Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Mabon am gyflwyno dadl mor bwysig heddiw, a dweud hefyd ei bod yn ddrwg gennyf glywed beth y mae ei deulu'n mynd drwyddo a chlywed y rhesymau personol pam y daeth â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw.
Bydd y pwyntiau a godwyd hyd yma yn peri pryder a gofid i bobl ar hyd a lled ein gwlad. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y llwybr canser sengl newydd i gleifion yng Nghymru i sicrhau bod triniaeth yn dechrau, os amheuir bod ganddynt ganser, o fewn 62 diwrnod yn newyddion i'w groesawu ar ôl blynyddoedd o restrau aros cynyddol am ddiagnosis a thriniaeth canser. Bu'n adlewyrchiad cywilyddus o ddiffyg gweithredu hanesyddol Llywodraethau Llafur olynol i fynd i'r afael ag amseroedd aros rhy hir am ddiagnosis a thriniaeth canser. Er gwaethaf cyflwyno'r llwybr sengl newydd, mae rhestrau aros erchyll o hir yn dal i fod yn bla yng Nghymru ac maent yn dal i fynd yn hirach. Yn gwbl amlwg, mae angen llawer mwy i unioni'r argyfwng canser presennol sy'n ein hwynebu. Mae cyfran sylweddol o'r broblem wedi'i hachosi gan brinder cronig o staff ysbyty ar draws adrannau ein byrddau iechyd. Unwaith eto, rydym wedi gweld Llywodraethau Llafur olynol yn caniatáu i'n GIG wynebu sefyllfa eithriadol o anodd ar eu pen eu hunain.
Un peth yw cyflwyno strategaethau newydd i leihau rhestrau aros a gwella canlyniadau i gleifion, ond nid oes ffordd y gall wneud hynny. Os nad ydym yn sicrhau bod digon o staff i gyflawni canlyniadau, ni fydd y strategaeth newydd hon yn ddim mwy na phlastr dros glwyf dwfn iawn. Gwyddom fod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ers iddo ddechrau ym mis Mawrth 2020. Rydym i gyd wedi clywed straeon am wahanol bobl yr amheuir bod ganddynt ganser yn mynd heb ddiagnosis am lawer rhy hir, gan waethygu ôl-groniadau hanesyddol. Yn anffodus, roedd y rhan fwyaf o'r problemau hyn yma ymhell cyn i'r pandemig daro. Er gwaethaf argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd y dylai pob gwlad gael strategaeth ganser ar waith, mae'n destun pryder enfawr i mi fod Cymru'n dal i aros am gynllun gweithredu clir, aml-elfen a all fynd i'r afael â chraidd y broblem.
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ac mae angen iddi weithredu nawr. Mae gwir angen gosod strategaeth ar waith yn y tymor byr i fynd i'r afael â'r problemau staffio uniongyrchol sy'n wynebu'r GIG. Heb hyn, ni all fod unrhyw obaith o leihau rhestrau aros. Yn wir, efallai mai gweld rhestrau aros yn cynyddu a wnawn fel arall. Mae angen cyplysu hyn â chyflwyno cynllun hirdymor i leihau rhestrau aros, fel y gall cleifion gael triniaeth cyn gynted â phosibl, cyn y targed 62 diwrnod os oes modd. Ni all y Llywodraeth Lafur orffwys ar ei rhwyfau mwyach a chladdu ei phen yn y tywod o dan y camargraff y bydd problemau'n datrys eu hunain. Ni allant ymroi i feio San Steffan ychwaith, oherwydd mae'r cyfrifoldeb yma, gyda Llywodraeth Lafur Cymru.
Mae'r materion hyn yn galw am ymyrraeth frys ac wedi'i thargedu nawr. Mae diagnosis cyflym yn gwbl allweddol. Mae angen rheoli'r sefyllfa, neu fel arall byddwn yn parhau i weld rhestrau aros rhy hir a mwy o farwolaethau wedi'u hachosi gan ganser, marwolaethau y gellid bod wedi osgoi llawer ohonynt yn gyfan gwbl gyda chamau gweithredu priodol. Nid yw'r ffaith mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU heb strategaeth yn ddigon da; mae'n bryd gweithredu.