Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 1 Rhagfyr 2021.
Diolch i Mabon am ddod â'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw yma. Mae pobl Cymru'n aros yn rhy hir am driniaeth canser, ac mae hynny'n effeithio ar ba mor debygol ydyn nhw o oroesi. Dyna ydy'r gwir sylfaenol sy'n gefndir i'r cynnig yma heddiw, ac wrth wraidd yr ateb mae'r angen am gynllun canser cenedlaethol newydd i Gymru. Mae'r Gweinidog wedi clywed y galwadau cyson ac uchel gan y gwahanol randdeiliaid bod angen cynllun o'r fath; dydy'r datganiad ansawdd ar gyfer canser ddim yn rhoi inni y strategaeth, y cynllun gweithredu clir, sydd ei angen. Mi oedd angen, wrth gwrs, strategaeth felly cyn y pandemig, ac mae hynny gymaint mwy gwir erbyn hyn.
Ym mlwyddyn gyntaf y pandemig, mi wnaeth 1,700 yn llai o bobl ddechrau triniaeth canser nag y bydden ni wedi'i ddisgwyl o ffigurau'r cyfnod cyn hynny. Mi all y Gweinidog ddod i'r Senedd, fel y gwnaeth hi'n gynharach heddiw wrth ateb cwestiynau gen i, a dweud bod canser wedi parhau yn flaenoriaeth drwy gydol y pandemig. Dwi ddim yn amau o gwbl mai dyna oedd y dymuniad, ond mae'r ystadegau'n dweud stori wahanol, onid ydyn? Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos bod 20,000 yn llai o bobl wedi cael referral brys am ddiagnosis canser yn naw mis cyntaf y pandemig na'r cyfnod cyn hynny. Mi gafodd y pandemig effaith sylweddol—mae disgwyl hynny, wrth gwrs, i raddau helaeth, ond yr ymateb i hynny rydym ni'n sôn amdano fo heddiw. Felly, mae angen nid gwneud mwy o'r un peth hyd yn oed, ond mae angen trawsnewid gwasanaethau i allu bwrw ymlaen efo'r adferiad COVID, ac mae angen cynllun canser cenedlaethol newydd er mwyn gwneud hynny. Rydym ni angen canolfannau diagnosis newydd ar frys. Rydym ni angen gweld cryfhau sgrinio cynnar, fel profion iechyd yr ysgyfaint—y lung health checks—sydd, rydym ni'n gwybod, yn gweithio. Does dim angen mwy o dystiolaeth, mewn difrif; maen nhw yn gweithio ac rydym ni eisiau ei wneud o yng Nghymru. Rydym ni angen cynllun gweithlu clir. Mi oedd yna dyllau mawr yn y gweithlu cyn y pandemig; mae llenwi'r tyllau hynny yn fater mwy argyfyngus nag erioed rŵan. Mae'r gweithlu yn wych. Mae unrhyw un sydd wedi dod ar eu traws nhw yn methu â diolch digon iddyn nhw am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ond mae yna ddiffyg yn y gweithlu hwnnw, a'r pwysau wedyn ar y rhai o fewn y gweithlu yn anghynaliadwy. Mae angen buddsoddi yn y gweithlu hwnnw, a buddsoddi ar frys.
Dwi angen gwneud y pwynt yma hefyd: mae angen gwneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud y buddsoddiadau cywir yn yr hirdymor ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru. Dwi wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn ddiweddar i ofyn iddi edrych eto a gwrando eto ar farn arbenigwyr canser sy'n galw am gydleoli canolfan canser newydd yn y brifddinas ar yr un safle â'r ysbyty athrofaol, yn dilyn y patrymau rhyngwladol arferol erbyn hyn. Ydy hi wir yn argyhoeddedig bod y penderfyniad sydd wedi ei gymryd hyd yma yr un gorau? Achos mae'n rhaid sicrhau bod cleifion canser Cymru heddiw a'r dyfodol yn cael y gwasanaethau gorau posib.
Dirprwy Lywydd, dwi'n falch iawn, fel dwi'n dweud, o allu cefnogi'r cynnig yma heddiw, achos mae o'n gyfle arall inni gofio'r angen am ffocws clir ar elfen sydd mor allweddol o'n gwasanaethau iechyd a gofal. Mi wnaeth Mabon sôn am y profiad mae o a'i deulu'n mynd drwyddo fo ar hyn o bryd, ac rydym ni'n dymuno'n dda iawn i dad yn ei frwydr o. Ein profiad ni fel teulu oedd bod y diagnosis wedi dod yn rhy hwyr i mam, bron i 10 mlynedd yn ôl bellach, iddi hi allu cael unrhyw driniaeth o gwbl, felly dwi'n dymuno yn dda i unrhyw un sy'n cael y cyfle hwnnw i allu brwydro. Ond mi allwn ni wella gobeithion pobl o gael diagnosis cynnar, o gael referral amserol, o gael triniaeth effeithiol, o oroesi canser, ond wnaiff o ddim ond digwydd efo penderfynoldeb digyfaddawd a chynllun cenedlaethol clir.