6. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23

– Senedd Cymru am 3:27 pm ar 17 Tachwedd 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:27, 17 Tachwedd 2021

Yr eitem nesaf yw'r cynnig i gymeradwyo cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23. Galwaf ar Ken Skates, Comisiynydd y Senedd, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7830 Ken Skates

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23, a osodwyd gerbron y Senedd ar 10 Tachwedd 2021 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:27, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23, a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol. Fel y byddwch wedi gweld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyllideb o £62.942 miliwn i gyd, ac mae hynny'n cynnwys £41.175 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn, £17.552 miliwn i'w bennu gan y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol, £165,000 ar gyfer swyddfa'r comisiynydd safonau, a £4.05 miliwn ar gyfer llog ac eitemau nad ydynt yn arian parod.

Nawr, mae'r gyllideb yn gynnydd o 4.36 y cant ar y gyllideb eleni, ac eithrio costau etholiad wrth gwrs, sydd efallai'n swnio'n sylweddol, ond mae'n gwbl angenrheidiol i'r Comisiwn allu parhau i gefnogi Aelodau i'r safonau rhagorol rydym wedi dod i arfer â hwy, a'u disgwyl yn wir. Y dyfarniad cyflog gan y Comisiwn i staff y Comisiwn ar gyfer 2022-23 fydd 2.7 y cant, yn unol â'r hyn a gytunwyd fel mecanwaith dyfarniad cyflog yn seiliedig ar y cynnydd cyfartalog yn yr arolwg blynyddol o oriau ac enillion ar gyfer y tair blynedd diwethaf, gyda therfyn uwch ac is o 3 y cant ac 1 y cant yn y drefn honno.

Mae'r Comisiwn, wrth gwrs, yn bodoli er mwyn cefnogi'r Senedd a'i Haelodau, ac mae'r pwysau ar Aelodau yn parhau i fod yn sylweddol iawn. O ystyried ein nifer gymharol fach a'r materion cymhleth rydym yn mynd i'r afael â hwy ar hyn o bryd, yn fwyaf nodedig, diwygio ac effaith barhaus Brexit, mae angen cyllideb arnom sy'n darparu'r lefel gywir o adnoddau i gefnogi'r Aelodau drwy'r cyfnod hwn, a hyn oll, wrth gwrs, heb ystyried y ffaith ein bod yn dal i lywio ein ffordd drwy bandemig byd-eang.

Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi ychwanegu at nifer ein staff mewn ymateb i'r pandemig a blaenraglen waith y Comisiwn, ac yn benodol, at ein timau pwyllgor, i sicrhau y ceir cymorth clercio digonol wrth inni archwilio'r materion cymhleth hyn yn fwy manwl. Mae'r ffordd rydym wedi newid i weithio hybrid yn rhywbeth y gallwn fod yn hynod falch ohono yn fy marn i wrth edrych yn ôl ar y 18 mis diwethaf. Mae'r byd yn lle gwahanol iawn o'i gymharu â dwy flynedd yn ôl, a chyda gweithio gartref yn dal i fod yn sefyllfa ddiofyn i lawer, gan fy nghynnwys i, mae buddion gweithio yn ein hardaloedd yn parhau i dyfu. I mi ac i Aelodau eraill sydd wedi'u lleoli y tu allan i Gaerdydd, er mwyn parhau i weithio ar y sail hon, mae angen buddsoddiad ychwanegol mewn cymorth TGCh. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym wedi buddsoddi yn ein staff TGCh i ddarparu cydnerthedd a chefnogaeth i'r model hybrid, a bydd angen inni fuddsoddi ymhellach er mwyn cefnogi hyn yn y tymor hwy.

