Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 8 Rhagfyr 2021.
Mae hon yn ddadl ofnadwy o amserol gan ein bod yng nghrafangau gaeaf anodd eisoes. Mae ffigurau Cyngor ar Bopeth yn dangos bod un o bob pump o bobl eisoes wedi torri'n ôl ar eu siopa bwyd yn ystod y tri mis diwethaf i arbed arian. Mae un o bob 10 yn rhagweld y bydd yn rhaid cael cymorth argyfwng y gaeaf hwn, fel banciau bwyd neu dalebau tanwydd. Cymorth argyfwng, hynny yw, i'w helpu i gael pethau y maent eu hangen i aros yn fyw, oherwydd nid moethusrwydd yw bwyd, ond anghenraid sylfaenol.
Hoffwn ganolbwyntio ychydig ar yr effaith a gaiff newyn bwyd ar iechyd meddwl, oherwydd nid yn gorfforol yn unig y mae newyn yn effeithio ar bobl, nid yn unig drwy gyfyngu ar dwf pobl neu drwy stumog wag; mae newyn yn llwgu pobl o hapusrwydd, mae'n crebachu eu hunan-barch ac mae'n erydu eu potensial. Mae newyn yn caethiwo pobl mewn panig a gofid wrth i'r pryder cyson ynglŷn ag o ble y daw'r pryd nesaf bwyso ar gyflwr meddwl person. Mae'n creithio pobl yn seicolegol a gall sbarduno blinder, embaras, euogrwydd a chywilydd.
Dyma'r realiti sy'n wynebu niferoedd brawychus o bobl yng Nghymru. Dangosodd adroddiad 'Food Security in Wales' fod un rhan o bump o'n poblogaeth yn poeni ynglŷn â rhedeg allan o fwyd. Yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd 14 y cant o'n poblogaeth wedi rhedeg allan o fwyd cyn y gallent fforddio prynu mwy. Nawr, mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar yr hawl i fwyd, ac ynghyd â bwyd, byddwn yn cynnwys yr hawl i urddas a bywyd heb bryder am fwyd. Fel y dywedodd Susan Lloyd-Selby o Ymddiriedolaeth Trussell, ni ddylai neb wynebu'r diffyg urddas a ddaw yn sgil bod angen bwyd argyfwng. Ond yn rhy aml yn ein cymdeithas, yn lle hynny, mae tlodi'n cael ei ddarlunio bron fel cosb.
Gadewch inni atgoffa ein hunain am y llynedd, pan oedd y ddadl gymdeithasol ynghylch prydau ysgol am ddim yn Lloegr yn y penawdau, a rhannwyd lluniau o'r dognau tila a roddwyd i blant mewn rhai awdurdodau lleol ar y cyfryngau cymdeithasol. Gwelsom bupurau wedi'u torri yn hanner mewn cling ffilm, dyrnaid o diwna neu basta mewn bagiau plastig bach pitw. Roedd yn ymddangos i'r byd i gyd fel pe bai'r bobl a roddai'r pecynnau at ei gilydd wedi cael cyfarwyddyd i gyfyngu ar unrhyw obaith y gallai pobl eraill yng nheulu'r plentyn elwa o'r pecynnau hynny. Pa reswm arall dros roi rhan o lysieuyn, neu agor tun o diwna a thynnu dim ond ei hanner allan? Byddai wedi galw am ymdrech i fod mor greulon â hynny. Byddai wedi cymryd amser i fesur yn drefnus union faint o dosturi a chymorth a gâi pob plentyn gyda'r parseli hynny, gan gyfyngu ar bopeth, cadw cap ar y caredigrwydd hwnnw. A pha neges a roddai hynny? Oherwydd nid mater o faeth yn unig yw prydau ysgol a bwyd am ddim fel y cyfryw. Er mor bwysig yw hynny, dylai hefyd ymwneud ag ymdeimlad o ddigon, o beidio crafu byw a chael dim ond digon i allu ymdopi'n unig. Dylai ymwneud â chael mwynhad o fwyd—nid gorfwyta na thrachwant, ond cael digon, teimlo'n gyflawn.
Mae ein perthynas â bwyd yn gymhleth. Mae'n gallu bod yn gysur pan fydd digon, ond gall fod yn fygythiad ac yn artaith pan nad oes digon. Mae'r ymchwiliad i fwyd plant yn y dyfodol yn dyfynnu Siobhan Clifford, pennaeth, sy'n dweud bod plant yn dweud wrthych am
'boenau yn eu stumog... am fynd i'r gwely'n teimlo'n llwglyd... cur pen... blinder... a'r berthynas wyrdroëdig â bwyd y mae hynny'n ei greu'.
Mae rhai plant yn dwyn bwyd o finiau y mae plant eraill wedi taflu bwyd iddynt. Ni ddylid cael llinell sy'n rhannu rhwng pobl sy'n gallu cael mwy o fwyd nag sydd ei angen arnynt tra bod eraill yn ei chael hi'n anodd cael digon i'w cynnal. Yn amgylcheddol, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn foesol nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae'n arwain yn wrthnysig at wastraff bwyd ac at brinder bwyd direswm. Y plant hynny sy'n dwyn o finiau.
Ddirprwy Lywydd, mae angen inni edrych ar ein cadwyni cyflenwi, creu system fwyd fforddiadwy a chynaliadwy sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, cefnogi marchnadoedd lleol, cwmnïau cydweithredol, manwerthwyr cymunedol, proseswyr, dosbarthwyr sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau safonau bwyd o ansawdd uchel. Ond tra byddwn yn datblygu'r cadwyni cyflenwi hynny, gadewch inni edrych hefyd ar y cysylltiadau sy'n ein rhwymo, y sylw a roddwn i urddas. Ni ddylai neb fynd i'r gwely'n llwglyd na chael eu gyrru i anobaith drwy boeni o ble y daw eu prydau bwyd. Yng Nghymru, neu mewn unrhyw wlad yn yr unfed ganrif ar hugain, mae'n falltod na ddylai fodoli.