1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 8 Rhagfyr 2021.
1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd dŵr mewndirol yng Nghymru? OQ57333
Mae buddsoddiad, sbardunau deddfwriaethol a fframwaith rheoleiddio cadarn wedi arwain at 42 y cant o'n dyfroedd mewndirol yn cyflawni statws ecolegol da. Rydym wedi ymrwymo i wella ansawdd dŵr ond ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae angen inni ddefnyddio dull dalgylch integredig, gan ganolbwyntio ar gydweithredu amlsectoraidd ac atebion ar sail natur.
Diolch yn fawr, Weinidog, a phrynhawn da. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r gwelliannau diweddar a fabwysiadwyd ym Mil Amgylchedd y DU i wella ansawdd dŵr mewndirol yn Lloegr, yn enwedig y ddyletswydd gyfreithiol a osodir ar gwmnïau dŵr i leihau'n gynyddol effaith gollyngiadau a ganiateir ac nas caniateir o orlifoedd carthffosiaeth cyfunol, a elwir hefyd yn CSOs. Pe bawn i wedi bod yn ddigon ffodus i gael fy newis ym mhleidlais cynnig deddfwriaethol yr Aelodau, roeddwn yn bwriadu cyflwyno Bil dyfrffyrdd mewndirol—deddfwriaeth ddrafft sy'n ymdrechu i gael afonydd, moroedd a llynnoedd glanach yma yng Nghymru. Gyda hynny mewn golwg, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i osod dyletswydd ar gwmnïau dŵr i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad yw carthffosiaeth yn cael ei gollwng i'n nentydd a'n hafonydd ac i gynyddu nifer y dyfroedd ymdrochi mewndirol yng Nghymru sy'n cyflawni statws 'da' neu 'ragorol'?
Wel, credaf fod un neu ddau o gamdybiaethau yn y fan honno. Y gyntaf yw drysu Lloegr a Chymru, sy'n broblem gyffredin iawn ar y meinciau gyferbyn. Mae Llywodraeth y DU wedi deddfu i osod targedau i gwmnïau dŵr yn Lloegr leihau gollyngiadau carthffosiaeth ac ansawdd dŵr. Nid yw'r dystiolaeth yn cynnal y rhagdybiaeth a'r canfyddiad cyffredin ar y meinciau gyferbyn mai dyna yw prif achos ansawdd dŵr gwael yng Nghymru.
Rydym wedi gwneud cyfres o ddarnau o waith, gan gynnwys yr asesiadau o gydymffurfiaeth â thargedau ffosffadau, y sylwaf fod yr Aelod wedi'i wrthwynebu, ac yn wir, fe gyhuddodd Blaid Cymru o fradychu ffermwyr Cymru drwy roi'r gorau i'w gwrthwynebiad iddynt. Felly, mae ei ddiddordeb sydyn mewn ansawdd dŵr mewndirol yn eithaf diddorol. Credaf y byddai'n well iddo pe bai'n edrych o ddifrif ar yr hyn a wnawn i wella ansawdd dŵr y dalgylch cyfan i sicrhau ein bod yn deall achosion y llygredd a'n bod yn gallu eu hatal yn y ffynhonnell yn hytrach na gwneud sylwadau cyffredinol nad ydynt o unrhyw gymorth.
Un o'r problemau mawr mewn perthynas ag ansawdd dŵr mewndirol yw gollyngiadau i afonydd, sydd wedyn yn mynd i mewn i lynnoedd. Pryder difrifol a godwyd gyda mi gan fy etholwyr yw gollyngiadau Dŵr Cymru i mewn i afon Tawe yng ngwaith trin dŵr gwastraff Trebannws yn etholaeth Castell-nedd, sy'n effeithio ar ddŵr yn fy etholaeth innau, gan fod y dŵr o Drebannws yn llifo i lawr ac i mewn i'r môr yn eich etholaeth chi, Weinidog. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Dŵr Cymru ynghylch gollyngiadau i afonydd?
Ie, diolch, Mike Hedges. Fel y gŵyr Mike Hedges, mae gennym gynllun gorlifiant da iawn, sy'n ateb naturiol yn ei etholaeth ef, rwy'n credu, ar y pen uchaf, sydd o fudd i fy etholaeth innau. Ac mae honno'n enghraifft dda iawn o ddulliau dalgylch, gan fod yr afon, yn amlwg, yn llifo drwy nifer fawr o wahanol ardaloedd yng Nghymru. Mae'n bwysig iawn sicrhau felly fod gennym atebion cynaliadwy ar sail natur i ddargyfeirio, fel y dywed, cymaint o ddŵr wyneb â phosibl o'r systemau carthffosiaeth yn y lle cyntaf er mwyn osgoi'r gorlifo y mae'n sôn amdano.
Rydym wedi rhoi nifer o gamau i fynd i'r afael â gollyngiadau o ganlyniad i orlifiant. Mae hyn yn cynnwys gwneud systemau draenio cynaliadwy, neu SuDS, yn orfodol ar bron i bob datblygiad adeiladu newydd. Diben hyn yw lleddfu pwysau ar y rhwydwaith drwy ddargyfeirio ac arafu pa mor gyflym y mae dŵr wyneb o'r fath yn mynd i mewn i'r system garthffosiaeth a bydd yn helpu i sicrhau bod ein systemau gorlifiant stormydd yn cael eu defnyddio fel dewis olaf yn unig.
Wrth inni siarad, mae'r cwmnïau dŵr yn paratoi cynlluniau draenio a rheoli dŵr gwastraff, a fydd yn cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn gynnar y flwyddyn nesaf. Bydd y cynlluniau'n darparu mecanwaith i gwmnïau dŵr, awdurdodau lleol a pherchnogion tir weithio gyda'i gilydd i ddatblygu rhwydwaith dŵr gwastraff gwydn a fforddiadwy i nodi blaenoriaethau ar sail tystiolaeth gyfer buddsoddi.
Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd gyda Dŵr Cymru. Deallaf eu bod wedi ymchwilio i orlifiant cyfunol sy'n gollwng yn sylweddol i Afon Tawe fel rhan o'u hymchwiliadau i'r fframwaith asesu gorlifiant stormydd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'r cwmnïau dŵr i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu'n briodol. Maent hefyd yn sicrhau bod atebion ar sail natur, a fydd yn lleihau gollyngiadau o ganlyniad i orlifiant ac yn sicrhau buddion amgylcheddol a chymdeithasol ehangach, yn cael eu hystyried wrth gynllunio'r rhwydwaith.