2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru ar 24 Tachwedd 2021.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cymorth a roddir i deuluoedd gan y system gyfiawnder yng Nghymru? OQ57227
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwn. Gall teuluoedd wynebu ystod o broblemau cyfreithiol a allai alw am gymorth gan wahanol wasanaethau a ddarperir gan weithwyr proffesiynol preifat, sefydliadau gwladol a sefydliadau'r trydydd sector. Yn rhy aml, serch hynny, mae bylchau yn y cymorth hwnnw, yn anad dim oherwydd y gostyngiad dramatig yn argaeledd cymorth cyfreithiol yn y llysoedd teulu.
Diolch. Gwnsler Cyffredinol, ym mis Medi, fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau y byddai cyfiawnder teuluol yn ffocws allweddol yn eich cyfnod yn y swydd, ac fe rannoch chi lawer o bryderon dilys ynghylch nifer y plant yng Nghymru sy'n cael eu derbyn i ofal. Yn gynharach eleni, cadarnhawyd bod 7,170 o blant bellach yn derbyn gofal oddi cartref yng Nghymru, sef 1.14 y cant o'r holl blant. Mae hynny'n uwch na chyfartaledd cyfredol y DU, sef 0.72 y cant o blant. Rwy'n ymwybodol fod bwrdd cyfiawnder teuluol lleol gogledd Cymru yn un o ddwy ardal fraenaru sy'n cymryd rhan mewn rhaglen beilot i brofi a gwerthuso rhaglen ddiwygiedig ar gyfer trefniadau plant. Nod y gwaith hwn yw hyrwyddo dulliau anwrthwynebus o ddatrys problemau ac ymdrin ag achosion, a helpu i leihau ôl-groniadau. A allwch gadarnhau pa drafodaethau a gawsoch wrth ymwneud â'r gwaith hwn ac a fydd cynlluniau peilot o'r fath yn cael eu hefelychu yn unrhyw le arall yng Nghymru i helpu i fynd i'r afael ag argyfwng plant sy'n derbyn gofal, lle bynnag y bônt?
Diolch, a diolch am eich sylwadau. Yr ateb i hynny yw 'byddant'. Mae nifer o gynlluniau peilot ar waith ac mae llysoedd datrys problemau yn fater penodol hefyd. Fel rhywun â llawer o brofiad o faes gofal plant, rwy'n croesawu'r newidiadau sydd wedi bod yn digwydd. Rwyf wedi ymweld â rhai o'r llysoedd i edrych arnynt. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda nifer o aelodau o’r farnwriaeth ynglŷn â sut y mae hynny’n gweithredu, ac am y cymorth sy’n barhaus. Rwyf hefyd yn cysylltu’n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, sydd hefyd yn gwneud cryn dipyn o waith yn y maes penodol hwn. Credaf fod rhai o'r cynlluniau peilot hyn yn bwysig iawn. Maent hefyd yn un o'r meysydd lle rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sut i'w datblygu a sut i wneud ein gorau i sicrhau bod mwy a mwy o blant yn cael eu cadw gyda'u mamau, a llai ohonynt yn cael eu derbyn i ofal. Rydych yn codi'r anomaleddau sy'n bodoli, ac wrth gwrs, mae'n fater a godwyd gan yr Arglwydd Thomas, a'i cododd yn ddiweddar yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, rwy'n credu, yn ogystal â'r angen i edrych yn gyffredinol yng Nghymru ar y data, yr ystadegau sy'n bodoli, i weld pam fod yr amrywiadau hyn yn digwydd a beth y gellir ei wneud i'w datrys ac ymdrin â'r mater cymdeithasol pwysig hwn. Credaf fod angen cyfeirio gweddill y cwestiwn at yr Aelod portffolio priodol.
Rwy'n deall y byddwch chi, Gwnsler Cyffredinol, yn cymryd rhan mewn cynhadledd ar gyfiawnder a'r heddlu yr wythnos nesaf, a fydd yn cael ei gynnal ar y cyd gyda Liz Saville Roberts. Bydd yn canolbwyntio ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a oedd wedi argymell datganoli cyfiawnder ddwy flynedd yn ôl. Wrth gwrs, fel rydyn ni wedi clywed, mae datganoli cyfiawnder nawr yn bolisi Llywodraeth Cymru, ac roedd yn ffurfio rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth sydd wedi cael ei gyhoeddi yr wythnos hon, hefyd. Ond wrth edrych ymlaen at y gynhadledd, felly, yng nghyd-destun hynny, hoffwn i ofyn ynglŷn â dau beth mewn cysylltiad â'r mater o gefnogi teuluoedd. Yn gyntaf, buaswn i'n hoffi cael diweddariad am y peilot llysoedd teulu cyffuriau ac alcohol. Beth yw'r cynnydd hyd yn hyn, os gwelwch yn dda, a beth yw'r camau nesaf? Ac yn olaf, hoffwn glywed eich barn, Gwnsler Cyffredinol, am sylwadau'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yn y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ddydd Llun. Roedd e wedi argymell sefydlu bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru gyfan yn ogystal â bwrdd cyfiawnder teuluol Cymru gyfan. Beth fyddai eich sylwadau chi ar hynny, os gwelwch yn dda?
Yn gyntaf, edrychaf ymlaen yn fawr at y gynhadledd ar-lein y cyfeiriwch ati, sy'n ddigwyddiad trawsbleidiol, ac yn un sydd hefyd yn cynnwys yr Arglwydd Thomas, ond sydd hefyd yn cynnwys yr undebau llafur, y bobl sy'n gweithio yn y sector cyfiawnder. Credaf y bydd llawer i'w ddysgu o hynny, ond nid oes unrhyw amheuaeth gennyf, ac unwaith eto, i ailadrodd sylwadau'r Arglwydd Thomas, nad yw'n gwestiwn o os yw datganoli cyfiawnder yn digwydd, ond pryd.
Ar y sylwadau, gwrandewais yn astud iawn ar dystiolaeth yr Arglwydd Thomas i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ac ar yr argymhellion neu'r awgrymiadau penodol a wnaeth. Mae'n debyg mai'r gorau y gallaf ei ddweud yw bod gennyf gryn ddiddordeb mewn edrych ar sut y gallwn eu harchwilio a'u datblygu ymhellach.