Mae'r gyllideb hon yn dryloyw, wedi'i gosod yng nghyd-destun y sefyllfa gyllido ariannol hirdymor yng Nghymru, ac mae'n ystyriol o ddatganiad o egwyddorion y Pwyllgor Cyllid. Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am graffu'n drylwyr ar y gyllideb hon a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau tegwch a thryloywder yr hyn sy'n ofynnol gan y Comisiwn, gan barhau i ofyn cwestiynau, sy'n ein cynorthwyo i wella perfformiad a sicrhau rhagoriaeth.

Gwnaeth y pwyllgor naw argymhelliad, ac rydym wedi eu trafod yn ein hymateb. Eu hargymhelliad cyntaf oedd bod y Senedd yn cefnogi'r gyllideb hon, ac rydym yn ddiolchgar am hynny. Diolch i holl aelodau'r Pwyllgor Cyllid. Roedd tri argymhelliad yn ymwneud â rheolaethau cyllidebol, yn benodol ynghylch cyfyngu a rheoli costau yn y flwyddyn gyllidebol i geisio rheoli effaith y cynnydd mewn cyfraniadau yswiriant gwladol heb fod angen cyllideb atodol, yn ogystal â gweithio heb ragdybiaeth o gynnydd yn y blynyddoedd i ddod, ac yn olaf, cyfathrebu'n rhagweithiol ag aelodau'r Pwyllgor Cyllid ynghylch costau ychwanegol a allai godi ar gyfer 2023-24, pan fydd blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y chweched Senedd yn dechrau dod i'r amlwg.

Gofynnai dau o'r argymhellion i'r Comisiwn edrych ar ddefnydd o'r ystâd a gofynion mewn perthynas â gofod yn y dyfodol, gan gydnabod y ffaith bod ffyrdd newydd o weithio'n debygol o ddod yn ffyrdd arferol o weithio. Gofynnwyd i'r Comisiwn nodi lle gallai fod goblygiadau o ran adnoddau, beth y gallai'r goblygiadau hynny fod, yn ogystal â chael gwell dealltwriaeth o delerau'r les a'n rhwymedigaethau o ran ailosod yr holl ffenestri yn Nhŷ Hywel. Mae argymhelliad pellach yn gofyn inni barhau i fonitro effaith COVID ar ein cyllideb, o ran lle rydym wedi gwneud arbedion a lle gallem ddisgwyl parhau i wneud arbedion, ac ar yr ochr arall, meysydd lle mae wedi arwain at fwy o wariant. Argymhelliad arall yw ein bod yn nodi ac yn bwrw ymlaen ag atebion cyflym i gefnogi ein nodau o gyflawni strategaeth garbon niwtral. Ac yn olaf, gofynnwyd inni adrodd ar ein llwyddiant wrth ymgysylltu â'n carfanau anodd eu cyrraedd, yn enwedig y rheini mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is, ac wrth gwrs, rydym yn fwy na pharod i wneud hynny.

Rydym wedi derbyn yr argymhellion hyn ac fel bob amser, rydym yn agored i awgrymiadau ar sut i wella ein proses gyllidebu. Ac rydym yn barod i ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan yr Aelodau. Yn y cyfamser, mae'n bleser gennyf gyflwyno'r gyllideb hon ar ran y Comisiwn a'i holl aelodau, ac ailadrodd ein hymrwymiad i weithio mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw, gan sicrhau'r gwerth gorau posibl am arian i bobl Cymru.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:33, 17 Tachwedd 2021

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths. 

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gychwyn drwy ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu gwaith craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022-23? Hoffwn ddiolch hefyd i Ken Skates, Comisiynydd y Senedd dros y gyllideb a llywodraethu, a swyddogion y Senedd am fynychu'r Pwyllgor Cyllid i drafod eu cynigion. Rydym yn gwerthfawrogi'r modd agored ac adeiladol yr ymatebodd y Comisiynydd a'i swyddogion i'n cwestiynau yn ystod y sesiwn dystiolaeth, ac rydym yn ddiolchgar am y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd ganddynt mor brydlon yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:34, 17 Tachwedd 2021

Gwnaethom naw o argymhellion i’r Comisiwn mewn perthynas â’i gynigion. Rwyf wedi cael ymateb y Comisiwn i'n hadroddiad, ac rwy'n falch o weld bod wyth o’r argymhellion wedi cael eu derbyn ac un wedi ei dderbyn mewn egwyddor.

