn enwedig y rhai y mae'r cynllun wedi effeithio'n andwyol arnynt, yn peri pryder mawr i Lywodraeth Cymru. Ers i chi a minnau drafod y materion sy'n wynebu trigolion yng Nghaerau ddiwethaf, rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd, ond rwy'n cydnabod ac yn rhannu eich rhwystredigaeth chi a'ch etholwyr na weithredwyd yn ddigon cyflym i ddatrys yr anawsterau a grëwyd o ganlyniad i gynllun rhaglen arbed ynni cymunedau Llywodraeth y DU. Ac rwy'n gwybod, ac rydych wedi nodi heddiw, fod hwn yn fater cymhleth iawn ac yn un sydd wedi'i wneud yn anos gan ddiffyg penderfyniad gan Lywodraeth San Steffan.
I Aelodau o'r Senedd nad ydynt efallai'n ymwybodol o'r manylion, ac i danlinellu'r prif bwyntiau a wnaed yn y sylwadau gan yr Aelod, llwyddodd cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael cyllid o dan gynllun rhaglen arbed ynni yn y gymuned Llywodraeth y DU, a oedd yn rhedeg rhwng 2009 a 2012. Roedd y cynllun yn golygu bod cwmnïau ynni yn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi. Defnyddiwyd yr arian i osod mesurau effeithlonrwydd ynni, a oedd yn cynnwys inswleiddio waliau allanol, newid boeleri, a falfiau a dulliau o reoli rheiddiaduron yn thermostatig. Fodd bynnag, ers cwblhau'r prosiect, mae awdurdodau lleol wedi derbyn cwynion am ansawdd y gwaith, lleithder a llwydni. Mae arolwg yr awdurdod lleol a gynhaliwyd ar y cartrefi yn 2018 yn dangos yn glir fod y gwaith yn llawer is na'r safon ddisgwyliedig yn achos 104 o gartrefi, gan effeithio ar iechyd a lles y perchnogion. Nid yw perchnogion y cartrefi wedi gallu mynd ar drywydd y gosodwyr a wnaeth y gwaith i gwblhau'r gwaith adfer, neu geisio iawndal. Nid yw'r cwmnïau, fel y nododd Huw Irranca-Davies, yn masnachu mwyach, ac ni ddarparwyd unrhyw warantau yn rhan o gynllun Llywodraeth y DU.
Mae'r mater difrifol hwn wedi cael ei gydnabod gan Ofgem mewn cyfarfodydd gyda fy swyddogion. Mae'r awdurdod lleol wedi mynd ati i edrych ar ariannu gwaith adfer gyda'r cyflenwyr ynni a ariannodd y gwaith gwreiddiol. Cynhaliodd Llywodraeth Cymru gyfarfod bord gron i drafod y materion rhwng yr awdurdod lleol a gweinyddwr y cynllun, Ofgem. Er gwaethaf ein hymdrechion gorau, mae'r rhain wedi bod yn aflwyddiannus, ond rydym yn parhau i ddadlau'r achos ar ran y deiliaid tai yr effeithiwyd arnynt.
Yn y cyfamser, mae ein swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Y mis diwethaf, daeth achos busnes amlinellol i law'n gofyn am gymorth ariannol i atgyweirio'r 104 o gartrefi sy'n eiddo i berchen-feddianwyr. Rwy'n deall mai bwriad yr awdurdod lleol yw rheoli'r gwaith o adfer yr eiddo i gyflwr addas, drwy gymorth cyllid ganddynt eu hunain a chan y Llywodraeth. Mae'n amlwg nad yw'n iawn i breswylwyr orfod talu'r costau am gwaith adfer. Mewn rhai achosion, gallai'r gost fod oddeutu £30,000—swm sydd ymhell y tu hwnt i gyrraedd rhai o'r aelwydydd incwm isaf yng Nghymru. Yn anffodus, nid wyf eto wedi cael cyngor gan swyddogion ar y penderfyniad i ariannu'r cynllun yn seiliedig ar yr achos busnes a gyflwynwyd, ond wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod a'r Senedd pan fyddaf wedi'i gael. Fodd bynnag, fe fydd yn ymwybodol fod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant wedi bod yn siomedig i Gymru. Bydd hyn yn golygu gwneud penderfyniadau cyllidebol anodd y bydd yn rhaid eu hystyried yn eu cyfanrwydd. I fod yn glir iawn, ni lwyddodd y gwaith a ariannwyd drwy gynllun Llywodraeth y DU ddarparu'r sicrwydd a'r mesurau diogelu angenrheidiol i berchnogion cartrefi. Rwyf wedi bod yn glir yn fy sylwadau i Lywodraeth y DU mai eu cyfrifoldeb hwy yw sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer gwaith adfer. Yn eu hymateb cychwynnol, awgrymodd Llywodraeth y DU y dylai deiliaid tai gysylltu â Cyngor ar Bopeth am gymorth. Dengys hyn eu bod yn esgeuluso eu cyfrifoldeb, ac ysgrifennais unwaith eto at yr Arglwydd Callanan ar 29 Medi i ddadlau'r achos, ond nid wyf wedi cael ymateb eto.
