1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2021.
4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynnwys pobl leol a chymunedol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd? OQ57343
Rwy'n credu bod synnwyr cryfach nag erioed o'r blaen o frys yr argyfwng hinsawdd. Mae'r ffyrdd ymarferol y gall gweithredu lleol a chyfranogiad cymunedol wneud gwahaniaeth yn cael eu dangos yn eglur yn 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Gyrraedd Sero Net', y ddogfen ategol i'n cynllun Cymru sero net.
Diolch, Prif Weinidog. Mae'n galonogol iawn gweld pobl a sefydliadau â chynlluniau a mentrau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain, ond, yn bwysicach, i leihau rhai pobl eraill hefyd. Dau sefydliad o'r fath yn fy etholaeth i yw RE:MAKE Casnewydd, sydd wedi agor y caffi trwsio parhaol cyntaf yng Nghymru, gyda chymorth llawer o wirfoddolwyr yn y gymuned, a'r fenter Sero Zero Waste arobryn, sydd wedi ei leoli ar dir Tŷ Tredegar, sy'n gwerthu cynnyrch ail-lenwi a chynaliadwy. Mae'r rhain yn cael eu derbyn gan bron pawb fel mentrau da, ond gall sefydlu sefydliadau fod yn anodd, ac mae eu cynnal yn y tymor hir yn eithaf aml yn gofyn am gymorth. Sut mae Llywodraeth Cymru yn helpu sefydliadau fel y rhain i sefydlu a ffynnu yn y tymor hir, a sut gallwn ni annog mwy ohonyn nhw i ddechrau yng Nghymru?
Rwy'n diolch i Jayne Bryant am hynna ac am y ddwy enghraifft ymarferol y soniodd amdanyn nhw. Dywedais fod Jack Sargeant wedi mynd â mi i weld effaith cau banciau ym Mwcle; ond aeth yr Aelod dros Orllewin Casnewydd â mi i weld Sero Zero Waste, y siop gymunedol yn Nhŷ Tredegar, a'r ddwy fenyw ifanc wych a oedd wedi cymryd y risg o sefydlu'r cyfan ac sydd wedi gwneud cymaint o lwyddiant ohono.
O ran RE:MAKE Casnewydd, yna bydd yr Aelod yn gwybod, rwy'n siŵr, ei fod yn cael ei ariannu gan gynllun cymunedau treth gwarediadau tirlenwi Llywodraeth Cymru, cynllun a ddyluniwyd yn arbennig yma yng Nghymru pan gafodd y darn hwnnw o gyfrifoldeb cyllidol ei drosglwyddo i ni a chafodd ei gymeradwyo wrth i'r ddeddfwriaeth fynd drwy'r Senedd. Mae caffis trwsio yn ffenomenon o Gymru—mae gennym ni dros 60 ohonyn nhw eisoes—ond rwy'n credu bod RE:MAKE Casnewydd yn cynnig cam ymhellach eto . Oherwydd, mewn ffordd yr wyf i'n gyfarwydd â hi o rai enghreifftiau eraill, gallwch gymryd eitemau cartref y mae angen eu trwsio, ac os nad oes eu hangen nhw eich hun, gallwch eu cyfrannu nhw at lyfrgell fenthyca lle gall pobl efallai nad oes ganddyn nhw fynediad hawdd at eitemau wedi eu trwsio yn gyflym fynd i'w benthyg at eu defnydd eu hunain.
Rydym ni'n edrych o gwmpas y Siambr yma ac yn meddwl yn gyffredinol pa mor lwcus yw pob un ohonom ni nad oes yn rhaid i ni feddwl, os aiff rhywbeth bach o'i le gartref—os bydd y tegell yn torri, os oes angen trwsio'r tostiwr—ble rydym ni'n mynd i ddod o hyd i'r arian i allu cael eitem newydd yn ei lle. Ond rydym ni'n gwybod bod canran enfawr o aelwydydd yng Nghymru nad oes ganddyn nhw unrhyw gynilion o gwbl ar gael wrth gefn lle mae hyd yn oed mân anawsterau domestig yn taflu cysgod mawr iawn ar allu'r aelwyd honno i ymdopi drwy'r wythnos i ddod. Mae'r llyfrgelloedd benthyg hynny o eitemau wedi eu trwsio yn achubiaeth wirioneddol yn y cymunedau hynny, ac mae'n wych gweld RE:MAKE Casnewydd yn rhan o'r cam diweddaraf hwnnw yn y datblygiad hwnnw.