Mae cyllideb ddrafft y Comisiwn yn nodi’r hyn mae’n bwriadu ei wario ar gyfer 2022-23 ac mae'n cynnwys cynigion ar gyfer cyllideb o £62.9 miliwn, sef cynnydd cyffredinol o 4.4 y cant o ran gwariant sy'n gysylltiedig â'r Comisiwn ers 2021-22. Mae’r pwyllgor yn cefnogi’r cais cyffredinol hwn, ac mae’n credu y dylai’r Senedd gymeradwyo’r gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, rydym wedi gwneud sawl argymhelliad fel cafeat i’r safbwynt hwn.

Fel y mae'r Aelodau'n gwybod, mae'r darlun ariannol presennol yn ansicr ac yn heriol. O ganlyniad i hynny, nid ydym yn credu y dylid trin y Comisiwn yn wahanol i sefydliadau eraill y sector cyhoeddus o ran y cyllid y mae’n ei gael. Yn benodol, rydym yn pryderu bod y gyllideb yn cyfeirio at senarios a allai olygu bod angen cyllidebau atodol i dalu am rai costau, gan gynnwys costau’n ymwneud â chynnydd mewn taliadau yswiriant gwladol a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar. Roedd y pwyllgor yn gryf o’r farn y dylai'r Comisiwn ariannu pwysau o’r fath ar ei gyllideb trwy wneud arbedion a chymryd camau effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, yn hytrach na dibynnu ar gyllidebau atodol. Dylai cyllidebau atodol gael eu defnyddio fel opsiwn olaf yn unig.

Roeddem ni hefyd yn bryderus nad yw'r gyllideb yn adlewyrchu nodau a blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y chweched Senedd, gan nad yw’r rhain wedi cael eu cytuno eto. Er bod y pwyllgor yn cydnabod mai megis dechrau y mae’r Senedd newydd, a bod angen rhywfaint o ystwythder o ran cynllunio ariannol, hoffem gadw llygad barcud ar oblygiadau cyllidebol yr amcanion hyn, ac rydym yn gofyn i'r Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor unwaith y byddant yn hysbys. Hefyd, hoffem atgoffa’r Comisiwn y dylai gadw at ddatganiad o egwyddorion y pwyllgor ar gyfer yr holl gyrff sy’n cael eu hariannu yn uniongyrchol wrth lunio cyllidebau yn y dyfodol, ac na ddylai gymryd yn ganiataol y bydd y cyllid yn cynyddu o un flwyddyn i'r llall.

Gan droi at faterion penodol, yn amlwg, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar y Senedd, ei staff a’i gwasanaethau. Mae'r pwyllgor yn cydnabod ymroddiad a hyblygrwydd y staff wrth gefnogi'r Senedd yn llwyddiannus trwy gydol y pandemig. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi’r ffordd y mae’r Comisiwn wedi darparu gwybodaeth yn rheolaidd i’r pwyllgor am gostau ac arbedion sy’n gysylltiedig â COVID, ac mae’n argymell bod y dull hwn yn parhau. Roedd y pwyllgor yn falch o glywed manylion am gynllun carbon niwtral y Comisiwn ar gyfer 2021-30, ac mae'n galw am weithredu’r newidiadau syml a chost-effeithiol sy’n cael eu cynnig yn y strategaeth honno cyn gynted â phosib, er mwyn manteisio’n llawn ar eu buddion.