Rwy'n awyddus iawn i ddatrys y sefyllfa ofnadwy hon i'r 104 o drigolion yng Nghaerau sydd wedi cael cam yn sgil y cynllun gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n ymwybodol fod prosiectau eraill a gyflawnwyd drwy'r rhaglen hon wedi cael problemau, nid yn unig yng Nghymru, ond yn Lloegr hefyd. Pan gaiff ei ddylunio a'i osod yn gywir, mae inswleiddiad waliau allanol yn ffordd effeithiol o wella effeithlonrwydd ynni thermol domestig i gefnogi pobl Cymru, ond ni fydd hynny'n llawer o gysur i drigolion Caerau, lle gwnaed gwelliannau sylweddol ar draws y sector i sicrhau bod gwersi'r gorffennol yn cael eu dysgu.
Mae'r gwersi, fel yr awgrymodd Huw, wedi helpu i lunio cynlluniau effeithlonrwydd ynni yn y cartref tebyg yng Nghymru ers 2015, wrth inni barhau i fuddsoddi yn y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni cartrefi presennol yng Nghymru, yn enwedig y cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran eu defnydd o ynni, wrth inni fynd i'r afael â newid hinsawdd. Wrth inni gynorthwyo cartrefi i fod yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni, mae'n bwysig iawn ein bod yn canolbwyntio ar adeiledd yn gyntaf, a'r gwaethaf eu byd yn gyntaf, i leihau effaith tlodi tanwydd ar aelwydydd yng Nghymru. Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi incwm is yw'r ffordd fwyaf effeithiol o gefnogi aelwydydd i leihau eu biliau ynni a'u helpu allan o dlodi tanwydd.
Dylai'r un ansawdd gwasanaeth sydd bellach ar gael drwy ein rhaglen Cartrefi Clyd yng Nghymru fod wedi cael ei gynnig i drigolion Caerau. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £394 miliwn ers 2011 drwy'r rhaglen Cartrefi Clyd i sicrhau gwelliannau effeithlonrwydd ynni i fwy na 67,100 o gartrefi yng Nghymru. Mae'n dangos bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud ar wella ansawdd cynnyrch a gwaith ers i gynllun Caerau gael ei ddatblygu, ac mae'n cynnwys camau i roi sicrwydd i'r Llywodraeth a deiliaid tai. Mae cyflwyno safonau PAS 2030 a PAS 2035 yn 2019 hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar y mesurau ôl-osod tai sy'n cael eu cynllunio a'u gosod. Wrth inni ddechrau'r ymgynghoriad ar gam nesaf ein rhaglen Cartrefi Clyd, mae'n hanfodol fod gan ddeiliaid tai hyder y bydd ein cynllun yn cyflawni gwelliannau effeithlonrwydd ynni o'r safon uchaf o ran eu cynllun a'r gwaith o'u gosod. Wrth gwrs, mae'n rhaid i drefniadau fod ar waith i sicrhau, os bydd pethau'n mynd o chwith, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, eu bod yn cael eu hunioni'n gyflym heb oedi a straen diangen i ddeiliaid tai. Rwy'n disgwyl y byddwn yn dechrau ein hymgynghoriad cyn diwedd mis Rhagfyr fan bellaf, ond gallaf rannu gyda'r Aelodau yn awr fy mod yn bwriadu sicrhau lle canolog yn y rhaglenni ôl-osod i'r trefniadau sicrhau ansawdd a gyflwynwyd yn PAS 2030 a 2035.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl ledled Cymru, gan wella effeithlonrwydd ynni, lleihau biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon. Credwn fod ôl-osod cartrefi oer a drafftiog yn elfen bwysig o fynd i'r afael â thlodi tanwydd a gwella lles ein dinasyddion. Ac fel y rhagwelodd Huw yn gywir, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi cyllid pellach yn ddiweddar ar gyfer ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio. Mae'r £50 miliwn sydd ar gael eleni a £150 miliwn arall dros y tair blynedd nesaf yn dangos ein hymrwymiad i'r agenda hollbwysig hon.