Prif Weinidog, y penwythnos hwn, ceisiodd trefi a chymunedau ledled y gogledd, a Chymru gyfan yn fwy na thebyg, amddiffyn eu hunain yn erbyn ymosodiad ofnadwy arall o dywydd stormus iawn. Cymerodd fy awdurdod lleol i, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, nifer o gamau rhagataliol drwy gau'r holl lifddorau oedd ar gael, ond rydym ni wedi gweld difrod helaeth iawn i'r promenâd yn Llanfairfechan. Mae'n ymestyn yr holl ffordd i Benmorfa, a cheir goblygiadau pellach i'r rheilffordd sy'n rhedeg ar hyd hynny. Mae mor ddrwg bod hyd yn oed gwaith diweddar ar ôl un o'r stormydd blaenorol wedi ei olchi i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. I mi, mae digwyddiadau fel hyn yn profi canfyddiad trydydd asesiad risg newid hinsawdd y DU, bod angen mwy o weithredu gan bob Llywodraeth i fynd i'r afael â'r risg o effeithiau newid yn yr hinsawdd, ond yn enwedig llifogydd ac erydu arfordirol amlach sy'n achosi difrod i seilwaith. Felly, Prif Weinidog, pa gamau rhagweithiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymgysylltu â'n cymunedau, ac yn arbennig ein hawdurdodau lleol sy'n ysgwyddo baich hyn, a Cyfoeth Naturiol Cymru, i nodi pwyntiau seilwaith sydd mewn perygl i sicrhau bod rhagofalon i wrthsefyll stormydd yn cael eu cyflwyno? Ac yn fwy felly, pa gamau allwch chi eu cymryd yn awr fel Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog, i wneud yn siŵr bod cronfa wrth gefn ar waith i gynorthwyo ein hawdurdodau lleol yn sgil stormydd ailadroddus o'r fath? Oherwydd rwy'n credu bod y rhain yn mynd i ddod yn fwy aml nag y maen nhw wedi bod yn y gorffennol erbyn hyn. Diolch.
Rwy'n diolch i Janet Finch-Saunders am y pwynt pwysig iawn yna. Nid oes amheuaeth, Llywydd, bod newid yn yr hinsawdd eisoes yn digwydd yng Nghymru. Mae digwyddiadau tywydd difrifol a pha mor aml y maen nhw'n digwydd yn ystod y gaeaf yn mynd i fod yn rhan o'n bywydau yn llawer mwy nag yr oedden nhw yn y gorffennol. Rydym ni wedi ei weld eisoes mewn cymunedau yma yn y de. Ymwelais gydag arweinydd cyngor Conwy ar y pryd â chymuned a oedd wedi ei heffeithio yn wael iawn gan lifogydd flwyddyn yn ôl. Rwy'n talu teyrnged i waith awdurdodau lleol, gwasanaethau brys ac, yn wir, gweithwyr CNC sydd wedi bod allan y penwythnos diwethaf hwn, ac sydd allan eto heddiw, yn y gwyntoedd cryfion a'r glaw yr ydym ni'n eu gweld, yn gweithio'n galed i geisio amddiffyn cymunedau rhag effaith y digwyddiadau tywydd eithafol hyn. Byddwn yn buddsoddi'r swm uchaf erioed eto y tymor hwn, Llywydd, mewn amddiffynfeydd llifogydd ac arfordirol ledled Cymru gyfan. Pan fydd argyfyngau yn taro, ceir trefniadau ar wahân, wrth gwrs, yn debyg i hen fformiwla Bellwin fel yr arferai gael ei hadnabod, sy'n helpu awdurdodau lleol lle mae'n rhaid iddyn nhw dalu'r costau uniongyrchol, fel yr wyf i'n cofio y bu'n rhaid i Gyngor Sir Ceredigion ei wneud pan gafodd ffrynt Aberystwyth ei ddifrodi yn wael mewn gwyntoedd cryfion ac ymchwydd y môr. Mae hynny yn mynd i fod yn nodwedd fwy parhaol o'r ffordd y mae pethau yn digwydd yng Nghymru tra byddwn yn ymdrin ag effaith newid yn yr hinsawdd, ac mae gwneud yn siŵr bod gennym ni'r trefniadau sy'n addas i ymateb i'r amgylchiadau hynny yn bwynt pwysig y mae'r Aelod wedi ei wneud y prynhawn yma.