Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae'n bwysig fod gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad ar draws pob carfan o ddysgwyr. Mae adolygiad o batrymau presenoldeb ar y gweill ac rwy'n disgwyl canfyddiadau interim yn fuan, gyda'r adroddiad ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf, a bydd canfyddiadau'r adolygiad hwnnw yn ein helpu i lywio datblygiad yr ymyriadau polisi wedi'u targedu.