Mae'r rhaglen yn mabwysiadu dull profi a dysgu o gyflawni ffyrdd o ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol sy'n bodoli eisoes. Drwy weithio fel hyn ac edrych ar ein stoc dai ar sail cartrefi unigol, gallwn osgoi ailadrodd camgymeriadau'r gorffennol. Bydd y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn gwella effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau ôl troed carbon y cartrefi, ac wrth wneud hynny, bydd yn helpu i sicrhau bod y bobl sy'n byw yno yn gynhesach ac yn arbed arian. Yn bwysig, defnyddir y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'n gwerthusiad o ddata ynni clyfar ac effaith technolegau ôl-osod i ddarparu cysyniadau a brofwyd yn feirniadol a all lywio gwaith ôl-osod ehangach ar draws deiliadaethau. Cofiwch, os ydym am gyrraedd ein targedau lleihau carbon, mae angen inni helpu 1.4 miliwn o gartrefi i ddatgarboneiddio a bod mor effeithlon ag sy'n bosibl o ran eu defnydd o ynni.
Tra'n bod yn parhau i fuddsoddi yn y gwaith o gefnogi landlordiaid cymdeithasol a pherchnogion cartrefi drwy'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a Cartrefi Clyd, rhaid inni beidio ag anghofio am drigolion Caerau. Mae'n rhaid i'r sefyllfa y maent ynddi, a hynny heb unrhyw fai arnynt hwy eu hunain, fod yn eithriad llwyr yn hytrach na sefyllfa sy'n gyffredin mewn unrhyw fodd. Rwy'n gobeithio y bydd ein hymrwymiad i fynd ar drywydd Llywodraeth y DU i gael ymateb teg a phenderfyniad i ddysgu gwersi o'r cynllun diffygiol hwn gan San Steffan a'n gwaith ar sicrhau dyfodol gwyrddach yng Nghymru, sy'n gwneud llesiant yn flaenoriaeth yn ein penderfyniadau, yn rhoi rhywfaint o gysur i'r Aelod tra bo fy swyddogion yn cwblhau eu cyngor mewn ymateb i'r achos busnes a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Yn y cyfamser, rwy'n ei annog ef a'r Aelodau eraill i fynegi eu barn yn rhan o'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd. Drwy ymgysylltu a chydweithio, gallwn sicrhau—
Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Mae'n ddrwg gennyf, Weinidog, roeddwn am roi cyfle, cyn ichi orffen, ichi nodi pa fath o amserlen y gallem fod yn edrych arni mewn perthynas ag unrhyw drafodaethau terfynol ar y gyllideb, pa ffordd bynnag y byddant yn mynd, a chan obeithio y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud ei dyletswydd ar hyn, ond amserlen fras hefyd—gwn na all osod dyddiad absoliwt—o ba bryd y gallai fod yn debygol o wneud penderfyniad yn seiliedig ar y cynnig a gyflwynwyd gan Ben-y-bont ar Ogwr. Byddai hynny'n rhoi rhyw syniad o'r amserlen i fy nhrigolion.
Wel, yn sicr, Huw, gallaf ddweud, yn amlwg, mai'r Senedd sy'n gyfrifol am gyllideb Llywodraeth Cymru, felly mae angen inni wybod sut olwg fydd ar y gyllideb a chael y Senedd i basio'r gyllideb ddrafft tua diwedd y flwyddyn galendr hon. Yn y cyfamser, rwy'n edrych i weld beth yw'r cyngor gan fy swyddogion ac a allwn ariannu'r rhaglen yn gyflymach na hynny. Ond mae'n anodd iawn i mi ddweud hynny ar hyn o bryd, gan nad wyf eto wedi cael y cyngor, mae'n ddrwg gennyf. Cyn gynted ag y byddaf wedi'i gael, fe wnaf yn siŵr eich bod yn cael gwybod. Rwy'n deall ei fod yn fater o frys.
Roeddwn yn dod â fy sylwadau i ben a dweud y gwir. Roeddwn yn mynd i ddweud ein bod am sicrhau nad oes neb nac unman yn cael eu gadael ar ôl wrth inni weithio tuag at ddyfodol mwy disglair i drigolion ledled Cymru. Rwyf am eich sicrhau, Huw, ein bod yn awyddus tu hwnt i ddod o hyd i ateb i drigolion Caerau; rydym ynghanol proses y cylch cyllidebol ac mae'n rhaid i mi ei ystyried yn ei gyfanrwydd. Ond mae fy nghalon yn gwaedu drostynt ac rwy'n awyddus iawn i ddod o hyd i'r ateb hwnnw.
Er eglurder, caiff y gyllideb ei gosod ddiwedd y flwyddyn hon a'i thrafod ddechrau'r flwyddyn nesaf.
Mae'n ddrwg gennyf—ie, caiff y gyllideb ddrafft ei gosod ar 20 Rhagfyr, rwy'n credu, ac mae dadl ddechrau'r flwyddyn galendr nesaf i'r Senedd ei chymeradwyo. Rwy'n credu bod hynny'n gywir, Ddirprwy Lywydd.
A daw hynny â ni at ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch yn fawr iawn, bawb.