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol o brosiect sylweddol i osod ffenestri newydd yn adeilad Tŷ Hywel. Mae cost y prosiect, sef £6 miliwn, yn sylweddol, ac nid yw wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2022-23, er bod y Comisiwn yn nodi y gallai'r gwaith ddigwydd o bosib yn 2023-24 os bydd y gyllideb gysylltiedig yn cael ei hawdurdodi. Mae'r pwyllgor yn cydnabod bod gan y Comisiwn rwymedigaeth i gynnal a chadw’r adeiladau y mae’n eu rhentu i lefel y cytunwyd arni. Fodd bynnag, nid yw’n glir a yw’r Comisiwn yn rhwym o dan gontract i ailosod ffenestri Tŷ Hywel fel rhan o’i gyfrifoldebau prydles. Cyn ystyried unrhyw gynigion cyllidebol yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r prosiect hwn, mae'r pwyllgor yn gofyn am ragor o fanylion a sicrwydd gan y Comisiwn cyn y gall fynegi barn ar ba mor fforddiadwy yw’r prosiect.

Yn olaf, roedd y pwyllgor yn croesawu ymagwedd y Comisiwn tuag at ymgysylltu a gwaith allgymorth, yn enwedig ei amcanion o ran cyrraedd cynulleidfaoedd a phobl newydd nad ydynt, yn hanesyddol, wedi ymgysylltu â'r Senedd. Mae’r rhain yn amcanion canmoladwy. Fodd bynnag, i sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau i ddarparu gwerth am arian, rydym yn gofyn i’r Comisiwn ddarparu adroddiadau rheolaidd ar ei lwyddiant neu fel arall.

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:38, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Ddirprwy Lywydd, mae craffu ar y gyllideb yn ganolog i'n gwaith. Fel pwyllgor, rydym eisiau bod yn gadarn ac yn drylwyr a sicrhau bod cyllidebau blynyddol y cyrff cyhoeddus a ystyrir yn rhan o'n gwaith yn gymesur ac yn gyfiawn. Credwn fod cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn bodloni'r meini prawf hyn. Fodd bynnag, byddwn yn cadw llygad barcud ar gynlluniau gwariant y Comisiwn yn y dyfodol yn ystod y tymor seneddol hwn er mwyn sicrhau bod hyn yn parhau. Diolch yn fawr.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:39, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau, mewn gwirionedd, drwy fynegi fy llawenydd; dyma'r cyfle cyntaf i mi ddiolch i'r Aelodau, a fy ngrŵp fy hun yn wir, am fy mhenodi i fod yn un o Gomisiynwyr y chweched Senedd.

Peredur, hoffwn ddweud fy mod yn teimlo bod eich cyfraniad yn awr yn briodol iawn, oherwydd yn y pen draw, nid ydym ni fel Comisiwn—a gallaf ddweud 'ni fel Comisiwn'—y tu hwnt i gael ein craffu a'n herio, ac ni ddylem fod ychwaith. Rwy'n ymwybodol, pan fyddwch yn Gomisiynydd, eich bod—rwy'n siŵr y byddai Joyce yn cytuno—yn dod yn seinfwrdd ar gyfer unrhyw faterion y mae pobl yn dymuno eu codi gyda chi. Gwn fod rhai Aelodau wedi codi pryderon ynghylch gweld y gyllideb ddrafft yn hwyr. Rwyf wedi mynegi'r pryderon hyn, ond cefais eglurhad am hyn yn y cyfamser—y rheswm am hyn yw mai ym mis Mai y cawsom ein hailethol, ac yr etholwyd rhai am y tro cyntaf. Gwn fod hynny wedi gosod rhai cyfyngiadau. Fodd bynnag, fe'm sicrhawyd y bydd ymgysylltiad ein Comisiwn â'r holl Aelodau ynghylch ein cyllideb a'i gwariant yn llawer mwy tryloyw ac yn llawer mwy amlwg i'r holl Aelodau wrth inni symud ymlaen.

