1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 17 Tachwedd 2021.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfrifoldebau'r cyd-bwyllgorau corfforaethol arfaethedig? OQ57205
Bydd y pedwar cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2021 yn arfer swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau defnydd tir strategol a chynlluniau trafnidiaeth ranbarthol. Bydd ganddynt rym hefyd i wella llesiant economaidd eu hardal.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Roeddwn i'n gwrando'n astud ar eich atebion chi i rai cwestiynau blaenorol ar y maes yma, ac mi wnaethoch chi fynd i'r afael â'r cwestiwn ynglŷn â phasio cyfrifoldebau i lawr o Lywodraeth Cymru i'r cydbwyllgorau corfforaethol, ond wnes i ddim clywed o reidrwydd eich safbwynt chi o safbwynt y consérn sydd yna ymhlith llywodraeth leol, wrth gwrs, y bydd y Llywodraeth dros amser yn ychwanegu mwy a mwy o gyfrifoldebau sydd, ar hyn o bryd, yn gorwedd gydag awdurdodau lleol i'r CJCs—hynny yw, bod y cyfrifoldeb yn symud lan y tsiaen ac nid i lawr. Nawr, adeg pasio'r ddeddfwriaeth gynradd, fe roddwyd sicrwydd na fyddai hynny'n digwydd, a byddwn i'n gofyn ichi hefyd heddiw a allwch chi roi yr un sicrwydd ag yr ydyn ni wedi clywed gan eich rhagflaenydd chi na fydd symud cyfrifoldebau o awdurdodau lleol i'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yma'n digwydd oni bai bod awdurdodau lleol yn ewyllysio hynny.
Yn sicr. Ni fydd cyfrifoldebau'n cael eu symud oni bai bod y ceisiadau hynny'n dod gan awdurdodau lleol eu hunain. Rwy'n credu bod hyn yn ymwneud mwy â datganoli pŵer o Lywodraeth Cymru i'r cyd-bwyllgorau corfforedig na dim arall. Hyd yma, nid ydym wedi cael ceisiadau i ddatganoli meysydd mawr o gyfrifoldebau newydd, oherwydd mae'n ddyddiau cynnar o ran yr hyn rydym yn ei weld gyda chyd-bwyllgorau corfforedig. Mae'n bwysig eu bod yn gallu cael eu traed tanynt cyn inni ddechrau cael sgyrsiau am gyfrifoldebau yn y dyfodol.
Weinidog, yr hyn yw cyd-bwyllgorau corfforedig, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Sam Rowlands, yw ad-drefnu'r Llywodraeth drwy'r drws cefn yn y bôn. Fe'u gwrthodwyd gan grŵp arweinwyr CLlLC am eu bod yn creu haenau diangen o fiwrocratiaeth gostus ac mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ymhellach oddi wrth gymunedau lleol, sy'n tanseilio'r holl broses o ddatganoli pwerau i'n cymunedau a'n cynghorau lleol. Bydd yr un a sefydlwyd yng nghanolbarth Cymru yn cael rhoi barn ar gynllunio strategol. Weinidog, dylai cymunedau lleol a'r cynghorwyr a etholir yn uniongyrchol allu rhoi barn ar gynlluniau strategol a'r cynlluniau datblygu yn y dyfodol ar gyfer eu cymunedau. Felly, Weinidog, a wnewch chi bopeth yn eich gallu i sicrhau y bydd gan gymunedau lleol lais ar gyd-bwyllgorau corfforedig ac na fyddant yn cael eu gwthio ymhellach oddi wrth y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau? Diolch, Lywydd.
Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ateb Sam Rowlands yn gynharach am bwysigrwydd atebolrwydd cyhoeddus a'r ffaith y bydd yn ofynnol i gyd-bwyllgor corfforedig annog aelodau o'r cyhoedd i gymryd rhan yn ei benderfyniadau, gan sicrhau eu bod yn gallu cyfrannu at lunio'r gwasanaethau, sy'n gwbl bwysig, a gwn y bydd cyd-bwyllgorau corfforedig eisiau gwneud y gwaith hwnnw beth bynnag. Credaf fod dadl gref iawn i'w chael fod rhai swyddogaethau'n cael eu cyflawni'n well ar yr ôl troed rhanbarthol hwnnw. Mae'r gwaith i wella ffyniant economaidd ardal yn un enghraifft amlwg, fel y mae cynlluniau trafnidiaeth, ac yn amlwg dylid gwneud hynny ar yr ôl troed mwy hwnnw. Felly, credaf mai'r meysydd y mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig yn gyfrifol amdanynt yw'r rhai cywir, a chredaf y byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran bod yn fwy cydlynol a chaniatáu i benderfyniadau gael eu gwneud sydd o fudd i bobl yn yr ardaloedd hynny.