Yn ail, nodwyd gan rai o'r Aelodau fod y Comisiwn—ie, fel y nodwyd yn briodol—yn gofyn am gynnydd o 4.39 y cant yn y gyllideb, er mai dim ond 0.004 y cant yw'r cynnydd yn y gyllideb lwfans i'r Aelodau. Ac mae eisoes wedi cael ei ddweud, onid yw—. Rwyf wedi bod yma ers 11 mlynedd bellach, ac mae'n rhaid imi ddweud, er nad ydym, unwaith eto, eisiau gweld cynnydd yn ein gwariant, credaf fod yn rhaid cael rhywfaint o gymesuredd a rhywfaint o gydnabyddiaeth i'r ffaith bod ein Haelodau yma'n bwysig iawn, ac maent angen yr offer a'r adnoddau i wneud eu gwaith. Mae materion hefyd wedi'u codi gyda mi, ac rwyf wedi'u codi o'r blaen, am yr anghydraddoldeb yn y graddfeydd cyflog rhwng Comisiwn y Senedd a'n staff cymorth ein hunain yn wir. Cyn i unrhyw un ddweud wrthyf, gwn mai mater i'r bwrdd taliadau yw hynny, ond unwaith eto, rwy'n credu y dylem ni fel Comisiwn fod yn llawer mwy cadarn a gwneud y pwynt hwnnw'n gryfach. 

Fel arall, mae Aelodau hefyd wedi mynegi pryderon ynghylch cynnydd i'r gyllideb ddarlledu—ar dudalen 9. Mae hwnnw'n swm sylweddol o £100,000, gan aros ar y lefel honno ar ôl proses aildendro. Rwy'n dal i aros am well esboniad ar y pwynt hwnnw. Felly, a allech chi ymhelaethu mwy ar hynny, Ken? Oherwydd rydym yn ceisio edrych ar gyllidebau sy'n edrych yn fwy sefydlog, a'r broses aildendro felly, ond mae'n ymddangos bod ein cyllideb ddarlledu'n codi bob blwyddyn fel arfer, a dylem fod—. Y Pwyllgor Cyllid a'r gwaith rydych wedi'i wneud, y pwyntiau a wnewch—. Nid oes ots pa bwysau ariannol rydym yn ei wynebu, mae'n rhaid i chi edrych ar ble y gallwch chi wneud arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn.

Cafodd pryderon eraill eu dwyn i fy sylw ynghylch cronfeydd heb eu neilltuo ond sydd wedi'u clustnodi—mae £200,000 yn nhabl 10 ar gyfer ymgysylltu wedi'i glustnodi ar gyfer mentrau mwy, ond nid yw'r Comisiwn wedi penderfynu eto sut ac os y byddant yn ei ddyrannu. Erys cwestiynau ynghylch y gwariant arfaethedig ar reoli ystadau a chyfleusterau, sy'n costio £600,000 bob blwyddyn, ac a fyddai'n dal i fod angen inni ddyrannu £300,000 i ffyrdd o weithio yn y dyfodol, fel y rhagwelwyd yn 2024-25. Felly, unwaith eto, Gomisiynydd Ken, byddwn yn gwerthfawrogi pe bai'r pwyntiau hynny'n cael sylw yn eich ateb. Nodaf argymhellion y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Comisiwn flaenoriaethu a gweithredu newidiadau'n gysylltiedig â'i strategaeth carbon niwtral ar gyfer 2021-30 sy'n syml, ond yn gosteffeithiol, ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. 

Y tro hwn, ni fydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn gallu cefnogi cyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd. Ond unwaith eto, gwn fy mod yn siarad ar ran fy ngrŵp wrth dalu teyrnged i waith y Comisiwn a'i staff, sydd, heb unrhyw amheuaeth, drwy heriau'r 20 mis diwethaf, wedi sicrhau bod gwaith hanfodol y Senedd hon a'i Siambr yn gallu parhau, gan symud i weithio hybrid, tra'n cadw staff ac aelodau o'r cyhoedd yn ddiogel ar ein hystâd. Edrychaf ymlaen at weithio gyda'r holl Gomisiynwyr a'r Llywydd dros dymor nesaf y Senedd, i sicrhau y gellir codi cwestiynau fel y rhain yn y modd hwn, ac y gallwn fod yn sicr o'r atebion angenrheidiol a phriodol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:43, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Nid wyf am wrthwynebu cyllideb y Comisiwn. Fodd bynnag, rwyf eisiau gwneud tri phwynt. Yn gyntaf, hoffwn ailadrodd argymhelliad 2 gan y Pwyllgor Cyllid:

'Yn unol â'r datganiad o egwyddorion, mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai'r Comisiwn ariannu pwysau yn ystod y flwyddyn ar y gyllideb y mae ganddo reolaeth drosti trwy wneud arbedion ac effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn, yn hytrach na thrwy gyllidebau atodol.'

Mae hyn yn anodd, ond mae'n rhaid i gyrff eraill yn y sector cyhoeddus ei wneud. Gall fod yn anodd i'r Comisiwn. Byddwn yn dweud ei bod yn llawer haws i'r Comisiwn na Cyfoeth Naturiol Cymru neu adrannau gwasanaethau cymdeithasol cynghorau wneud yr arbedion hynny.

Yn ail, mae gan y Comisiwn sawl haen o reolaeth. Mae sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus wedi bod yn oedi ac yn cynhyrchu strwythurau mwyfwy gwastad. A gaf fi annog y Comisiwn i gynhyrchu strwythur mwy gwastad, ac wrth i swyddi gwag ddod ar gael, i symud tuag at strwythur mwy gwastad, mwy effeithlon a llai costus?

Yn olaf, ar wariant cyfalaf, ychydig flynyddoedd yn ôl, cafodd tua £2 filiwn ei wario ar ailfodelu llawr gwaelod Tŷ Hywel. Eleni, rydym wedi gweld rhaglen i osod setiau teledu newydd. Mae'r un sydd wedi'i symud o fy swyddfa yng Nghaerdydd yn fwy newydd na'r un sydd gennyf gartref. Wrth gwrs, ni ofynnodd neb i mi a oeddwn eisiau un mwy o faint a mwy newydd. Gan nad wyf ond yn ei ddefnyddio i ddilyn trafodion y Senedd yn fy swyddfa, roedd yr hen un yn ddigonol. Mae cyfrifiaduron gweithio a systemau gwaith sy'n dal i gael eu cynnal gan Microsoft yn cael eu newid, neu yn achos un yn fy swyddfa yng Nghaerdydd, ei analluogi. Rwyf wedi gofyn o'r blaen am gytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer Aelodau unigol. Fe ofynnaf eto am gytundeb lefel gwasanaeth, ond dywedir wrthyf o hyd fod y Comisiwn yno i gefnogi'r Aelodau. Yn y geiriau anfarwol hynny, 'Gallech fod wedi fy nhwyllo i.' Credaf ei bod yn bwysig eich bod yn dweud wrthyf beth y gallaf ei ddisgwyl, oherwydd rwy'n credu bod yr hyn a gaf gan y Comisiwn yn wasanaeth eithaf gwael am y gost. Os ydych yn rhannu'r hyn sy'n cael ei wario gyda 60, nid wyf yn credu fy mod yn cael unrhyw beth yn debyg i werth am arian.

Yn olaf, mae'r holl arian a werir ar y Comisiwn yn arian nad yw ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym yn mynd ag arian o wasanaethau cyhoeddus uniongyrchol ac yn ei roi i'r Comisiwn, felly mae'n rhaid inni sicrhau bod yr hyn y mae'r Comisiwn yn ei wneud yn fuddiol. Diolch.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 3:46, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad y prynhawn yma? Yn gyntaf, hoffwn ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Peredur, rwy'n ddiolchgar iawn, nid yn unig am eich sylwadau cefnogol y prynhawn yma, ond hefyd am y ffordd rydych wedi cadeirio eich pwyllgor a chraffu arnaf fi a staff y Comisiwn yn ystod y broses o osod y gyllideb. Wrth gwrs, roedd naw argymhelliad yn deillio o adroddiad eich pwyllgor. Roeddem yn hapus i dderbyn wyth ohonynt, a derbyn un mewn egwyddor. Roedd yr un argymhelliad a dderbyniwyd gennym mewn egwyddor yn ymwneud â'r awydd i ni wneud arbedion yn ystod y flwyddyn ac arbedion effeithlonrwydd, yn hytrach nag â chyflwyno unrhyw gyllidebau atodol, yn enwedig mewn perthynas â newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol. Nawr, fe wnaethom dderbyn mewn egwyddor—. Ac mae hyn yn ymwneud â'r pwynt roedd Mike Hedges yn ei godi. Fe wnaethom ei dderbyn mewn egwyddor oherwydd bydd yr Aelodau'n ymwybodol nad oes cyllideb wrth gefn ar gael i ni, ac mae hynny'n wahanol i Senedd yr Alban, lle mae gan y fiwrocratiaeth yn yr Alban gronfa wrth gefn o £1 filiwn ar gael iddynt. Felly, i ateb y pwynt y mae Mike yn ei godi wrth gwrs, lle gallwn wneud arbedion effeithlonrwydd byddwn yn gwneud hynny, ond heb gronfa wrth gefn, os na allwn wneud yr arbedion hynny nid oes gennym ddewis arall ond dychwelyd gyda chyllidebau atodol. Cododd Peredur y pwynt pwysig hefyd am y strategaeth carbon niwtral ac rydym yn cyflwyno cynlluniau—enillion cyflym, fel y gallech eu galw—i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sy'n bosibl i leihau ein hôl troed carbon, ac mae hynny'n cynnwys prosiectau fel newid goleuadau a sicrhau bod gennym y system fesur defnydd ddiweddaraf a all ysgogi arbedion effeithlonrwydd. 

Mae argymhelliad 6 yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn amlwg yn mynd i'r afael â phryderon ynghylch y ffenestri yn Nhŷ Hywel a'r defnydd a wneir o'r adeilad yn y dyfodol. Nawr, rydym wedi derbyn yr argymhelliad hwn, a byddwn yn archwilio ein rhwymedigaethau cytundebol gyda'r landlord yn llawn, ond byddwn hefyd yn ystyried y defnydd a wneir o Dŷ Hywel yn y dyfodol yng nghyd-destun y strategaeth adeiladau sy'n cael ei llunio ar hyn o bryd, a bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn falch o wybod y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Cyllid am ein strategaeth adeiladau yn 2022. Wrth gwrs, mae angen inni hefyd ystyried dyfodol Tŷ Hywel mewn perthynas â bwriadau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer ei hystâd a sut y mae'n gweld ffyrdd o weithio yn y dyfodol yn cael eu hymgorffori mewn cynlluniau ar gyfer ei hystâd a'i hadeiladau swyddfa, oherwydd bydd goblygiadau i'r Senedd gyfan yn sgil hynny wrth gwrs, ac i Dŷ Hywel yn benodol.

Gan symud ymlaen at Janet Finch-Saunders, a gaf fi ddiolch i Janet am y gwaith y mae wedi'i wneud fel Comisiynydd yn helpu i lunio'r gyllideb hon? Hoffwn ddiolch hefyd i Peter Fox, fel Aelod o'r Pwyllgor Cyllid, am y gwaith craffu a wnaeth yn ystod ein hymddangosiad gerbron y Pwyllgor Cyllid. Mae'n siomedig na fydd y Blaid Geidwadol yn cefnogi'r gyllideb, o ystyried bod dau aelod hynod effeithiol o'r grŵp hwnnw, naill ai fel aelod pwyllgor o'r Pwyllgor Cyllid neu fel Comisiynydd, drwy gydgyfrifoldeb, naill ai wedi argymell cymeradwyo'r gyllideb hon i'r Senedd, neu wrth gwrs wedi gweithio gyda Chomisiynwyr eraill i lunio'r gyllideb.

Gallaf ddarparu atebion manylach yn ysgrifenedig i'r Aelodau ynghylch y gyllideb ddarlledu a nododd Janet Finch-Saunders, ond yn gryno, byddwn yn aildendro ar gyfer y contract darlledu yn 2022-23. Hyd nes y byddwn yn derbyn yr ymatebion tendro, nid ydym yn gwybod beth fydd y gost ac a fydd cynnydd, ond o gofio ein bod wedi cael cost safonol ar gyfer y gofyniad penodol hwnnw ers peth amser, mae'n gwneud synnwyr darbodus i gynnwys £100,000 ychwanegol yn ein cynigion. Ond wrth gwrs, fel y nodwyd yn sesiwn graffu'r Pwyllgor Cyllid, mae'n debygol y bydd cyllideb 2023-24 yn adlewyrchu swm cyllidebol diwygiedig wrth inni gasglu data ar batrymau a gofynion gwariant newydd ar ôl y pandemig.

Ar ymgysylltu, wrth gwrs, ceir gostyngiad o £18,000 ar gyfer ymgysylltu drwy ddigwyddiadau y bydd yn rhaid cyfyngu arnynt o bosib, neu na fyddant yn mynd rhagddynt hyd yn oed o ganlyniad i'r pandemig, ond mae'n gwbl hanfodol ein bod yn sicrhau ein bod yn gweithio gyda chymunedau, carfannau anodd eu cyrraedd a dinasyddion Cymru i sicrhau ymwybyddiaeth o'n Senedd genedlaethol.

Ac o ran ffyrdd o weithio yn y dyfodol, credaf y byddai'n esgeulus i'r Comisiwn beidio â darparu ar gyfer sicrhau y gall ffyrdd posibl o weithio yn y dyfodol ddod yn ffyrdd arferol o weithio, ac er y gall model gweithio hybrid sicrhau arbedion cost ac arbedion effeithlonrwydd, gall hefyd arwain at gostau uwch mewn mannau eraill yn gysylltiedig â TGCh a chymorth TGCh. Felly, unwaith eto, mae ein cynlluniau ar gyfer yr elfen benodol honno o'r gyllideb yn gwneud synnwyr ac yn ddarbodus.

Rwyf am—

Photo of David Rees David Rees Labour 3:51, 17 Tachwedd 2021

(Cyfieithwyd)

Gomisiynydd, mae eich amser wedi dod i ben, ond gwn ei fod yn fater pwysig, felly mae gennych ychydig mwy o funudau cyn inni ddod i ben, o'r gorau?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn cyrraedd fy mhwynt olaf, ac mae hwnnw'n ymwneud â'r gwasanaeth y mae'r Aelodau'n ei gael gan y Comisiwn a'i staff. Rydym yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth, ac rwy'n falch o allu dweud wrth Mike Hedges fod cytundeb gwasanaeth yn bodoli o ran pa mor gyflym y caiff hawliadau eu prosesu. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau a dinasyddion ledled ein gwlad, mai gwaith pennaf staff y Comisiwn o reidrwydd yw diogelu pwrs y wlad a sicrhau ein bod yn darparu gwerth am arian. Ac yn aml, gall hynny arwain at graffu pellach ar hawliadau, a all, yn anochel, arwain at rywfaint o oedi. Ond rydym yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth yn yr holl wasanaethau a ddarparwn.

Photo of David Rees David Rees Labour 3:52, 17 Tachwedd 2021

Diolch, Comisiynydd. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Ie, oes. Gohiriaf y bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.